Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Achos Strategol Amlinellol/Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Ysgol Gynradd Newydd i gymryd lle Ysgol Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori’r Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar y cyd ar gyfer ysgol gynradd newydd i gymryd lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir er mwyn i’r Pwyllgor eu hystyried a darparu sylwadau arnynt.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid at y cysylltiad rhwng yr ASA/ABA a Chynllun y Cyngor a blaenoriaethau corfforaethol eraill. Mae’r adroddiad yn nodi’r sail strategol, economaidd, masnachol ariannol a rheolaethol ar gyfer yr ysgol newydd yn unol â phroses Achos Busnes Ysgolion yr 21ain ganrif er mwyn derbyn cyllid cyfalaf ar gyfer y prosiect.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Dysgu grynodeb o fanylion yr ysgol newydd fydd â lle i 360 o ddisgyblion ac a fydd yn ysgol gymunedol a fydd, o ganlyniad i hynny, yn cynnwys ardaloedd cymunedol; penderfynwyd ar safle’r ysgol newydd yn dilyn proses fanwl o arfarnu safleoedd; y broses gaffael ac amserlen cyflenwi’r prosiect.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a chodwyd y pwyntiau canlynol –

 

           Nododd y Pwyllgor fod safle’r ysgol newydd ar dir i’r gogledd o’r B5109, yn union wedi’r troad i’r dde i stad Bryn Meurig yn Llangefni, yn safle ar oleddf ac oherwydd amodau’r safle nodwyd bod angen gwneud gwaith ar y briffordd. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â pha waith fyddai’n rhaid ei wneud.

 

Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro bod y safle a ddewiswyd wedi cael ei asesu ac nad oedd unrhyw broblemau’n bodoli fyddai’n golygu ei fod yn anaddas o safbwynt priffyrdd cyhyd ag y bo’r datblygwr yn gwneud gwaith penodol fel rhan o gostau’r cynllun er mwyn lliniaru pryderon ynglŷn â Phriffyrdd. Cadarnhaodd y Swyddog fod trafodaethau manwl wedi eu cynnal ag ymgynghorydd Dylunio Priffyrdd y cynllun a bod nifer o opsiynau wedi cael eu hystyried. Cyfeiriodd at y Cynllun Priffyrdd a gynhwyswyd ym mhapurau’r pwyllgor sy’n manylu ar fân gylchfan arfaethedig a mynedfa oddi ar y B5109 i safle’r ysgol newydd. Argymhellir creu cylchfan er mwyn rheoli a diogelu llif y traffig a symudiadau i safle’r ysgol oddi ar y B5019 i gyfeiriad Bodffordd yn ystod yr adegau prysuraf yn y bore a’r prynhawn. Bydd y gylchfan hefyd yn gweithredu fel mesur tawelu traffig. Tynnodd y Swyddog sylw at groesfan i gerddwyr ar y dde i’r gylchfan ar y cynllun ar gyfer plant fydd yn croesi i’r ysgol newydd o ardal Corn Hir. Yn ogystal, argymhellir creu llwybr troed a llwybr beicio cyfunol, o led penodol, wrth ochr y groesfan fydd yn cynorthwyo i gwrdd ag amcanion Teithio Llesol. Bydd llwybr troed hefyd yn cael ei greu ar ochr yr ysgol o’r B5109 yn ymestyn cyn belled â chyffordd Lôn Rhostrehwfa ar gyfer plant sy’n teithio i’r ysgol o’r ardal honno. Y nod yw gwneud yr holl waith priffyrdd yn unol â’r amcangyfrif cost a amlinellir yn yr adroddiad, gyda’r costau hynny’n rhan o gostau cyffredinol datblygu’r safle.

 

           Nododd y Pwyllgor yr eglurhad a ddarparwyd ac awgrymwyd y dylid ystyried gweithredu un neu fwy o’r mesurau isod er mwyn lliniaru ymhellach yr hyn yr ystyriwyd eu bod yn risgiau’n gysylltiedig â gosodiad y lôn yn ardal yr ysgol newydd ac er mwyn gwella diogelwch –

 

           Adeiladu cylchfan i arafu llif y traffig ar hyd Lôn Cildwrn (sy’n debygol o gynyddu o ganlyniad i’r ysgol newydd) yn ychwanegol i’r gylchfan arfaethedig, yn arbennig gan fod troi i’r B5109 o gyffordd Rhostrehwfa yn gallu bod yn anodd.

           Cyfyngu cyflymder i 20 mya yng nghyffiniau’r ysgol newydd.

           Adeiladu cylchfan safonol yn lle’r fân gylchfan a argymhellir er mwyn sicrhau bod cerbydau yn teithio o gwmpas y gylchfan yn ddi-drafferth mewn un symudiad oherwydd bod safle’r ysgol yn debygol o fod yn brysur.

           Rhoi llinellau dwbl gerllaw’r ysgol newydd er mwyn gwahardd parcio ar y lôn – roedd y Pwyllgor yn nodi ac yn croesawu’r ddarpariaeth barcio arfaethedig ar safle’r ysgol newydd ond os na fyddai digon o lefydd parcio roedd yn dymuno ei gwneud yn glir nad yw parcio ar y briffordd yn dderbyniol.

           Lleihau neu lefelu’r gefnen ar y lôn sy’n arwain at safle’r ysgol newydd.

           Gosod goleuadau traffig ar y gyffordd o Rhostrehwfa.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro, er y byddai modd ystyried yr awgrymiadau uchod, y byddai gweithredu rhai neu’r cyfan o’r mesurau yn cynyddu costau. Esboniodd y byddai’r Awdurdod Priffyrdd yn delio ag unrhyw gais cynllunio yn gyson ac yn yr un modd ag y byddai’n delio â chais cynllunio gan ymgeisydd allanol. Yn ogystal, dywedodd y byddai’n rhaid cyfiawnhau unrhyw waith o safbwynt cynllunio fel a ganlyn - 

 

           Mewn perthynas â chyflymder y traffig ar hyd Lôn Cildwrn at safle’r ysgol newydd, bydd creu llwybr o Rhostrehwfa i’r ysgol newydd yn golygu prynu darn bach o dir fydd yn gwella gwelededd i’r dde wrth gyffordd Rhostrehwfa. Byddai’n afresymol disgwyl i’r datblygwr gyllido gwelliannau ychwanegol i’r gyffordd hon gan na fydd cynnydd sylweddol mewn symudiadau traffig rhwng troad Rhostrehwfa a’r safle arfaethedig.

           Mewn perthynas â chyflwyno cyfyngiad cyflymder o 20 mya, rhaid ystyried mesur o’r fath yng nghyd-destun holl ysgolion yr Ynys. Yn ogystal, gan y byddai’r cyfyngiad mewn grym trwy’r dydd bob dydd pa sylw fyddai’n cael ei roi iddo ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol? Yn ei dro, mae hynny’n codi cwestiynau ynglŷn â gwerth y cyfyngiad ar ddiwrnodau ysgol. Bydd y gylchfan arfaethedig yn gorfodi traffig i arafu yn y man hwnnw a bydd yn gweithredu fel mesur tawelu traffig effeithiol.

           Bod y fynedfa i’r ysgol newydd wedi cael ei symud i gyfeiriad Bodffordd er mwyn sicrhau mwy o bellter rhwng y clip ar y ffordd ac er mwyn gwneud y gylchfan yn fwy gweladwy. Mae gwelededd i’r dde wrth adael yr ysgol ac ymuno â’r gylchfan arfaethedig yn cydymffurfio â safonau cenedlaethol. Byddai cost gostwng lefel y ffordd i’r un lefel â Lôn Rhostrehwfa yn afresymol.

           Bod nifer y llefydd parcio a ddarperir fel rhan o’r ysgol newydd yr uchaf posib y gellir eu darparu heb fynd yn groes i reolau cynllunio. Petai problemau parcio yn codi, yna mae rhoi llinellau dwbl ar y briffordd yn opsiwn.

           Lleolwyd y fân gylchfan yn ofalus ac yn ystyriol er mwyn hwyluso symudiad traffig. Bydd rhaid i gerbydau mwy sy’n teithio o gyfeiriad Bodffordd neu’n gadael safle’r ysgol i gyfeiriad Llangefni fynd dros y gylchfan, ac mae’n bosib gwneud hynny. Er y byddai modd edrych ar faint y gylchfan, byddai ei gwneud yn fwy yn creu goblygiadau posib o ran cost a thir.

           Mewn perthynas â gosod goleuadau traffig, gellir edrych ar hyn ond rhaid gwahaniaethu rhwng gwaith sy’n hanfodol fel rhan o’r datblygiad penodol hwn a gwaith sy’n ddymunol o safbwynt y rhwydwaith ffyrdd yn gyffredinol. Ni ddylid gosod amodau ar y datblygiad er mwyn cyllido unrhyw waith oni bai y gellir profi fod y datblygiad yn gwneud y sefyllfa’n waeth.

 

           Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â fyddai’r contract am adeiladu’r ysgol newydd yn cynnwys cymal cosbi os nad yw’r gwaith yn cael ei gwblhau mewn pryd. Amlygwyd yr angen i ddiogelu’r Cyngor rhag gorfod ysgwyddo costau ychwanegol petai’r gwaith adeiladu yn mynd tu hwnt i’r amserlen.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod contractau safonol yn cynnwys darpariaeth o’r fath beth bynnag. Fodd bynnag, weithiau gall ffactorau allanol tu hwnt i reolaeth y contractwr/datblygwr achosi oedi e.e. tywydd gwael. Bydd gwersi a ddysgwyd wrth adeiladu Ysgol Cybi ac Ysgol Rhyd y Llan o gymorth i osgoi gorwariant ar y prosiect dan sylw.

 

           Pwysleisiodd y Pwyllgor yr angen i sefydlu corff llywodraethu cysgodol mewn da bryd er mwyn sicrhau bod gan y gymuned lais yn yr ysgol newydd.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn achos y ddwy ysgol newydd sydd wedi agor yng Nghaergybi a Llanfaethlu, y nod oedd rhoi corff llywodraethu cysgodol mewn lle tua 18 mis cyn i’r ysgol agor.

 

Dywedwyd hefyd mewn ymateb i gwestiwn,  bod trafodaethau gyda chymuned Bodffordd yn parhau mewn perthynas â’r adnodd gymunedol yn Ysgol Bodffordd yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith.

 

           Nododd y Pwyllgor yr achos ariannol dros greu’r ysgol newydd, ac o ganlyniad i’r rhaglen arbedion heriol y mae’r Cyngor yn bwriadu ei gweithredu yn ystod y tair blynedd nesaf, gofynnwyd am sicrwydd ynghylch fforddiadwyedd y prosiect.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y prosiect yn rhan o Fand A Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’w chyllido ar y cyd â’r Cyngor. Mae cyfanswm cost Band A yn Ynys Môn dros £33m gyda Llywodraeth Cymru’n cyfrannu £16m. Felly, os bydd Llywodraeth Cymru’n cymeradwyo ASA/ABA y prosiect mae’r cyllid ar gael i gwblhau’r gwaith. Mae trefniadau ariannu Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn golygu fod Llywodraeth Cymru’n cyfrannu 50% o’r costau, gyda ⅔ yn dod ar ffurf grant a’r ⅓ arall ar ffurf benthyca â chymorth, gyda’r Cyngor yn benthyca’r arian a Llywodraeth Cymru yn talu’r costau benthyg h.y. y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw a’r llog sy’n cael eu cynnwys yn y setliad. Y Cyngor sy’n gyfrifol am y 50% arall a bydd y derbynion cyfalaf o werthu hen adeiladu’r ysgolion yn cael ei ddefnyddio i leihau’r swm y mae’n rhaid ei fenthyg. Rhoddir manylion am anghenion cyllido’r Awdurdod ar gyfer y prosiect yn yr ASA/ABA; yn ogystal, nodir yr arbedion refeniw disgwyliedig ynghyd â chostau benthyg blynyddol. Bydd y benthyciad yn cael ei wneud ar gyfradd llog sefydlog dros gyfnod o 50 mlynedd. Er y bydd gweithredu’r prosiectau yn Band A yn gyffredinol yn golygu costau ychwanegol i’r Cyngor, bydd hefyd yn cynhyrchu arbedion wrth i ysgolion gael eu cau a nifer yr adeiladau ysgol leihau. Dywedodd y Swyddog, er bod cyllido cyfran y Cyngor o Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain wedi cael ei gydnabod fel her erioed, mae’r cyfle i dderbyn cyfraniad o 50% tuag at ysgolion newydd yn gyfle rhy dda i golli ac nid yw’n debygol o gael ei gynnig fyth eto, felly bydd rhaid cwrdd â’r costau. Beth bynnag, byddai’n rhaid i’r Cyngor ganfod ffordd o gyllido’r ôl-groniad cynnal a chadw ysgolion yn llawn, sy’n swm sylweddol. Mae moderneiddio ysgolion yn mynd i’r afael â’r broblem honno.

 

Ar ôl craffu ar yr ASA/ABA, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo –

 

           Achos Strategol Amlinellol ac Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar y cyd ar gyfer ysgol gynradd newydd i gymryd lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

           Anfon yr Achos Strategol Amlinellol a’r Achos Busnes Amlinellol (ASA/ABA) ar gyfer ysgol gynradd newydd i gymryd lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir at Lywodraeth Cymru. (Ataliodd y Cynghorwyr Lewis Davies ac Aled Morris Jones eu pleidlais ar y mater)

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL