Rhaglen Waith Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac
Adfywio
2.6 Erthygl 6 – Sgriwtineiddio Penderfyniadau
2.6.1 Cyfansoddiad
Y nifer ar bob Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg a elwir yn
Bwyllgor Sgriwtini fydd y nifer honno a nodir isod yn
2.6.2.1. Penodir
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini gan y Pwyllgor hwnnw,
a byddant yn cael eu penodi yng nghyfarfod cyntaf pob Pwyllgor ym
mhob blwyddyn ddinesig ac, yn amodol ar yr isod, bydd y penodiad
hwnnw neu unrhyw benodiad pellach yn parhau am weddill y flwyddyn
ddinesig honno. Wrth ddyrannu Cadeiriau Pwyllgorau Sgriwtini, rhaid
dilyn y tabl ‘Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini’
isod. Bydd Cadeirydd y
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn aelod o’r wrthblaid
fwyaf. Bydd enwebiadau i unrhyw swydd ac i bob swydd a ddelir gan y
gwrthbleidiau’n cael eu gwneud gan y grwpiau unigol hynny a
byddant yn cael eu cydnabod gan yr holl aelodau ac ni fyddant yn
cael eu dylanwadu gan grwpiau eraill neu aelodau
eraill.
Os bydd Cadeirydd neu Is-Gadeirydd Pwyllgor
Sgriwtini:
2.6.1.1 yn peidio â bod yn aelod o’r Cyngor
(neu’n aelod cyfetholedig efallai) am unrhyw reswm
neu’n cael ei atal/hatal rhag bod yn aelod, neu
2.6.1.2 yn aelod o grŵp gwleidyddol penodol pan gaiff
ei benodi yn Gadeirydd neu’n Is-Gadeirydd a bod y person
hwnnw wedyn yn peidio â bod yn aelod o’r grŵp
gwleidyddol hwnnw, am unrhyw reswm, yna daw swydd y person hwnnw
fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar unwaith,
bydd dyraniad y Cadeiriau Sgriwtini yn cael ei ail-glandro
yn unol â’r gofynion statudol a’r tabl sydd isod
a bydd pob Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yn ei gyfarfod nesaf yn
penodi Cadeirydd neu Is-Gadeirydd newydd.
Bydd y rheolau mewn perthynas â chydbwysedd
gwleidyddol yn parhau i fod yn berthnasol ond ni fydd
aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn gymwys i fod yn aelodau o
Bwyllgor Sgriwtini.
Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini
D.S.
(1) Mae’r
tablau yn dangos cyfanswm nifer y cadeiriau gan yr holl grwpiau yn
y Pwyllgor Gwaith, a holl grwpiau’r
gwrthbleidiau. Nid
yw’n dangos nifer y cadeiriau sydd gan bob grŵp unigol -
oni bai nad oedd ond un grŵp yn y naill gategori. Rhaid dyrannu cadeiriau rhwng y
grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith a rhwng grwpiau’r gwrthbleidiau
yn gymesur â’u cryfder.
(2) Mae hwn yn
cynnwys y mwyafrif o’r amgylchiadau y gellir eu
rhagweld. Byddai
rheolau dyrannu gwahanol yn berthnasol :
- pe na bai
grwpiau gwleidyddol o fewn y Cyngor, neu dim ond un
- pe bai dim
ond dau grŵp, ac ond un pwyllgor; neu
- pe
bai’r Cyngor yn penderfynu mabwysiadu rheolau eraill na
fyddent yn llai ffafriol i grwpiau’r
gwrthbleidiau.
(2) Y fformiwla
a ddefnyddir ar gyfer grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith yw :
Nifer y Aelodau
mewn grwp(iau) yn y Pwyllgor Gwaith ÷ (cyfanswm nifer y
Aelodau ÷ nifer y pwyllgorau), gan rowndio’r canlyniad
i lawr.
Ar gyfer grwpiau’r gwrthbleidiau, y fformiwla wedyn
yn syml fydd :
Nifer y pwyllgorau – nifer y cadeiriau gan grwpiau yn
y Pwyllgor Gwaith.
2.6.2 Ansicrwydd Dyletswyddau
Pan fo unrhyw fater yn syrthio y tu mewn i gylch gorchwyl
rhagor nag un Pwyllgor Sgriwtini yna bydd y Prif Weithredwr, neu
Swyddog a benodir i weithredu ar ei ran / rhan, yn penderfynu pa
Bwyllgor fydd yn delio gyda’r mater(ion) a bydd yn cynnwys
pŵer y ddau Bwyllgor Sgriwtini i alw penderfyniadau i
mewn.
2.6.2.1 Enwau,
Maint a Chylch Gorchwyl y Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd dau Bwyllgor Sgriwtini
• Y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r
Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Penodir 10 Aelod o’r Cyngor Sir ar bob Pwyllgor
Sgriwtini.
Gwahoddir Rhiant Lywodraethwyr a chynrychiolwyr yr Eglwys a
benodwyd yn unol â Pharagraff 8 - 11 Atodlen 1 Deddf
Llywodraeth Leol 2000 i fynychu cyfarfodydd Pwyllgor Sgriwtini lle
bydd swyddogaethau addysg yr Awdurdod yn cael trafod a bydd
ganddynt hawl i siarad a phleidleisio ar y materion hynny’n
unig.
Yn ychwanegol, fe all y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac
Adfywio gyfethol unrhyw
berson ac eithrio Aelod o’r Pwyllgor Gwaith, yng nghyswllt ei
swyddogaethau trosedd ac anhrefn, yn amodol ar
ddarpariaethau’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a
Sgriwtini) 2009 a’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a
Sgriwtini) (Diwygiad) 2010.
Gall y ddau Bwyllgor Sgriwtini argymell bod y Cyngor yn
penodi aelodau cyfetholedig ychwanegol heb hawliau pleidleisio i
bob Pwyllgor Sgriwtini.
2.6.2.2 Cylch
Gorchwyl y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar roi
sicrwydd ynglŷn â pherfformiad / darpariad yr holl
wasanaethau, sicrhau
bod y Cyngor yn cyflawni ei amcanion corfforaethol a’i
amcanion gwasanaeth (fel yr amlinellwyd yn ei Gynllun Busnes
Corfforaethol , Cyllideb Flynyddol, Fframwaith Cyllideb a Pholisi,
Fframwaith Rheoli Perfformiad, Polisïau
Corfforaethol neu
gynlluniau a pholisïau sy’n eu holynu) ac i gefnogi a
gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaol.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed,
neu gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei
swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a
alwyd i mewn” neu na weithredwyd arnynt i argymell i’r
Pwyllgor Gwaith i
ailystyried y penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed
neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt swyddogaethau nad ydynt
yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer
hwn yn ymestyn i waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol
ynglŷn â rheoli datblygu, trwyddedu, cofrestru neu
unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan
anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
2.6.2.3 Cylch
Gorchwyl Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio ar sicrhau
bod buddiannau dinasyddion Ynys Môn yn cael eu hyrwyddo a bod
blaenoriaethau ac adnoddau’r Cyngor yn cael eu hadlewyrchu yn
llesol yn y partneriaethau, y cydweithio, y gweithio ar y cyd
â threfniadau asiantaeth allanol, fel fydd yn bodoli o bryd
i’w gilydd. Bydd
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn ymestyn i drefniadau lleol,
rhanbarthol a chenedlaethol a bydd yn cynnwys (ond heb fod wedi ei
gyfyngu i) y meysydd lle mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol mewn
materion trosedd ac anhrefn.
• Materion yn ymwneud ag adfywio a’r cysyniad
“Ynys Fenter” (neu gynlluniau a pholisïau fydd yn
eu holynu).
