Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodir uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorydd Neville Evans ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â chais 6.1 gan ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith sydd wedi trafod y datblygiad.
Fe wnaeth y Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol a oedd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â chais 6.1 gan ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith sydd wedi trafod y datblygiad.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2026. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2026 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
|
|
|
Cyflwyno cofnodion yr Ymweliad Safle a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2026. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion yr Ymweliadau Safle a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2026 yn gywir yn amodol ar gynnwys enw’r Cynghorydd Euryn Morris ar y rhestr ymddiheuriadau.
|
|
|
Siarad Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd Siaradwyr Cyhoeddus yn gysylltiedig â cheisiadau 7.1, 10.1 a 10.2.
|
|
|
Ceisiadau fydd yn cael eu gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 6.1 FPL/2024/228 – Cais llawn ar gyfer codi cyfleuster gofal ychwanegol a chartref gofal preswyl gyda chyfleusterau cymunedol, creu mynedfa newydd i gerbydau, gwaith i wella’r briffordd, dymchwel yr annedd bresennol ar y safle ynghyd â datblygiad cysylltiedig ar dir ger Glasynys, Tyddyn Mostyn, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei gyflwyno gan y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y datblygiad hwn yn gais cynllunio sylweddol a’i fod yn argymell cynnal ymweliad safle. Nododd bod dau Aelod Lleol hefyd wedi gofyn am ymweliad safle oherwydd maint y datblygiad a phryderon sydd wedi cael eu codi gan drigolion lleol.
PENDERFYNWYD cynnal ymweliad safle un unol ag argymhelliad y Swyddog a chais yr Aelodau Lleol.
|
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 FPL/2025/275 – Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw lloches cae yn Aberhoccwn, Hermon
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, 2026 argymhellodd yr aelodau y dylid cynnal ymweliad safle, a chynhaliwyd ymwelid safle ar 18 Chwefror, 2026.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Ms Nia Hughes, yr ymgeisydd o blaid y cais, a dywedodd ei bod wedi bod yn cadw anifeiliaid ers dros 30 mlynedd a’i bod yn lleol ac yn byw yn Niwbwrch. Dywedodd bod ganddi dorllwyth o ddefaid Ryeland prin, dwy ferlen, alpacaod a chŵn. Bwriad y lloches yw gofalu am yr anifeiliaid. Mae lloches wedi bod ar y safle ers 2010. Cafodd y lloches wreiddiol ei adeiladu ar ôl cael caniatâd cynllunio ond cafodd ei ddinistrio mewn storm yn 2013. Am resymau diogelwch, penderfynwyd dymchwel y lloches a chodi lloches arall yn is i lawr gan fod y lloches wreiddiol yn amharu ar olygfeydd bwthyn bach Aberhoccwn. Dywedodd nad oedd yn ymwybodol bod angen cysylltu â’r Adran Cynllunio a bod angen caniatâd cynllunio i ailadeiladu’r lloches gan fod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi yn y gorffennol. Nododd bod rhaid iddi aros yn y lloches 2 i 3 mis o’r flwyddyn i ofalu am yr anifeiliaid yn ystod y tymor wyna. Aeth ymlaen i ddweud ei bod wedi cael sylwadau positif am y lloches dros y blynyddoedd gan drigolion lleol ac ymwelwyr.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i gadw’r lloches bresennol ar y safle, sy’n cynnwys ystafell ar gyfer cadw anifeiliaid, decin â gorchudd, cawod, toiled a sinc. Mae’r cais hefyd yn cynnwys cadw’r garafán deithio sydd yn sownd yn y lloches. Yn ystod ymweliad safle ar 18 Chwefror, 2026 roedd dafad a dau oen yn y lloches a gwellt ar y llawr. Roedd y drysau Ffrengig wedi cael eu tynnu ac roedd rhai o’r ffenestri wedi cael eu bordio. Yn ystod ymweliad gan Swyddog Gorfodi ym mis Awst 2025, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y lloches erioed wedi cael ei defnyddio i gadw anifeiliaid ac roedd y lloches wedi’i dodrefnu gyda soffa a dodrefn eraill yn ogystal â stôf goed. Pan ymwelodd y Swyddog Achos â’r safle ym mis Rhagfyr 2025, roedd 3 alpaca yn y lloches. Roedd yn glir bod y garafán a'r ystafell gawod wedi cael eu defnyddio am gyfnod hir ac nid oedd yn ymddangos bod y lloches yn cael ei defnyddio fel lle dros dro i lochesu. Mae’r ffaith bod y garafán wedi cael ei chysylltu i’r tanc septig hefyd yn profi bod y lloches yn cael ei defnyddio’n barhaol. Nid yw’r llawr pren yn addas ar gyfer anifeiliaid, gan y bydd yn pydru a bydd baw yn syrthio rhwng yr estyll. Fe ddylai’r llawr fod yn llawr concrid fel y gellir rhoi gwellt glân i’r anifeiliaid. Aeth ymlaen i ddweud nad yw maint a dyluniad yr adeilad presennol yn addas. Ers mis Rhagfyr 2025, mae’r perchennog wedi ceisio troi’r adeilad yn lloches i anifeiliaid ond nid yw rhoi ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Ceisiadau Economaidd Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Ceisiadau am Dy Fforddiadwy Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
10.1 – VAR/2025/43 - High Tide, Ffordd Ravenspoint, Bae Trearddur
10.2 – VAR/2025/61 – Mount Alaw, Llanddeusant
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10.1 VAR/2025/43 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (12) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) o ganiatâd cynllunio rhif V2191b (cais manwl ar gyfer codi 5 byngalo) er mwyn diwygio’r dyluniad ar dir ger High Tide, Ravenspoint Road, Bae Trearddur.
