Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd ar gyfer argymhelliad gan y Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys cyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019/20.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod angen i’r Pwyllgor Gwaith gynnig cyllideb gyfalaf ar gyfer 2019/20 a fydd wedyn yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, 2019. Roedd yr adroddiad yn gosod allan y brif raglen gyfalaf ar gyfer 2019/20 ynghyd â bidiau am gynlluniau ychwanegol yr oedd angen arweiniad gan y Pwyllgor Gwaith yn eu cylch.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gyllideb gyfalaf graidd yn ymgorffori’r strategaethau cyfalaf blaenorol sy’n seiliedig ar fuddsoddi mewn T.G., asedau cerbydau ac adeiladau, gosod wynebau newydd ar ffyrdd a darparu grantiau cyfleusterau i’r anabl yn unol â’r gofyniad statudol. Yr un modd â’r gorffennol, nid oes fawr o newid yn lefel y cyllid cyfalaf craidd y mae’r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru (yn cynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a’r Benthyciadau gyda Chymorth heb eu neilltuo) sy’n golygu bod ei allu i wario yn gostwng bob blwyddyn gyda hynny’n cyfyngu ar yr hyn y gall y Cyngor ei wneud. Dros y blynyddoedd, mae’r Cyngor wedi defnyddio derbyniadau cyfalaf o werthu asedau nad oes eu hangen mwyach fel cyfraniad tuag at wariant cyfalaf. Fodd bynnag, ac eithrio’r safleoedd ysgolion sydd wedi cael eu rhyddhau o ganlyniad i’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - mae’r arian a geir o hynny wedi cael ei glustnodi tuag at adeiladu ysgolion newydd - ychydig iawn o asedau eraill sydd gan y Cyngor i’w gwerthu ac o ganlyniad, mae’r swm sydd ar gael o dderbyniadau cyfalaf i ariannu gwariant cyfalaf newydd yn llai o lawer nag yr oedd yn y gorffennol.
Cyfeiriodd y Swyddog at yr isod fel materion y mae angen arweiniad gan y Pwyllgor Gwaith ar gyfer symud ymlaen –
• Mewn cyllidebau cyfalaf yn y gorffennol, mae £1m o gyllid cyfalaf wedi cael ei glustnodi tuag at brosiect Gofal Ychwanegol Seiriol. Fodd bynnag, oherwydd y bydd y prosiect hwn yn awr yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl drwy’r Cyfrif Refeniw Tai, gellir yn awr ryddhau’r £1m a glustnodwyd i gyllido prosiectau cyfalaf eraill – mae angen penderfynu a dyllid rhyddhau’r arian hwn ai peidio.
• Yn Rhaglen Gyfalaf 2018/19, cafodd swm o £1.858m ei glustnodi ar gyfer y safleoedd parhaol a dros dro i Sipsiwn a Theithwyr gyda hynny’n cynnwys £0.450m o grant allanol ar gyfer y safle parhaol a £1.408m o adnoddau’r Cyngor ei hun. Bwriedir gwario £0.120m ar y cynllun yn 2018/19 gan olygu y bydd £1.288m o arian y Cyngor nad ydyw wedi ei ddefnyddio yn cael ei gario drosodd i 2019/20. Gan fod caniatâd cynllunio bellach wedi cael ei sicrhau ar gyfer y safle dros dro, mae £0.778m wedi cael ei gynnwys yn rhaglen gyfalaf ddrafft 2019/20 ar gyfer cwblhau’r prosiect hwn. Nid yw’r cynlluniau ar gyfer y safle parhaol wedi mynd rhagddynt mor gyflym – nid yw caniatâd cynllunio wedi cael ei roddi eto ac mae angen gwneud gwaith pellach ar hyfywedd ariannol y prosiect. Mae angen gwneud penderfyniad felly ynghylch a ddylid rhyddhau’r swm o £0.51m sy’n weddill er mwyn ariannu prosiectau cyfalaf eraill yn 2019/20. Unwaith y bydd y cynllun wedi cael ei gwblhau a’r costau wedi cael eu cytuno, bydd arian cyfalaf yn cael ei neilltuo ar gyfer y prosiect rhywbryd yn y dyfodol.
• Mae 10 o fidiau cyfalaf newydd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer eu cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2019/20 Capital (gweler y Tabl yn adran 3.3 yr adroddiad). Mae’r rhain yn dod i gyfanswm o £1.746m a byddai £0.949m yn cael ei ariannu’n allanol a’r £0.797m sy’n weddill yn cael ei ariannu o adnoddau’r Cyngor. Gellid ariannu’r bidiau i gyd, y 10 ohonynt, o’r £1.510m y gofynnwyd iddo gael ei drosglwyddo’n ôl i’r gronfa gyffredinol (wedi ei wneud i fyny o’r £1.0m a ryddhawyd o brosiect Gofal Ychwanegol Seiriol a £0.51m o’r arian nad yw wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y safle parhaol i Sipsiwn fel yr amlinellir uchod).
• Mae’r Pwyllgor Gwaith yn y gorffennol wedi cymeradwyo rhyddhau £0.25m o’r gronfa gyfalaf wrth gefn i ariannu prosiectau Buddsoddi i Arbed bychan. Unwaith eto, gwahoddwyd gwasanaethau i fidio am yr arian a derbyniwyd 2 fid a oedd rhyngddynt werth £0.400m (Effeithlonrwydd Ynni mewn Adeiladau Corfforaethol - £250k a phrynu 4 o gerbydau LPG newydd a 4 o gerbydau trydan - £150k). Gellid ariannu’r 2 fid o’r £1.510m y gofynnwyd iddo gael ei drosglwyddo’n ôl i’r gronfa gyffredinol.
• Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd grant ychwanegol o £20m ar gael ar gyfer 2019/20 er mwyn ail-wynebu Priffyrdd - byddai Ynys Môn yn derbyn oddeutu £0.580m. Mae angen penderfynu a yw’r grant yn ychwanegol at y buddsoddiad cyfalaf isaf o £0.779m sydd ei angen i ddiwallu’r contract Priffyrdd yn 2019/20 gan gadw mewn cof bod y cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn dweud bod angen gwario dros £2m y flwyddyn ar ail-wynebu ffyrdd er mwyn sicrhau bod ffyrdd yn cael eu cynnal i’r safon gyfredol. Mae’r gyllideb gyfalaf a gynigiwyd yn cymryd yn ganiataol bod y grant yn ychwanegol at y buddsoddiad cyfalaf isaf sydd ei angen gan olygu bod y gyllideb gyfalaf ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd yn cynyddu i £1.359m.
Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a’r cynigion a nododd ei fod yn cefnogi rhyddhau’r £1.510m nad oedd wedi cael ei wario ar gynllun Gofal Ychwanegol Seiriol a’r Safle Preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn ôl i’r Gronfa Gyffredinol er mwyn cyllido’r cyfan o’r 10 bid newydd ynghyd â’r 2 brosiect Buddsoddi i Arbed a gyflwynwyd. Yn wyneb y cadarnhad a gafwyd gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y byddai - petai faint fyd a fynnir o arian ar gael - angen £66m i ddod â holl ffyrdd yr Awdurdod i fyny i safon dderbyniol, cadarnhaodd y Pwyllgor Gwaith y dylai’r cyllid grant ychwanegol a gafwyd ar gyfer Priffyrdd fod yn ychwanegol at y buddsoddiad cyfalaf isaf yr oedd ei angen.
Penderfynwyd -
• Argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2019/20 i’r Cyngor llawn:-
£’m
Cynlluniau Ymrwymedig a Ddygwyd Ymlaen o 2018/19 £13.429
Buddsoddi mewn Asedau presennol £ 2.539
Ail-wynebu Priffyrdd £ 1.359
Ysgolion yr 21ain Ganrif £ 7.563
Cyfanswm Cynlluniau Cyfalaf y Gronfa Gyffredinol £24.890
Cynlluniau Cyfalaf CRT £13.110
Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig 2019/20 £38,000
Cyllidir drwy:-
Gyllid a ddygwyd ymlaen o 2018/19 £ 1.099
Grant Cyfalaf Cyffredinol £ 1.327
Benthyca â Chefnogaeth £ 2.026
Benthyca Di-gefnogaeth – Ysgolion yr 21ain Ganrif £ 1.847
Benthyca â Chefnogaeth– Ysgolion yr 21ain Ganrif £ 1.943
Grantiau Allanol £18.728
Grant Atgyweirio Priffyrdd £ 0.580
Benthyca Di-gefnogaeth CRT £ 1.000
Cyllid CRT £ 9.450
Cyfanswm Cyllid £38.000
• Bod £1.510m o gyllid heb ei ddefnyddio ar gyfer Gofal Ychwanegol Seiriol a Safleoedd Preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei ryddhau yn ôl i’r Gronfa Gyfalaf Gyffredinol i gyllido’r canlynol –
• Elfen y Cyngor o’r cyllid ar gyfer y 10 bid cyfalaf newydd a nodir ym mharagraff 3.3 yr adroddiad (£797k)
• Prosiectau Buddsoddi i Arbed:- Effeithiolrwydd Ynni mewn Adeiladau Corfforaethol (£250k) a phrynu Cerbydau LPG a Thrydan newydd (£150k)
• Cadarnhau bod y grant ychwanegol ar gyfer ail-wynebu Priffyrdd (£580k) yn ychwanegol i’r isafswm buddsoddiad cyfalaf (£779k)
(Ymataliodd y Cynghorydd R. Meirion Jones rhag cymryd rhan a phleidleisio yn y rhan honno o’r eitem a oedd yn ymwneud â’r safle dros dro i Sipsiwn a Theithwyr yn Star, Gaerwen)
Dogfennau ategol: