Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Polisi Cynllunio - Dydd Iau, 15fed Ionawr, 2026 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 162 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Medi, 2025.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 10 Medi, 2025 yn gywir.

 

4.

Cyflwyno’r Gofrestr Safleoedd Posib pdf eicon PDF 12 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio y bydd y Galwad am Safleoedd yn helpu i adnabod tir addas er mwyn bodloni gofynion tai, cyflogaeth a seilwaith yn y dyfodol ac fel rhan o’r gwaith casglu tystiolaeth gynnar a pharatoi’r cynllun.  Cynhaliodd y Cyngor broses Galw am Safleoedd Posib am gyfnod o chwe wythnos yn y lle cyntaf rhwng 12 Mai 2025 a 23 Mehefin, 2025. Cafodd y cyfnod hwn ei ymestyn am chwe wythnos arall gan ddod i ben ar 4 Awst, 2025.   Yn dilyn y broses ddilysu, derbyniwyd cyfanswm o 312 o safleoedd gan ddefnyddwyr unigol, gan gynrychioli ystod o ddefnyddiau tir.  Bydd y Gofrestr yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor er mwyn sicrhau tryloywder a bydd hefyd yn rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r cam nesaf yn y broses yn cynnwys asesu’r holl Safleoedd Posib.  

Dywedodd y Cynghorydd Llio Angharad Owen bod safle yn ei Ward hi sydd wedi cael ei  gyflwyno ar gyfer datblygiad preswyl ac ynni adnewyddadwy.  Nododd hefyd bod maint y ddau safle’n wahanol.  Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio ei bod hi’n bosib bod y perchennog/asiant wedi cyflwyno gwahanol opsiynau ar gyfer y safle. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts bod angen nodi rhai o’r pentrefi ar y Gofrestr Safleoedd Posib fel bod y cyhoedd yn ymwybodol o leoliad y safleoedd posib.

 

Roedd y Cynghorydd Pip O’Neill yn dymuno cael gwybod faint o safleoedd oedd wedi cael eu cynnig ar gyfer eu gwarchod a’r amserlen ar gyfer hidlo’r safleoedd hyn.  Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod 6 o safleoedd wedi cael eu cynnig ar gyfer eu gwarchod. Nododd y bydd y broses asesu a hidlo’n cael ei chwblhau a bod y 6 safle dan sylw ar y Gofrestr Safleoedd Posib ar hyn o bryd.  Cafodd y cyfnod ar gyfer cyflwyno safleoedd ei ymestyn i 12 wythnos.   Fodd bynnag, pe byddai safleoedd ychwanegol yn cael eu cynnig, byddant yn cael eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y Gofrestr Safleoedd Posib ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol newydd Ynys Môn.  

 

5.

Papur Pwnc Strategaeth Aneddleoedd Drafft pdf eicon PDF 821 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr adroddiad yn nodi’r gofyniad polisi i sefydlu hierarchaeth aneddleoedd fel rhan o’r broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol sy’n hanfodol er mwyn nodi’r gwahanol aneddleoedd sydd â’r potensial i dderbyn twf yn y dyfodol yn nhermau eu lleoliad, eu rôl a’u swyddogaeth.  Mae hyn yn golygu asesu rôl a swyddogaeth bresennol aneddleoedd, yn ogystal â deall y berthynas rhwng aneddleoedd.  Mae’r papur pwnc yn ceisio asesu rôl aneddleoedd o fewn Ardal y Cynllun ac yna eu grwpio o dan wahanol haenau/fathau yn ôl eu rôl a’u swyddogaeth.  Mae’r haenau a nodir yn yr hierarchaeth aneddleoedd fel a ganlyn:-

 

·          Canolfannau Gwasanaeth Isranbarthol

·          Canolfannau Gwasanaeth Trefol

·          Canolfannau Gwasanaeth Lleol

·          Pentrefi

·          Clystyrau

·          Aneddleoedd Gwledig Anniffiniedig

 

Yn seiliedig ar y sgôr ar gyfer pob anheddiad a aseswyd, cafodd pob anheddiad ei grwpio mewn gwahanol haenau ar sail ei rôl a’i swyddogaeth.  Mae’r rhan fwyaf wedi aros o fewn eu haenau cymharol fel y cawsant eu categoreiddio yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.  Pan fo aneddleoedd wedi’u huwchraddio i haen uwch, mae’n golygu bod y gwasanaethau a’r cyfleusterau (fel y nodwyd yn y fethodoleg asesu) sydd ar gael yn yr aneddleoedd hynny wedi cynyddu mewn nifer/argaeledd ers y sefyllfa yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.   I’r gwrthwyneb, lle mae aneddleoedd wedi’u hisraddio i haen is, mae argaeledd/nifer y cyfleusterau/gwasanaethau hynny wedi lleihau.  Mae’r aneddleoedd canlynol wedi cael eu hailddosbarthu i adlewyrchu canlyniadau’r fethodoleg sgorio a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesiad hwn:-

 

·          Mae Caergybi wedi cael ei ail-gategoreiddio fel Canolfan Isranbarthol;

·          Mae Porthaethwy wedi cael ei uwchraddio o Ganolfan Gwasanaeth Lleol i Ganolfan Gwasanaeth Trefol;  

·          Mae Brynsiencyn a Phenysarn wedi cael eu huwchraddio o Bentrefi Lleol i Bentrefi Gwasanaeth;

·          Mae Niwbwrch wedi cael ei israddio o Bentref Gwasanaeth i Bentref Lleol;

·          Mae Pentre Canol, Pentre Berw a Rhostrehwfa wedi cael eu huwchraddio o Glystyrau o Bentrefi Lleol;

·          Mae Llanrhuddlad, Pencaernisiog, Carreglefn, Llanfaethlu, Llanddona a Llanbedrgoch wedi cael eu hisraddio o Bentrefi i Glystyrau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kenneth P Hughes bod pob rhan o Ynys Môn yn wledig fwy neu lai a bod Polisi Cynllunio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn gwahaniaethu yn erbyn ardaloedd gwledig.    Cynigodd y Cynghorydd Hughes bod y Pwyllgor yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru’n nodi bod y Polisi Cynllunio Cynaliadwy cyfredol yn gwahaniaethu yn erbyn ardaloedd gwledig a’i fod yn rhwystr wrth geisio sefydlu Cynllun Datblygu Lleol sy’n darparu ar gyfer anghenion Ynys Môn. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod rhaid i ddatblygiadau yng Nghymru fod yn gynaliadwy a bod yn rhaid i’r Cynllun Datblygu Lleol newydd fynd i’r afael â Pholisïau Cynllunio Cenedlaethol.   Mae’n rhaid i’r Cynllun Datblygu Lleol hefyd adlewyrchu’r gwasanaethau sydd ar gael mewn cymunedau.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd bod yn rhaid cofio bod Etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal fis Mai a’i bod hi’n bosib na fydd y cwestiwn hwn yn cael ei ateb.    Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts y dylai’r mater hwn gael ei drafod gyda’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Papur Pwnc Gwastraff pdf eicon PDF 695 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr adroddiad yn egluro cyd-destun y polisi ar gyfer cynllunio gwastraff, a’i fod yn rhestru’r hierarchaeth o ddogfennau polisi a gofynion statudol cenedlaethol sy’n llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau cynllunio gwastraff cynaliadwy. Mae’r adroddiad yn amlygu dau faes sy’n peri pryder lle dylid gwneud darpariaeth i sicrhau bod cyfraddau uchel parhaus o ailddefnyddio ac ailgylchu.   Mae’r diffygion yn y ddarpariaeth yn ymwneud â chryfhau’r gefnogaeth ar gyfer ailgylchu deunydd adeiladu a dymchwel ac agregau eilaidd a darparu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gyfer Ynys Cybi/Caergybi a Gogledd Ynys Môn/Amlwch naill ai drwy ddyrannu safleoedd priodol neu drwy ddatblygu polisi sy'n galluogi datblygu safleoedd o'r fath ar dir cyflogaeth pe bai diffyg safleoedd ar gael i'w dyrannu. 

 

PENDERFYNWYD cefnogi canfyddiadau'r Papur Pwnc Gwastraff a chymeradwyo Opsiwn B (Gwella Polisi), fel y nodir yn yr adroddiad, fel y dull a ffefrir ar gyfer datblygu polisïau rheoli gwastraff o fewn y Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

 

7.

Papur Pwnc Mwynau pdf eicon PDF 419 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr adroddiad yn crynhoi cynnwys y papur pwnc ar fwynau sy’n cefnogi’r gwaith o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Ynys Môn a mynd i’r afael â’r gofyniad i gynnal banc tir am isafswm o 10 mlynedd.   Nododd bod daeareg Ynys Môn yn amrywiol iawn, ac mae hyn yn arwain at amrywiaeth eang o fwynau’n cael eu cynhyrchu.  Mae’r adroddiad yn amlygu’r diffygion posib pe byddai prosiectau seilwaith ac adeiladu mawr yn digwydd ar yr Ynys.  

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ynghyd â chanfyddiadau’r papur pwnc a’i gymeradwyo fel sail ar gyfer datblygu polisi cynllunio mwynau ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd.

 

8.

Canlyniadau Astudiaeth Manwerthu ac Argymhellion ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd pdf eicon PDF 6 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr adroddiad yn darparu asesiad mwy diweddar ar yr angen manwerthu yn Ynys Môn, ac mai ei fwriad yw dylanwadu ar y Cynllun Datblygu Lleol drafft, 2024 i 2039.   Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar y 10 canolfan manwerthu fel a ganlyn:-

 

·          Canolfannau manwerthu trefol: Caergybi a Llangefni

·          Canolfannau manwerthu lleol: Amlwch, Benllech, Biwmares, Llanfairpwll, Porthaethwy a’r Fali.

·          Canolfannau Lleol Bach: Cemaes, Gaerwen a Rhosneigr

 

Mae’r astudiaeth yn amlinellu tueddiadau economaidd ac yn y farchnad genedlaethol, a sut mae’r rhain yn cael dylanwad ar ganolfannau Ynys Môn.  Mae’r astudiaeth hefyd yn asesu ymddygiadau siopa cyfredol ac yn rhagweld sut all hyn newid yn y dyfodol.  Mae’r casgliadau’n nodi nad oes angen mesurol am leoliadau manwerthu cymharol neu gyfleuster yn y Cynllun.  Mae’r astudiaeth yn argymell amrywio hyfywedd a chynaliadwyedd y canolfannau hyn ac adolygu’r ffiniau i adlewyrchu’r patrymau manwerthu yn yr ardaloedd hyn.   Mae’r astudiaeth hefyd yn nodi bod angen annog defnydd cymysg o’r canolfannau hyn e.e. defnydd hamdden. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans at yr her sy’n wynebu canol trefi a’i bod hi’n anodd iddynt gystadlu â chyfleusterau siopa ar gyrion trefi.   Nododd y dylid mynd i’r afael ag anghenion y bobl sy’n dewis cefnogi’r stryd fawr a chynnig amrywiaeth o siopau a chyfleusterau parcio am ddim er mwyn denu pobl yn ôl i ganol trefi.  

 

Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr arolwg yn amlygu’r tueddiadau siopa ar yr Ynys.  Mae’r arolwg hefyd yn nodi y bydd canolfannau siopa defnydd cymysg yn cael eu hannog wrth ddatblygu polisïau cynllunio fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd John Ifan Jones at y cynnydd mewn Neuaddau Bwyd ledled y DU ac awgrymodd y dylid ystyried Neuaddau Bwyd o’r fath ar gyfer canolfannau siopa’r Ynys.  

 

Mewn ymateb dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y bydd angen amrywio’r cyfleusterau sydd ar gael mewn canolfannau siopa ledled yr Ynys.  Bydd rhaid i bolisïau cynllunio fod yn hyblyg yn y dyfodol er mwyn mynd i’r afael â phrosiectau o’r fath mewn canol trefi.  

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel sylfaen ar gyfer drafftio polisïau yn y Strategaeth a ffefrir.

 

 

9.

Dyddiadau Cyfarfodydd

I drafod dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio ei fod yn awgrymu bod y Pwyllgor yn cwrdd yn chwarterol fel a ganlyn:-

 

·                  Mai/Mehefin 2026

·                  Medi 2026

·                 Rhagfyr 2026

·                  Mawrth 2027

 

Bydd cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu trefnu pe bai angen i’r Pwyllgor drafod a chymeradwyo unrhyw faterion brys.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhaglen cyfarfodydd fel y nodir uchod.