Eitem Rhaglen

Materion Aelodau Etholedig

Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn darparu diweddariad ar amryw o faterion yn ymwneud ag Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - diweddariad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr uchod:-

 

  Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mawrth 2018, wedi cytuno ar amserlen ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau, sef erbyn 30 Mehefin 2018.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn pryderu mai dim ond 18 o’r 30 o Adroddiadau Blynyddol oedd wedi cael eu cyhoeddi ar-lein hyd yma.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod 11 o Adroddiadau Blynyddol eraill wedi dod i law a’u bod yn cael eu prosesu ar hyn o bryd ac y byddant yn cael eu cyhoeddi. Ni fedrai ddweud yn union pryd ond bydd rhywdro yn ystod y tair wythnos nesaf. Nodwyd y parheir i ddisgwyl am un Adroddiad Blynyddol.

 

  Siartr Datblygu Aelodau

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Cyngor yn ceisio ail-asesiad o Siartr Cymru CLlLC ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau.  Dywedodd nad oedd Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ac Adolygiadau Datblygiad Personol wedi cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad arfaethedig ym mis Ebrill a bod amserlen ddiwygiedig wedi cael ei chadarnhau ar gyfer ail-gyflwyno, sef Chwarter 3, 2018/19. Mae’r Adroddiadau a’r ADP yn hanfodol wrth gyflwyno’r cais.

 

  Gwiriadau GDG

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod rhai Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig wedi cael gwiriad GDG lefel uwch yn unol â Pholisi Datgelu a Gwahardd y Cyngor a hynny mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Dysgu. Nodwyd bod y gwiriadau GDG yn gyfredol ac yn gyflawn ac y byddant yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.    

 

  Bywgraffiadau’r Aelodau ar Wefan y Cyngor

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod Aelodau wedi cael cymorth 1-1 ar lwytho gwybodaeth ynghylch hyfforddiant a phresenoldeb mewn Pwyllgorau ar wefan y Cyngor. Cyfeiriodd at sesiwn hyfforddiant a gynhaliwyd ym mis Mawrth, lle trafodwyd gyda’r Aelodau y modd  y gallant gyflwyno gwybodaeth a chael at wybodaeth am Aelodau etholedig ar-lein.  Nodwyd bod gwybodaeth ar bresenoldeb mewn cyfarfodydd a sesiynau hyfforddiant wedi cael ei chyhoeddi ar-lein ers mis Ebrill.    

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod CLlLC wedi cyhoeddi canllawiau newydd i Aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n cynnwys Facebook a Twitter.  Dywedodd fod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau wedi cylchredeg y canllawiau i’r holl Aelodau. 

 

Nodwyd bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wrthi’n trafod gyda’r Rheolwr Datblygu AD ar hyn o bryd y ffordd orau o sicrhau bod Aelodau’n cael mynediad i hyfforddiant perthnasol, gan gynnwys e-ddysgu, a sicrhau darparwr allanol ar gyfer hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys cadw Aelodau yn saff ar-lein.

 

  Cyrff Allanol

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod cyrff allanol yn cael eu hadolygu’n flynyddol gan y Cyngor. Dywedodd y cafodd fframwaith ar gyfer monitro partneriaethau allweddol ar sail dreigl ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 19 Mehefin  2018.

 

Mewn perthynas â chyrff allanol ‘lleol’, nodwyd bod Adroddiadau Blynyddol yn gyfle i Aelodau rannu gwybodaeth gyda’r cyhoedd ar swyddogaethau a gweithgareddau’r cyrff hynny. Yn y dyfodol, bydd diwyg yr adroddiadau’n cael ei adolygu er mwyn caniatáu i Aelodau grynhoi eu hymwneud â’r cyrff hyn, yn hytrach na nodi nifer y cyfarfodydd a fynychwyd yn unig.  

 

Cafwyd trafodaeth fanwl i ddilyn yn canolbwyntio ar yr isod:-

 

  Polisi’r Cyngor o annog Aelodau i gwblhau Adroddiadau Blynyddol a sicrhau bod trefniadau yn cael eu sefydlu i hwyluso’r broses o baratoi adroddiadau ar gyfer eu cyhoeddi;

  Polisi cyfredol y Cyngor o ran cynnal gwiriadau GDG ar rai Aelodau Etholedig, y ddibyniaeth ar hygludedd a’r materion cadw/diogelwch sy’n gysylltiedig â storio cofnodiadau GDG;

  Cyhoeddi gwybodaeth ar-lein mewn perthynas â sesiynau hyfforddiant y mae’r Aelodau wedi eu mynychu;

  Paratoi a chyhoeddi ar-lein Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau;

  Y gefnogaeth y mae’r Gwasanaeth TGCh yn ei chynnig i Aelodau mewn perthynas ag I-pads, Facebook, Twitter, cyfryngau cymdeithasol ac ati;

  Cyrff allanol: - aelodaeth; monitro – o ran perfformiad; sgriwtini; cydbwysedd gwleidyddol; dolen i’r wefan.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r cynnydd fel y manylir arno yn yr adroddiad.

  Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor Safonau pan fydd Adroddiadau Blynyddol y cyfan o’r 30 Aelod wedi cael eu cwblhau a’u cyhoeddi ar-lein.

  Bod y Cyngor yn awr yn ceisio ail-asesiad ar gyfer Siartr Cymru CLlLC ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau. 

  Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i anfon copi o’r cyflwyniad terfynol ar gyfer y Siartr Cefnogi a Datblygu Aelodau i’r Pwyllgor Safonau yn y man.

  Aelodau o’r Pwyllgor Safonau i fynychu cyfarfodydd sgriwtini (maent yn gyfarfodydd cyhoeddus nad oes angen gwneud unrhyw drefniadau arbennig i’w mynychu).

  Y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i ystyried y cyrff allanol allweddol a sicrhau bod y dolenni i’w gwefannau ar gael cyn gynted ag sy’n bosibl ar gyfer yr Aelodau a’r cyhoedd.

 

Gweithred: Gweler y penderfyniad uchod.

Dogfennau ategol: