Eitem Rhaglen

Galw Penderfyniad i Fewn - Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni (Y Graig a Talwrn)

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2018 mewn perthynas â moderneiddio ysgolion ardal Llangefni - Y Graig a Talwrn sydd wedi’i alw i fewn gan y Cynghorwyr Lewis Davies, Eric Wyn Jones, Peter Rogers, Bryan Owen ac Aled Morris Jones

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn

 

·        Y Penderfyniad a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf, 2018

 

·        Y Cais Galw i Fewn

 

·        Y adroddiad a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2018 ynghylch Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni – Y Graig a Talwrn

 

 

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2018 i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle i ddisgyblion Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn, ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Lewis Davies, Aled Morris Jones, Eric Wyn Jones, Bryan Owen a Peter Rogers. Cyflwynwyd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais galw i mewn ac adroddiad y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2018 ar foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni (Y Graig a Thalwrn).

 

Dywedodd y Cadeirydd na fyddai siarad cyhoeddus yn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Darllenodd gyngor a ddarparwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â'r mater a oedd yn cadarnhau nad oes hawl cyfansoddiadol cyfreithiol i siarad cyhoeddus mewn pwyllgor sgriwtini ac mai mater i'r Cadeirydd yw penderfynu pryd ac os yw hynny’n briodol. Yr unig ofyniad mewn cysylltiad â'r disgresiwn hwn yw ei fod yn cael ei ddefnyddio'n deg ac yn gyson. Ymhellach, mae'r Swyddog yn cynghori bod bwriad y Cadeirydd yn ddefnydd rhesymol o'r disgresiwn hwn dan yr amgylchiadau, gan fod hwn yn achos o alw i mewn penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ac nid yw'n rhan o'r broses cyn gwneud penderfyniad lle mae'r Pwyllgor Sgriwtini yn casglu tystiolaeth.

 

Eglurodd y Cynghorydd Lewis Davies, fel Aelod Arweiniol y cais Galw i Mewn, y rhesymau dros alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2018 fel y nodir yn y ffurflen gais galw i mewn. Roedd y rhesymau fel a ganlyn:

 

           Gwallau yn yr ymgynghoriad.

           Mae cymuned Talwrn wedi wynebu deng mlynedd o ansicrwydd ac nid yw hynny wedi annog pobl ifanc i symud i fyw i’r pentref.

           Mae’r asesiad effaith cymunedol yn arwynebol ac nid yw'n cyd-fynd ag adran 1.7 o'r Côd Trefniadaeth Ysgolion presennol.

           Ni chynhyrchwyd unrhyw adolygiad trafnidiaeth/traffig ffordd ar y lôn rhwng Talwrn a Llangefni. Mae hon yn lôn beryglus i gerdded a beicio arni ac, oherwydd pwyslais cynyddol ar fanteision iechyd cerdded a beicio, mae'n hanfodol fod llwybr diogel yn cael ei ddarparu a bod asesiad traffig yn cael ei gynnal, yn enwedig os yw plant yn dymuno cerdded neu feicio o Dalwrn i Ysgol y Graig petai Ysgol Talwrn yn cau. Yn ogystal, mae Ysgol y Graig yn orlawn ac mae problemau parcio difrifol o gwmpas yr ysgol a gerllaw.  Bydd ymestyn yr ysgol a’r defnydd ohoni yn gwaethygu'r broblem.

           Anghysonderau yn y broses foderneiddio yn y modd mae ardaloedd yn cael eu trin, gydag ysgolion cyffelyb gyda llai o blant a safonau is yn dal i fod ar agor.

           Adeiladu tai newydd yn ardal Cefni a allai arwain at brinder lleoedd mewn ysgolion fel sydd eisoes wedi digwydd yn achos yr Ysgol y Graig. Yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, clustnodir Llangefni fel canolfan fasnachol a diwydiannol sy’n debygol o dyfu yn y dyfodol. Gyda'r angen am fwy o dai, mae'r dref yn debygol o dyfu gan roi pwysau ar ysgolion yr ardal. Mae perygl y bydd hanes yn ailadrodd ei hun ac y bydd Ysgol y Graig yn orlawn unwaith eto. Gwell cadw ysgolion gwledig er mwyn derbyn y disgyblion ychwanegol hyn yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lewis Davies yn ogystal nad yw'r Awdurdod yn gallu gwerthfawrogi y gallai atebion gwahanol fod ar gael ar gyfer ardaloedd gwahanol ac nad yw adeiladu ysgolion enfawr, digymeriad nad yw pawb eisiau eu mynychu yn briodol bob amser. Gorffennodd y Cynghorydd Davies drwy gyfeirio at erthygl ar ymchwil a wnaed gan  ysgolheigion ledled Gorllewin Ewrop ar ddatgysylltu cymdeithasol mewn cymunedau gwledig sy'n nodi bod cau ysgolion yn un o’r prif ffactorau o ran tanseilio cymunedau gwledig.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Eric Jones, Peter Rogers a Bryan Owen fel llofnodwyr y cais galw i mewn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones nad oedd yn cefnogi'r dull a ffafrir gan Estyn o uno ysgolion gwledig i greu ysgolion mwy nad oes eu hangen. Nid yw'r Cyngor wedi profi'r dadleuon dros gau’r ysgol yn y ddogfen ymgynghori ac mae llawer o’r hyn sydd yn y ddogfen yn ffafrio cadw Ysgol Talwrn ar agor. Yn ei farn o, dyma yw’r opsiwn gorau o ran cynnig gwerth am arian i’r Cyngor a threthdalwyr Ynys Môn ac o ran gwella safonau addysg. O ganlyniad i’r datblygiadau tai sydd wedi eu cynllunio yn Llangefni a’r cyffiniau, dywedodd fod perygl y bydd Ysgol y Graig yn orlawn unwaith eto gan ailadrodd camgymeriad a wnaethpwyd unwaith yn barod.

 

Tynnodd y Cynghorydd Peter Rogers sylw at effaith bosibl cau Ysgol Talwrn ar ysgol uwchradd yr ardal o ran colli disgyblion, ffactor sydd wedi cael ei anwybyddu yn ei farn ef. Oherwydd bod cau ysgol yn benderfyniad enfawr, roedd o’r farn y dalai gael ei ystyried gan y Cyngor Llawn. Oherwydd hynny, anogodd y Pwyllgor i gyfeirio'r mater i'r Cyngor Llawn.

 

Eglurodd y Cynghorydd Bryan Owen ei fod wedi llofnodi'r cais galw i mewn am ei fod yn credu nad oedd rhanddeiliaid Ysgol Talwrn wedi cael gwrandawiad teg nac atebion i'w cwestiynau; oherwydd ei bod yn annheg gofyn i rieni anfon eu plant o ysgol gymunedol hapus i gael eu llyncu gan ysgol o dros 300 o ddisgyblion; oherwydd bod perfformiad addysgol Ysgol Talwrn yn well na pherfformiad Ysgol Y Graig yn y Cyfnod Sylfaen a CA2 ac oherwydd effaith bosibl cau'r ysgol ar yr iaith Gymraeg, o gofio mai cymunedau gwledig a'r ysgolion sy’n rhan ohonynt yw conglfaen yr iaith Gymraeg. Cyfeiriodd y Cynghorydd Bryan Owen hefyd at yr ôl-groniad cynnal a chadw yn y ddwy ysgol - ar gyfer Ysgol Talwrn sydd dros 100 mlwydd oed, mae'n £82,500k, neu £597 am bob blwyddyn ers ei hadeiladu, ac ar gyfer Ysgol y Graig, sy'n 9 oed, mae’n £36,500, neu £3,650 am bob blwyddyn. Felly, nid yw cau Ysgol Talwrn yn gwneud synnwyr economaidd. Yn ôl y Côd Trefniadaeth Ysgolion drafft diwygiedig, mae'n rhaid i'r achos dros gau ysgol wledig fod yn gadarn. Yn ogystal, gall hawl rhieni i ddewis ysgol olygu bod rhieni'n dewis peidio ag anfon eu plant i Ysgol y Graig. Roedd y Cynghorydd Bryan Owen hefyd o'r farn y dylai'r Cyngor Llawn ystyried y mater hwn.

 

Ymatebodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant fel a ganlyn –

 

           Ni roddir unrhyw dystiolaeth ategol i egluro pam fod yr ymgynghoriad yn anghywir.

           Bod y Weinyddiaeth bresennol wedi ymrwymo i ddod ag ansicrwydd ynghylch dyfodol ysgolion i ben a’i bod yn barod i wneud penderfyniadau yn unol â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a allai fod yn anodd ac yn annymunol, er mwyn sefydlu’r ddarpariaeth addysgu gynradd orau a thecaf posib ar yr Ynys.

           Bod y Weinyddiaeth wedi ceisio bod yn gyson yn y penderfyniadau a wnaethpwyd mewn perthynas â moderneiddio ysgolion ymhob ardal lle mae'r rhaglen wedi cael ei gweithredu tra'n ceisio canfod yr ateb gorau ar gyfer pob ardal unigol.

           Rhoddir ystyriaeth i ddatblygiadau tai a gymeradwywyd ac sydd wedi’u cynllunio ym mhob ardal lle mae ysgolion yn cael eu hadolygu, gan gynnwys yn y rhan honno o Langefni sy’n ymwneud ag Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

           Ar ôl gwneud penderfyniad yn unig y cynhelir arolwg trafnidiaeth a thraffig – yn yr achos penodol hwn byddai’r arolwg yn cynnwys asesiad diogelwch llwybr o'r lôn o Dalwrn i Langefni.

           Nad yw Ysgol Talwrn wedi'i chynnwys ar y rhestr o ysgolion gwledig dynodedig yn y fersiwn drafft diwygiedig o’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2017 at ddibenion rhagdybiaeth yn erbyn cau.

           Nid yw'r costau cynnal a nodir uchod ar gyfer Ysgol Talwrn yn cymryd i ystyriaeth y £250k sydd ei angen ar gyfer ystafell ddosbarth symudol newydd.

           Y cydnabyddir y gall rhieni anfon eu plant i ysgol o'u dewis a bod hyn yn fater nad oes gan yr Awdurdod unrhyw reolaeth drosto. Fodd bynnag, gall yr Awdurdod geisio darparu darpariaeth addysg sy'n deg ac yn rhesymol ar gyfer yr Ynys gyfan.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) fel a ganlyn –

 

           Bod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn golygu ystyried ystod o opsiynau ar gyfer pob ardal ac mae’r Awdurdod yn cydnabod bod angen atebion gwahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol.

           Bod y broses ymgynghori yn gynhwysfawr a thrylwyr gydag amrywiaeth o ddulliau’n cael eu defnyddio i gasglu barn rhanddeiliaid, gan gynnwys sesiynau galw heibio, arolwg ar-lein, llythyrau, e-byst a deisebau. Hwn oedd y trydydd ymgynghoriad a gynhaliwyd, a chafodd yr holl awgrymiadau eraill a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad hwn a'r ddau ymgynghoriad blaenorol eu hystyried, eu hasesu a'u sgorio. Nodwyd y rhesymau pam nad ystyriwyd fod yr opsiynau eraill yn briodol yn yr adroddiad ymgynghori a chawsant eu hadrodd i gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 5 Gorffennaf, 2018 ac i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 16 Gorffennaf, 2018.

           Bod yr Awdurdod wedi gweithredu yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion presennol. Mae’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2017 diwygiedig yn parhau ar ffurf ddrafft ac ni ddisgwylir iddo gael ei weithredu tan ddiwedd y flwyddyn wedi iddo gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad ac yn dilyn cyfnod ymgynghori wedi hynny. Er bod y Côd diwygiedig yn cyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, mae'n ei gwneud hi'n glir nad yw hyn yn golygu na fydd ysgolion gwledig byth yn cau, yn hytrach bydd yn ofynnol dangos fod pob opsiwn arall heblaw cau wedi cael eu hystyried. Mae'r Côd diwygiedig hefyd yn cydnabod bod rhaid i'r addysg fod yn ystyriaeth sylfaenol a bod hynny’n gysylltiedig â dyletswydd awdurdod lleol i geisio codi safonau addysg.

           Datblygwyd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Môn yn 2012 mewn ymateb i feirniadaeth gan Estyn nad oedd yr Awdurdod yn symud yn ddigon cyflym i foderneiddio ei ysgolion a lleihau lleoedd gwag. Felly ni chafwyd cyfnod o 10 mlynedd o ansicrwydd. Nodwyd yn 2012 y byddai ymgynghoriad pellach ar ddyfodol Ysgol Talwrn yn digwydd o fewn 5 mlynedd a dyma beth sydd wedi digwydd.

