Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber - Council Offices
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd canlynol o’r Cyngor Sir: -
· 25 Medi 2025 · 28 Hydref 2025 (Arbennig) Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. |
|
|
Cyhoeddiadau Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu'r Prif Weithredwr. |
|
|
Cyflwyno Deisebau Derbyn unrhyw ddeiseb yn unol â pharagraff 4.1.11 y Cyfansoddiad. |
|
|
Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol â Rheol 4.1.12.4 o’r Cyfansoddiad I gyflwyno rhybudd o’r cwestiwn canlynol gan y Cynghorydd Kenneth Hughes i Arweinydd y Cyngor: -
“Yn dilyn derbyn e bost i ddwyn fy sylw at y ffaith fod yna wrthdaro rhwng dyddiadau Sioe Frenhinol Cymru 2027 a dyddiadau gwyliau haf ysgolion Môn, sydd yn golygu bod ysgolion ar agor am y ddau ddiwrnod cyntaf o'r sioe. Ydi yn bosib i'r deilydd portffolio ddefnyddio ei ddylanwad i geisio cael datrysiad i sicrhau fydd dim gwrthdaro gyda dyddiadau y sioe a dyddiadau gwyliau haf ysgolion Môn yn 2027, hyn yn holl bwysig gan mai Ynys Môn ydi y Sir nawdd yn 2027?” |
|
|
Rhybudd o Gynnig · I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol ar ran y Grŵp Annibynnol o Gynghorwyr er mwyn gwneud cais bod Cyngor Sir Ynys Môn yn mabwysiadu cynnig tebyg i’r hyn sydd wedi’i dderbyn ac sydd bellach yn ei le yng Nghyngor Dinas Manceinion: -
“Nododd adroddiad diweddar gan Marie Curie “marw mewn tlodi (dying in poverty)” fod 28% o bobl mewn gwaith a 16% o bobl o oed pensiwn mewn tlodi yn ystod blwyddyn olaf eu bywyd; mae’r cyfraddau hyn yn sylweddol uwch nac ar gyfer pobl nad ydynt ym mlwyddyn olaf eu bywydau.
Gweithiodd yr elusen diwedd bywyd, Marie Curie, gyda Chyngor Dinas Manceinion ar Gynlluniau Treth Cyngor ‘arloesol’ gan ddweud mai’r Cyngor oedd y cyntaf yn Lloegr i gynnig eithriad llawn ar gyfer pobl â salwch terfynol.
Nododd cynigion Manceinion gynlluniau i’r Cyngor i newid ei Bolisi Disgresiwn Treth Cyngor er mwyn cynnwys ymrwymiad penodol i gefnogi pobl sydd wedi derbyn diagnosis o salwch terfynol.
Bwriad y cynllun ym Manceinion yw lleihau’r baich ar ofalwyr teuluol ac mae’n mynd yn bell er mwyn gallu helpu / cynorthwyo â chostau annisgwyl lle cafwyd diagnosis lliniarol; yn cynnwys sicrhau pŵer ar gyfer offer meddygol yn y cartref a chaniatáu / galluogi gwres ymlaen ar lefel uwch ac am gyfod hirach; er mwyn helpu i reoli symptomau.
Mae Marie Curie yn gofyn i fwy o Gynghorau fabwysiadu agwedd debyg i Fanceinion, a hynny ‘ar frys’ er mwyn helpu pobl yn eu misoedd, wythnosau a dyddiau olaf o’u bywydau heb iddynt orfod poeni am filiau Treth Cyngor.
Mae nifer o Gynghorau eraill bellach wedi mabwysiadu cynigion tebyg er mwyn cefnogi pobl â salwch terfynol yn ystod blwyddyn olaf eu bywydau.”
· I dderbyn y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Jackie Lewis: -
Fel aelod etholedig o Ward Talybolion, croesawaf yn fawr y cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch lleoli Adweithyddion Modwlar Bychan yn Wylfa.
Mae gan Ynys Môn draddodiad balch o gynhyrchu pŵer yng Ngorsaf Niwclear Wylfa, a bu’n darparu cyflogaeth o ansawdd i drigolion yr Ynys am ddegawdau.
Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o’r effeithiau posibl ar y cymunedau a’r trigolion sy’n byw yn agos i safle Wylfa felly gofynnaf i'r Cyngor Sir ofalu bod y prosiect yn sicrhau y manteision lleol mwyaf posibl, tra hefyd yn lleihau ac yn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol.
Rhaid gwrando ar leisiau, anghenion a phryderon trigolion Ynys Môn wrth i brosiect newydd Wylfa symud ymlaen.
Felly gofynnaf i ni fel Cyngor Sir Ynys Môn weithio'n ddiwyd i sicrhau bod y buddion economaidd a’r cyfleon gwaith yn dod yn bennaf i drigolion Ynys Môn trwy: • Sicrhau swyddi a chyfleoedd cadwyn gyflenwi i bobl a busnesau lleol
• Gweithio gyda’r Adran Dysgu a’n partneriaid yng Ngholeg Llandrillo Menai a Phrifysgol Bangor i sicrhau’r sgiliau angenrheidiol i’n pobl ifanc
• Creu sefyllfa sy’n caniatau i bobl ifanc a'u teuluoedd sydd eisoes wedi gadael yr ynys allu dychwelyd
• Sicrhau fod ein hiaith a'n diwylliant yn linyn arian trwy ... view the full Rhaglen text for item 6. |
|
|
Diwygio’r Cyfansoddiad - Rhoi Cymeradwyaeth Derfynol i Gyfrifon Blynyddol y Cyngor Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref 2025. |
|
|
Penodi Aelod Cyfetholedig Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. |