Rhaglen Waith Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
2.6 Erthygl 6 – Sgriwtineiddio Penderfyniadau
2.6.1 Cyfansoddiad
Y
nifer ar bob Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg a elwir yn Bwyllgor
Sgriwtini fydd y nifer honno a nodir isod yn 2.6.2.1. Penodir Cadeirydd ac Is-Gadeirydd
Pwyllgor Sgriwtini gan y Pwyllgor hwnnw, a byddant yn cael eu
penodi yng nghyfarfod cyntaf pob Pwyllgor ym mhob blwyddyn ddinesig
ac, yn amodol ar yr isod, bydd y penodiad hwnnw neu unrhyw benodiad
pellach yn parhau am weddill y flwyddyn ddinesig honno. Wrth
ddyrannu Cadeiriau Pwyllgorau Sgriwtini, rhaid dilyn y tabl
‘Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini’ isod. Bydd Cadeirydd y Pwyllgor
Sgriwtini Corfforaethol yn aelod o’r wrthblaid fwyaf. Bydd
enwebiadau i unrhyw swydd ac i bob swydd a ddelir gan y
gwrthbleidiau’n cael eu gwneud gan y grwpiau unigol hynny a
byddant yn cael eu cydnabod gan yr holl aelodau ac ni fyddant yn
cael eu dylanwadu gan grwpiau eraill neu aelodau
eraill.
Os
bydd Cadeirydd neu Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini:
2.6.1.1 yn peidio â bod yn aelod o’r Cyngor
(neu’n aelod cyfetholedig efallai) am unrhyw reswm
neu’n cael ei atal/hatal rhag bod yn aelod, neu
2.6.1.2 yn aelod o grŵp gwleidyddol penodol pan gaiff ei
benodi yn Gadeirydd neu’n Is-Gadeirydd a bod y person hwnnw
wedyn yn peidio â bod yn aelod o’r grŵp
gwleidyddol hwnnw, am unrhyw reswm, yna daw swydd y person hwnnw
fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar unwaith,
bydd
dyraniad y Cadeiriau Sgriwtini yn cael ei ail-glandro yn unol
â’r gofynion statudol a’r tabl sydd isod a bydd
pob Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yn ei gyfarfod nesaf yn penodi
Cadeirydd neu Is-Gadeirydd newydd.
Bydd
y rheolau mewn perthynas â chydbwysedd gwleidyddol yn parhau
i fod yn berthnasol ond ni fydd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn
gymwys i fod yn aelodau o Bwyllgor Sgriwtini.
Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini
D.S.
(1) Mae’r tablau
yn dangos cyfanswm nifer y cadeiriau gan yr holl grwpiau yn y
Pwyllgor Gwaith, a holl grwpiau’r gwrthbleidiau. Nid yw’n dangos nifer y
cadeiriau sydd gan bob grŵp unigol - oni bai nad oedd ond un
grŵp yn y naill gategori. Rhaid dyrannu cadeiriau rhwng y
grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith a rhwng grwpiau’r gwrthbleidiau
yn gymesur â’u cryfder.
(2) Mae hwn yn cynnwys
y mwyafrif o’r amgylchiadau y gellir eu rhagweld. Byddai rheolau dyrannu gwahanol yn
berthnasol :
- pe na bai grwpiau
gwleidyddol o fewn y Cyngor, neu dim ond un
- pe bai dim ond dau
grŵp, ac ond un pwyllgor; neu
- pe bai’r Cyngor
yn penderfynu mabwysiadu rheolau eraill na fyddent yn llai ffafriol
i grwpiau’r gwrthbleidiau.
(2) Y fformiwla a
ddefnyddir ar gyfer grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith yw :
Nifer y Aelodau mewn
grwp(iau) yn y Pwyllgor Gwaith ÷ (cyfanswm nifer y Aelodau
÷ nifer y pwyllgorau), gan rowndio’r canlyniad i
lawr.
Ar
gyfer grwpiau’r gwrthbleidiau, y fformiwla wedyn yn syml fydd
:
Nifer y pwyllgorau – nifer y cadeiriau gan grwpiau yn y
Pwyllgor Gwaith.
2.6.2 Ansicrwydd Dyletswyddau
Pan
fo unrhyw fater yn syrthio y tu mewn i gylch gorchwyl rhagor nag un
Pwyllgor Sgriwtini yna bydd y Prif Weithredwr, neu Swyddog a
benodir i weithredu ar ei ran / rhan, yn penderfynu pa Bwyllgor
fydd yn delio gyda’r mater(ion) a bydd yn cynnwys pŵer y
ddau Bwyllgor Sgriwtini i alw penderfyniadau i mewn.
2.6.2.1 Enwau, Maint a
Chylch Gorchwyl y Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd
dau Bwyllgor Sgriwtini
• Y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor
Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Penodir 10 Aelod o’r Cyngor Sir ar bob Pwyllgor
Sgriwtini.
Gwahoddir Rhiant Lywodraethwyr a chynrychiolwyr yr Eglwys a
benodwyd yn unol â Pharagraff 8 - 11 Atodlen 1 Deddf
Llywodraeth Leol 2000 i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Sgriwtini lle
bydd swyddogaethau addysg yr Awdurdod yn cael trafod a bydd
ganddynt hawl i siarad a phleidleisio ar y materion hynny’n
unig.
Yn
ychwanegol, fe all y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac
Adfywio gyfethol unrhyw
berson ac eithrio Aelod o’r Pwyllgor Gwaith, yng nghyswllt ei
swyddogaethau trosedd ac anhrefn, yn amodol ar
ddarpariaethau’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a
Sgriwtini) 2009 a’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a
Sgriwtini) (Diwygiad) 2010.
Gall
y ddau Bwyllgor Sgriwtini argymell bod y Cyngor yn penodi aelodau
cyfetholedig ychwanegol heb hawliau pleidleisio i bob Pwyllgor
Sgriwtini.
2.6.2.2 Cylch Gorchwyl
y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar roi sicrwydd
ynglŷn â pherfformiad / darpariad yr holl
wasanaethau, sicrhau
bod y Cyngor yn cyflawni ei amcanion corfforaethol a’i
amcanion gwasanaeth (fel yr amlinellwyd yn ei Gynllun Busnes
Corfforaethol , Cyllideb Flynyddol, Fframwaith Cyllideb a Pholisi,
Fframwaith Rheoli Perfformiad, Polisïau
Corfforaethol neu
gynlluniau a pholisïau sy’n eu holynu) ac i gefnogi a
gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaol.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed, neu gamau
eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei
swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a
alwyd i mewn” neu na weithredwyd arnynt i argymell i’r
Pwyllgor Gwaith i
ailystyried y penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu gamau
eraill a gymerwyd yng nghyswllt swyddogaethau nad ydynt yn
gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer hwn
yn ymestyn i waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol ynglŷn
â rheoli datblygu, trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau
eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan anghenion
Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
2.6.2.3 Cylch Gorchwyl
Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar sicrhau bod
buddiannau dinasyddion Ynys Môn yn cael eu hyrwyddo a bod
blaenoriaethau ac adnoddau’r Cyngor yn cael eu hadlewyrchu yn
llesol yn y partneriaethau, y cydweithio, y gweithio ar y cyd
â threfniadau asiantaeth allanol, fel fydd yn bodoli o bryd
i’w gilydd. Bydd
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn ymestyn i drefniadau lleol,
rhanbarthol a chenedlaethol a bydd yn cynnwys (ond heb fod wedi ei
gyfyngu i) y meysydd lle mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol mewn
materion trosedd ac anhrefn.
• Materion yn ymwneud ag adfywio a’r cysyniad
“Ynys Fenter” (neu gynlluniau a pholisïau fydd yn
eu holynu).
• Derbyn gwybodaeth a chyflwyniadau gan asiantau sector
cyhoeddus allanol (e.e. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,
Gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub
Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Iechyd Cymuned
Leol Betsi Cadwaladr) a sgriwtineiddio eu gwaith ar yr Ynys.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed, neu gamau
eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei
swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a
alwyd i mewn” neu na weithredwyd arnynt i argymell i’r
Pwyllgor Gwaith y dylid ailystyried y penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu gamau
eraill a gymerwyd yng nghyswllt swyddogaethau nad ydynt yn
gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer hwn
yn ymestyn i waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol ynglŷn
â rheoli datblygu, trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau
eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan anghenion
Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
• Cyflawni swyddogaeth y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn yn unol
ag Adran 19 (1) Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 a Rheoliadau
Llywodraeth Cymru. Bydd
Cylch Gorchwyl penodol lle bo’r Pwyllgor hwn yn ystyried
ymarfer pwerau yng nghyswllt trosedd ac anhrefn yn cynnwys :
-
adolygu a / neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu gamau a
gymerwyd yng nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol yn cyflawni eu
swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
-
gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r Cyngor ac /neu’r
Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol yn cyflawni eu
swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
- ystyried mewn
cyfarfod o’r Pwyllgor unrhyw fater trosedd ac anhrefn lleol a
gyfeiriwyd i’r Pwyllgor gan aelod o’r Cyngor.
- penderfynu a ddylid
gwneud adroddiad neu argymhelliad i’r Cyngor ac / neu’r
Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol, gan
roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan yr aelod hwnnw ynglŷn
â phaham y dylai’r Pwyllgor wneud hynny.
- hysbysu’r aelod
penodol o’i benderfyniad a’r rhesymau am ei
benderfyniad mewn unrhyw achos lle bo’r Pwyllgor yn
penderfynu peidio â gwneud adroddiad neu argymhellion yng
nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol.
- darparu copi o unrhyw
adroddiad neu argymhellion Pwyllgor i’r aelod penodol (yng
nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol) ac i unrhyw bersonau neu
gyrff cyfrifol a chydweithredol, fel y bo’n credu sy’n
briodol.
- adolygu ymatebion i
adroddiadau ac argymhellion Pwyllgor a monitro’r camau a
gymerwyd gan bersonau neu gyrff cyfrifol a chydweithredol mewn
perthynas â chyflawni swyddogaethau trosedd ac anhrefn yr
awdurdodau cyfrifol.
2.6.3 Swyddogaeth gyffredinol
O
fewn eu cylch gorchwyl, bydd Pwyllgorau Sgriwtini yn:
2.6.3.1 adolygu a/neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu
gamau a gymerwyd mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw rai o
swyddogaethau’r Cyngor;
2.6.3.2 cyflwyno adroddiadau a/neu argymhellion i’r Cyngor
llawn a / neu y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgor ar y Cyd neu
Bwyllgor Ardal mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw
swyddogaethau;
2.6.3.3 ystyried unrhyw fater sy’n effeithio ar yr ardal neu
ei thrigolion;
2.6.3.4 ymarfer yr hawl i alw i mewn, ar gyfer ailystyried
penderfyniadau a wnaed (o fewn ei gylch gorchwyl) ond nad ydynt eto
wedi eu gweithredu gan y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgorau
Ardal; a
2.6.3.5 cynnal arolygon dan Gynllun Cymru ar gyfer Gwella ar y
swyddogaethau sydd y tu mewn i’w faes priodol a chyflwyno
adroddiadau ar y materion trwy’r Pwyllgor Gwaith i’r
Cyngor.
2.6.4 Swyddogaethau penodol
2.6.4.1 Datblygu ac Adolygu Polisi.
Gall
Pwyllgorau Sgriwtini wneud y canlynol:
2.6.4.1.1 cynorthwyo’r Cyngor a’r Pwyllgor Gwaith i
ddatblygu ei gyllideb a’i fframwaith polisi drwy
ddadansoddiad manwl o faterion polisi;
2.6.4.1.2 gwneud ymchwil, ymgynghori â’r gymuned ac
ymgynghori arall i ddadansoddi materion polisi a dewisiadau
posibl;
2.6.4.1.3 ystyried a gweithredu mecanweithiau i annog a gwella
cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o ddatblygu dewisiadau
polisi;
2.6.4.1.4 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu bwyllgorau a
Phrif Swyddogion am eu barn ar faterion ac argymhellion sy’n
effeithio ar yr ardal; a
2.6.4.1.5 cysylltu â chyrff allanol eraill sy’n
gweithredu yn yr ardal, boed y rhai hynny yn rhai cenedlaethol,
rhanbarthol neu leol, i hyrwyddo lles y bobl leol drwy weithio ar y
cyd.
2.6.4.2 Sgriwtini
Gall
Pwyllgorau Sgriwtini:
2.6.4.2.1 adolygu a sgriwtineiddio ar y penderfyniadau a
pherfformiad y Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgorau a Swyddogion y
Cyngor mewn perthynas â phenderfyniadau unigol a thros gyfnod
o amser;
2.6.4.2.2 adolygu sgriwtineiddio perfformiad y Cyngor mewn
perthynas â’i amcanion polisi, targedau perfformiad
a/neu feysydd gwasanaeth arbennig;
2.6.4.2.3 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgorau a
Phrif Swyddogion am eu penderfyniadau a’u perfformiad,
p’run ai yn gyffredinol o’i gymharu â chynlluniau
gwasanaeth a thargedau dros gyfnod o amser, neu mewn perthynas
â phenderfyniadau, cynlluniau neu brosiectau neilltuol;
2.6.4.2.4 gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith a/neu
Bwyllgor priodol a/neu’r Cyngor yn deillio o
ganlyniadau’r broses sgriwtini;
2.6.4.2.5 adolygu sgriwtineiddio perfformiad cyrff cyhoeddus eraill
yn yr ardal a gwahodd adroddiadau oddi wrthynt drwy ofyn iddynt
annerch y Pwyllgor Sgriwtini a phobl leol i sôn am eu
gweithgareddau a’u perfformiad; a
2.6.4.2.6 holi a chasglu tystiolaeth oddi wrth unrhyw berson arall
(gyda’i ganiatâd).
2.6.4.3 Cyllid
Gall
Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb cyffredinol am y cyllid a
glustnodwyd iddynt.
2.6.4.4 Adroddiad Blynyddol
Rhaid i Bwyllgorau Sgriwtini adrodd yn flynyddol i’r Cyngor
llawn ynglŷn â sut y maent yn gweithio a gwneud
argymhellion ar gyfer rhaglenni gwaith y dyfodol a newid dulliau o
weithio os yw hynny’n briodol.
2.6.4.5 Swyddogion
Gall
Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb cyffredinol am raglen
waith y Swyddogion a gyflogir i gynnal eu gwaith.
2.6.5 Trafodion Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd
Pwyllgorau Sgriwtini yn cynnal eu trafodion yn unol â’r
Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini a nodir yn Rhan 4.5 y Cyfansoddiad
hwn.
2.6.6 Cyswllt rhwng Pwyllgorau Sgriwtini
Gall
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini gyfarfod
gyda’i gilydd fel Grŵp Llywio cyn amled ag y bo’n
briodol gyda golwg ar gydlynu rhaglenni gwaith a dulliau gweithio
er mwyn osgoi neu ostwng unrhyw ddyblygu neu orgyffwrdd yn eu
gwaith.
2.6.7 Panelau
Gall
y Pwyllgor Sgriwtini sefydlu Panelau o’i Aelodau â
diddordeb neu â sgiliau arbenigol mewn meysydd penodol er
mwyn cynorthwyo’r Pwyllgor i gyflawni ei waith.