• Derbyn gwybodaeth a chyflwyniadau gan asiantau
sector cyhoeddus allanol (e.e. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac
Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Iechyd
Cymuned Leol Betsi Cadwaladr) a sgriwtineiddio eu gwaith ar yr
Ynys.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed,
neu gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni ei
swyddogaeth ac yng nghyswllt y penderfyniadau a wnaed ond “a
alwyd i mewn” neu na weithredwyd arnynt i argymell i’r
Pwyllgor Gwaith y dylid ailystyried y penderfyniadau
hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed
neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt swyddogaethau nad ydynt
yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer
hwn yn ymestyn i waith sgriwtineiddio penderfyniadau unigol
ynglŷn â rheoli datblygu, trwyddedu, cofrestru neu
unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan
anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
• Cyflawni swyddogaeth y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn
yn unol ag Adran 19 (1) Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 a
Rheoliadau Llywodraeth Cymru. Bydd Cylch Gorchwyl penodol lle
bo’r Pwyllgor hwn yn ystyried ymarfer pwerau yng nghyswllt
trosedd ac anhrefn yn cynnwys :
- adolygu a / neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed neu
gamau a gymerwyd yng nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol yn cyflawni
eu swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
- gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r Cyngor ac
/neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol
yn cyflawni eu swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
- ystyried mewn
cyfarfod o’r Pwyllgor unrhyw fater trosedd ac anhrefn lleol a
gyfeiriwyd i’r Pwyllgor gan aelod o’r
Cyngor.
- penderfynu a
ddylid gwneud adroddiad neu argymhelliad i’r Cyngor ac /
neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn
lleol, gan roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan yr aelod hwnnw
ynglŷn â phaham y dylai’r Pwyllgor wneud
hynny.
-
hysbysu’r aelod penodol o’i benderfyniad a’r
rhesymau am ei benderfyniad mewn unrhyw achos lle bo’r
Pwyllgor yn penderfynu peidio â gwneud adroddiad neu
argymhellion yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn
lleol.
- darparu copi
o unrhyw adroddiad neu argymhellion Pwyllgor i’r aelod
penodol (yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol) ac i unrhyw
bersonau neu gyrff cyfrifol a chydweithredol, fel y bo’n
credu sy’n briodol.
- adolygu
ymatebion i adroddiadau ac argymhellion Pwyllgor a monitro’r
camau a gymerwyd gan bersonau neu gyrff cyfrifol a chydweithredol
mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau trosedd ac anhrefn
yr awdurdodau cyfrifol.
2.6.3 Swyddogaeth gyffredinol
O fewn eu cylch gorchwyl, bydd Pwyllgorau Sgriwtini
yn:
2.6.3.1 adolygu a/neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed
neu gamau a gymerwyd mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw rai o
swyddogaethau’r Cyngor;
2.6.3.2 cyflwyno adroddiadau a/neu argymhellion i’r
Cyngor llawn a / neu y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgor ar y
Cyd neu Bwyllgor Ardal mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw
swyddogaethau;
2.6.3.3 ystyried unrhyw fater sy’n effeithio ar yr
ardal neu ei thrigolion;
2.6.3.4 ymarfer yr hawl i alw i mewn, ar gyfer ailystyried
penderfyniadau a wnaed (o fewn ei gylch gorchwyl) ond nad ydynt eto
wedi eu gweithredu gan y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgorau
Ardal; a
2.6.3.5 cynnal arolygon dan Gynllun Cymru ar gyfer Gwella
ar y swyddogaethau sydd y tu mewn i’w faes priodol a
chyflwyno adroddiadau ar y materion trwy’r Pwyllgor Gwaith
i’r Cyngor.
2.6.4 Swyddogaethau penodol
2.6.4.1 Datblygu ac Adolygu Polisi.
Gall Pwyllgorau Sgriwtini wneud y canlynol:
2.6.4.1.1 cynorthwyo’r Cyngor a’r Pwyllgor
Gwaith i ddatblygu ei gyllideb a’i fframwaith polisi drwy
ddadansoddiad manwl o faterion polisi;
2.6.4.1.2 gwneud ymchwil, ymgynghori â’r
gymuned ac ymgynghori arall i ddadansoddi materion polisi a
dewisiadau posibl;
2.6.4.1.3 ystyried a gweithredu mecanweithiau i annog a
gwella cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o ddatblygu dewisiadau
polisi;
2.6.4.1.4 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu
bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu barn ar faterion ac
argymhellion sy’n effeithio ar yr ardal; a
2.6.4.1.5 cysylltu â chyrff allanol eraill sy’n
gweithredu yn yr ardal, boed y rhai hynny yn rhai cenedlaethol,
rhanbarthol neu leol, i hyrwyddo lles y bobl leol drwy weithio ar y
cyd.
2.6.4.2 Sgriwtini
Gall Pwyllgorau Sgriwtini:
2.6.4.2.1 adolygu a sgriwtineiddio ar y penderfyniadau a
pherfformiad y Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgorau a Swyddogion y
Cyngor mewn perthynas â phenderfyniadau unigol a thros gyfnod
o amser;
2.6.4.2.2 adolygu sgriwtineiddio perfformiad y Cyngor mewn
perthynas â’i amcanion polisi, targedau perfformiad
a/neu feysydd gwasanaeth arbennig;
2.6.4.2.3 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu
Bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu penderfyniadau a’u
perfformiad, p’run ai yn gyffredinol o’i gymharu
â chynlluniau gwasanaeth a thargedau dros gyfnod o amser, neu
mewn perthynas â phenderfyniadau, cynlluniau neu brosiectau
neilltuol;
2.6.4.2.4 gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith
a/neu Bwyllgor priodol a/neu’r Cyngor yn deillio o
ganlyniadau’r broses sgriwtini;
2.6.4.2.5 adolygu sgriwtineiddio perfformiad cyrff
cyhoeddus eraill yn yr ardal a gwahodd adroddiadau oddi wrthynt
drwy ofyn iddynt annerch y Pwyllgor Sgriwtini a phobl leol i
sôn am eu gweithgareddau a’u perfformiad; a
2.6.4.2.6 holi a chasglu tystiolaeth oddi wrth unrhyw
berson arall (gyda’i ganiatâd).
2.6.4.3 Cyllid
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb cyffredinol
am y cyllid a glustnodwyd iddynt.
2.6.4.4 Adroddiad Blynyddol
Rhaid i Bwyllgorau Sgriwtini adrodd yn flynyddol i’r
Cyngor llawn ynglŷn â sut y maent yn gweithio a gwneud
argymhellion ar gyfer rhaglenni gwaith y dyfodol a newid dulliau o
weithio os yw hynny’n briodol.
2.6.4.5 Swyddogion
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb cyffredinol
am raglen waith y Swyddogion a gyflogir i gynnal eu
gwaith.
2.6.5 Trafodion Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd Pwyllgorau Sgriwtini yn cynnal eu trafodion yn unol
â’r Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini a nodir yn Rhan 4.5 y
Cyfansoddiad hwn.
2.6.6 Cyswllt rhwng Pwyllgorau Sgriwtini
Gall Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini
gyfarfod gyda’i gilydd fel Grŵp Llywio cyn amled ag y
bo’n briodol gyda golwg ar gydlynu rhaglenni gwaith a dulliau
gweithio er mwyn osgoi neu ostwng unrhyw ddyblygu neu orgyffwrdd yn
eu gwaith.
2.6.7 Panelau
Gall y Pwyllgor Sgriwtini sefydlu Panelau o’i Aelodau
â diddordeb neu â sgiliau arbenigol mewn meysydd
penodol er mwyn cynorthwyo’r Pwyllgor i gyflawni ei
waith.