Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Penderfyniad: Bu i’r Cynghorydd Sonia Williams ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 5 - Cynllun Strategol Taclo Tlodi, gan ei bod yn Aelod o’r Bwrdd Taclo Tlodi. Fe wnaeth y Cynghorydd Williams adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ddilynol.
Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 - Craffu ar Bartneriaeth Strategol - Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ei fod yn aelod o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru.
|
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2026.
YN CODI
Diweddariad ar wireddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar Ynys Môn 2022/2026
· Llythyr wedi ei anfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Adam Price AS; · Ymateb wedi ei dderbyn gan Mr Adam Price AS; · Llythyr wedi ei anfon gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini at Mr Steve Reed AS; · Ymateb wedi ei dderbyn ar ran Mr Steve Reed AS.
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2026 yn gywir.
|
|
|
Craffu Partneriaeth Strategol - Cyfoeth Naturiol Cymru Derbyn cyflwyniad gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn y cyflwyniad gan Gyfoeth Naturiol Cymru
|
|
|
Cynllun Strategol Taclo Tlodi Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· derbyn y Cynllun Strategol Taclo Tlodi ar gyfer 2025/26; · nodi’r sylwadau ar flaenoriaethau gwaith Taclo Tlodi ar gyfer 2026/27; · gofyn i sefydliadau trydydd sector gwblhau asesiad effaith a defnyddio’r canfyddiadau i ysgrifennu ar y cyd ar ran y Pwyllgor at Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, er mwyn tynnu sylw at effaith sylweddol rôl arfaethedig y Cyd-bwyllgor Corfforedig mewn perthynas â Chyllid y Gronfa Twf Lleol ar Ynys Môn, a dadlau dros ddychwelyd at fodel y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) (70% refeniw, 30% cyfalaf) i sicrhau fod gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau.
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor - 2026/2027 Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD:-
· Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith ar gyfer 2026/2027; · Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.
|