           Bod yr Asesiad Effaith Cymunedol wedi'i gynnal yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 a’i fod yn drylwyr yn ei werthusiad o’r ffactorau sy'n effeithio ar y gymuned. Yn yr un modd, mae'r Awdurdod wedi ystyried yr effaith ar yr iaith Gymraeg. Mae Estyn wedi cadarnhau ei fod yn fodlon â'r Asesiad Effaith Cymunedol ac wedi gwneud sylwadau cadarnhaol mewn perthynas â'r effeithiau ar yr iaith Gymraeg.

           Nid yw cymunedau o reidrwydd yn dirywio yn dilyn cau ysgol, e.e. nid oes gan bentref Rhosmeirch ysgol bellach ond mae wedi ffynnu serch hynny.

           Bod yr Awdurdod wedi ystyried gwir ddatblygiadau tai a’r rhai sydd wedi’u cynllunio yn yr ardal wrth ragamcanu niferoedd disgyblion ar gyfer yr estyniad newydd i Ysgol y Graig gan ddefnyddio fformiwla Llywodraeth Cymru. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cyfeirio at adeiladu 600 o gartrefi yn ardal Llangefni ond mae llai o dai wedi’u cynllunio ar gyfer y rhan arbennig hon o Langefni. Mae swyddogion wedi ystyried datblygiadau sydd wedi’u cynllunio gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â Choleg Menai (157 o dai) ac eraill (138 o dai). Mae cyfanswm y rhain wedi cael ei luosi â 0.17 sydd wedyn yn rhoi'r nifer rhagamcanol o ddisgyblion ychwanegol - tua 50. Mae'r rhain wedi'u cynnwys yn y cyfrifiadau.

           Bydd asesiad trafnidiaeth a thraffig yn cael ei gynnal ar ôl gwneud penderfyniad. Bydd hyn yn cynnwys y sefyllfa draffig a pharcio yn Ysgol y Graig a gerllaw yn ogystal â'r llwybr o Dalwrn i Langefni. Darperir cludiant ar gyfer disgyblion sy'n teithio i'r ysgol ar hyd llwybr sydd, yn dilyn asesiad, yn cael ei ystyried yn beryglus. Nid yw cyfleoedd i ddisgyblion feicio a cherdded wedi eu cyfyngu i'r daith i'r ysgol a gellir eu mwynhau y tu allan i oriau ysgol.

           Mae Ysgol y Graig yn ysgol gynradd gymunedol hapus a llwyddiannus hefyd, ac mae ei defnydd o'r iaith Gymraeg yn gryfder. Aseswyd y byddai’r cynnig a gyflwynwyd yn cael effaith gadarnhaol ar yr iaith Gymraeg.

           Nid yw safonau addysg yn Ysgol Talwrn yn well na safonau yn Ysgol y Graig. Mae perfformiad Ysgol Talwrn yn y Cyfnod Sylfaen wedi ei gosod yn y chwartel isaf am y tair blynedd diwethaf. Mae Ysgol y Graig yn fwy llwyddiannus o ran cyflawni canrannau uwch ar gyfer lefel 5+.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o'r Pwyllgor, eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) oblygiadau ariannol y cynnig i ymestyn Ysgol y Graig gan eu bod wedi'u nodi yn yr arfarniad ariannol yn y ddogfen ymgynghori. Gofynnodd y Cynghorydd Lewis Davies am ddadansoddiad ysgrifenedig o gyfanswm y benthyciadau hyd yn hyn o dan y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, y costau llog a'r goblygiadau i'r Awdurdod ac ardaloedd eraill ar yr Ynys sydd heb gael eu hadolygu hyd yn hyn pe bai Llywodraeth Cymru yn tynnu ei gefnogaeth ariannol i’r cynllun yn ôl.

Rhoddwyd cyfle i Aelodau'r Pwyllgor ofyn cwestiynau.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr y pwyntiau canlynol –

 

           Datblygwyd y broses ymgynghori ar gynigion i ail-lunio ysgolion cynradd yn unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion ac erbyn hyn mae’r broses wedi hen sefydlu ac fe’i defnyddiwyd yn yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd mewn perthynas â'r cynigion i adeiladu ysgolion newydd Ynys Cybi, Rhyd y Llan a Santes Dwynwen. Mae'r broses wedi'i chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Pe credir bod diffygion yn y broses yn yr achos hwn, byddai’n ddefnyddiol cael tystiolaeth o hynny.

           Yn yr un modd, mae'r broses ar gyfer cynnal Asesiad Effaith Cymunedol yn un a ddefnyddiwyd mewn ymgynghoriadau blaenorol ac mae'n cydymffurfio â gofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion.

           Cydnabyddir y gall cynnal proses ymgynghori ar ddyfodol ysgolion penodol achosi teimladau o ansicrwydd yn ystod y broses.

           Er nad yw Asesiad Effaith Trafnidiaeth a Thraffig yn cael ei gynnal hyd nes y bydd penderfyniad wedi ei wneud, mae gwerthusiad ariannol y cynnig yn cynnwys rhagamcan o gostau cludiant ychwanegol.

           O ran unrhyw effeithiau posibl ar yr iaith Gymraeg, mae'n amlwg y bydd unrhyw drefniant a ddatblygir fel rhan o'r rhaglen foderneiddio yn rhoi blaenoriaeth i gryfhau a gwarchod yr iaith Gymraeg. Mae Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn yn perfformio'n dda mewn perthynas â'r iaith Gymraeg a barn Estyn yw na fydd y cynnig yn arwain at wanhau’r Gymraeg.

           Er bod Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn yn ysgolion da o safbwynt addysgol, gydag Ysgol y Graig ychydig ar y blaen o ran perfformiad, mae lle i’r ddwy wella ymhellach, gan greu sylfaen gadarn ar gyfer cynnydd pe baent yn uno.

           Un o yrwyr y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yw sicrhau bod y system addysg yn deg i bob disgybl ar yr Ynys. Mae disgyblion yn Ysgol Talwrn yn derbyn £475 y pen yn fwy na disgyblion yn Ysgol y Graig, sy'n golygu bod Ysgol Talwrn yn derbyn £22,325 o gyllid ychwanegol sy'n cyfateb i swydd 0.5 athro. Drwy beidio â mynd i'r afael â'r anghysondeb hwn o ran cyllid, mae'r Awdurdod yn caniatáu i’r anghydraddoldeb sy'n bodoli o fewn y system addysg barhau, sy'n golygu bod rhai disgyblion yn derbyn swm uwch y pen ar draul disgyblion eraill. Mae hyn yn anodd ei gyfiawnhau.

 

Yna, rhoddwyd cyfle i lofnodwyr y cais Galw i Mewn, yr Aelod Portffolio a'r Swyddogion grynhoi.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod gan y Pwyllgor dri opsiwn wrth ddod i benderfyniad ar y cais galw i mewn, sef

 

           Gwrthod y cais galw i mewn.

           Gwrthod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a'i gyfeirio yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith gydag argymhelliad y dylid ei ailystyried a/neu ei ddiwygio.

           Gwrthod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith a chyfeirio'r mater gydag argymhelliad i'r Cyngor Llawn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, gan nad yw penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn groes i'r Fframwaith Cyllideb na'r Polisi nac yn anghyson â'r Gyllideb, nid oes gan y Cyngor Llawn unrhyw bŵer yn y mater. Felly, byddai'r Cyngor yn ymgynnull yn unig i ystyried y mater ac, os yw'n gwrthwynebu'r penderfyniad, ei gyfeirio'n ôl gydag unrhyw sylwadau i'r Pwyllgor Gwaith fel y corff gwneud penderfyniadau.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bryan Owen ac eiliwyd ef, y dylid cyfeirio'r mater at y Cyngor Llawn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones welliant a eiliwyd, bod y cais galw i mewn yn cael ei wrthod.

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.5 Cyfansoddiad y Cyngor cofnodwyd y bleidlais. Roedd y bleidlais fel a ganlyn -

 

O blaid y gwelliant (y dylid gwrthod y cais galw i mewn): Y Cynghorwyr Richard Griffiths, Trefor Lloyd Hughes, MBE, Richard Owain Jones, Alun Roberts, Nicola Roberts a Mr Keith Roberts (Aelod Cyfetholedig â phleidlais ar faterion addysgol).

 

O blaid y cynnig gwreiddiol (y dylid cyfeirio'r mater at y Cyngor Llawn): Y Cynghorwyr Lewis Davies, Aled Morris Jones, Bryan Owen.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais galw i mewn ynghylch penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf, 2018 mewn perthynas â moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni - Y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Felly mae penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn dod i rym yn syth.

 

Dogfennau ategol: