Eitem Rhaglen

Partneriaeth Angenion Addysgol Ychwanegol - Gwynedd a Môn

Cyflwyno adroddiad gan Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Uwch Reolwr – Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn perthynas â’r uchod.

 

Cyflwynodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid yr adroddiad i’r Pwyllgor a mynegodd ei werthfawrogiad i’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad am y cynnydd o fewn y gwasanaeth hyd yma.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol fod y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (ADYaCh) wedi cael ei sefydlu ym mis Medi 2017 a bod yr adroddiad yn amlygu cynnydd disgyblion yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ym mhob un o’r gwasanaethau a ddarperir er mwyn sicrhau fod partneriaeth Awdurdod Addysg Gwynedd ac Ynys Môn yn derbyn gwasanaeth effeithiol ac effeithlon. Nododd mai prif wendidau’r gwasanaeth AAA blaenorol oedd diffyg data craidd i ddangos beth oedd y gwasanaeth yn ei gyflawni ac i fonitro cynnydd disgyblion.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn manylder am y gwasanaethau a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant a’r cynnydd hyd yma, fel y nodwyd yn yr adroddiad, fel a ganlyn :-

 

·           Gwasanaeth Cyfathrebu a Rhyngweithio

·           Gwasanaeth Synhwyraidd a Meddygol

·           Gwasanaeth Anghenion Dysgu Penodol

·           Gwasanaeth Seicolegydd Addysgol

·           Gwasanaeth Cynnal Ymddygiad

·           Gwasanaeth Lles

·           Darpariaeth Hyfforddiant Gwasanaeth ADYaCh Gwynedd a Môn

·           Datblygu Ysgolion ADP Gyfeillgar

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·           Cyfeiriwyd at y tri phrif maes sy’n achosi’r pryder mwyaf mewn ysgolion sef problemau llythrennedd a sillafu, iaith ac awtistiaeth a phroblemau ymddygiad. Dywedodd Aelodau fod y ffigyrau sy’n cael eu hadrodd yn awr ar gyfer y gwasanaethau hyn wedi gostwng yn sylweddol a gofynnwyd pam fod hynny wedi digwydd. Dywedodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol fod disgyblion yn gallu derbyn cymorth yn gynt erbyn hyn oherwydd bod lefelau staffio uwch yn y Gwasanaeth ADYaCh newydd. Mae atgyfeiriadau gan ysgolion yn cael eu cyfeirio at Fforwm o Arbenigwyr sy’n golygu bod modd rhoi cefnogaeth arbenigol yn gynt i blentyn sydd angen sylw. Gofynnwyd sut oedd y gwasanaeth yn perfformio yn Ynys Môn o gymharu â’r gwasanaeth yng Ngwynedd. Dywedodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol fod y Gwasanaeth ADYaCh wedi ymateb yn effeithiol i anghenion yn ysgolion Môn a’i fod yn debyg i’r sefyllfa yn ysgolion Gwynedd. Nododd petai’r angen yn codi am fwy o wasanaeth ADY ar Ynys Môn fod y gwasanaeth yn ddigon hyblyg i ddarparu cyfleuster o’r fath;

·           Cyfeiriwyd at y problemau sy’n wynebu ysgolion wrth benodi Cymorthyddion Dysgu (AAA). Gofynnwyd sut mae’r Gwasanaeth ADYaCh yn gallu cynorthwyo i hyfforddi a recriwtio Cymorthyddion Dysgu (AAA). Dywedodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol mai mater i ysgolion yw’r Cymorthyddion Dysgu (AAA) a gyflogir gan yr ysgolion a bod Cymorthyddion Dysgu sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaeth ADYaCh yn cael eu cyflogi gan y gwasanaeth hwnnw. Mae’r Gwasanaeth ADYaCh yn darparu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer Cymorthyddion Dysgu (ADY) er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cefnogi plant sydd ag anghenion penodol;

·           Mynegwyd pryderon fod rhai rhieni’n cwyno o hyd fod rhaid disgwyl amser hir i dderbyn adborth ynglŷn â chyflwr eu plentyn a’u hanghenion. Dywedodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol ei bod yn anodd i rai rhieni dderbyn fod gan eu plentyn broblem ac y gall y broses gymryd amser, gan ddibynnu ar bwy sy’n rhoi’r diagnosis h.y. y Gwasanaeth Iechyd neu Seicolegydd Addysgol;

·           Gofynnwyd cwestiynau am y risgiau a’r gwendidau y mae’r Gwasanaeth ADYaCh yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Dywedodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol mai’r prif wendidau yr oedd y Gwasanaeth ADYaCh yn eu hwynebu oedd nad oedd Cynllun Datblygu Personol electronig mewn lle a’i bod yn cymryd amser i weinyddu gohebiaeth gyda rhieni;

·           Dywedwyd fod rhai plant yn derbyn eu haddysg gartref. Gofynnwyd cwestiynau am y ddeddfwriaeth a’r ffaith fod plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn derbyn un ymweliad yn unig gan y Gwasanaeth Addysg er mwyn monitro eu cynnydd. Dywedodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol fod canran y plant sy’n cael eu haddysgu gartref ar Ynys Môn yn isel o gymharu â rhannau eraill o Gymru. Mewn perthynas â deddfwriaeth Addysg Gartref nododd fod y Gwasanaeth Dysgu yn ymateb i’r gofynion statudol i gynnal un ymweliad cartref.

 

Diolchodd y Pennaeth Dysgu i’r Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol am ei hadroddiad. Dywedodd fod Penaethiaid wedi cael cyfle i ymateb i’r gwasanaeth a ddarparwyd gan y gwasanaeth ADYaCh ac i roi adborth ar faterion sydd wedi derbyn sylw neu y mae angen rhoi sylw pellach iddynt o fewn y gwasanaeth. Dywedodd ei fod yn pryderu, pan fydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn cael ei chyhoeddi, y bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am blentyn/person ifanc sydd ag anghenion arbennig nes y byddant yn 25 mlwydd oed; gallai hynny o bosib fod yn her ariannol i awdurdodau lleol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

GWEITHREDU: DIM

 

Dogfennau ategol: