Cadarnhau cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018, gan gynnwys unrhyw faterion yn codi.
Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion drafft y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018, fel rhai cywir.
Materion yn codi o’r cofnodion:-
Mae’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) wedi darparu dogfen “materion yn codi” i holl aelodau’r Pwyllgor Safonau yn rhoi manylion am y camau gweithredu a gymerwyd yn unol â chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018.
Fe wnaeth y drafodaeth ganolbwyntio ar y materion canlynol:-
Eitem 5 – Adolygiad y Pwyllgor Safonau o Gofrestrau’r Aelodau
• Roedd y Cadeirydd wedi mynychu cyfarfod Arweinyddion Grŵp mewn perthynas â Chynghorydd a enwyd, nad oedd wedi adolygu ei Gofrestr o Ddiddordebau, ac nid oedd ychwaith wedi cysylltu â’r aelod o’r Pwyllgor Safonau a oedd wedi adolygu ei Gofrestr o Ddiddordebau ac wedi gofyn i gael trafod y canfyddiadau. Er i’r mater gael ei godi, ac er i ni anfon e-bost at yr Arweinydd Grŵp dan sylw, ni chlywyd unrhyw beth ganddo ef chwaith mewn perthynas â’r mater hwn.
Penderfynodd y Pwyllgor nad oeddent am gymryd unrhyw gamau pellach ar y pwynt hwn, ond y byddent yn codi’r sefyllfa eto gyda’r aelod perthnasol yn ystod yr adolygiad o’r cofrestrau ar gyfer 2019 sydd ar y gweill.
• Dywedodd y Swyddog Monitro fod TGCh wedi cysylltu â Mod.Gov sawl gwaith, ond nid ydynt wedi derbyn ymateb eto. Darllenwyd yr e-bost diweddar oddi wrth y Rheolwr Gwasanaethau Digidol i’r Pwyllgor. Roedd y Pwyllgor o’r farn y dylid mynd ar ôl hyn ymhellach oherwydd fe hoffai’r Pwyllgor ateb terfynol.
PENDERFYNWYD peidio mynd ar ôl y mater cyntaf a grybwyllir uchod, ond i swyddogion fynd ar ôl yr ail fater ymhellach.
Gweithredu: Parhau i geisio cael ymateb gan Mod.Gov ar y ddarpariaeth o naratif.
• Mewn perthynas â chynnig y Pwyllgor Safonau ar gyfer adolygiad 2019 o’r cofrestrau a dogfennau eraill sy’n ymwneud ag Aelodau Etholedig, a fydd yn cael ei gynnal ym mis Mehefin/Gorffennaf 2019, PENDERFYNWYD cytuno i gynnull cyfarfod, yn dilyn y cyfarfod ffurfiol hwn o’r Pwyllgor, i drafod cynigion y Pwyllgor Safonau ar gyfer adolygiad 2019.
Eitem 11 – Nodyn Cynghori ar y Fethodoleg ar gyfer Adolygu Cofrestrau Diddordeb yr Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig
Nodwyd fod y Nodyn Cynghori uchod wedi cael ei addasu a’i gylchredeg i aelodau’r Pwyllgora Safonau.
Gweithredu: Anfon y linc i’r Nodyn Cynghori ar y Fethodoleg i holl Aelodau’r Cyngor ac aelodau annibynnol.
Eitem 12 – Rhoddion a Lletygarwch – Nodyn Briffio i Aelodau
Adroddwyd nad yw’r Cadeirydd eto wedi cyflwyno’r Nodyn Brifio sy’n cyd-fynd â’r Protocol Rhoddion a Lletygarwch i’r Arweinyddion Grwpiau.
Nodwyd fod y Protocol wedi cael ei adolygu, a bod y Swyddog Monitro wedi argymell oedi cyn ei gylchredeg i Aelodau, oherwydd faint o wybodaeth sy’n cael ei anfon i’r Aelodau ar hyn o bryd.
Eitem 13 – Hawliau Unigol fel Aelodau – Nodyn Briffio i Aelodau – mae’r argymhelliad uchod yn sefyll ar gyfer yr eitem hon hefyd.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn y cynigion uchod gan y Swyddog Monitro.
Gweithredu: Cylchredeg Eitemau 12 ac 13 uchod ar y sail a awgrymwyd gan y Swyddog Monitro.
Eitem 17 – Cynghorau Tref a Chymuned yn Mabwysiadu’r Protocol Datrysiad Lleol
Nodwyd y bydd cyfarfod nesaf y Fforwm Pwyllgorau Safonau yn cael ei gynnal yn Sir y Fflint ar ddyddiad i’w gadarnhau, ac y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn codi’r mater hwn yn y Fforwm nesaf.
PENDERFYNWYD nodi’r uchod.
Gweithredu: Cadeirydd y Pwyllgor Safonau i godi’r mater hwn yn nghyfarfod nesaf y Fforwm Pwyllgorau Safonau rhanbarthol.
Dogfennau ategol: