Eitem Rhaglen

Cofnodion y cyfarfod - 18 Ebrill 2018

  Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2018.

 

  I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar yr isod:-

 

Materion yn codi

 

(2) - Cofnodion

 

  Cafodd ymateb Mr Rhun ap Iorwerth, AC i benderfyniad Pwyllgor Deisebau Llywodraeth Cymru ar y ddeiseb addoli ar y cyd ei anfon at aelodau’r CYSAG ar 9 Mai, 2018.

  Ymhellach i bryderon y CYSAG ynghylch prinder hyfforddiant addas i athrawon AG drwy gyfrwng y Gymraeg, dywed Yr Athro Euros Wyn Jones y bydd Mr Rheinallt Thomas, fel Llywydd yr Eglwysi Rhydd yng Nghymru, yn codi’r mater mewn cyfarfod fforwm o’r Coleg Cenedlaethol Cymraeg a’r Colegau Addysg Uwch ac yn adrodd yn ôl i’r CYSAG yn y man.

  Nodwyd bod y templed newydd ar gyfer adroddiadau hunanarfarnu ysgolion wedi cael ei rannu gyda’r CYSAG.

 

(3) - Crynodeb y Cadeirydd o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2016/17

 

Cadarnhawyd bod copi o Grynodeb y Cadeirydd wedi cael ei anfon at y Pennaeth Dysgu fel y gellir cwblhau’n derfynol Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2016/17.

 

(4) – Safonau Addysg Grefyddol

 

Oherwydd y rhaglen lawn, ni fu modd cynnwysAddoli ar y Cyd mewn Ysgolionar raglen Cymdeithas CYSAGau Cymru ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd yn Ynys Môn ar 6 Gorffennaf, 2018. 

 

PENDERFYNWYD bod y Cadeirydd, ar ran y CYSAG, yn gofyn am iAddoli ar y Cyd mewn Ysgoliongael ei gynnwys ar y rhaglen ar gyfer ei drafod yn yng nghyfarfod nesaf Cymdeithasu CYSAGau Cymru.

 

Gweithredu: Fel y nodir uchod.

 

(5) – Cefnogaeth ar gyfer y Dyfodol

 

  Nodwyd nad yw Mr Arwyn Thomas, Prif Weithredwr GwE, wedi ymateb i ohebiaeth y Cadeirydd yn mynegi pryderon y CYSAG fod cefnogaeth Miss Bethan James i GYSAG Ynys Môn wedi cael ei thynnu’n ôl heb air o rybudd ymlaen llaw.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Mr Arwyn Thomas, yn mynegi siom y CYSAG nad yw wedi ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cadeirydd.

  Bod y CYSAG yn gwahodd Mr Thomas i fynychu ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2019.

 

Gweithredu: Fel y nodir uchod.

 

  Dywedodd y Cadeirydd fod y Pennaeth Dysgu wedi trefnu i Benaethiaid Adrannau Addysg Grefyddol pob un o’r 5 ysgol uwchradd yn Ynys Môn weithredu fel Ymgynghorwyr Her i’r CYSAG, gan ffeirio bob blwyddyn. 

             

Cytunodd y CYSAG i fonitro’r sefyllfa ond roedd yn teimlo nad oedd modd i’r trefniant hwn ddiwallu’r gefnogaeth a’r arweiniad sydd ei angen arno i ymgymryd â’i rôl a’i gyfrifoldebau. Roedd aelodau’r CYSAG yn pryderu y byddai athrawon yn cael eu rhoi dan fwy o bwysau i gymryd dyletswyddau ychwanegol pan maent eisoes yn rhy brysur.

 

  Nodwyd bod yr Aelod Portffolio Addysg wedi cael ei hysbysu am bryderon y CYSAG ynghylch y ffaith bod GwE wedi tynnu’n ôl gefnogaeth ac arweiniad Ymgynghorydd Her GwE i’r CYSAG.

 

  Mae’r Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, AC, wedi ymateb i bryderon a godwyd gan y CYSAG bod y cwricwlwm TGAU ar gyfer AG yn rhy feichus a bod prinder adnoddau ar gyfer dysgu AG drwy gyfrwng y Gymraeg.   

 

PENDERFYNWYD bod y CYSAG yn monitro’r sefyllfa gyfredol a’r pryderon a godwyd mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd a’i fod yn gweithredu ar adborth gan athrawon AG yn y man.

 

Gweithredu: Fel y nodwyd uchod.

 

  Nid yw Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi ymateb i gais y CYSAG yn gofyn i’r Eglwys enwebu aelod i’w chynrychioli ar y CYSAG.      

 

PENDERFYNWYD bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gofyn i’r Eglwys enwebu aelod i’r chynrychioli ar y CYSAG.

 

Gweithredu: Fel y nodwyd uchod.

 

  Dywedodd y Cadeirydd bod sedd wag hefyd ar y CYSAG ar gyfer aelod o’r sector dysgu.

 

PENDERFYNWYD bod Clerc y CYSAG yn gofyn am enwebiadau o blith athrawon am rôl cynrychiolydd athrawon ar y CYSAG.

 

Gweithredu: Fel y nodwyd uchod.

Dogfennau ategol: