Eitem Rhaglen

Adroddiad Estyn

Cyflwyno adroddiad ar Arolwg Estyn (Mehefin 2018) mewn perthynas ag Addysg Grefyddol yng Nghyfnod Allweddol 2 and Chyfnod Allweddol 3.

Cofnodion:

Cafwyd crynodeb gan Glerc y CYSAG o’r wybodaeth ar Adroddiad Arolwg Estyn ar AG yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Mae’r adroddiad yn nodi’n glir y safonau a ddisgwylir o ysgolion.

 

Nodwyd bod safonau’n dda o ran AG yn y mwyafrif o ysgolion. Yn CA2, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth AG. Fodd bynnag, nid yw rhai ysgolion yn gwneud digon o gynnydd gyda phlant mwy galluog a’r angen i’w herio mwy. Yn CA3, mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn gwersi ac yn cyflawni’n unol â’u gallu a’u hoedran.

 

Amlygwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth:-

 

  Mae geiriau feldylaiyn cael eu defnyddio dro ar ôl tro yn nherminoleg Estyn, sy’n datgan beth yn union sy’n ddisgwyliedig o’r ysgolion. Wrth gyfeirio at ffigyrau, mae Estyn yn defnyddio geiriau megisllaweri olygu 70% neu ragor; ‘ychydigi olygu dan 20%. Mae’n bwysig bod athrawon yn gyfarwydd â therminoleg newydd Estyn.   

  Mae angen mwy o waith pontio rhwng y sector cynradd ac uwchradd o ran AG.

  Mae arweinyddiaeth yn gyffredinol yn dda yn y rhan fwyaf o’r ysgolion ac yn  gryfach yn y sector uwchradd na’r sector cynradd.

  Mae angen gwneud mwy na chodi ymwybyddiaeth yn unig mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd a Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson 2015).  Nodwyd mai dim ond lleiafrif o ysgolion sydd wedi gwneud newidiadau i’r cwricwlwm hyd yma.

  Mynegwyd pryderon ynghylch y defnydd cynyddol o TG mewn AG a’r cwricwlwm newydd ac effaith hyn ar athrawon. Mae disgwyl iddynt addasu i’r newidiadau heb gael cynnig unrhyw hyfforddiant TG i wella eu sgiliau.

  Mae rhai athrawon ofn rhag iddyntddweud y peth anghywirwrth ddysgu crefyddau eraill ac eithrio Cristnogaeth. Nododd yr athrawon hefyd y gall fod yn heriol pan mae teimladau agnostig cryf yn y cartref.

  Nodwyd nad oes gan y CYSAG drosolwg o gydlynwyr AG mewn ysgolion yn y sector cynradd er mwyn hwyluso rhannu gwybodaeth ac adnoddau. O’r herwydd, awgrymyd a chytunwyd bod data-bas o gydlynwyr AG yn cael ei lunio fel bod gan yr ysgolion a’r CYSAG bwyntiau cyswllt yn yr ysgolion cynradd.

  Dywed yr adroddiad bod ‘y rhan fwyaf o Brifathrawon yn ymwybodol o’r CYSAG lleol, ond yn ansicr ynghylch ei rôl a’i bwrpas’.

 

Er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch rôl a chyfrifoldeb y CYSAG, awgrymwyd y dylai aelodau’r CYSAG gael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod nesaf o Benaethiaid ysgolion uwchradd Ynys Môn.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y CYSAG yn derbyn yr argymhellion uchod.

  Bod yr Ymgynghorydd Her yn cynnwys yr argymhelliad ym mhwynt bwled 7 uchod yng Nghynllun Gweithredu’r CYSAG ar gyfer 2017/18.

  Bod Clerc y CYSAG yn diweddaru’r Cadeirydd ar y trefniadau ar gyfer cyfarfod Penaethiaid Ysgolion Ynys Môn.

  Estyn gwahoddiad i Mrs Heledd Hearn a Mrs Helen Bebb fynychu’r cyfarfod uchod.

 

Gweithredu: Fel y nodir uchod.

Dogfennau ategol: