Rhaglen a chofnodion

Ymweliadau Safle - Dydd Mercher, 18fed Medi, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

FPL/2023/173 Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr hen dafarndy (Dosbarth Defnydd A3) i fod yn gyfleuster gofal preswyl (Dosbarth Defnydd C2) ynghyd â'i addasu ac ehangu ym Mostyn Arms, Ffordd Cynan, Porthaethwy

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio’r cais i Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Gwelwyd y safle o Ffordd San Siôr.

 

2.

FPL/2022/289 Cais llawn ar gyfer dymchwel yr annedd bresennol ynghyd â chodi annedd a garej newydd ynghyd â gwaith cysylltiedig yn Ynys Y Big, Ffordd Biwmares, Glyn Garth, Porthaethwy

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio y cais i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Gwelwyd safle’r cais o du mewn i gwrtil yr eiddo. Dangoswyd i Aelodau lle byddai wal gefn yr annedd arfaethedig wedi’i leoli a oedd wedi’i farcio gyda phegiau metel.