·
Blaen Raglen Waith Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
2.6 Erthygl 6 – Sgriwtineiddio Penderfyniadau
2.6.1 Cyfansoddiad
Y nifer ar bob Pwyllgor Sgriwtini a Throsolwg
a elwir yn Bwyllgor Sgriwtini fydd y nifer honno a nodir isod yn
2.6.2.1. Penodir
Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini gan y Pwyllgor hwnnw,
a byddant yn cael eu penodi yng nghyfarfod cyntaf pob Pwyllgor ym
mhob blwyddyn ddinesig ac, yn amodol ar yr isod, bydd y penodiad
hwnnw neu unrhyw benodiad pellach yn parhau am weddill y flwyddyn
ddinesig honno. Wrth ddyrannu Cadeiriau Pwyllgorau Sgriwtini, rhaid
dilyn y tabl ‘Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini’
isod. Bydd Cadeirydd y
Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn aelod o’r wrthblaid
fwyaf. Bydd enwebiadau i unrhyw swydd ac i bob swydd a ddelir gan y
gwrthbleidiau’n cael eu gwneud gan y grwpiau unigol hynny a
byddant yn cael eu cydnabod gan yr holl aelodau ac ni fyddant yn
cael eu dylanwadu gan grwpiau eraill neu aelodau
eraill.
Os bydd Cadeirydd neu Is-Gadeirydd Pwyllgor
Sgriwtini:
2.6.1.1 yn peidio â bod yn aelod
o’r Cyngor (neu’n aelod cyfetholedig efallai) am unrhyw
reswm neu’n cael ei atal/hatal rhag bod yn aelod, neu
2.6.1.2 yn aelod o grŵp gwleidyddol
penodol pan gaiff ei benodi yn Gadeirydd neu’n Is-Gadeirydd a
bod y person hwnnw wedyn yn peidio â bod yn aelod o’r
grŵp gwleidyddol hwnnw, am unrhyw reswm, yna daw swydd y
person hwnnw fel Cadeirydd neu Is-Gadeirydd i ben ar unwaith,
bydd dyraniad y Cadeiriau Sgriwtini yn cael ei
ail-glandro yn unol â’r gofynion statudol a’r
tabl sydd isod a bydd pob Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yn ei
gyfarfod nesaf yn penodi Cadeirydd neu Is-Gadeirydd newydd.
Bydd y rheolau mewn perthynas â
chydbwysedd gwleidyddol yn parhau i fod yn berthnasol ond ni fydd
aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn gymwys i fod yn aelodau o
Bwyllgor Sgriwtini.
Dyrannu Cadeiriau Sgriwtini
D.S.
(1) Mae’r tablau yn dangos
cyfanswm nifer y cadeiriau gan yr holl grwpiau yn y Pwyllgor
Gwaith, a holl grwpiau’r gwrthbleidiau. Nid yw’n dangos nifer y
cadeiriau sydd gan bob grŵp unigol - oni bai nad oedd ond un
grŵp yn y naill gategori. Rhaid dyrannu cadeiriau rhwng y
grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith a rhwng grwpiau’r gwrthbleidiau
yn gymesur â’u cryfder.
(2) Mae hwn yn cynnwys y mwyafrif
o’r amgylchiadau y gellir eu rhagweld. Byddai rheolau dyrannu gwahanol yn
berthnasol :
-
pe na bai grwpiau gwleidyddol o fewn y Cyngor, neu dim ond un
-
pe bai dim ond dau grŵp, ac ond un pwyllgor; neu
-
pe bai’r Cyngor yn penderfynu mabwysiadu rheolau eraill na
fyddent yn llai ffafriol i grwpiau’r gwrthbleidiau.
(2) Y fformiwla a ddefnyddir ar gyfer
grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith yw :
Nifer y Aelodau mewn grwp(iau) yn y Pwyllgor
Gwaith ÷ (cyfanswm nifer y Aelodau ÷ nifer y
pwyllgorau), gan rowndio’r canlyniad i lawr.
Ar gyfer grwpiau’r gwrthbleidiau, y
fformiwla wedyn yn syml fydd :
Nifer y pwyllgorau – nifer y cadeiriau
gan grwpiau yn y Pwyllgor Gwaith.
2.6.2 Ansicrwydd Dyletswyddau
Pan fo unrhyw fater yn syrthio y tu mewn i
gylch gorchwyl rhagor nag un Pwyllgor Sgriwtini yna bydd y Prif
Weithredwr, neu Swyddog a benodir i weithredu ar ei ran / rhan, yn
penderfynu pa Bwyllgor fydd yn delio gyda’r mater(ion) a bydd
yn cynnwys pŵer y ddau Bwyllgor Sgriwtini i alw penderfyniadau
i mewn.
2.6.2.1
Enwau, Maint a Chylch Gorchwyl y Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd dau Bwyllgor Sgriwtini
• Y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol
a’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.
Penodir 10 Aelod o’r Cyngor Sir ar bob
Pwyllgor Sgriwtini.
Gwahoddir Rhiant Lywodraethwyr a
chynrychiolwyr yr Eglwys a benodwyd yn unol â Pharagraff 8 -
11 Atodlen 1 Deddf Llywodraeth Leol 2000 i fynychu cyfarfodydd
Pwyllgor Sgriwtini lle bydd swyddogaethau addysg yr Awdurdod yn
cael trafod a bydd ganddynt hawl i siarad a phleidleisio ar y
materion hynny’n unig.
Yn ychwanegol, fe all y Pwyllgor Sgriwtini
Partneriaeth ac Adfywio
gyfethol unrhyw berson ac eithrio Aelod o’r Pwyllgor Gwaith,
yng nghyswllt ei swyddogaethau trosedd ac anhrefn, yn amodol ar
ddarpariaethau’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a
Sgriwtini) 2009 a’r Rheoliadau Trosedd ac Anhrefn (Trosolwg a
Sgriwtini) (Diwygiad) 2010.
Gall y ddau Bwyllgor Sgriwtini argymell bod y
Cyngor yn penodi aelodau cyfetholedig ychwanegol heb hawliau
pleidleisio i bob Pwyllgor Sgriwtini.
2.6.2.2 Cylch Gorchwyl y Pwyllgor
Sgriwtini Corfforaethol
• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio
ar roi sicrwydd ynglŷn â pherfformiad / darpariad yr holl
wasanaethau, sicrhau
bod y Cyngor yn cyflawni ei amcanion corfforaethol a’i
amcanion gwasanaeth (fel yr amlinellwyd yn ei Gynllun Busnes
Corfforaethol , Cyllideb Flynyddol, Fframwaith Cyllideb a Pholisi,
Fframwaith Rheoli Perfformiad, Polisïau
Corfforaethol neu
gynlluniau a pholisïau sy’n eu holynu) ac i gefnogi a
gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant parhaol.
• Adolygu neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor
Gwaith wrth gyflawni ei swyddogaeth ac yng nghyswllt y
penderfyniadau a wnaed ond “a alwyd i mewn” neu na
weithredwyd arnynt i argymell i’r Pwyllgor Gwaith
i ailystyried y
penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt
swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac
eithrio na fydd y pŵer hwn yn ymestyn i waith sgriwtineiddio
penderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu,
trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu
hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau
o dan anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
2.6.2.3
Cylch Gorchwyl Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio
• Bydd gwaith y Pwyllgor yn canolbwyntio
ar sicrhau bod buddiannau dinasyddion Ynys Môn yn cael eu
hyrwyddo a bod blaenoriaethau ac adnoddau’r Cyngor yn cael eu
hadlewyrchu yn llesol yn y partneriaethau, y cydweithio, y gweithio
ar y cyd â threfniadau asiantaeth allanol, fel fydd yn bodoli
o bryd i’w gilydd. Bydd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn
ymestyn i drefniadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a bydd yn
cynnwys (ond heb fod wedi ei gyfyngu i) y meysydd lle mae gan y
Cyngor ddyletswydd statudol mewn materion trosedd ac anhrefn.
• Materion yn ymwneud ag adfywio
a’r cysyniad “Ynys Fenter” (neu gynlluniau a
pholisïau fydd yn eu holynu).
• Derbyn gwybodaeth a chyflwyniadau gan
asiantau sector cyhoeddus allanol (e.e. Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth
Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a
Chyngor Iechyd Cymuned Leol Betsi Cadwaladr) a sgriwtineiddio eu
gwaith ar yr Ynys.
• Adolygu neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd gan y Pwyllgor
Gwaith wrth gyflawni ei swyddogaeth ac yng nghyswllt y
penderfyniadau a wnaed ond “a alwyd i mewn” neu na
weithredwyd arnynt i argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylid
ailystyried y penderfyniadau hynny.
• Adolygu neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed neu gamau eraill a gymerwyd yng nghyswllt
swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith, ac
eithrio na fydd y pŵer hwn yn ymestyn i waith sgriwtineiddio
penderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu,
trwyddedu, cofrestru neu unrhyw geisiadau eraill am ganiatadau neu
hawliau.
• Sgriwtineiddio perfformiad gwasanaethau
o dan anghenion Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella.
• Cyflawni swyddogaeth y Pwyllgor Trosedd
ac Anhrefn yn unol ag Adran 19 (1) Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder
2006 a Rheoliadau Llywodraeth Cymru. Bydd Cylch Gorchwyl penodol lle
bo’r Pwyllgor hwn yn ystyried ymarfer pwerau yng nghyswllt
trosedd ac anhrefn yn cynnwys :
- adolygu a / neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd yng nghyswllt yr
awdurdodau cyfrifol yn cyflawni eu swyddogaethau trosedd ac
anhrefn.
- gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r
Cyngor ac /neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt yr awdurdodau
cyfrifol yn cyflawni eu swyddogaethau trosedd ac anhrefn.
-
ystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor unrhyw fater trosedd ac
anhrefn lleol a gyfeiriwyd i’r Pwyllgor gan aelod o’r
Cyngor.
-
penderfynu a ddylid gwneud adroddiad neu argymhelliad i’r
Cyngor ac / neu’r Pwyllgor Gwaith yng nghyswllt mater trosedd
ac anhrefn lleol, gan roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed gan yr
aelod hwnnw ynglŷn â phaham y dylai’r Pwyllgor
wneud hynny.
-
hysbysu’r aelod penodol o’i benderfyniad a’r
rhesymau am ei benderfyniad mewn unrhyw achos lle bo’r
Pwyllgor yn penderfynu peidio â gwneud adroddiad neu
argymhellion yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol.
-
darparu copi o unrhyw adroddiad neu argymhellion Pwyllgor i’r
aelod penodol (yng nghyswllt mater trosedd ac anhrefn lleol) ac i
unrhyw bersonau neu gyrff cyfrifol a chydweithredol, fel y
bo’n credu sy’n briodol.
-
adolygu ymatebion i adroddiadau ac argymhellion Pwyllgor a
monitro’r camau a gymerwyd gan bersonau neu gyrff cyfrifol a
chydweithredol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau
trosedd ac anhrefn yr awdurdodau cyfrifol.
2.6.3 Swyddogaeth gyffredinol
O fewn eu cylch gorchwyl, bydd Pwyllgorau
Sgriwtini yn:
2.6.3.1 adolygu a/neu sgriwtineiddio
penderfyniadau a wnaed neu gamau a gymerwyd mewn cysylltiad â
chyflawni unrhyw rai o swyddogaethau’r Cyngor;
2.6.3.2 cyflwyno adroddiadau a/neu
argymhellion i’r Cyngor llawn a / neu y Pwyllgor Gwaith a/neu
unrhyw Bwyllgor ar y Cyd neu Bwyllgor Ardal mewn cysylltiad â
chyflawni unrhyw swyddogaethau;
2.6.3.3 ystyried unrhyw fater sy’n
effeithio ar yr ardal neu ei thrigolion;
2.6.3.4 ymarfer yr hawl i alw i mewn, ar gyfer
ailystyried penderfyniadau a wnaed (o fewn ei gylch gorchwyl) ond
nad ydynt eto wedi eu gweithredu gan y Pwyllgor Gwaith a/neu unrhyw
Bwyllgorau Ardal; a
2.6.3.5 cynnal arolygon dan Gynllun Cymru ar
gyfer Gwella ar y swyddogaethau sydd y tu mewn i’w faes
priodol a chyflwyno adroddiadau ar y materion trwy’r Pwyllgor
Gwaith i’r Cyngor.
2.6.4 Swyddogaethau penodol
2.6.4.1 Datblygu ac Adolygu Polisi.
Gall Pwyllgorau Sgriwtini wneud y
canlynol:
2.6.4.1.1 cynorthwyo’r Cyngor a’r
Pwyllgor Gwaith i ddatblygu ei gyllideb a’i fframwaith polisi
drwy ddadansoddiad manwl o faterion polisi;
2.6.4.1.2 gwneud ymchwil, ymgynghori
â’r gymuned ac ymgynghori arall i ddadansoddi materion
polisi a dewisiadau posibl;
2.6.4.1.3 ystyried a gweithredu mecanweithiau
i annog a gwella cyfranogiad cymunedol yn y gwaith o ddatblygu
dewisiadau polisi;
2.6.4.1.4 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith
a/neu bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu barn ar faterion ac
argymhellion sy’n effeithio ar yr ardal; a
2.6.4.1.5 cysylltu â chyrff allanol
eraill sy’n gweithredu yn yr ardal, boed y rhai hynny yn rhai
cenedlaethol, rhanbarthol neu leol, i hyrwyddo lles y bobl leol
drwy weithio ar y cyd.
2.6.4.2 Sgriwtini
Gall Pwyllgorau Sgriwtini:
2.6.4.2.1 adolygu a sgriwtineiddio ar y
penderfyniadau a pherfformiad y Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgorau a
Swyddogion y Cyngor mewn perthynas â phenderfyniadau unigol a
thros gyfnod o amser;
2.6.4.2.2 adolygu sgriwtineiddio perfformiad y
Cyngor mewn perthynas â’i amcanion polisi, targedau
perfformiad a/neu feysydd gwasanaeth arbennig;
2.6.4.2.3 holi aelodau’r Pwyllgor Gwaith
a/neu Bwyllgorau a Phrif Swyddogion am eu penderfyniadau a’u
perfformiad, p’run ai yn gyffredinol o’i gymharu
â chynlluniau gwasanaeth a thargedau dros gyfnod o amser, neu
mewn perthynas â phenderfyniadau, cynlluniau neu brosiectau
neilltuol;
2.6.4.2.4 gwneud argymhellion i’r
Pwyllgor Gwaith a/neu Bwyllgor priodol a/neu’r Cyngor yn
deillio o ganlyniadau’r broses sgriwtini;
2.6.4.2.5 adolygu sgriwtineiddio perfformiad
cyrff cyhoeddus eraill yn yr ardal a gwahodd adroddiadau oddi
wrthynt drwy ofyn iddynt annerch y Pwyllgor Sgriwtini a phobl leol
i sôn am eu gweithgareddau a’u perfformiad; a
2.6.4.2.6 holi a chasglu tystiolaeth oddi wrth
unrhyw berson arall (gyda’i ganiatâd).
2.6.4.3 Cyllid
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb
cyffredinol am y cyllid a glustnodwyd iddynt.
2.6.4.4 Adroddiad Blynyddol
Rhaid i Bwyllgorau Sgriwtini adrodd yn
flynyddol i’r Cyngor llawn ynglŷn â sut y maent yn
gweithio a gwneud argymhellion ar gyfer rhaglenni gwaith y dyfodol
a newid dulliau o weithio os yw hynny’n briodol.
2.6.4.5 Swyddogion
Gall Pwyllgorau Sgriwtini ymarfer cyfrifoldeb
cyffredinol am raglen waith y Swyddogion a gyflogir i gynnal eu
gwaith.
2.6.5 Trafodion Pwyllgorau Sgriwtini
Bydd Pwyllgorau Sgriwtini yn cynnal eu
trafodion yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn Sgriwtini a
nodir yn Rhan 4.5 y Cyfansoddiad hwn.
2.6.6 Cyswllt rhwng Pwyllgorau Sgriwtini
Gall Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y
Pwyllgorau Sgriwtini gyfarfod gyda’i gilydd fel Grŵp
Llywio cyn amled ag y bo’n briodol gyda golwg ar gydlynu
rhaglenni gwaith a dulliau gweithio er mwyn osgoi neu ostwng unrhyw
ddyblygu neu orgyffwrdd yn eu gwaith.
2.6.7 Panelau
Gall y Pwyllgor Sgriwtini sefydlu Panelau
o’i Aelodau â diddordeb neu â sgiliau arbenigol
mewn meysydd penodol er mwyn cynorthwyo’r Pwyllgor i gyflawni
ei waith.