Eitem Rhaglen

Gweledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru : Cytundeb Llywodraethiant

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Prif Weithredwr ar y Weledigaeth a Strategaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru – Cytundeb Llywodraethiant.

 

Adroddodd y Dirprwy Arweinydd fod y Weledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru yn nodi uchelgais gyfunol a strategol i Ogledd Cymru o ran datblygu seilwaith, sgiliau a chyflogaeth a thwf busnes. Mabwysiadwyd y strategaeth gan y pum Cyngor arall yng Ngogledd Cymru a chytunwyd ar fodel llywodraethiant a ffefrir h.y. cydbwyllgor rhanbarthol dan y teitl gwaith Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru: erbyn hyn mae’r model wedi hen sefydlu ac ar y trywydd iawn i gyflwyno Bid i’r Llywodraeth er mwyn derbyn cymeradwyaeth gychwynnol yn ystod 2018. Lluniwyd Cytundeb Llywodraethiant ar gyfer cam cyntaf y Bid Bargen Twf (GA1) i’w fabwysiadu gan holl bartneriaid Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod y pum awdurdod lleol arall yng Ngogledd Cymru wedi mabwysiadu’r Cytundeb Llywodraethiant ac y byddai’r pedwar coleg yn rhoi ystyriaeth iddo ym mis Medi. Nododd mai Cydbwyllgor Gweithredol yw’r model llywodraethiant a fabwysiadwyd ar gyfer y Bwrdd ac nad yw’n Gydbwyllgor o’r Cyngor. Bydd un cynrychiolydd o bob un o’r 10 partner. Arweinydd y Cyngor fydd cynrychiolydd Ynys Môn. Penodir Cadeirydd y Bwrdd yn flynyddol o blith cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol ond ni fydd ganddo ef neu hi bleidlais fwrw. Cyngor Gwynedd fydd yr awdurdod lletyol a bydd y Bwrdd yn mabwysiadu Rheolau Sefydlog a Rheolau Caffael ac ati'r Cyngor hwnnw. Cynhelir cyfarfodydd o’r Bwrdd yn fisol a bydd yn mabwysiadu’r Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth h.y. cyhoeddi Rhaglenni, penderfyniadau a chofnodion. Cworwm y corff fydd 4 o blith cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol, fydd ag un bleidlais yr un, ond ni fydd gan yr aelodau eraill nad ydynt yn cynrychioli awdurdodau lleol hawl i bleidleisio. Fodd bynnag, mae’r cytundeb yn datgan fod ganddynt yr hawl i siarad. Ychwanegodd fod gweithdrefn i ddelio â sefyllfa lle nad oes modd dod i gytundeb, ond ar ddiwedd y broses honno os na cheir cefnogaeth y mwyafrif ni fydd y penderfyniad yn cario. Mae gan y Bwrdd y capasiti i greu Is-fyrddau a allai fod â sail statudol neu sail ymgynghorol, yn dibynnu ar eu swyddogaethau, pwerau ac aelodaeth. Yn ystod cyfarfod cyntaf y Bwrdd sefydlir Is-fwrdd Trafnidiaeth ac Is-fwrdd Darpariaeth Ddigidol. Bydd y ddau’n cael eu sefydlu’n ffurfiol fel is-bwyllgorau, ar sail statudol, fel bod modd dirprwyo pwerau iddynt. Mae Côd Ymddygiad ynghlwm i’r Cytundeb a bydd yn berthnasol i’r aelodau nad ydynt yn awdurdodau lleol ond Côd Ymddygiad y Cyngor hwn fydd yn berthnasol i’n cynrychiolydd ni.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y bydd y Cytundeb yn dod i ben pan fydd yr ail gam, GA2, yn dechrau. Mae’r Bid Bargen Twf bellach wedi cael ei ddatblygu i lefel uchel gyda chynnwys y Bid ar fin cael ei flaenoriaethu yn unol ag (1) dewis ac uchelgais rhanbarthol (2) cyngor anffurfiol gan y Llywodraeth ar y rhaglenni a’r prosiectau a allai fod yn gymwys ar gyfer eu cymorth a (3) asesiadau achos busnes. Bydd y Bid Bargen Twf yn mynd drwy ddau gam cymeradwyo. Yn gyntaf, Cytundeb Penawdau Telerau ar y cynnwys strategol ar gyfer datblygiad pellach ac, yn ail, cytundeb terfynol o’r cynnwys manwl a gefnogir gan dystiolaeth a dadansoddiadau'r model pum achos busnes llawn a therfynol. Y nod yw llunio Cytundeb Penawdau Gwasanaeth yn ystod yr Hydref eleni, a’r cytundeb terfynol erbyn y flwyddyn ariannol newydd 2019/20.

 

Yn ogystal, dywedodd y byddai penderfyniadau’r Cydbwyllgor yn destun sgriwtini yn yr awdurdodau lleol ac y byddai modd galw penderfyniadau i mewn. Bydd modd i Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini perthnasol ym mhob un o’r awdurdodau lleol partner gydlynu eu gwaith o safbwynt y Bwrdd. Grym yw hwn ac nid gorfodaeth. Ffurfir Tîm Gweithredol o 10 o Swyddogion yn cynrychioli bob un o’r partïon er mwyn gweithredu’r Fargen Dwf a rheoli rhwymedigaethau dydd i ddydd y Partïon mewn perthynas â’r Fargen Dwf. Mae pob awdurdod wedi cyfrannu swm o £50k a’r colegau wedi cyfrannu £25k tuag at y gwaith o baratoi’r Bid Twf ar gyfer y Llywodraeth.

 

Croesawodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd yr adroddiad a dywedodd fod hyn yn enghraifft o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru’n cydweithio er budd Gogledd Cymru.

 

Codwyd y cwestiynau a ganlyn gan yr Aelodau :-

 

·      Gofynnodd y Cynghorydd Aled M Jones a ystyriwyd cynnwys Pwerdy’r Gogledd a’r Awdurdod Integredig, sy’n cynrychioli ardal Manceinion, yn y Cytundeb. Roedd o’r farn fod rhaid cael cyswllt rhwng y Bid Twf a’r ardaloedd hynny er mwyn sicrhau ffyniant i Ogledd Cymru. Dywedodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ei fod yn cytuno fod y ddau sefydliad yn bwysig ond nad oedd ganddynt unrhyw ddylanwad mewn perthynas â Bid Twf Gogledd Cymru, serch hynny mae’n bwysig cael cyswllt â nhw fel corff ymgynghorol. Roedd y Cynghorydd Aled M Jones yn ystyried fod barn Pwerdy’r Gogledd yn bwysig a gofynnodd i’r Bwrdd, yn ystod eu trafodaethau, ystyried pwysigrwydd Pwerdy’r Gogledd fel corff;

·      Cyfeiriodd y Cynghorydd Aled M Jones at adran 3.04 yn yr adroddiad sy’n cyfeirio at seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd. Gofynnodd a yw trydaneiddio Rhwydwaith Rheilffordd Gogledd Cymru yn Flaenoriaeth i’r DU. Dywedodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd nad yw trydaneiddio Rhwydwaith Rheilffyrdd Gogledd Cymru wedi ei gynnwys yn y Bid Bargen Twf. Gofynnodd y Cynghorydd Aled M Jones a yw’r awdurdod wedi ymrwymo i weithio gyda’r prosiect HS2 – Cyswllt Rheilffordd Cyflym – gan y bydd yn dod â manteision i Ogledd Cymru ar ôl ei gwblhau. Ymatebodd y Deilydd Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd drwy ddweud fod yr awdurdod yn cefnogi’r prosiect mewn egwyddor;

·      Gofynnodd y Cynghorydd G O Jones pryd fydd adroddiadau’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini perthnasol mewn perthynas â’r Bid Twf. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro y dylai’r partïon arwyddo’r Cytundeb ddiwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref cyn y cam o ddod i gytundeb ar y Penawdau Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth. Bryd hynny bydd y Bwrdd yn Gydbwyllgor cyfansoddiadol cyfreithiol a bydd modd i Bwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio’r Cyngor graffu arno.

 

PENDERFYNWYD :-

 

  • Nodi a chroesawu’r cynnydd yn natblygiad y Bid Bargen Twf;
  • Cymeradwyo’r trefniadau Anweithredol h.y. y trefniadau sgriwtini, fel y’u cynhwysir yng ngham cyntaf y Cytundeb Llywodraethiant;
  • Fod y Cyngor yn cael drafft terfynol o’r Bid Bargen Twf ar gyfer ei adolygu a’i gymeradwyo ym mis Medi/Hydref 2018 cyn iddo gyrraedd cam y Penawdau Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth;
  • Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro mewn cydweithrediad â’r Arweinydd i gwblhau amodau’r Cytundeb Llywodraethiant yn unol i raddau helaeth â’r drafft sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr Adroddiad (sy’n ymddangos fel Atodiad 1 yr Adroddiad);
  • Bod y trefniadau Gweithredol sydd wedi eu cynnwys yn y Cytundeb Llywodraethiant yn cael eu cynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor a gofyn i’r Cyngor gynnwys y trefniadau Anweithredol yn ymwneud â Sgriwtini yn y Cyfansoddiad.

 

 

 

Dogfennau ategol: