Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 23ain Gorffennaf, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 128 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mai 2024.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Mai 2024 yn gywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 208 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Medi 2024 i Fawrth 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

5.

Hunan Asesiad Corfforaethol 2023/24 pdf eicon PDF 684 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu dogfen Hunan-asesiad Corfforaethol 2023/24 fel fersiwn terfynol yn dilyn ystyriaeth a sylwadau ar ei gynnwys gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 18 Gorffennaf 2024.

6.

Monitro'r Gyllideb Refeniw, Alldro 2023/24 pdf eicon PDF 387 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi’r sefyllfa a osodwyd yn Atodiad A a B yn yr adroddiad mewn perthynas ag alldro ariannol yr Awdurdod ar gyfer 2023/24.

·      Nodi’r crynodeb ar gyfer cyllidebau wrth gefn 2023/24, fel y nodwyd yn Atodiad C.

·      Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH, D a DD.

·      Nodi bod balans o £15.694m yn cael ei amcangyfrif ar gyfer balansau cyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2024.

 

7.

Alldro Cyfalaf 2023/24 pdf eicon PDF 459 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi sefyllfa alldro drafft Rhaglen Gyfalaf 2023/24 fydd yn destun Archwiliad.

·      Cymeradwyo dwyn ymlaen £15.499m i 2024/25 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2024/25 (Atodiad A – paragraff 4.3). Y gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 yw £59.337m.

8.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai, Alldro 2023/24 pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa a osodwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2023/24.

9.

Cyfrifon Terfynol Drafft 2023/24 a defnydd o Gronfeydd with Gefn a Balansau pdf eicon PDF 361 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24. Cyhoeddir y Datganiad Cyfrifon Drafft llawn ar gyfer 2023/24 ar y ddolen a ganlyn:- Datganiad-or-cyfrifon-Drafft-2023-2024.pdf (llyw.cymru)

·      Nodi sefyllfa balansau cyffredinol y Cyngor, sef £15.604m.

·      Nodi balans y Cronfeydd wrth gefn clustnodedig, sef £16.778m, a chymeradwyo creu £1.553m o gronfeydd wrth gefn newydd clustnodedig.

·      Cymeradwyo, yn ffurfiol, trosglwyddo £2.002m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig yn ôl i Falansau Cyffredinol y Cyngor.

·      Nodi balans cronfeydd wrth gefn ysgolion, sef £5.577m.

·      Nodi balans cronfa’r CRT, sef £8.189m.

 

10.

Newid i'r Cyfansoddiad: Cynllun Dirprwyo i Swyddogion pdf eicon PDF 177 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn cefnogi’r canlynol -

 

·         I ddirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, mewn ymgynghoriad a’r Arweinydd (neu pa bynnag wedi ei ddirprwyo i Ddeilydd Portffolio a enwebwyd gan yr Arweinydd), i gyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw ddatblygiad sydd yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) ac sy'n gofyn am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 fel y diwygiwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

·      Y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd), i ddiweddaru adran 3.5.3.10 o’r Cyfansoddiad i adlewyrchu'r dirprwyaethau a roddwyd gan y penderfyniad.

·      Caniatâd i wyro oddi wrth ofynion Polisi Iaith Gymraeg y Cyngor er mwyn galluogi i gyfieithiad Cymraeg o sylwadau’r Cyngor gael ei hanfon at yr Arolygaeth Gynllunio yn dilyn eu cyflwyno yn y Saesneg. (Mae’r eithriad ei angen oherwydd nad yw amserlen archwiliad NSIP yn caniatáu amser digonol i sylwadau’r Cyngor gael eu cyfieithu erbyn y dyddiad cyflwyno).

 

11.

Cyflwr economaidd-gymdeithasol Gogledd Ynys Môn a’r achos dros fuddsoddi a chymorth pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·         Nodi Adroddiad Effaith Economaidd-gymdeithasol Gogledd Ynys Môn a chynnwys yr adroddiad fel ei fod yn gwbl ymwybodol o’r sefyllfa bresennol, y tueddiadau, y cyfleoedd a’r heriau.

·         Cefnogi’r Arweinydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg i godi ymwybyddiaeth o’r materion, heriau a chyfleoedd.

·         Cefnogi gweithgareddau parhaus y Cyngor i nodi a sicrhau cyllid allanol i hwyluso gweithgareddau adfywio yn y dyfodol.

·         Sicrhau bod Swyddogion ac Aelodau Etholedig yn defnyddio’r data sydd yn yr Adroddiad Effaith i wneud penderfyniadau gwybodus fel Cyngor llawn i gyflawni Cynllun y Cyngor (2023-2028).