Eitem Rhaglen

Dogfen Cyflawni Blynyddol 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Corfforaethol fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn nodi’r targedau y bydd y Cyngor yn eu cyflawni o safbwynt ei brif flaenoriaethau yn ystod y deuddeg mis nesaf, a’u bod yn gysylltiedig â dyheadau ac amcanion Cynllun y Cyngor Sir ar gyfer 2017-2022. Nododd fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn dangos fod yr Awdurdod yn barod i fynd i’r afael â heriau wrth foderneiddio ei wasanaethau. Dywedodd fod pob un o’r amcanion yn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn bwysig ond cyflwynodd enghreifftiau o’r blaenoriaethau sydd wedi’u cynnwys yn y

ddogfen :-

 

·      Mae angen mabwysiadu strategaeth moderneiddio ysgolion newydd sy’n amlygu pwysigrwydd datblygu amgylcheddau dysgu newydd er mwyn gwella’r ddarpariaeth a chodi safonau a chyflawniadau plant a phobl ifanc yr Ynys;

·      Mae’r Cyngor wedi lansio cynllun newydd eleni, ‘Denu Talent Môn’, fydd yn rhoi profiad gwaith gyda chyflog i 9 neu 10 o unigolion dros 16 oed gyda gwasanaethau’r Cyngor am gyfnod o 12 wythnos yn ystod yr Haf;

·      Cyfleoedd i drigolion yr Ynys gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a hamdden er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles;

·      Mae angen i’r Cyngor weithio gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac mae hynny wedi digwydd yn barod gyda’r uned Gofal Dementia newydd yn Garreglwyd, Caergybi a model newydd ar gyfer darparu Gofal Cartref ar draws yr Ynys;

·      Mae bwriad i adeiladu tua 60 o dai cymdeithasol newydd ledled yr Ynys;

·      Mae dewis ehangach o leoliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal dan ystyriaeth naill ai drwy gynnig mwy o wasanaethau, cynyddu nifer y lleoliadau gofal maeth sydd ar gael neu ddarparu gofal mewn ffordd wahanol;

·      Adeiladu ar lwyddiant y Cyngor Sir i sicrhau fod dros 70% o wastraff domestig yn cael ei ailgylchu.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn cynnwys 38 o amcanion a bod hynny’n dangos fod yr Awdurdod yn barod i fynd i’r afael â heriau wrth iddo foderneiddio ei wasanaethau ar gyfer trigolion yr Ynys.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod y dogfen yn cynnwys prosiectau gwerth chweil y mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i fuddsoddi ynddynt a bod y Cyngor yn gwella ei wasanaethau mewn modd arloesol. Dywedodd fod yr Awdurdod hwn yn dymuno denu cyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc yr Ynys ac i wella ansawdd bywyd pobl. Cyfeiriodd at y prosiectau newydd sydd wedi dod neu fydd yn dod i’r Ynys h.y. MSparc yng Ngaerwen, Wylfa Newydd, Prosiect Bluestone yng Nghaergybi,  Morlais yng Nghaergybi a Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi, ymweliadau gan Longau Mordaith, y posibilrwydd o godi trydedd bont dros y Fenai. Roedd yn gobeithio y byddai datblygiadau’n digwydd yn Octel yn Amlwch, Lairds ym Miwmares a hen safle Halal yng Ngaerwen yn y dyfodol.

 

Cododd yr Aelodau'r cwestiynau a ganlyn :-

 

·      Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled M Jones at gyfanswm o 15 uned fusnes newydd sy’n cael eu hadeiladu yn Llangefni a Chaergybi. Gofynnodd pam nad oedd unedau’n cael eu hadeiladu yn Amlwch gan mai dyma’r dref agosaf at brosiect Wylfa Newydd. Dywedodd y byddai unedau busnes newydd o’r fath yn gwella economi’r dref a gogledd yr Ynys. Ymatebodd y Dirprwy Arweinydd drwy ddweud ei fod yn cytuno fod angen unedau busnes newydd yn Amlwch ond nad yw’r tir i adeiladu unedau o’r fath ar gael ar y safle presennol a bod safle posib arall ar gyfer y math hwn o ddatblygiad mewn perchnogaeth breifat ar hyn o bryd.

·      Dywedodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod y Cyngor yn cynnal proses ymgynghori ar hyn o bryd, fel rhan o’r rhaglen Cynllunio Lle, er mwyn penderfynu ar anghenion y gymuned ac i gasglu barn Cyngor Tref Amlwch a phreswylwyr lleol ynglŷn â chyfleoedd yn yr ardal yn y dyfodol. Ychwanegodd fod perchnogion safle Octel wedi nodi eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol y safle. Gofynnodd y Cynghorydd Aled Morris Jones i’r Cyngor drefnu cyfarfod gyda Chyngor Tref Amlwch, Aelodau Lleol a Swyddogion i drafod adeiladu unedau busnes newydd yn Amlwch fel mater o flaenoriaeth;

·      Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled M Jones at y cae 3G arfaethedig yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur a gofynnodd ymhle fydd y Clwb Hoci sefydledig, sydd wedi bod yn defnyddio’r cyfleusterau yn Llangefni i ymarfer, yn ymarfer gan na fydd y cae 3G yn addas ar gyfer chwarae hoci. Dywedodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd fod y cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur yn gryn gyflawniad i’r Cyngor a bod cyfleuster o’r fath yn hollbwysig i chwaraeon ar yr Ynys gan fod clybiau ar yr Ynys wedi gorfod teithio i’r tir mawr i ddefnyddio cyfleusterau o’r fath. Nododd y byddai incwm o’r cae 3G yn caniatáu i ganolfannau hamdden aros ar agor. Ychwanegodd fod ‘astro turf’ yn fwy addas ar gyfer chwarae hoci a’i fod ar ddeall fod trafodaethau’n digwydd. Nododd hefyd fod cae ‘astro turf’ yng Nghanolfan y Llu Awyr, Fali;

·      Cyfeiriodd y Cynghorydd Bryan Owen a’r Cynghorydd Peter Rogers at yr ysgol newydd, Ysgol Santes Dwynwen yn Niwbwrch, ac roeddent yn pryderu na fyddai rhieni sydd â phlant yn yr ysgolion fydd yn cau yn anfon eu plant i’r ysgol newydd. Dywedodd y Cynghorydd Owen ei fod yn siomedig nad oedd yr Aelodau Lleol wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfodydd a gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Bodorgan yn ddiweddar ynglŷn â’r posibilrwydd y byddai’n rhaid i’r ysgol gau'r haf hwn gan fod rhieni wedi symud eu plant i ysgolion lleol eraill. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) fod y Pennaeth Dysgu wedi derbyn cais ar fyr rybudd gan Gorff Llywodraethu a Phennaeth Ysgol Gynradd Bodorgan i fynychu cyfarfod yr wythnos diwethaf i drafod mater a godwyd gan yr ysgol a’i fod yn bwriadu trafod y mater gyda’r Aelodau Lleol yn dilyn hynny. Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers fod pobl yn parcio ar draws mynedfa’r ysgol newydd yn Nwyran a bod angen rhoi sylw i’r mater. Ymatebodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo drwy ddweud fod rhaid cynnal cyfnod ymgynghori priodol er mwyn caniatáu i drigolion lleol gyflwyno sylwadau ynglŷn â chyfyngiadau parcio h.y. llinellau melyn ger yr ysgol a’r ardal gyfagos;

·      Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers nad oes cyfeiriad yn yr adroddiad hwn at broblemau llifogydd yn Nwyran a’r problemau parhaus y mae cartrefi yn y pentref, a stad Ael y Bryn yn benodol, wedi eu dioddef yn ystod yr 8/9 mlynedd diwethaf. Dechreuodd yr Awdurdod lanhau ffosydd yn Nwyran ym mis Ionawr ond nid oedd y gwaith yn ddigonol a gwnaethpwyd cryn lanast. Yn ystod y bythefnos ddiwethaf mae’r Cyngor wedi ailddechrau glanhau’r ffosydd yn yr ardal hon. Roedd y Cynghorydd Rogers o’r farn fod y Cyngor wedi gwastraffu adnoddau gwerthfawr ac y dylid gorfodi tirfeddianwyr lleol i lanhau’r ffosydd. Dywedodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn araf yn ymateb o ran llunio cynllun i roi sylw i broblemau llifogydd yn Llangefni a Dwyran. Cyfeiriodd at y sylw a wnaed fod y gwaith agor ffosydd yn Nwyran ym mis Ionawr wedi gwneud llanast a dywedodd fod y tir yn llawn dŵr ar yr adeg hon o’r flwyddyn;

·      Er ei fod yn croesawu adeiladu tai cymdeithasol, dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers y dylid darparu ardal chwarae briodol ar gyfer y tai cymdeithasol. Cyfeiriodd at yr 16 tŷ cymdeithasol yn ardal Dwyran a bod y plant yn gorfod chwarae yn y rhan mwyaf peryglus o’r pentref. Dywedodd y Deilydd Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau nad oedd yn ymwybodol fod 16 o dai cymdeithasol yn Ael y Braint. Dywedodd y Cynghorydd Rogers fod y rhan fwyaf o’r tai yn eiddo i Gymdeithas Dai ac na ddylid caniatáu cymysgedd o dai oherwydd y diffyg cyfleusterau addas i breswylwyr;

·      Er ei fod yn derbyn fod y prosiectau y cyfeirir atynt yn y ddogfen yn werthfawr, dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod rhaid i adnoddau ar gyfer prosiectau o’r fath fod mewn ardaloedd addas. Ychwanegodd nad oedd cyfeiriad at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, a’i fod yn ystyried hynny’n wendid, gan na fydd pobl leol yn derbyn caniatâd i adeiladu cartrefi yng nghefn gwlad yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2018/19.

 

Ataliodd y Cynghorwyr Aled M Jones a Bryan Owen eu pleidlais.

 

 

Dogfennau ategol: