Eitem Rhaglen

Strategaeth Addysg Ynys Môn - Moderneiddio Ysgolion (Diweddariad 2018)

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â Strategaeth Addysg Ynys Môn - Moderneiddio Ysgolion (diweddariad 2018).

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant fod y Strategaeth Addysg wreiddiol - Moderneiddio Ysgolion wedi'i chyhoeddi yn 2013 a bod y ddogfen hon yn diweddaru’r Strategaeth. Nododd fod yr Awdurdod hwn wedi gweithio'n agos gyda Phenaethiaid ac Aelodau Etholedig o ran y rhaglen moderneiddio ysgolion a bod10 o ysgolion cynradd llai sydd wedi cael eu cyfuno’n 3 ysgol 21ain ganrif fodern mewn tair ardal ym Mand A. Erbyn diwedd y rhaglen Band A, bydd 10% o ddisgyblion Ysgolion Cynradd Ynys Môn yn derbyn eu haddysg mewn adeiladau 21ain ganrif. Yn yr Ysgolion Uwchradd ar yr Ynys, mae'r gostyngiad yn y niferoedd a’r cynnydd mewn lleoedd gwag, ynghyd â'r toriadau a wynebwyd, wedi arwain at heriau cyllidebol sylweddol ar draws y sector uwchradd.  O ganlyniad i'r uchod, ynghyd â rhaglen lymder llywodraeth ganolog, nododd yr Aelod Portffolio bod rhaid  i'r Gwasanaeth Addysg ddod o hyd i arbedion o £ 5m dros y tair blynedd nesaf. Bydd Band B Rhaglen Moderneiddio Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno yn 2019, a bydd cyfle i foderneiddio ysgolion Ynys Môn ymhellach er mwyn mynd i'r afael â heriau cyllidebol lleol. Rhagwelir y bydd yn rhaid blaenoriaethu dalgylch Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch o fewn Band B gan fod nifer y lleoedd gwag yn uchel ac na fydd y cynnydd disgwyliedig yn nifer y disgyblion yn sgil Wylfa, sef oddeutu 200, yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Dywedodd ymhellach fod angen mynd i'r afael ag addysg ôl-16 ar yr Ynys hefyd. 

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu mai uchelgais yr Awdurdod hwn yw sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni eu potensial llawn. Fodd bynnag, dywedodd fod y sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn heriol yn y sector cynradd ac mae'r gwahaniaeth mewn gwariant fesul disgybl yn y sector cynradd yn achos pryder ac yn anghynaladwy ar gyfer y dyfodol. Dywedodd ymhellach fod 28% o leoedd gwag yn y sector uwchradd ar Ynys Môn ac y bydd yn rhaid mynd i'r afael â hynny os yw addysg uwchradd am fod yn gynaliadwy mewn rhai ardaloedd.  Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at raglen lymder llywodraeth ganolog, sy'n golygu y bydd angen i’r Gwasanaeth Addysg dod o hyd i £5 o arbedion dros y tair blynedd nesaf ac y bydd angen adolygu'r Strategaeth Foderneiddio er mwyn sefydlu system ysgolion a fydd ag adeiladau modern sy'n addas ar gyfer y 30 mlynedd nesaf er mwyn sicrhau'r cyfleoedd gorau i ddisgyblion yr awdurdod.  Nododd fod y broses addysg yn wynebu newidiadau helaeth na welwyd eu tebyg ers blynyddoedd. Mae angen i benaethiaid gael amser digyswllt digonol i arwain eu hysgolion yn effeithiol. Mae angen adolygu'r addysg ôl-16 a'i asesu i weld a yw'r patrwm presennol yn addas ar gyfer y dyfodol.  

 

Ychwanegodd y Pennaeth Dysgu ymhellach bod Estyn yn 2013 wedi cyfeirio at yr heriau sy'n wynebu ysgolion bach yn eu hadroddiad 'Ysgolion Cynradd Bach yng Nghymru'. Mae'r rhain yn cynnwys yr her o addysgu dosbarthiadau oed cymysg sy'n cynnwys mwy na 2 neu 3 o grwpiau oedran; maint grŵp cyfoedion cyfyngedig a digonolrwydd her; cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol; anawsterau wrth recriwtio a chadw staff a gormod o feichiau ar staff.   Amlinellodd yr ysgogwyr newid ar gyfer Band B (2019-2026) fel y’u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at gapasiti arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn Ysgolion yr Awdurdod a nododd fod yr heriau sy'n gysylltiedig ag arwain a rheoli ysgolion wedi cynyddu'n sylweddol.   Mae angen digon o amser digyswllt ar benaethiaid i fynd i'r afael â materion arweinyddiaeth. Nododd fod y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo rhaglen ddatblygu 'Arweinwyr y Dyfodol' ar gyfer darpar Benaethiaid, Penaethiaid di-brofiad, neu'r rheini a gydnabuwyd bod ganddynt botensial i ymgymryd â rôl arweinyddiaeth. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad y Swyddog a'r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol: -

 

·                 Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at ddatganiad diweddar gan y Prif Weinidog yn dweud bod rhaid i’r rhaglen lymder ddod i ben a gofynnodd a fyddai angen yr arbedion o £ 5m y gofynnwyd i’r Gwasanaeth Addysg eu gwneud dros y tair blynedd nesaf? Atebodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ei fod o'r farn bod y Prif Weinidog wedi dweud y daw’r llymder i ben ar ôl Brexit.  Dywedodd y disgwylir setliad drafft llywodraeth leol ar gyfer 2019/20 ar 9fed Hydref, 2018 ac nad oedd yn disgwyl cael unrhyw fanylion pellach fel rhan o'r setliad. Nododd y bydd Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn cael ei gyhoeddi yn yr haf 2019 ac mae'n bosib y daw’r llymder i ben yn ystod y cyfnod hwn;

·                 Cyfeiriodd y Pwyllgor at y gofyniad i adolygu'r ddarpariaeth addysg ôl-16 ar yr Ynys a mynegwyd pryderon bod disgyblion yn gorfod symud o un ysgol uwchradd i un arall i dderbyn eu pynciau dewisol ar lefel Safon Uwch. Mynegwyd ymhellach y gallai'r disgyblion hyn fod yn teithio i fwy nag un ysgol i dderbyn eu haddysg ac ymddengys eu bod yn colli cysylltiad â'u prif ysgol. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu bod angen cynnal ymgynghoriad i fesur yr angen i adolygu addysg ôl-16 ar yr Ynys. Mynegodd y Pwyllgor bryderon bod rhai disgyblion yn gadael ysgolion uwchradd ar yr Ynys i dderbyn addysg ôl-16.  Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn hanfodol bod yr adolygiad o addysg ôl-16 yn mynd i'r afael â hyn;

·             Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y gyllideb y bydd ei hangen i fynd i'r afael â'r diffygion difrifol mewn nifer o safleoedd ac adeiladau ysgol ac a yw'r gwasanaeth yn gallu mynd i'r afael â'r mater hwn tra'n gorfod gwneud arbedion o £ 5m dros y tair blynedd nesaf. Cafwyd eglurhad manwl gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 o’r broses ar gyfer ariannu prosiectau ysgol newydd.   Nododd bod Llywodraeth Cymru bellach yn ymchwilio i senarios gwahanol o ran y model ariannol i ariannu Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif. Rhoddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 enghraifft – roedd cyfanswm cost Ysgol Rhyd y Llan yn £ 6m a benthycodd yr awdurdod £ 2.5 miliwn sy'n cyfateb i

£ 100k y flwyddyn.  Nododd fod arbediad o £ 72k wedi'i sicrhau trwy gau'r tair ysgol yn yr ardal. Roedd yn cyfle hefyd i gael gwared ar adeiladau ysgolion bach a oedd angen gwaith cynnal a chadw parhaus ynghyd â’r lleoedd gwag yn y dalgylch. Mynegodd y Pwyllgor ymhellach y gallai ansicrwydd o ran Brexit, olygu bod llai o gyllid yn dod i Lywodraeth Cymru gan y llywodraeth ganolog ac y bydd hynny’n cael effaith ar yr adnoddau sydd ar gael i awdurdodau lleol symud ymlaen gyda'r rhaglen moderneiddio ysgolion. Ymatebodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod rhywfaint o sicrwydd o ran y cyllid tuag at Band B y rhaglen moderneiddio ysgolion ond bod Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiwn arall o ran Band C, sef  'Model Buddsoddi ar y Cyd', cynllun ble bydd buddsoddwr / datblygwr yn adeiladu ysgolion a'r awdurdodau lleol yn talu ffi dros gyfnod o amser o ran cynnal a chadw'r adeiladau;

·                 Gofynnwyd am eglurhad ynghylch erthygl yn y wasg leol yn ddiweddar yn nodi bod yr Awdurdod hwn am gau ysgolion â llai na 120 o ddisgyblion; mynegwyd nad oes sôn am hynny yn y Strategaeth Addysg. Dywedodd  y Pennaeth Dysgu y bydd pob ardal yn cael ei hystyried ac y bydd y ddarpariaeth addysgol yn cael ei hasesu gyda lleoedd gwag a chyflwr adeiladau'r ysgol a ffactorau cost eraill yn cael sylw;

·             Cyfeiriodd y Pwyllgor at y broses ymgynghori o ran y broses moderneiddio ysgolion ac a ellir dysgu gwersi o'r ymgynghoriad diweddar ar gau ysgolion ar yr Ynys a sicrhau bod y cyhoedd yn fodlon eu bod yn cael gwrandawiad. Ymatebodd y Pennaeth Dysgu bod y broses ymgynghori fe ymddengys, wedi bod yn fwy cynhyrchiol o fewn grwpiau llai;

·                 Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pryd y bydd y gwariant fesul pen / person yn gyfartal yn yr ysgolion ar draws Ynys Môn. Atebodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod y cyllid a roddir i ysgolion yn cael ei ddosbarthu gan ddefnyddio fformiwla sy'n dibynnu ar nifer y disgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae ysgolion cynradd llai yn derbyn yr hyn sy'n cyfateb i gyllid ychwanegol i gynnal y lefelau staffio sylfaenol, h.y. o leiaf un Pennaeth ac athro/athrawes ar y safle.  Roedd gwariant fesul disgybl yn y sector cynradd yn Ynys Môn oedd y 5ed uchaf allan o’r 22 awdurdod yng Nghymru yn 2018/19, i lawr o'r 3ydd uchaf yn 2017/18;

·                 Mynegwyd pryder ynghylch yr oedi gydag agor Ysgol Gynradd newydd Santes Dwynwen yn Niwbwrch a bod angen cynnwys cymal cosb mewn unrhyw ddarpariaeth i adeiladu ysgol newydd yn y dyfodol. 

·                 Mynegwyd pryderon nad yw Penaethiaid yn cael digon o amser di-gyswllt mewn ysgolion. Dywedodd y Pennaeth Dysgu y gellir cynnal amser di-gyswllt i Benaethiaid mewn ysgolion mwy ond pan fydd arbedion cyllidebol yn cael eu gorfodi ar ysgolion, bydd y broblem yn fwy cynyddu a bydd yn rhoi pwysau ar Benaethiaid i orfod dysgu ac arwain yr ysgolion.

·                 Roedd  Aelodau'r Pwyllgor o’r farn y byddai'n fanteisiol mynd i weld Ysgol Dysgu Gydol Oes ynghyd ag un o'r Ysgolion 21ain Ganrif newydd ar yr Ynys.

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith: -

 

·                 Cytuno i fabwysiadu Strategaeth Addysg Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn (Diweddariad 2018) a fydd yn dod i rym ar 15 Hydref, 2018 ymlaen a rhoi sylw i dalgylch Ysgol Syr Thomas Jones;

 

·      Cytuno bod Swyddogion yn dechrau'r broses ymgynghori o fewn ardaloedd Band B dros y 12 mis nesaf. Gwnaeth y Pwyllgor y sylwadau canlynol hefyd: -

 

·                 Cydnabod yr angen i weithredu ar frys mewn perthynas ag Addysg Ôl-16 ar yr Ynys;

·                 Dylid ystyried pa mor fforddiadwy fyddai gweithredu'r strategaeth yn y dyfodol;

·                 Mae angen rhoi sylw i gyflwr ysgolion ar yr Ynys.

·                 Dylid gwneud pob ymdrech wrth weithredu'r strategaeth i gadw disgyblion Ôl-16 ar yr Ynys;

·                 Dylid rhoi sylw i’r mater o fynd i'r afael â 'chost y pen' disgyblion ar draws yr Ynys;

·                 Cydnabod yr angen i weithredu'r opsiynau gorau ar gyfer meysydd penodol ac nad oes sôn yn y ddogfen am gau ysgolion â llai na 120 o ddisgyblion;

·                 Dylid rhoi sylw i amser di-gyswllt Penaethiaid mewn Ysgolion;

·                 Mae'n hanfodol bod yr amserlenni ar gyfer adeiladu ysgolion newydd yn cael eu gwireddu;

·                 Bod trefniadau priodol ac ystyriol yn cael eu gwneud yn ystod y cyfnod ymgynghori er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd fynegi eu barn / pryderon;

·                Ystyried trefniadau i Aelodau ymweld ag ysgolion dysgu gydol oes ac un o'r ysgolion newydd a adeiladwyd yn ddiweddar ar yr Ynys.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: