Eitem Rhaglen

Grantiau Blynyddol 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau a oedd yn berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol ar gyfer prosiectau yn y categorïau canlynol:

 

·       Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bychan)

·       Grantiau Eraill (grantiau unwaith ac am byth yn bennaf)

 

Yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr 2018, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor hwn ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol.  Yn ogystal, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016 i ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau Grantiau Bychan a, felly, dim ond rhaid nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol bydd rhaid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ei wneud o hyn ymlaen. Uchafswm y grant mewn perthynas a Grant Cyfleusterau’r Gymuned a Chwaraeon yw £8,000 a hyd at 70% o’r gost gymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn i roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn godi’r uchafswm a’r gyfradd o gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a ddeuai i law. 

 

Mae swyddogion perthnasol o fewn Cyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu'r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson gyda phenderfyniadau'r Ymddiriedolaeth a meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol. Mae system gyfeirio ar y cyd wedi cael ei sefydlu ar gyfer y ddau fath o grantiau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am arian o Gronfa’r Degwm; bydd unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm yn hytrach na’r Ymddiriedolaeth hon.

 

Cafodd y ceisiadau eu hystyried yn unol â'r 'Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn', ac roedd copi yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Dyma’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon 2018/19 :-

 

001 – 3DKids Môn/Anglesey               

I gynnal gweithgareddau ar gyfer plant gydag anableddau a’u teuluoedd

DIM

 

(wedi derbyn grant i’r un pwrpas yn 2016/17)

002 – Music in Hospitals and Care

I ran gyllido cerddoriaeth ac atgofion.

 

Cyfres blwyddyn o gyngherddau byw dwyieithog i ddod â llawenydd a chynyddu atgofion ar gyfer yr henoed a phobl ynysig sy’n byw mewn cartrefi preswyl ar yr Ynys

£5,468

005 - Clwb Pêl Droed Bae Trearddur

Gwella a chynnal a chadw y tiroedd

DIM

(wedi derbyn grant yn 2016/17)

006 – Roberts & Susan Howe

Gwneud ochrau ffyrdd yn fwy deniadol

DIM

(dim yn gymwys oherwydd mai cais gan unigolion yn hytrach na sefydliad ydyw)

007 – Sefydliad Pritchard Jones

I brynu byrddau ar gyfer cynnal amrywiaeth o weithgareddau

£618

008 – Ynys Môn Ramblers

Prynu offer ac eitemau diogelwch cysylltiedig

£1,522

(ar yr amod y derbynnir ail ddyfynbris ar gyfer y gwaith)

 

009 - Ffedarasiwn Sefydliad y Merched Môn

Addurno tu mewn a tu allan i’r neuadd a’r amgueddfa ynghyd â deunydd marchnata

£644

(tuag at gost y deunydd marchnata yn unig. Nid yw’r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi costau paentio ac addurno yn y gorffennol)

010 – Cantorion Menai

Perfformio cyngerdd o waith cerddor lleol

DIM

(roedd y digwyddiad wedi cael ei gynnal cyn cyfarfod y Pwyllgor)

011 – Canolfan Gymuned David Hughes

Gosod lifft gyda mynediad i’r llawr cyntaf

£8,000

 

(ar yr amod y derbynnir copi o’r brydles ar gyfer Canolfan Gymuned David Hughes)

012 – Beaumaris Duplicate Bridge Club

Prynu peiriant delio

£1,620

013 Sefydliad y Merched Llaneilian

Uwchraddio’r llawr i garped

DIM

015 - Neuadd Goffa Gymunedol Porthaethwy

Uwchraddio’r toiledau

£8,000

016 – Clwb Pêl-droed Bron Goronwy

Diweddaru ac adnewyddu’r toiledau yn yr ystafelloedd newid

£2,380

(dyrannu’r grant er mai dim ond 16 o flynyddoedd sydd ar ôl ar y brydles i’r Clwb Pêl-droed. Ystyriwyd y byddai angen cawodydd newydd cyn i’r brydles ddod i ben)

017 – Cybi Poets

Digwyddiad undydd o lefaru, barddoniaeth, bandiau, sgwrs ar R.S. Thomas  a chystadleuaeth farddoniaeth ddwyieithog

£800

018 – MônSwn

I brynu offer cludadwy ac hwylus i’w osod

£1,539

019 – Clwb Pêl-droed Amlwch

Adnewyddu  to'r adeilad, gosod insiwleiddiwrBox Profile”, gwteri newydd  a gwaith cynnal a chadw angenrheidiol

£7,350

(ar yr amod fod y gwaith yn cael ei gymeradwyo gan adeiladwyr proffesiynol oherwydd y bydd yn cael ei wneud gan aelodau’r Clwb)

020  - Clwb Bowlio Dan Do Caergybi

Matiau Bowlio newydd

£1,000

021 – Danger Point Limited

Cyllido prosiect ar gyfer plant o ysgolion ar hyd a lled Ynys Môn

DIM

 

(nid yw’r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi gweithgareddau ysgol yn y gorffennol)

022 – Hwyliog Môn

I wella ei dudalen cyfryngau cymdeithasol/tudalen we er mwyn codi eu proffil yn y gymuned

£1,750

023 – Clwb Gymnasteg Ynys Môn

Prynu offer

DIM

(wedi cael grant yn 2016/17)

024 - Cymdeithas Rhandir Llangefni Allotment Association

Prynu gliniadur a chreu llwybrau pob tywydd

£3,092

025 – Neuadd Eglwys y Santes Fair, Caergybi

Gosod system wresogi newydd yn y neuadd

£7,320

026 – Cyngor Cymuned Llangristiolus a Cherrigceinwen

Prynu meinciau ar gyfer lle chwarae Rhostrehwfa

£700

027 – Radio Ysbyty Gwynedd

Uwchraddio offer darlledu Stiwdio 2 yn Radio Ysbyty Gwynedd

£6,882

 

(yn amodol ar farn gyfreithiol ynghylch a fedr yr Ymddiriedolaeth Elusennol roddi grant i sefydliad sy’n darparu gwasanaeth i fwyafrif o bobl nad ydynt yn byw ar yr Ynys. Dirprwyodd y Pwyllgor y penderfyniad i roddi grant ai peidio i’r Trysorydd wedi iddi dderbyn y farn gyfreithiol.

028 – Clwb Pêl-droed Llangoed a’r Cylch

I brynu peiriant torri gwair y mae modd eistedd arno a chynhwysydd storio

£4,611

 

(yn amodol ar dderbyn dyfynbris ar gyfer y cynhwysydd storio)

029 – Canolfan Penmynydd

Atgyweirio’r gegin

£5,345

 

(yn amodol ar gael cadarnhad fod gan y sefydliad eu harian eu hunain i dalu 30% tuag at y costau)

030 – Menter Neuadd St Gwenfaen, Rhoscolyn

Uwchraddio’r toiledau

£7,905

031 – Byd Dawns Môn

Prynu offer fel matiau, drychau ac ati i ymarfer ar gyfer cystadleuthau cenedlaethol

£8,000

032 – Grŵp Llyfrau Gwrando

I ymestyn ei ystod o offer llyfrau gwrando ac  i ymgymryd â nifer o ymweliadau â'i aelodau dall a rhannol ddall

£1,245

033 – Cymdeithas Cae Cybi, Treseifion

Prynu peiriant torri gwair y gellir eistedd arno

£2,660

034 – Grŵp Treftadaeth Caergybi

Trefnu gweithgareddau coffa canmlwyddiant R.M.S. Leinster a ddinistriwyd gan dorpedo yn 1918

£5,250

035 – Neuadd Bentref Talwrn

Uwchraddio’r system gwres canolog

£4,347

036 – Cyngor Cymuned Penmynydd a Star

Prynu siglenni ar gyfer y lle chwarae

£2,100

 

(ar yr amod y derbynnir ail ddyfynbris)

 

(Dywedodd y Trysorydd fod y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2018 wedi rhoi sylw i nifer o geisiadau am Grantiau mawr a’u bod wedi penderfynu anfon un cais ymlaen i’r Pwyllgor hwn i’w ystyried ac roedd y cais am £8,000 i’w weld yn Atodiad B yr adroddiad. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais fel y’i nodir isod:-

 

038 – Cyngor Cymuned Llangoed a Phenmon

Adfer y giatiau haearn sydd o gwmpas Neuadd y Bentref ac sydd dros 100 oed. Byddai hynny’n gwella’r adeilad ac yn gwneud y gwneud y terfyn yn ddiogel.

£8,100

 

 

 

 

Dywedwyd bod ceisiadau 007, 009, 017 a 026 am symiau bychan ac ystyriwyd y byddai’n briodol dweud wrth yr ymgeiswyr y gellir dyrannu hyd at £8,000 mewn grantiau bychan. Dylid dweud wrth yr ymgeiswyr na fyddant yn gymwys i dderbyn grant o Gronfa Grantiau Bychan yr Ymddiriedolaeth Elusennol am gyfnod o 5 mlynedd ond y gallant gyflwyno cais am Grant Mwy drwy’r Pwyllgor Adfywio. Felly, os ydynt yn penderfynu gwrthod y cais am grant, ni fyddai gwaharddiad arnynt rhag cyflwyno cais am Grant Bychan wedyn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r symiau a restrir uchod (£101,277) [y symiau a argymhellir], sef 70% o’r cyllid grant sydd ar gael.

 

Dogfennau ategol: