Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Gyda chaniatâd y Pwyllgor Gwaith, cyhoeddodd y Cadeirydd y byddai trefn y busnes yn newid er mwyn dod ag eitem 11 ar y rhaglen ymlaen fel bod modd i’r Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer adael y cyfarfod oherwydd ymrwymiad personol.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i adrodd arno.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2024, i’w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 207 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Hydref 2024 i Mai 2025.
Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i'r Pwyllgor Gwaith ar yr eitemau oedd yn newydd i'r Blaenraglen Waith ynghyd ag eitemau oedd wedi'u haildrefnu ar gyfer y cyfnod adrodd. Newid ychwanegol i’r Flaenraglen Waith ers ei chyhoeddi oedd gohirio’r Cynllun Strategol Caffael a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau newydd, o gyfarfod 22 Hydref 2024 i gyfarfod Rhagfyr 2024 gan na fydd y Ddeddf Caffael 2023 newydd, bellach, yn dod i rym yn llawn tan fis Chwefror 2025.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Hydref 2024 i Mai 2025 gyda’r newidiadau a nodwyd yn y cyfarfod.
|
|
Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 1, 2024/25 PDF 332 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 1 2024/25. Defnyddir yr adroddiad ar y cerdyn sgorio i fonitro perfformiad dangosyddion perfformiad allweddol y Cyngor wrth gyflawni ei weithgareddau o ddydd i ddydd, sy’n sail i gyflawni Cynllun y Cyngor.
Rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer drosolwg o'r adroddiad ar fonitro’r cerdyn sgorio yn ei fformat newydd a ddeuai â'r cynnwys yn nes at amcanion Cynllun y Cyngor a'r amcanion strategol. Dywedodd fod y mwyafrif (94%) o ddangosyddion, y cafodd eu targedau eu monitro yn ystod y chwarter, wedi perfformio'n dda yn erbyn eu targedau, gyda rhai enghreifftiau o berfformiadau cryf yn y Gwasanaethau Oedolion, y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y Gwasanaethau Tai, y Gwasanaeth Cynllunio, y Gwasanaeth Gwastraff, y Gwasanaeth Rheoli a’r Gwasanaeth Hamdden; gyda’r rhain i gyd yn adlewyrchu dechrau cadarnhaol i'r flwyddyn. Ymhlith y meysydd eraill lle llwyddodd y perfformiad i gyrraedd y targed neu ragori arno, roedd glanhau strydoedd, clirio achosion o dipio anghyfreithlon, ymdrin â chwynion ac absenoldebau staff. Roedd dau ddangosydd oedd yn tanberfformio yn y chwarter cyntaf yn ymwneud ag arolygiadau o fusnesau risg uchel i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd ac ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlen. Cyfeiriai'r adroddiad at y rhesymau am y targedau a fethwyd yn ogystal ag at y camau adferol arfaethedig, gan gadarnhau y byddai’r Tîm Arweinyddiaeth yn monitro ac yn goruchwylio’r meysydd hyn er mwyn sicrhau y byddai’r perfformiad yn gwella wrth symud ymlaen. Gan fod nifer o'r dangosyddion perfformiad yn newydd i'r cerdyn sgorio, nid oedd gan lawer ohonynt dargedau ar hyn o bryd ac yno i osod gwaelodlin oeddynt. Ni fyddai ychydig o ddata ar gael tan ddiwedd y flwyddyn. Wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi byddai’r cerdyn sgorio’n llenwi a thueddiadau'n cael eu monitro o'r ail chwarter, gyda'r nod o osod targedau yn 2025/26.
Mynegodd y Cynghorydd Carwyn Jones werthfawrogiad y Pwyllgor Gwaith o waith staff y Cyngor i sicrhau canlyniadau mor galonogol yn chwarter cyntaf 2024/25 a roddodd sylfaen gadarn i adeiladu arni am weddill y flwyddyn.
Adroddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, o gyfarfod y pwyllgor ar 17 Medi, oedd wedi ystyried cerdyn sgorio Chwarter 2024/25. Wrth argymell yr adroddiad cerdyn sgorio i'r Pwyllgor Gwaith, roedd yr aelodau Sgriwtini wedi nodi perfformiad cadarnhaol y mwyafrif o ddangosyddion allweddol y Cyngor ar ddiwedd y cyfnod ac wedi ceisio sicrwydd y byddai'r ddau ddangosydd oedd yn tanberfformio yn gwella ac y byddai gwaith gyda gwasanaethau yn cychwyn. Fel hyn, roedd modd sicrhau y gellid adrodd ar y Dangosyddion Perfformiad Allweddol hynny, nad oedd data ar eu cyfer ar gyfer y chwarter cyntaf, o'r ail chwarter ymlaen, fel bod moddcael gwell dealltwriaeth o dueddiadau perfformiadau.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor Craffu am yr adborth a, hefyd, eto i staff y Cyngor am eu gwaith yn cyflawni canlyniadau chwarter cyntaf clodwiw. Cyfeiriodd yn benodol at ei ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2023/24 PDF 477 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwm - AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ac ynddo’r adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2023/24. Rhoddai drosolwg o waith y Cyngor yn ystod y flwyddyn a chofnodi cyflawniad yn erbyn chwe amcan strategol y Cyngor, ynghyd â pherfformiad ei Ddangosyddion Perfformiad Allweddol cyffredinol a pherfformiad y gwasanaethau yn erbyn y gyllideb.
Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol am 2023/24 gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a ddywedodd ei bod yn bleser gallu cyflwyno adroddiad mor gadarnhaol, lle'r oedd 93% o waith cynlluniedig y Cyngor, fel y’i nodwyd yn y ddogfen gyflawni flynyddol, wedi'i gyflawni. Roedd yr un cam allweddol oedd heb ei gwblhau yn ymwneud â lansio porth tenantiaid digidol newydd y Cyngor i wella dulliau cyswllt tenantiaid y Cyngor. Roedd hwn wedi’i ohirio oherwydd rhesymau technegol a châi ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn. Tynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones sylw at rai o'r cyflawniadau unigol o dan bob amcan strategol gan ddweud mai'r her nawr oedd cynnal y lefel uchel hon o berfformiad i'r dyfodol.
Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, bersbectif Sgriwtini ar yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, o gyfarfod y pwyllgor ar 17 Medi. Croesawyd yr adroddiad gan yr aelodau yn un oedd yn adlewyrchu blwyddyn o gyflawniadau nodedig oedd wedi cyfrannu at lawer o welliannau ar yr Ynys. Roedd y pwyllgor, hefyd, yn cydnabod bod heriau ariannol anodd o’u blaenau a nododd yr effaith bosibl ar berfformiad y Cyngor yn y dyfodol. Wedi craffu’r adroddiad, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gytuno fod y cynnwys yn adlewyrchiad teg a chyflawn o waith y Cyngor dros y cyfnod ac argymell yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried ymhellach.
Pwysleisiodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig nodi bod yr adroddiad ar y perfformiad blynyddol yn nodi'r hyn oedd wedi digwydd ac wedi'i gyflawni mewn gwirionedd yn 2023/24 ac nad ymarfer cyhoeddusrwydd mohono. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith bod y glo mân yng nghorff yr adroddiad yr un mor bwysig o ran adlewyrchu'r hyn yr oedd y Cyngor wedi'i gyflawni a'i ymrwymiad i gynnydd cadarnhaol ag oedd y penawdau e.e. dosbarthu pecynnau croeso i newydd-ddyfodiaid a ffoaduriaid ledled yr Ynys yn ystod y flwyddyn fel rhan o amcan y Cyngor o hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ac annog newydd-ddyfodiaid, yn ogystal â thrigolion presennol yr Ynys, i ddysgu’r iaith.
Tynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio dros Wasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol sylw at bwysigrwydd cynnwys preswylwyr wrth lunio polisi a chyflwyno gwasanaethau. Yn hyn o beth, cyfeiriodd yng nghyd-destun ei bortffolio ei hun at lwyddiant gweithredu’r Fforwm Pobl Hŷn ac at Ynys Môn yn cael ei derbyn yn aelod swyddogol o Rwydwaith Byd-eang o Gymunedau Oed Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd.
Canmolodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan ddweud ei fod yn gofnod i fod yn falch ohono a phwysleisiodd, serch hynny, y byddai’r Cyngor yn dal i ymdrechu i wneud gwelliannau pellach lle bo modd. Fodd bynnag, byddai’n rhaid edrych ar berfformiad ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2024/25 PDF 648 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor gan gynnwys amrywiannau ar ddiwedd Chwarter 1 2024/25.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio dros Gyllid, a adroddodd mai’r rhagamcan cychwynnol yn seiliedig ar wybodaeth ar ddiwedd chwarter cyntaf 2024/2025 fyddai gorwariant o £90k (0.05%) yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025. Er bod honno’n sefyllfa foddhaol, roedd yn gynnar yn y flwyddyn ariannol, roedd y rhagolygon ariannol yn ansicr a gallai’r sefyllfa newid. Y gobaith oedd y byddai cyllideb Canghellor y DU ar 30 Hydref yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y setliad ariannu am yr ychydig flynyddoedd nesaf gan gofio, hefyd, y rhybuddion oedd wedi’u cyhoeddi am y twll du mewn cyllid cyhoeddus.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y pwysau ar wasanaethau'r Cyngor gyda'r sefyllfa gyfunol gyffredinol ar gyfer gwasanaethau'r Cyngor yn dangos gorwariant a ragwelir o £1.966k ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, fel yr adlewyrchwyd yn Nhabl 4 o'r adroddiad. Cyflwynwyd dadansoddiad o'r amrywiant a ragwelid fesul rhesymau yn Nhabl 5. Y prif faes oedd yn peri pryder oedd y Gwasanaethau Plant, lle'r oedd nifer y plant a gâi eu lleoli gyda darparwyr y tu allan i'r sir a chost pob lleoliad wedi cynyddu. Nid oedd hyn yn fater oedd yn unigryw i Ynys Môn, gyda’r rhan fwyaf o gynghorau yn wynebu’r un pwysau o ran costau a galw ar gyllidebau gofal cymdeithasol eu plant. Roedd y sefyllfa ariannol gyffredinol wedi gwella oherwydd swyddi gwag a rhagwelwyd y byddai incwm cyffredinol y Cyngor yn uwch na’r gyllideb o £620k, gyda lefelau incwm yn y gwasanaethau Hamdden a Phriffyrdd yn sylweddol uwch na’r targed incwm. Er ei bod yn anodd rhagweld yn gywir y sefyllfa ariannol diwedd blwyddyn mor fuan â hyn yn y flwyddyn ar sail gwariant gwirioneddol un chwarter, roedd yno ffactorau a ychwanegai at yr ansicrwydd, oedd yn ymwneud yn bennaf â’r dyfarniadau cyflog oedd eto i'w datrys ar gyfer staff nad oeddynt yn addysgu a staff addysgu ac a gâi effaith ar sefyllfa ariannol derfynol y Cyngor, fel y’u manylwyd yn adran 8.2 o'r adroddiad.
Nododd y Pwyllgor Gwaith yr heriau oedd yn wynebu gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac oedd i’w gweld ar draws cynghorau Cymru a’r DU yn genedlaethol, yn ogystal â’r ansicrwydd ynghylch dyfarniadau cyflog oedd heb eu datrys ac oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ond a allai effeithio’n sylweddol ar ei gyllideb.
Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B a C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2024/25 · Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2024/25, y manylir arnynt yn Atodiad CH · Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2024/25 yn Atodiadau D a DD.
|
|
Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2024/25 PDF 437 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, a nodai berfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf am chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2024/25.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Gyllid, a adroddodd fod y gwariant cyfalaf gwirioneddol hyd at 30 Mehefin 2024 yn £9.533m yn erbyn y gyllideb broffiliedig o £10.790m, gyda £1.345m arall mewn gwariant ymrwymedig, yn dod â chyfanswm y gwariant ar gyfer y chwarter i £10.878m. Er bod y gyllideb broffiliedig a wariwyd hyd at ddiwedd y chwarter cyntaf ar gyfer y gronfa gyffredinol yn 104%,11% yn unig o’r gyllideb flynyddol oedd wedi ei wario hyd yma, a hynny oherwydd bod nifer o’r cynlluniau cyfalaf wedi eu pwysoli tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol. Roedd y canlyniadau ar ddiwedd chwarter 1 a'r gwariant rhagamcanol cysylltiedig yn dangos bod mwyafrif y prosiectau ar darged i'w cwblhau o fewn y gyllideb er y gallai’r sefyllfa newid wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi, gan ei bod yn gynnar yn y flwyddyn ariannol,
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ddibyniaeth y Cyngor ar grantiau allanol am ran helaeth o’i raglen gyfalaf, gyda rhai ohonynt yn cael eu dyfarnu’n flynyddol a rhai ar sail gystadleuol. Roedd y rhaglen gyfalaf yn cymryd peth amser i fagu momentwm, gyda nifer o gynlluniau wedi'u hamserlennu i gael eu traed danynt yn iawn yn chwarteri 2 a 3. Gallai nifer o ffactorau gael effaith ar eu cynnydd, gan gynnwys y tywydd yn ystod chwarteri 3 a 4. Fodd bynnag, £0.700m oedd y tanwariant a ragwelid ar y rhaglen oedd yn seiliedig ar wybodaeth chwarter 1 - rhywbeth calonogol.
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/25 yn ystod chwarter. · Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol, gwerth £11.369m, a gostyngiad o £1.345m yng nghyllideb y CRT i’r rhaglen gyfalaf, a newidiadau mewn cyllid yn unol ag Atodiad C yr adroddiad, a fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £69.361m ar gyfer 2024/25.
|
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2024/25 PDF 264 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, yn nodi sefyllfa ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2024/25.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Gyllid, a adroddodd y dangosai gwarged/diffyg refeniw'r CRT ar ddiwedd y chwarter cyntaf danwariant o £270k, o gymharu â'r gyllideb broffiliedig. Y rhagolwg ar ddiwedd y flwyddyn oedd tanwariant o £23k, fel y manylid arno yn Atodiad A yr adroddiad. Roedd y gwariant cyfalaf £93k yn is na'r gyllideb broffiliedig ar ddiwedd chwarter 1 ond rhagwelwyd y byddai o fewn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn, fel yr eglurid yn Atodiad B yr adroddiad. Y disgwyl oedd y ceid yn llawn y gyllideb o £10,578k ar gyfer yr incwm grant ac y câi £509k o'r gronfa wrth gefn a glustnodwyd ei ddefnyddio'n llawn erbyn diwedd y flwyddyn. £10,093k oedd y diffyg a ragwelid (oedd yn cyfuno refeniw a chyfalaf), swm oedd £23k o dan y gyllideb.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, o ran sefyllfa'r CRT yn y dyfodol, bod disgwyl i falans y gronfa wrth gefn ostwng i £1,177k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, er bod y balans ar yr arian wrth gefn, yn y gorffennol, wedi bod yn iach ac wedi ei ddefnyddio i ariannu gwariant cyfalaf ar ddatblygiadau tai newydd ac ar gynnal a chadw stoc tai'r Cyngor i Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC). Yn hynny o beth, byddai angen ystyried sut y câi cost cynnal y stoc bresennol ei ariannu yn y dyfodol ac, er bod benthyca yn bosibl, nid oedd yn gynaliadwy benthyca'n flynyddol i gynnal y stoc tai gan na fyddai'n ychwanegu dim at lefelau incwm yr CRT. Er bod chwyddiant uchel wedi cael effaith ar gostau cynnal a chadw yn y tair blynedd diwethaf, nid oedd incwm rhent wedi cadw i fyny i'r un graddau, a olygai bod y gwarged ar yr ochr refeniw wedi lleihau gyda llai ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf. At hyn, roedd SATC wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru yn 2023 i osod targedau mwy manwl-gywir ar gyfer tai cymdeithasol - targedau a fyddai’n ddrutach i’w cyrraedd. Câi’r materion hyn eu hystyried wrth lunio Cynllun Busnes a Strategaeth yr CRT ac roedd yn debygol y byddai angen i weddill y cynghorau hynny yng Nghymru oedd â’u stoc tai eu hunain, gael sgwrs gyda Llywodraeth Cymru am safonau ansawdd a lefelau rhent a pha mor gynaliadwy oedd y sefyllfa. Wrth fynd ymlaen, cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 nad oedd y materion hynny yn cael effaith ar y flwyddyn gyfredol gan fod digon o gyllid ar gael i fuddsoddi yn y stoc tai presennol ac i godi tai newydd, fel y’u cynlluniwyd.
Wrth gynnig yr adroddiad cytunodd y Cynghorydd Robin Williams fod angen adolygu’r sefyllfa, naill ai o ran lefelau rhent neu’r disgwyliadau o ran cynnal a chadw’r stoc dai i Safonau Ansawdd Tai Cymru, a thra bod y Cyngor wedi ymrwymo i barhau i ddarparu ansawdd uchel i ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 - 2026/27 PDF 706 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig am 2025/26 i 2026/27 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo. Roedd y Cynllun hwn yn nodi’r adnoddau tebygol yr oedd y Cyngor eu hangen am y tair blynedd ariannol nesaf, gan fanylu ar sut roedd y Cyngor yn bwriadu cydbwyso’r arian yr oedd ei angen gyda’r cyllid oedd ar gael. Roedd yn cadw mewn cof yr holl newidiadau hysbys yr oedd angen eu cynnwys yng nghyllideb sylfaenol 2024/25 ac yn gwneud rhagdybiaethau ar y prif ffactorau a gâi effaith ar gyllideb refeniw’r Cyngor (costau cyflog, pensiynau, chwyddiant cyffredinol, cyllid Llywodraeth Cymru, demograffig a phwysau galw).
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Gyllid fel datganiad blynyddol cyn y gyllideb, fel oedd yn ofynnol gan Gyfansoddiad y Cyngor. Amlinellai sefyllfa ariannol gyfredol y Cyngor a nodi’r rhagamcanion ar gyfer y tair blynedd nesaf, ynghyd â’r rhagdybiaethau yr oedd y rhagamcanion yn seiliedig arnynt a'r materion ariannol a wynebai'r Cyngor dros y cyfnod hwnnw. Roedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi'i lunio yn ystod cyfnod o ansicrwydd economaidd parhaus oedd yn ei gwneud hi'n anodd rhagweld sut byddai’r sefyllfa ariannol gan y gallai'r sefyllfa newid yn sylweddol dros y cyfnod.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth esboniad manwl o sefyllfa ariannol y Cyngor a'r gofynion cyllidebol rhagamcanol dros y tair blynedd ariannol nesaf fel y'u hadlewyrchwyd yn yr adroddiad, gan gymryd i ystyriaeth yr holl faterion perthnasol gan gynnwys pwysau cyllidebol lleol a chenedlaethol, fel y’u disgrifir yn adrannau 5 a 6 o'r adroddiad. Rhoddid amcangyfrif o’r gyllideb refeniw am bob un o’r blynyddoedd ariannol am 2025/26 i 2027/28 yn Nhabl 8 yr adroddiad, yn seiliedig ar y senario mwyaf tebygol ar gyfer yr holl ragdybiaethau (roedd enghreifftiau o’r senarios gorau a gwaethaf wedi’u nodi yn Nhabl 9) a bod gofyn cael cyllideb ychwanegol o £11.841m am 2025/26. Er mwyn ariannu'r gofyniad hwn, yn ogystal â chyllid parhaol yn lle’r £4.425m o gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd i fantoli'r gyllideb yn 2024/25, byddai angen i Gyllid Allanol Cyfun (AEF) y Cyngor godi 7% a Threth y Cyngor godi dros 17% (gweler Tabl 10 yr adroddiad). Os nad oedd cynnydd yn yr AEF, yna byddai'n rhaid i Dreth y Cyngor godi tua 36% er mwyn cynhyrchu digon o arian parhaol i gwrdd â'r gofyn cyllideb net amcangyfrifedig o £196.005m yn 2025/26. £3.88m ychwanegol yn unig fyddai cynnydd o 1% yn yr AEF yn ei gynhyrchu a chynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor. Byddai hyn yn gadael bwlch o £7.958m, ynghyd â chael rhywbeth yn lle’r £4.425m o gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd yn 2024/25 oedd yn mynd â’r diffyg i £12.382m. Roedd Adran 12 o'r adroddiad yn amlinellu'r llwybrau posibl oedd ar gael i'r Cyngor ddechrau mynd i'r afael â'r bwlch ariannu, gan gynnwys defnyddio rhyw gymaint ar falansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn. Dangosai’r dadansoddiad yn Atodiad 4 yr adroddiad y câi 85.9% o gyllideb gwariant net y Cyngor ei wario ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Newid y Cyfansoddiad – Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau PDF 127 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn gofyn am farn y Pwyllgor Gwaith ar newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â'r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau, i'w hargymell i'r Cyngor Llawn.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio dros Fusnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a amlinellodd y newidiadau oedd yn cael eu cynnig a'r ffactorau perthnasol i’w hystyried, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Y cynnig oedd tynnu’r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau’r Weithdrefn Contractau o'r Cyfansoddiad a bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r holl newidiadau perthnasol iddynt yn y dyfodol. Byddai’r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau’r Weithdrefn Contractau, ynghyd â dogfennau ategol yn ymddangos mewn man amlwg ar wefan y Cyngor. Byddai'r newidiadau yn fodd i adolygu a diwygio’n fwy amserol a byddent yn cyflwyno proses fwy hyblyg ac ymatebol. Byddai cyhoeddi’r Polisi a’r Rheolau uchod a dogfennau yn amlwg ar wefan y Cyngor yn sicrhau tryloywder, yn ogystal â gwneud y sefyllfa’n eglur ac yn haws i’r cyhoedd ei ddeall pan fyddant yn dymuno dilyn y broses gwyno ac i gontractwyr/busnesau a fyddai’n dymuno gwneud cais am gontractau’r Cyngor. Nid oedd unrhyw ofyniad cyfreithiol i gynnwys y Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau’r Weithdrefn Contractau yn y Cyfansoddiad ac nid oedd rheoleiddwyr y Cyngor yn disgwyl iddo wneud hynny. Nid oedd unrhyw risgiau nac anfanteision i’r cynnig.
Penderfynwyd argymell y canlynol i’r Cyngor Llawn – · Bod y Polisi Pryderon a Chwynion a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau yn cael eu tynnu o Gyfansoddiad y Cyngor a dirprwyo awdurdod i’r Swyddog Monitro i wneud unrhyw newidiadau o ganlyniad i’r penderfyniadau hyn.
· Bod y Polisi Pryderon a Chwynion, a’r Rheolau Gweithdrefn Contractau (ynghyd â’r holl ddogfennau ategol perthnasol) ar gael yn rhwydd ar wefan y Cyngor.
· Ni fydd y Cyngor llawn bellach yn gyfrifol am gymeradwyo unrhyw newidiadau i’r Polisi Pryderon a Chwynion a Rheolau Gweithdrefn Contractau, a byddant yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith; neu gan y Swyddog Monitro, o dan bwerau dirprwyedig, os nad yw’r newidiadau’n darparu dewis lleol, neu’n fân newidiadau. Bydd unrhyw newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Contractau bob amser yn cael eu trafod â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.
|