Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 16eg Mehefin, 2026 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 157 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2026 fel rhai cywir.

 

5.

Blaen Raglen y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 305 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau blaen raglen waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Gorffennaf 2026 i Chwefror  2027 gyda’r newidiadau a nodwyd yn y cyfarfod.

 

6.

Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 4, 2025/26 pdf eicon PDF 642 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio.                     

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 4 2025/26 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio ac yn ymchwilio iddynt er mwyn rheoli a sicrhau gwelliant pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol a Llesiant (ail-gyfeirio plant o fewn 12 mis); Tai (ail-osod eiddo gwag, gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl – addasiadau canolig a mawr, a datblygu tai Cyngor newydd); yr Economi (nifer y contractau angori blynyddol); Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff o’r cartref) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â’r amserlen).

I

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7.

Dogfen Gyflawni Flynyddol 2026/27 pdf eicon PDF 585 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio.   

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu’r Dogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2026/27 i’w chyflawni yn ystod 2026/27.

8.

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Alldro 2025/26 pdf eicon PDF 816 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

·      Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.

·      Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2025/26 y manylir arnynt yn Atodiad CH.

·      Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2025/26 yn Atodiadau D a DD.

·      Nodi’r crynodeb o sefyllfa a gwariant y Gronfa Cost Newid ar gyfer 2025/26 yn Atodiad E.

·      Nodi bod amcangyfrif o falansau cyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2026 yn £18.949m.