Eitem Rhaglen

Strategaeth Rhanbarthol Digartrefedd

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Strategaeth Dai, Comisiynu a Pholisi.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth (Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Sgriwtini bod Mrs Wendy Hughes, Prif Weithredwr, Digartref Cyf, wedi derbyn gwahoddiad i’r cyfarfod ond nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd salwch.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi bod Rhan 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynnal adolygiad o ddigartrefedd a mabwysiadu strategaeth ddigartrefedd yn 2018.  O dan adran 50 y Ddeddf, mae strategaeth ddigartrefedd yn strategaeth ar gyfer cyflawni’r amcanion a ganlyn yn ardal yr awdurdod tai lleol:- 

 

·      Atal digartrefedd;

·      Sicrhau bod llety addas ar gael i bobl sydd yn ddigartref neu a allai fod yn ddigartref;

·      Sicrhau bod cefnogaeth foddhaol ar gael i bobl sydd yn ddigartref neu a allai fod yn ddigartref;

 

Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol a bydd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei mabwysiadu ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben ar 20 Tachwedd, 2018.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi fod y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wedi cydweithio er mwyn sefydlu Strategaeth Ddigartrefedd ac i rannu gwybodaeth a phrofiadau. Yn ogystal mae’r Sefydliad Tai Siartredig wedi darparu adnoddau a chefnogaeth ychwanegol er mwyn cynorthwyo i lunio’r Strategaeth. Nododd fod Project Development Workshop Ltd (PDW) wedi cael eu comisiynu i gynnal adolygiad lleol ar gyfer Ynys Môn. Roedd data ar gyfer y cyfnod Ebrill i Hydref yn dangos fod 377 o bobl wedi cael cyswllt â’r Gwasanaeth Digartrefedd naill ai drwy apwyntiad wedi ei drefnu neu drwy alw yn Swyddfeydd y Cyngor i ddweud wrth staff eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref neu eu bod yn ddigartref. Y rhesymau dros fod yn ddigartref oedd perthynas yn torri i lawr, teulu neu riant ddim yn gallu cynnig lle i aros neu adael carchar.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn fodlon â’r cydweithio oedd wedi digwydd wrth gynhyrchu’r Strategaeth Ddigartrefedd ar draws y rhanbarth a diolchodd i’r staff am eu gwaith.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·      Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â sut fydd y Strategaeth Ddigartrefedd yn cael ei monitro. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi fod Grŵp Cyflawni Strategaeth Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu sydd yn cynnwys Swyddogion Strategaeth Tai o’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru er mwyn rhannu gwybodaeth a gweithredu’r Strategaeth Ddigartrefedd gyda chefnogaeth y Sefydliad Tai Siartredig. Ar lefel leol, nododd y byddai adroddiadau monitro’n cael eu cyflwyno i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a gellir rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’r Pwyllgor Sgriwtini;

·      Cyfeiriwyd at y ffaith fod Cyngor Gwynedd wedi allanoli ei Stoc Dai a gofynnwyd a fyddai hynny’n cael effaith ar gydweithio mewn perthynas â’r Strategaeth Ddigartrefedd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi fod Digartrefedd yn swyddogaeth statudol i bob awdurdod lleol. Mae gan Gyngor Gwynedd a’r Cyngor hwn bolisi gosod cyffredinol ac mae blaenoriaeth yn cael ei fesur yn erbyn y polisi hwnnw pan fydd person yn dod yn ddigartref ac ni ystyriwyd fod unrhyw rwystrau os yw awdurdod lleol wedi allanoli ei stoc dai;

·      Cyfeiriodd yr Aelodau at yr ystadegau/data sydd rhaid eu darparu o fewn y strategaeth sydd yn berthnasol i’r Awdurdod hwn. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi, gan fod ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal ar y Strategaeth Ddigartrefedd ar hyn o bryd bod cyfle i addasu’r strategaeth a chynnwys data lleol ar gyfer Ynys Môn os yw’r Pwyllgor yn dymuno;

·      Cyfeiriwyd at y ffaith fod yr adroddiad yn nodi bod 50% o bobl a holwyd wedi datgan nad oedd staff yn yr awdurdodau lleol yn gymwynasgar nac yn gwrtais wrth ddelio â’r sefyllfaoedd anodd y mae pobl yn eu hwynebu. Roedd Aelodau o’r farn nad oedd y Strategaeth Ddigartrefedd yn delio â’r mater hwn ac awgrymwyd y gallai’r Awdurdod hwn arwain ar anghenion hyfforddi posibl staff yn y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru wrth ddelio gyda sefyllfaoedd sensitif yn ymwneud â digartrefedd.

·      Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn ag a yw’r Cyngor yn gallu cyfarfod ag anghenion pobl ddigartref pan fyddant yn cysylltu â’r Awdurdod. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi fod rheoli disgwyliadau yn her. Rhaid i’r cyngor asesu sefyllfa’r person a rhaid glynu at y meini prawf a gynhwysir mewn deddfwriaeth ddigartrefedd;

·      Cyfeiriwyd at Ganolfan Ddigartrefedd Lighthouse yng Nghaergybi a’r cyfleusterau a ddarperir gan Digartref Cyf. Gofynnwyd a oes cyfleuster ar Ynys Môn y gellid ei ddefnyddio i gynnig llety dros nos i bobl ddigartref yn ystod misoedd y gaeaf. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi nad oes gan yr Awdurdod hwn ganolfan i ddarparu llety dros nos i bobl ddigartref. Mewn tywydd eithafol nododd fod gan yr Awdurdod brotocol ar gyfer cynnig llety gwely a brecwast i bobl ddigartref sy’n cysgu allan.

·      Mae’r adroddiad yn nodi bod 75% o bobl ddigartref angen llety un ystafell wely. Dywedodd Aelodau fod rhai pobl ddigartref yn cael eu rhoi mewn fflatiau un ystafell a llety gwely a brecwast nad ydynt bob amser yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig ac sy’n gallu bod yn gostus i’r Awdurdod. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi y byddai’r Awdurdod yn mynd yn groes i ganllawiau Llywodraeth Cymru petaent yn rhoi person digartref mewn llety anaddas. Cynhelir trafodaethau gyda landlordiaid preifat a rhaid iddynt gofrestru gyda ‘Rhentu Doeth Cymru’ a chydymffurfio â gofynion Deddf Tai (Cymru) 2014. Hefyd, rhaid i lety gwely a brecwast fod yn ddigon da i bobl aros yno;

·      Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn pobl sydd â phroblemau Iechyd Meddwl. Gofynnwyd sut mae pobl sydd â phroblemau Iechyd Meddwl yn cael eu cynnwys yn y Strategaeth Ddigartrefedd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi fod yr Awdurdod hwn wedi sefydlu llwybr Iechyd Meddwl ble mae asiantaethau perthnasol (h.y. Awdurdod Iechyd ac Elusen Iechyd Meddwl Hafal) yn cyfarfod i gynorthwyo personau sydd â phroblemau Iechyd Meddwl ac i drafod sut y gall yr Awdurdod hwn helpu i ddarparu llety ar gyfer y bobl hyn;

·      Dywedodd Aelodau bod posib y byddai datblygiadau mawr yn dod i Ynys Môn yn y dyfodol allai effeithio ar lety sector preifat gan arwain at gynnydd mewn rhenti a chynnydd yn nifer y bobl sy’n methu a fforddio talu rhenti uwch. Cyfeiriwyd hefyd at y cynllun Credyd Cynhwysol fydd yn cael ei gyflwyno ar Ynys Môn ddiwedd y flwyddyn hon a allai olygu fod pobl yn methu talu eu rhent ac yn cael eu gwneud yn ddigartref. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Tai, Strategaeth, Comisiynu a Pholisi fod y Gwasanaethau Tai wedi cyfrannu’n helaeth at y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) mewn perthynas â phrosiect Wylfa Newydd ac wedi codi cwestiynau ynglŷn â’r effaith bosib ar argaeledd tai ar yr Ynys a’r effaith ar bobl leol mewn llety rhent preifat. Nododd y bydd yr Awdurdod hwn yn adeiladu mwy o dai cymdeithasol yn ystod y 3 i 4 blynedd nesaf a’i bod yn hanfodol fod stoc tai o’r fath yn barod er mwyn cwrdd â galw yn lleol. Hefyd, cyfeiriodd y Swyddog at y cynllun Credyd Cynhwysol fydd yn cael ei gyflwyno ar Ynys Môn ym mis Rhagfyr a nododd fod staff o’r Cyngor a gwahanol asiantaethau wedi derbyn llawer iawn o hyfforddiant a chynhaliwyd sioeau teithiol ar hyd a lled yr Ynys i godi ymwybyddiaeth am y Credyd Cynhwysol a phroblemau y gallai tenantiaid sydd yn rhentu gan y Cyngor a landlordiaid preifat eu hwynebu.

 

PENDERFYNWYD argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo’r Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol a’r Cynllun Gwaith Lleol. 

 

GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: