Rhaglen a Phenderfyniadau

Cyfarfod Blynyddol Cyngor Sir Ynys Môn - Cyfarfod Hybrid - Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Sir Ynys Môn - Dydd Mawrth, 23ain Mai, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2023/24.

(Cyfeirir yr Aelodau at y ddogfen ‘Trefn y Gweithgareddau’ ar gyfer ethol Cadeirydd y Cyngor Sir).

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Margaret Murley Roberts yn Gadeirydd  Cyngor Sir ar gyfer 2023/2024.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Glyn Haynes yn Is-gadeirydd  y Cyngor Sir ar gyfer 2023/2024.

 

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dim wedi’u derbyn.

 

4.

Cyhoeddiadau

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd neu’r Prif Weithredwr ac unrhyw sylwadau terfynol am ei gyfnod yn y swydd gan y Cadeirydd y mae ei dymor yn dod i ben. 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

Aelodaeth o'r Pwyllgor Gwaith

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 y Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn unol â Pharagraff 4.1.1.2.7 o’r Cyfansoddiad, cael gwybod gan yr Arweinydd enwau’r Cynghorwyr y mae hi wedi eu dewis i fod yn Aelodau o'r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'u cyfrifoldebau Portffolio:-

 

Cynghorydd Llinos Medi (Arweinydd) Portffolio Datblygu Economaidd;

 

Cynghorydd Robin Williams (Dirprwy Arweinydd) Portffolio Cyllid;

 

Cynghorydd Ieuan Williams (Dirprwy Arweinydd) Portffolio Addysg a’r Gymraeg;

 

Cynghorydd Neville Evans Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol;

 

Cynghorydd Carwyn Jones Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer;

 

Cynghorydd Gary Pritchard Portffolio Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol), Ieuenctid a Gwasanaethau Tai;

 

Cynghorydd Alun Roberts Portffolio Gwasanaethu Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Diogelwch Cymunedol;

 

Cynghorydd Nicola Roberts Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd;

 

Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

6.

Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 y Cyfansoddiad, penodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y flwyddyn sirol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn unol â Pharagraff 3.4.12.3 o’r Cyfansoddiad Penderfynwyd Ethol y Cynghorydd Keith Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

7.

Cadarnhau'r Cynllun Dirprwyo

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau'r rhan honno o'r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arno (fel y nodir ym Mharagraff 3.2 o'r Cyfansoddiad).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn unol â Rhan 3.2 o’r Cyfansoddiad PENDERFYNWYD cadarnhau’r rhan honno o’r Cynllun Dirprwyo y mae'r Cyfansoddiad yn nodi mai mater i'r Cyngor yw cytuno arni.

8.

Cadarnhau Pwyllgorau

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau ailbenodi'r strwythur Pwyllgorau a ganlyn fel y cyfeirir ato yn Adran 3.4 o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â'r canlynol: -

 

·     Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau

·     Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG)

·     Is-Bwyllgor Indemniadau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD ailbenodi’r strwythur Pwyllgorau y cyfeirir ato yn Adran o Gyfansoddiad y Cyngor, ynghyd â’r canlynol:-

 

·       Panel Penodi i'r Pwyllgor Safonau

·       Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar  Addysg Grefyddol (CYSAG)

·         Is-Bwyllgor Indemniadau

9.

Rhaglen o Gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer 2023/24

Cymeradwyo'r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod: -

 

·      12 Medi 2023                                           -           2:00 pm

·      26 Hydref 2023 (Arbennig)                    -           2.00 pm

·      5 Rhagfyr 2023                                        -           2:00 pm

·      7 Mawrth 2024                                         -           2:00 pm

·      Mai 2024 (Cyfarfod Blynyddol)             -           dyddiad i’w gadarnhau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen ganlynol o gyfarfodydd y Cyngor Sir ar gyfer y flwyddyn i ddod:-

 

·      12 Medi, 2023 - 2.00pm

·      26 Hydref, 2023 - 2.00pm

·      5 Rhagfyr, 2023 - 2.00pm

·       Mai 2024 (Cyfarfod Blynyddol) – dyddiad i’w gadarnhau

 

10.

Trefniadau Cydbwysedd Gwleidyddol yn y Cyngor pdf eicon PDF 147 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD :-

 

·         Cadarnhau’r trefniadau cydbwysedd gwleidyddol a’r nifer o seddi a ddyrennir i bob Grwp o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

·         Bod Arweinyddion y Grwpiau yn hysbysu’r Pennaeth Democratiaeth cyn gynted ag y bo modd os bydd unrhyw newid o ran aelodaeth Grwpiau ar Bwyllgorau.

 

11.

Cynrychiolaeth ar Gyrff Allanol pdf eicon PDF 157 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cytuno a chadarnhau’r penodiadau fel y nodir yn y rhestr  sydd ynghlwm â’r adroddiad.

 

12.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024 pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:-

 

·         Derbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023-2024;  

 

·         Cadarnhau y bydd deilyddion yr un Swyddi â 2022-2023 â’r hawl i dderbyn uwch gyflogau yn 2023-2024, hy:-

 

Cadeirydd y Cyngor;

Is-Gadeirydd y Cyngor;

Arweinydd y Cyngor;

Dirprwy Arweinydd y Cyngor;

Aelodau eraill y Pwyllgor Gwaith (7) Arweinydd Grwp yr Wrthblaid fwyaf; Cadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini (2) Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion

 

·         Awdurdodi swyddogion i newid Rhan 6 o Gyfansoddiad y Cyngor (Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau) i adlewyrchu’r penderfyniadau a wnaed yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024.