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn argymell ei gymeradwyo er bod y cynnig yn groes i bolisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Siaradwr Cyhoeddus
Siaradodd Mr Elfed Williams, asiant yr ymgeisydd, o blaid y cais. Dywedodd bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ym 1973 i godi 5 byngalo ar y safle. Ym 1978 crëwyd mynedfa a rhan o’r ffordd i mewn i’r safle ac felly mae’r gwaith ar y datblygiad wedi dechrau. Yn 2008 derbyniwyd Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon i brofi bod y gwaith wedi dechrau. Aeth ymlaen i ddweud mai cais yw hwn i ddiwygio amod (12) (Cynlluniau a Gymeradwywyd) er mwyn newid dyluniad yr anheddau. Byddant ar yr un ôl troed, bydd dwy fynedfa i’r safle a byddant yn defnyddio’r un ffordd fynediad. Bydd y cynnig hefyd yn diogelu bywyd gwyllt o amgylch y safle. Bydd yr anheddau deulawr yn mesur 158m2 o’i gymharu â 147m2 yn y cais blaenorol. Mae’r Swyddogion Cynllunio yn cydnabod bod y cynlluniau diwygiedig yn cynnig gwelliant o ran maint, gosodiad y fynedfa a gofynion ecolegol. Nid oes gan y Swyddog Ecolegol na’r Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod caniatâd cynllunio wedi’i roi i godi 5 annedd marchnad agored ar y safle ar 30 Tachwedd, 1973. Cyflwynwyd cais am Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon a phrofwyd bod gwaith hanfodol wedi dechrau ar y safle ac felly mae’r caniatâd ar gyfer 5 annedd wedi cael ei ddiogelu. Nododd bod caniatâd wedi cael ei roi ym 1973 i godi 5 annedd marchnad agored ar y safle ac yn dilyn hyn cyflwynwyd cais am Dystysgrif Datblygiad Cyfreithlon a phrofwyd bod gwaith hanfodol wedi dechrau ar y safle. O ganlyniad, mae caniatâd cynllunio rhif V/2191B wedi cael ei weithredu’n gyfreithlon ac mae’r caniatâd ar gyfer 5 annedd marchnad agored wedi cael ei ddiogelu. Cais yw hwn i newid dyluniad, maint a gosodiad yr unedau preswyl fel eu bod yn cyd-fynd yn well â safonau a gofynion modern. Bydd yr anheddau o ansawdd uchel a byddant yn cydymffurfio â deddfwriaethau a pholisïau cyfredol. Bydd gwelliannau bioamrywiaeth yn cael eu cyflwyno yn ogystal. Ystyrir bod yr effaith ar ecoleg, y Gymraeg, mwynderau eiddo cyfagos, priffyrdd a draenio yn dderbyniol. Roedd y Swyddog yn argymell caniatáu’r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Lleol, nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r newidiadau ac roedd o’r farn bod yr hyn sy’n cael ei gynnig yn welliant Dywedodd y dylai’r ymgeisydd ystyried rhoi enw Cymraeg ar y datblygiad yn hytrach na High Tide. Cadarnhaodd yr Asiant bod enw Cymraeg wedi cael ei ystyried ar gyfer y datblygiad. Bydd y datblygwr yn gofyn i Gyngor Cymuned Trearddur gynnig enw Cymraeg ar gyfer yr ystâd.
Cynigiodd y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
Cynigion Datblygu a Gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 11.1 FPL/2025/312 – Cais llawn ar gyfer codi gorchudd to dros y man bwydo ac ymgynnull presennol ym Mharc Mawr, Amlwch
Cyflwynwyd y cais cynllunio i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol, yn unol â’r diffiniad ym mharagraff 4.6.10.2 o’r Cyfansoddiad. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais fel sy’n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais yw hwn i godi gorchudd to dros y man bwydo ac ymgynnull ynghyd â gwelliannau ecolegol o fewn y strwythur. Bydd y gorchudd to arfaethedig dros yr iard fferm concrid wedi ei leoli i gyfeiriad y gogledd ddwyrain o’r sied amaethyddol bresennol, a bydd yn estyniad i’r sied amaethyddol honno. Bydd yr estyniad arfaethedig i’r sied yn darparu lle ychwanegol ar gyfer cadw’r gwartheg, a bydd yn atal dŵr glaw rhag cymysgu gyda’r gwrtaith sydd ar yr iard. Ymgynghorwyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Swyddog Ecolegol y Cyngor, ac nid oes yr un ohonynt yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig. Mae’r eiddo sydd agosaf at y safle 220m i ffwrdd i gyfeiriad y de ddwyrain gyda chaeau agored, gwrychoedd a ffordd gyhoeddus yn eu gwahanu. Roedd y Swyddog yn argymell caniatáu’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Euryn Morris bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliwyd y cynnig i ganiatáu'r cais gan y Cynghorydd Geraint Bebb.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog, yn amodol ar yr amodau cynllunio yn yr adroddiad.
|
|
|
Gweddill y Ceisiadau Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|
|
|
Materion Eraill Dim i’w hystyried gan y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ystyriwyd unrhyw geisiadau o’r fath yn ystod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
|