·
Blaen Raglen Waith Pwyllgor
Sgriwtini Corfforaethol.
2.6 Erthygl 6 –
Sgriwtineiddio Penderfyniadau
2.6.1 Cyfansoddiad
Y nifer
ar bob Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg a
elwir yn
Bwyllgor Sgriwtini fydd y
nifer honno
a nodir isod yn
2.6.2.1. Penodir Cadeirydd ac
Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini gan y
Pwyllgor hwnnw, a byddant yn cael eu penodi yng nghyfarfod cyntaf
pob Pwyllgor ym mhob blwyddyn ddinesig ac,
yn amodol
ar yr isod,
bydd y penodiad hwnnw neu
unrhyw benodiad pellach
yn parhau
am weddill y flwyddyn ddinesig
honno. Wrth
ddyrannu Cadeiriau Pwyllgorau Sgriwtini, rhaid
dilyn y tabl ‘Dyrannu
Cadeiriau Sgriwtini’ isod.
Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
yn aelod
o’r wrthblaid fwyaf.
Bydd enwebiadau i unrhyw
swydd ac i bob swydd a ddelir
gan y gwrthbleidiau’n cael eu gwneud gan y
grwpiau unigol hynny a
byddant yn
cael eu
cydnabod gan yr holl
aelodau ac ni fyddant yn cael eu dylanwadu
gan grwpiau
eraill neu aelodau eraill.
Os bydd Cadeirydd neu
Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini:
2.6.1.1 yn
peidio â bod yn aelod o’r Cyngor
(neu’n aelod cyfetholedig
efallai) am unrhyw reswm
neu’n cael ei atal/hatal rhag bod yn
aelod, neu
2.6.1.2 yn
aelod o grŵp gwleidyddol
penodol pan gaiff ei benodi yn Gadeirydd neu’n
Is-Gadeirydd a bod y person
hwnnw wedyn
yn peidio
â bod yn aelod o’r
grŵp gwleidyddol hwnnw, am
unrhyw reswm, yna daw
swydd y person hwnnw fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar
unwaith,
bydd dyraniad y Cadeiriau
Sgriwtini yn cael ei ail-glandro
yn unol
â’r gofynion statudol
a’r tabl sydd isod a bydd
pob Pwyllgor Sgriwtini perthnasol
yn ei
gyfarfod nesaf yn penodi Cadeirydd neu
Is-Gadeirydd newydd.
Bydd y
rheolau mewn perthynas â
chydbwysedd gwleidyddol yn
parhau i fod yn berthnasol ond
ni fydd
aelodau’r Pwyllgor Gwaith
yn gymwys i
fod yn
aelodau o Bwyllgor Sgriwtini.
Dyrannu Cadeiriau
Sgriwtini
D.S.
(1) Mae’r tablau
yn dangos
cyfanswm nifer y cadeiriau
gan yr holl
grwpiau yn
y Pwyllgor Gwaith, a holl grwpiau’r gwrthbleidiau. Nid
yw’n dangos nifer y
cadeiriau sydd gan bob
grŵp unigol - oni bai nad
oedd ond un
grŵp yn y naill gategori. Rhaid
dyrannu cadeiriau rhwng y
grwpiau yn
y Pwyllgor Gwaith a rhwng grwpiau’r gwrthbleidiau yn
gymesur â’u cryfder.
(2) Mae hwn yn cynnwys y mwyafrif
o’r amgylchiadau y gellir
eu rhagweld. Byddai
rheolau dyrannu gwahanol
yn berthnasol :
-
pe na bai grwpiau gwleidyddol o
fewn y Cyngor, neu dim ond
un
-
pe bai dim ond dau grŵp, ac
ond un pwyllgor; neu
-
pe bai’r Cyngor yn penderfynu mabwysiadu
rheolau eraill na fyddent yn llai ffafriol i
grwpiau’r gwrthbleidiau.
(2) Y fformiwla a ddefnyddir
ar gyfer
grwpiau yn
y Pwyllgor Gwaith yw :
Nifer y
Aelodau mewn
grwp(iau)
yn y Pwyllgor Gwaith ÷
(cyfanswm nifer y Aelodau
÷ nifer y pwyllgorau), gan
rowndio’r canlyniad i lawr.
Ar gyfer grwpiau’r
gwrthbleidiau, y fformiwla wedyn
yn syml
fydd :
Nifer y
pwyllgorau – nifer y cadeiriau
gan grwpiau
yn y Pwyllgor Gwaith.
2.6.2 Ansicrwydd
Dyletswyddau
Pan fo
unrhyw fater yn syrthio y tu
mewn i gylch gorchwyl
rhagor nag un Pwyllgor Sgriwtini yna
bydd y Prif
Weithredwr, neu Swyddog a benodir i
weithredu ar ei ran /
rhan, yn
penderfynu pa Bwyllgor fydd
yn delio
gyda’r mater(ion) a bydd yn cynnwys pŵer y
ddau Bwyllgor Sgriwtini i
alw penderfyniadau i mewn.
2.6.2.1
Enwau, Maint a Chylch
Gorchwyl y Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd dau Bwyllgor
Sgriwtini
• Y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth
ac Adfywio.
Penodir 12
Aelod o’r Cyngor Sir
ar bob Pwyllgor Sgriwtini.
Gwahoddir
Rhiant Lywodraethwyr a chynrychiolwyr yr Eglwys a benodwyd yn
unol â Pharagraff 8 - 11 Atodlen 1 Deddf
Llywodraeth Leol 2000 i fynychu
cyfarfodydd Pwyllgor Sgriwtini lle
bydd swyddogaethau addysg yr
Awdurdod yn
cael trafod
a bydd ganddynt hawl i
siarad a phleidleisio ar y
materion hynny’n unig.
Yn ychwanegol,
fe all y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth
ac Adfywio gyfethol unrhyw
berson ac eithrio Aelod
o’r Pwyllgor Gwaith, yng nghyswllt
ei swyddogaethau trosedd
ac anhrefn, yn amodol ar ddarpariaethau’r Rheoliadau Trosedd ac
Anhrefn (Trosolwg a Sgriwtini)
2009 a’r Rheoliadau Trosedd ac
Anhrefn (Trosolwg a Sgriwtini)
(Diwygiad) 2010.
Gall y ddau
Bwyllgor Sgriwtini argymell bod
y Cyngor yn
penodi aelodau cyfetholedig
ychwanegol heb hawliau
pleidleisio i bob Pwyllgor Sgriwtini.
2.6.2.2 Cylch
Gorchwyl y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
• Bydd
gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio
ar roi
sicrwydd ynglŷn â pherfformiad / darpariad yr holl
wasanaethau, sicrhau bod y Cyngor
yn cyflawni
ei amcanion
corfforaethol a’i amcanion
gwasanaeth (fel yr amlinellwyd
yn ei
Gynllun Busnes Corfforaethol ,
Cyllideb Flynyddol, Fframwaith
Cyllideb a Pholisi, Fframwaith
Rheoli Perfformiad, Polisïau Corfforaethol neu gynlluniau a pholisïau sy’n eu
holynu) ac i gefnogi a gwneud
argymhellion ar gyfer gwelliant parhaol.
• Adolygu neu
sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed,
neu gamau eraill a gymerwyd
gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni
ei swyddogaeth ac yng
nghyswllt y penderfyniadau a wnaed
ond “a alwyd i mewn” neu
na weithredwyd arnynt i
argymell i’r Pwyllgor Gwaith i ailystyried y penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu
sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed
neu gamau eraill a gymerwyd
yng nghyswllt swyddogaethau
nad ydynt
yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer
hwn yn
ymestyn i waith sgriwtineiddio
penderfyniadau unigol ynglŷn
â rheoli datblygu, trwyddedu,
cofrestru neu unrhyw geisiadau
eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan anghenion Rhaglen Cymru
ar gyfer
Gwella.
2.6.2.3
Cylch Gorchwyl Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth
ac Adfywio
• Bydd
gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio
ar sicrhau
bod buddiannau dinasyddion Ynys Môn yn cael eu hyrwyddo a bod
blaenoriaethau ac adnoddau’r Cyngor
yn cael
eu hadlewyrchu yn
llesol yn y
partneriaethau, y cydweithio, y gweithio
ar y cyd
â threfniadau asiantaeth allanol,
fel fydd
yn bodoli o
bryd i’w gilydd.
Bydd Cylch
Gorchwyl y Pwyllgor yn ymestyn i
drefniadau lleol, rhanbarthol a
chenedlaethol a bydd yn cynnwys (ond
heb fod
wedi ei
gyfyngu i) y meysydd lle
mae gan y
Cyngor ddyletswydd statudol
mewn materion trosedd ac
anhrefn.
• Materion
yn ymwneud
ag adfywio a’r cysyniad
“Ynys Fenter” (neu
gynlluniau a pholisïau fydd
yn eu
holynu).
• Derbyn
gwybodaeth a chyflwyniadau gan
asiantau sector cyhoeddus allanol
(e.e. Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,
Gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru,
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru,
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chyngor Iechyd Cymuned
Leol Betsi Cadwaladr) a sgriwtineiddio eu
gwaith ar
yr Ynys.
• Adolygu neu
sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed,
neu gamau eraill a gymerwyd
gan y Pwyllgor Gwaith wrth gyflawni
ei swyddogaeth ac yng
nghyswllt y penderfyniadau a wnaed
ond “a alwyd i mewn” neu
na weithredwyd arnynt i
argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylid ailystyried y
penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu
sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed
neu gamau eraill a gymerwyd
yng nghyswllt swyddogaethau
nad ydynt
yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac eithrio na fydd y pŵer
hwn yn
ymestyn i waith sgriwtineiddio
penderfyniadau unigol ynglŷn
â rheoli datblygu, trwyddedu,
cofrestru neu unrhyw geisiadau
eraill am ganiatadau neu hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau o dan anghenion Rhaglen Cymru
ar gyfer
Gwella.
• Cyflawni
swyddogaeth y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn
yn unol ag
Adran 19 (1) Deddf yr Heddlu a
Chyfiawnder 2006 a Rheoliadau Llywodraeth
Cymru. Bydd Cylch Gorchwyl penodol
lle bo’r Pwyllgor hwn
yn ystyried
ymarfer pwerau yng nghyswllt trosedd ac
anhrefn yn
cynnwys :
- adolygu a / neu
sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed
neu gamau a gymerwyd yng
nghyswllt yr awdurdodau cyfrifol
yn cyflawni
eu swyddogaethau trosedd
ac anhrefn.
- gwneud
adroddiadau ac argymhellion i’r
Cyngor ac /neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt yr
awdurdodau cyfrifol yn
cyflawni eu
swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
-
ystyried mewn cyfarfod
o’r Pwyllgor unrhyw fater
trosedd ac anhrefn lleol a
gyfeiriwyd i’r Pwyllgor gan
aelod o’r Cyngor.
-
penderfynu a ddylid gwneud
adroddiad neu argymhelliad i’r
Cyngor ac / neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt mater
trosedd ac anhrefn lleol,
gan roi
sylw i unrhyw sylwadau a
wnaed gan
yr aelod hwnnw ynglŷn
â phaham y dylai’r Pwyllgor wneud hynny.
-
hysbysu’r aelod penodol
o’i benderfyniad a’r
rhesymau am ei benderfyniad
mewn unrhyw
achos lle
bo’r Pwyllgor yn penderfynu
peidio â gwneud adroddiad neu
argymhellion yng nghyswllt mater
trosedd ac anhrefn lleol.
-
darparu copi o unrhyw
adroddiad neu argymhellion Pwyllgor i’r aelod
penodol (yng nghyswllt mater
trosedd ac anhrefn lleol) ac i
unrhyw bersonau neu gyrff
cyfrifol a chydweithredol, fel y
bo’n credu sy’n
briodol.
-
adolygu ymatebion i adroddiadau
ac argymhellion Pwyllgor a monitro’r camau a
gymerwyd gan bersonau neu
gyrff cyfrifol a chydweithredol mewn
perthynas â chyflawni swyddogaethau
trosedd ac anhrefn yr awdurdodau
cyfrifol.
2.6.3 Swyddogaeth
gyffredinol
O fewn
eu cylch
gorchwyl, bydd Pwyllgorau Sgriwtini yn:
2.6.3.1 adolygu
a/neu sgriwtineiddio penderfyniadau a wnaed
neu gamau a gymerwyd mewn
cysylltiad â chyflawni unrhyw rai o
swyddogaethau’r Cyngor;
2.6.3.2 cyflwyno
adroddiadau a/neu argymhellion i’r
Cyngor llawn a / neu y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw Bwyllgor
ar y Cyd
neu Bwyllgor Ardal mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw
swyddogaethau;
2.6.3.3 ystyried
unrhyw fater sy’n
effeithio ar yr ardal neu
ei thrigolion;
2.6.3.4 ymarfer yr
hawl i alw
i mewn, ar
gyfer ailystyried penderfyniadau a wnaed
(o fewn ei
gylch gorchwyl) ond
nad ydynt
eto wedi
eu gweithredu gan y
Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw
Bwyllgorau Ardal; a
2.6.3.5 cynnal
arolygon dan Gynllun Cymru ar
gyfer Gwella ar y
swyddogaethau sydd y tu mewn i’w
faes priodol a chyflwyno
adroddiadau ar y materion
trwy’r Pwyllgor Gwaith
i’r Cyngor.
2.6.4 Swyddogaethau
penodol
2.6.4.1 Datblygu
ac Adolygu Polisi.
Gall Pwyllgorau Sgriwtini wneud y
canlynol:
2.6.4.1.1 cynorthwyo’r Cyngor a’r
Pwyllgor Gwaith i ddatblygu
ei gyllideb
a’i fframwaith polisi
drwy ddadansoddiad manwl o
faterion polisi;
2.6.4.1.2 gwneud
ymchwil, ymgynghori â’r gymuned
ac ymgynghori arall i ddadansoddi
materion polisi a dewisiadau
posibl;
2.6.4.1.3 ystyried
a gweithredu mecanweithiau i annog a
gwella cyfranogiad cymunedol
yn y gwaith
o ddatblygu dewisiadau polisi;
2.6.4.1.4 holi
aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu
bwyllgorau a Phrif Swyddogion am
eu barn ar
faterion ac argymhellion sy’n
effeithio ar yr ardal; a
2.6.4.1.5 cysylltu
â chyrff allanol eraill
sy’n gweithredu yn yr
ardal, boed
y rhai hynny yn rhai cenedlaethol,
rhanbarthol neu leol, i hyrwyddo
lles y bobl
leol drwy
weithio ar
y cyd.
2.6.4.2 Sgriwtini
Gall Pwyllgorau Sgriwtini:
2.6.4.2.1 adolygu
a sgriwtineiddio ar y penderfyniadau a
pherfformiad y Pwyllgor Gwaith a/neu
Bwyllgorau a Swyddogion y Cyngor
mewn perthynas â phenderfyniadau unigol
a thros gyfnod o amser;
2.6.4.2.2 adolygu
sgriwtineiddio perfformiad y Cyngor
mewn perthynas â’i amcanion polisi,
targedau perfformiad a/neu feysydd gwasanaeth
arbennig;
2.6.4.2.3 holi
aelodau’r Pwyllgor Gwaith a/neu
Bwyllgorau a Phrif Swyddogion am
eu penderfyniadau a’u perfformiad,
p’run ai yn gyffredinol
o’i gymharu â chynlluniau gwasanaeth
a thargedau dros gyfnod o
amser, neu mewn perthynas â
phenderfyniadau, cynlluniau neu brosiectau neilltuol;
2.6.4.2.4 gwneud
argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgor priodol
a/neu’r Cyngor yn deillio o ganlyniadau’r broses sgriwtini;
2.6.4.2.5 adolygu
sgriwtineiddio perfformiad cyrff
cyhoeddus eraill yn yr
ardal a gwahodd adroddiadau
oddi wrthynt drwy
ofyn iddynt
annerch y Pwyllgor Sgriwtini a phobl
leol i sôn am eu
gweithgareddau a’u perfformiad;
a
2.6.4.2.6 holi a
chasglu tystiolaeth oddi
wrth unrhyw
berson arall (gyda’i
ganiatâd).
2.6.4.3 Cyllid
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer
cyfrifoldeb cyffredinol am y cyllid
a glustnodwyd iddynt.
2.6.4.4 Adroddiad
Blynyddol
Rhaid i
Bwyllgorau Sgriwtini adrodd
yn flynyddol i’r
Cyngor llawn ynglŷn
â sut y maent yn gweithio a gwneud
argymhellion ar gyfer rhaglenni gwaith y
dyfodol a newid dulliau o
weithio os
yw hynny’n briodol.
2.6.4.5 Swyddogion
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer
cyfrifoldeb cyffredinol am raglen
waith y Swyddogion a gyflogir i
gynnal eu
gwaith.
2.6.5 Trafodion Pwyllgorau
Sgriwtini
Bydd Pwyllgorau
Sgriwtini yn cynnal eu trafodion
yn unol
â’r Rheolau Gweithdrefn
Sgriwtini a nodir yn Rhan 4.5 y Cyfansoddiad
hwn.
2.6.6 Cyswllt rhwng Pwyllgorau Sgriwtini
Gall Cadeiryddion
ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgorau
Sgriwtini gyfarfod gyda’i
gilydd fel
Grŵp Llywio cyn amled ag y bo’n
briodol gyda golwg ar gydlynu rhaglenni gwaith a
dulliau gweithio er mwyn
osgoi neu ostwng unrhyw
ddyblygu neu orgyffwrdd yn
eu gwaith.
2.6.7 Panelau
Gall y Pwyllgor Sgriwtini sefydlu
Panelau o’i Aelodau
â diddordeb neu â
sgiliau arbenigol mewn
meysydd penodol er mwyn
cynorthwyo’r Pwyllgor i
gyflawni ei
waith.