Mae cyfarfodydd y Cyngor bellach yn cael eu ffrydio’n fyw ar ein sianel YouTube.
Gallwch hefyd weld rhestr o’r cyfarfodydd a fydd yn cael eu cynnal cyn hir.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Virtual Meeting
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb I dderbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau.
|
|
Derbyn cyflwyniad gan y Swyddog Monitro mewn perthynas a Protocol Cyn-Etholiad ar gyfer Gweithwyr ac Aelodau Etholedig – Etholiadau Llywodareth Leol – 5 Mai, 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd y Protocol Cyn Etholiad ar gyfer Gweithwyr ac Aelodau Etholedig ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol – 5 Mai, 2022 i’r Cyngor er gwybodaeth.
|
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 25 Ebrill 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn:-
· Mabwysiadu’r newidiadau i’r Cyfansoddiad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad; · Cytuno i'r newidiadau a argymhellir a dirprwyo'r hawl i'r Swyddog Monitro wneud y newidiadau i'r Cyfansoddiad fel yr argymhellir ynghyd ag unrhyw newidiadau atodol neu ganlyniadol sy'n codi.
|
|
Penodi Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Archwilio a Risg, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 19 Ebrill 2022. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio:-
· Penodi'r tri ymgeisydd yn aelodau lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio; · Cytuno i benodi'r aelod lleyg presennol am ail dymor o bum mlynedd.
|