Eitem Rhaglen

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Professiwn, AD a Thrawsnewi fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 15 Hydref, 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid fel y cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 15 Hydref, 2018. 

 

Adroddodd Deilydd Portffolio Busnes y Cyngor ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 ynghyd â chynnydd y Cyngor yn erbyn Amcanion Llesiant yr Awdurdod. Amlinellodd y Deilydd Portffolio gyflawniadau’r Cyngor yn ystod 2017/18 fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cyfeiriodd ymhellach at y Dangosyddion Perfformiad ar gyfer 2017/18 ynghyd â’r Dangosyddion Cenedlaethol, y cyfeirir atynt fel Mesurau Atebolrwydd Perfformiad (PAM) sy’n cymharu pob awdurdod lleol yn erbyn yr un  dangosyddion. Yn 2017/18, mae 50% o ddangosyddion yr Awdurdod hwn wedi gwella, 36% wedi gostwng ac roedd 14% o’r dangosyddion yn newydd. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio at agoriad y Parc Gwyddoniaeth gwerth £20 miliwn yn Gaerwen sy’n ddatblygiad newydd gan Brifysgol Bangor a tuag at y gwaith adeiladu gan Grŵp Llandrillo Menai ar Ganolfan Hyfforddiant Peirianneg newydd gwerth £14 miliwn yn Llangefni. Nododd ymhellach bod ymgysylltiad parhaus yn digwydd gyda datblygiadau ynni sylweddol gyda’r nod o greu swyddi a chynyddu ffyniant drwy fanteisio ar nifer o brosiectau trawsnewid sy’n cynnwys Minesto a Morlais er mwyn datblygu potensial ynni morol Ynys Môn a Phŵer Niwclear Horizon. Nododd ymhellach bod 3 Ysgol 21ain Ganrif wedi eu hadeiladu ar yr Ynys sydd â chyfleusterau modern ar gyfer plant yr Ynys. Nododd mai Ynys Môn sydd â’r gyfradd ailgylchu orau o'r 22 awdurdod lleol gyda 72.2% o’i wastraff un ai’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio. Mae’r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i fod y Cyngor cyntaf yng Nghymru i geisio statws di-blastig. Dywedodd y Deilydd Portffolio hefyd fod y Cynllun Gofal Ychwanegol, Hafan Cefni yn Llangefni bellach wedi agor. Mae Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi wedi’i ailfodelu a’i adfer a bydd yn darparu lle i swyddfeydd newydd yn ogystal â bod yn gartref i’r Llyfrgell yn y dref.    

 

Cyfeiriwyd at y meysydd canlynol lle gellid gwneud gwelliannau pellach yn y dyfodol:-  

 

·      Mae angen i ysgolion newydd gael eu cwblhau o fewn amserlen benodol a dylid sicrhau bod cosb ariannol yn cael ei gynnwys yng nghontractau’r dyfodol wrth i ysgolion newydd gael eu hadeiladu;

·      Mae angen adnabod ardal Niwbwrch ac yn enwedig ardal Traeth Llanddwyn. Mae angen cyllid er mwyn gwella’r rhwydwaith priffyrdd yn yr ardal.   

·      Mae angen rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru gan nad yw trigolion yn gallu ymdopi â cynnydd blynyddol parhaus yn y Dreth Gyngor (awgrymwyd gan Aelod Etholedig y dylai Llywodraeth Cymru ystyried codi tâl am bresgripsiynau yn hytrach na rhoi presgripsiynau am ddim fel y gwneir ar hyn o bryd). 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      y dylid cyhoeddi fersiwn terfynol o’r Adroddiad Perfformiad 2017/18 erbyn y dyddiad statudol ar ddiwedd mis Hydref

·      bod Adran 3.2 y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio i gynnwys cymeradwyo penderfyniadau ar gyfer Datganiad ac Amcanion Llesiant y Cyngor yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2016 fel swyddogaeth y mae’n rhaid i’r Cyngor Llawn ei chyflawni.

·      Cytuno i awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r materion sydd wedi eu neilltuo fel swyddogaethau y mae’n rhaid i’r Cyngor llawn eu cymeradwyo yn y Cyfansoddiad ynghyd ag unrhyw newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud o ganlyniad i adlewyrchu hynny.

 

Dogfennau ategol: