Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. |
|
Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn - 2023/2024 PDF 441 KB Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr. Penderfyniad: PEDNERFYNWYD :-
· Nodi cynnwys yr adroddiad a'r dogfennau atodol a chefnogi blaenoriaethau a thrywydd gwaith Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn yn y dyfodol;
· Gofyn i’r Pwyllgor Gwaith geisio diweddariad gan y Grŵp Rhanbarthol, a arweinir gan y Bwrdd Iechyd, ar y gwaith a’r trafodaethau ynghylch atal hunanladdiadau ar y ddwy bont dros yr Afon Menai.
|
|
Rhaglen Ffyniant Bro Ynys Môn - Mesur Cynnydd PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Dablygu Economaidd. Penderfyniad: PEDNERFYNWYD :-
· Nodi’r cynnydd o ran darparu Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Caergybi. · Nodi bod y Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer Caergybi yn cael ei gweithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU. · Cydnabod rôl barhaus y Cyngor o ran cefnogi Partneriaid Darparu’r Rhaglen.
|
|
Cynllun Strategol Moderneiddio Gwasanaeth Oedolion PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Penderfyniad: PENDERFYWNYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylid mabwysiadu ‘Cynllun Strategol Moderneiddio’r Gwasanaeth Oedolion 2024-2029’.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/2025 PDF 487 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini. Penderfyniad: PENDERFYWNYD:-
· Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2024/25 · Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.
|