Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2017/18

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol ac Adnoddau Dynol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid ac Adnoddau Dynol mewn perthynas â'r uchod.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol bod y Cynllun Perfformiad Blynyddol yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor ar gyfer 2017/18 ynghyd â chynnydd y Cyngor yn erbyn Amcanion Llesiant yr Awdurdod. Amlinellodd yr Aelod Portffolio gyflawniadau'r Cyngor yn ystod 2017/18 fel y nodwyd yn yr adroddiad.   Cyfeiriodd ymhellach at y Dangosyddion Perfformiad ar gyfer 2017/18 a bod gwasanaethau'n gwella er bod y Cyngor yn wynebu gorfod gwneud arbedion o

£ 2.5m o fewn y gyllideb.  Cyhoeddir y Dangosyddion Cenedlaethol, a elwir yn Fesurau Atebolrwydd Perfformiad (PAM ) ac fe gymherir pob awdurdod lleol yn erbyn yr un dangosyddion. Yn 2017/18, roedd 50% o'r dangosyddion ar gyfer yr Awdurdod hwn wedi gwella, 36% wedi gostwng o ran perfformiad ac roedd 14% o'r dangosyddion yn newydd.  Nododd bod y dangosyddion PAM yn cael eu hadolygu bob blwyddyn a dangosyddion perfformiad newydd yn cael eu cyflwyno i fonitro perfformiad yn genedlaethol. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad y Swyddog a'r wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol: -

 

·             Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y modd y mae dangosyddion perfformiad 2017/18 yn effeithio ar raglenni gwaith ar gyfer y blynyddoedd nesaf ac a oes angen rhoi blaenoriaeth i rai gwasanaethau sydd wedi cael eu hamlygu fel risgiau. Atebodd y Prif Weithredwr fod yr Adroddiad Perfformiad yn rhoi arwydd o’r modd y mae'r Cyngor yn perfformio ar amser penodol. Dywedodd mai'r peth pwysicaf yw fod y Cyngor yn parhau i wella'r gwasanaethau a ddarperir;

·                 Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr Ynys wedi dioddef pocedi o amddifadedd gyda lefelau uchel o bobl ifanc yn ddi-waith a phobl ifanc hefyd yn gadael yr Ynys i ddod o hyd i waith.  Codwyd cwestiynau ynghylch faint o bobl a oedd wedi gallu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth yn dilyn datblygiadau diweddar ar yr Ynys h.y. Ffordd Gyswllt Llangefni, prosiect Bluestone, Msparc yn Gaerwen ac ati, ac a yw hyn wedi gwella economi'r Ynys. Ymatebodd y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid fod pobl, os ydynt mewn cyflogaeth, yn gallu gyfrannu at yr economi leol ac yn gallu gwella ansawdd eu bywydau. Bydd angen i adran arall ofyn am y ffigurau o ran y bobl ifanc sydd wedi llwyddo i gael gwaith gyda sefydliadau newydd a bydd y wybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen at aelodau maes o law. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr amcanion o fewn y Cynllun Perfformiad wedi'u pennu gan y Cyngor a chyfeiriodd at Barc Gwyddoniaeth Menai, sef yr unig gyfleuster yng Nghymru sy'n cynnig adnoddau o'r fath a’i bod yn gynamserol ar hyn o bryd i werthuso effaith cyfleuster o'r fath ar economi'r Ynys;

·                 Gofynnwyd am eglurhad a yw 36% o'r PAM sydd wedi dirywio mewn perfformiad yn achosi mwy o bryder nag eraill. Atebodd y Prif Weithredwr fod pob dangosydd perfformiad yn bwysig a bod angen ymchwilio i'r rhesymau pam y mae perfformiad yn erbyn dangosyddion wedi gostwng;

·             Mynegwyd pryderon bod un o'r dangosyddion perfformiad yn dangos nad yw lefel uchel o’r bobl ifanc sydd yn gadael yr ysgol mewn hyfforddiant nac mewn addysg barhaus. Cyfeiriwyd at y ffaith y disgwylir y bydd cyfleoedd cyflogaeth ar gael oherwydd y datblygiadau economaidd ar yr Ynys yn y dyfodol agos a bod angen dod o hyd i'r cyfleoedd hyn ar gyfer pobl ifanc lleol.   Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod Grŵp TRAC & OPUS wedi ei sefydlu i gefnogi unigolion y credir eu bod bellaf o'r farchnad lafur gyda rhwystrau niferus a chymhleth i gyflogaeth, yn benodol y ffaith eu bod wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir ac / neu yn anweithgar yn economaidd ac ddim mewn addysg neu hyfforddiant.   Nododd bod Cymunedau Ymlaen hefyd yn gweithio'n agos gyda'r bobl ifanc hyn i ddod o hyd i hyfforddiant a chyflogaeth ar eu cyfer.   Gan fod yr Awdurdod hwn yn llai o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, pwysleisiodd y gall un person o fewn y categori hwn gynyddu'r % o fewn y dangosyddion perfformiad o ran pobl ifanc sy'n gadael cyflogaeth heb ymgymryd ag addysg / hyfforddiant parhaus;

·             Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cyfeiriad a wneir yn yr adroddiad at y ffaith bod rhan o’r refeniw a godir drwy'r premiwm 25% ychwanegol ar gartrefi gwag a chartrefi gwyliau yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu tai cymdeithasol; mynegwyd bod rhan o'r premiwm i fod ar gael i gefnogi prynwyr tro cyntaf.  Ymatebodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud bod rhan o'r refeniw a godir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prynwyr tro cyntaf (a bod y swm wedi'i ddyfarnu'n llawn i bobl ifanc ar yr Ynys) ac nad yw’r premiwm yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tai cymdeithasol. Nododd mai cyllid y Cyfrif Refeniw Tai fydd yn cael ei ddefnyddio i adeiladu tai cymdeithasol ar yr Ynys. Nodwyd ymhellach bod rhan o'r cyllid o'r premiwm ychwanegol ar gartrefi gwag / gwyliau yn cael ei ddefnyddio fel cyllid grant tuag at helpu pobl i osod gwres canolog a thoeau ar gartrefi; mae hwn yn gynllun grant arloesol. Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn Adnoddau Dynol a Thrawsnewid y bydd y sylwadau uchod yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Perfformiad cyn eu cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor llawn maes o law.

  

PENDERFYNWYD argymell i'r Pwyllgor Gwaith: -

 

·                 Y dylid cyhoeddi fersiwn derfynol Adroddiad Perfformiad 2017/18 erbyn y dyddiad statudol ar ddiwedd Hydref a bod y Swyddogion yn cwblhau hyn mewn ymgynghoriad â'r Aelod Portffolio - Corfforaethol fel y gellir ei gyhoeddi fel rhan o agenda'r Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 22 Hydref, 2018;

·                 Y dylid diwygio Adran 3.2 Cyfansoddiad y Cynghorau i gynnwys cymeradwyo penderfyniadau ar gyfer Datganiad ac Amcanion Llesiant y Cyngor yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2016 fel swyddogaeth y mae'n rhaid i'r Cyngor Llawn ei chyflawni.

·            Awdurdodi'r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i'r materion a neilltuwyd fel swyddogaethau y mae'n rhaid eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn yng Nghyfansoddiad y Cyngor ynghyd ag unrhyw newidiadau y mae'n rhaid eu gwneud o ganlyniad i adlewyrchu hyn.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: