Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Hydref 2018.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 22 Hydref, 2018.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y weledigaeth Bid Twf yn amlinellu uchelgais
gyfunol a strategol ar gyfer Gogledd Cymru er mwyn datblygu isadeiledd, sgiliau a
chyflogaeth a thwf busnes. Nododd, er mwyn manteisio ar gyfleoedd o'r fath, bod ardal Gogledd Cymru wedi datblygu un weledigaeth ar gyfer twf economaidd a chyflogaeth gydag ymrwymiad rhwng yr holl bartneriaid i gydweithio i sicrhau amcan cyffredin. Mae uchelgais i'r rhanbarth ei gosod ei hun fel un o brif leoliadau'r DU ar gyfer cynhyrchu ynni a gweithgynhyrchu uwch - ynghyd â bod yn ganolbwynt o arloesedd ac arbenigedd technolegol, a chanolfan o ragoriaeth ar gyfer twristiaeth gwerth uchel. Mae'r uchelgais hon yn adeiladu ar gryfderau a chyfleoedd, a bydd ei chyflawni yn creu ymagwedd fwy cynaliadwy a chytbwys i ddatblygu'r economi. Amlygodd yr Arweinydd y ffaith bod y Weledigaeth Twf yn seiliedig ar dri nod allweddol:-
· Gogledd Cymru Flaengar - gan ganolbwyntio ar arloesedd mewn sectorau economaidd gwerth uchel i symud perfformiad economaidd ymlaen;
· Gogledd Cymru Wydn - gan ganolbwyntio ar gadw pobl ifanc, codi lefelau cyflogaeth a gwella sgiliau er mwyn cyflawni twf cynhwysol;
· Gogledd Cymru Gysylltiedig - gan ganolbwyntio ar wella isadeiledd trafnidiaeth a digidol er mwyn gwella cysylltedd strategol i'r rhanbarth ac oddi mewn iddi.
Mae'r Rhaglenni Strategol a'r prosiectau yn yrwyr allweddol i gyflawni’r weledigaeth a mynd i'r afael â'r heriau sydd wedi'u hadnabod a chreu'r amodau ar gyfer twf. Mae'r Rhaglenni Strategol wedi'u cyd-ddylunio a'u datblygu gan randdeiliaid allweddol, yn benodol y sector preifat. Mae prosiectau yn canolbwyntio ar ddatblygu'r amodau i ddenu buddsoddiad gan y sector preifat. Bydd ymgysylltiad cadarn gyda busnesau lleol er mwyn eu galluogi nhw i gael mynediad i gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi o ganlyniad i brosiectau a ariennir drwy’r Cynllun Twf, er mwyn cymryd mantais lawn o’r buddion rhanbarthol posib ac effaith y buddsoddiad.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor ymhellach at y Ddogfen Gynnig ynghlwm â’r adroddiad a nododd fel a ganlyn:-
· Rhan 1 - Cyflwyniad a chyd-destun
· Rhan 2 - Yr achos dros fuddsoddi
· Rhan 3 - Y cyd-destun strategol a’r modd y mae’n cyd-fynd â pholisi'r llywodraethau
· Rhan 4 - Arfarnu'r opsiynau a'r ffordd ymlaen a ffefrir
· Rhan 5 - Y weledigaeth twf
· Rhan 6 - Y rhestr o brosiectau
· Rhan 7 - Yr achos economaidd
· Rhan 8 - Cyllid ac ariannu
· Rhan 9 - Grymuso'r rhanbarth
· Rhan 10 - Y strwythur llywodraethu a chyflawni
Gofynnwyd am gadarnhad gan y Cynghorydd Shaun Redmond am y potensial o gynnydd mewn traffig i Borthladd Caergybi petai’r prosiectau yn y Bid Twf yn cael eu gwireddu. Nododd bod potensial i’r traffig gynyddu o 400,000 i 750,000 y flwyddyn drwy’r Porthladd. Gofynnodd am gadarnhad hefyd a oedd y mater wedi’i gynnwys o fewn y Bid Twf gan mai din ond isadeiledd/trafnidiaeth Caergybi y mae’n gallu ei weld o fewn y ddogfen. Dywedodd y Cynghorydd Redmond bod yr isadeiledd priffyrdd tuag at y Porthladd eisoes yn faes sy’n achosi pryder ac yn rhywbeth sydd angen ei ddatrys cyn gynted â phosibl. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod materion trafnidiaeth o fewn Porthladd Caergybi ac o’r fynedfa iddo yn cael sylw drwy’r Bid Twf ac y gallai adnoddau eraill fod ar gael drwy gynlluniau eraill er mwyn gallu mynd i’r afael â materion y tu allan i fynedfa’r Porthladd.
PENDERFYNWYD yn unfrydol:-
· Bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Ddogfen Gynnig fel (1) sail ar gyfer strategaeth ranbarthol tymor hwy ar gyfer twf economaidd, a (2) y cais rhanbarthol ar gyfer y rhaglenni a'r prosiectau blaenoriaeth a ddefnyddir i ffurfio cynnwys y Cynllun Twf ar y cam Penawdau'r Telerau gyda'r Llywodraethau. Nid yw mabwysiadu yn ymrwymo’r Cyngor i fuddsoddiad ariannol o gwbl ar y cam hwn ac mae’n amodol ar nodi risgiau a buddion ariannol y Cynllun Twf terfynol yn fanwl, i’w hystyried yn llawn, pan gaiff y Cynllun terfynol ei gyflwyno er cymeradwyaeth yn ddiweddarach.
· Bod y Cyngor yn nodi bod yr Arweinydd wedi cael awdurdod gan y Pwyllgor Gwaith i ymrwymo'r Cyngor i’r Penawdau Telerau gyda'r
Llywodraethau law yn llaw ag arweinyddion gwleidyddol a phroffesiynol o'r naw partner statudol arall a gynrychiolir ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a Chyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy, gyda'r Ddogfen Gynnig yn gosod y ffiniau ar gyfer y cytundeb Penawdau'r Telerau.
Dogfennau ategol: