Eitem Rhaglen

Strwythur Llywodraethiant a Threfniadau Cyflawni Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn

Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi ymrwymo i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r Cyngor yn darparu amrywiaeth o wasanaethau fydd yn cyflawni ei amcanion llesiant unigol, yn ogystal â chefnogi amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Nododd bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi cael ei sefydlu yn 2016, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Ynys Môn a fyddai’n cydweithio efo Gwynedd. Cyhoeddodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Asesiad o Lesiant ar gyfer Ynys Môn ym mis Mai 2017 ac yn dilyn nifer o sesiynau ymgysylltu ac ymgynghori cyhoeddwyd y Cynllun Llesiant yn 2018. Cytunodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar chwe maes blaenoriaeth i gyflenwi amcanion y Bwrdd sy’n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad. Sefydlwyd pum Is-grŵp i roi sylw i’r meysydd blaenoriaeth ac enwebwyd Aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Arweinwyr ar yr Is-grwpiau. Yr Is-grwpiau yw :-

 

·      Is-grŵp yr Iaith Gymraeg;

·      Is-grŵp Cartrefi ar gyfer pobl leol;

·      Is-grŵp Effaith Tlodi ar lesiant ein Cymunedau;

·      Is-grŵp Effaith newid hinsawdd ar lesiant ein Cymunedau;

·      Is-grŵp Iechyd a Gofal Integredig

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y prif gwestiynau sgriwtini a gynhwyswyd yn yr adroddiad ac adroddodd fel a ganlyn :-

 

·      Sut mae’r Bwrdd yn rheoli ei Flaen Rhaglen Waith?  - Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi sefydlu Is-Grwpiau ac mae’n rhaid llunio Cynlluniau Gweithredu cyn bod modd cynhyrchu Blaen Raglen Waith;

·      A fedrwch amlinellu sut mae’r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau fel partneriaeth strategol? – Rhoddwyd enghraifft fod Is Grŵp yr Iaith Gymraeg wedi cyflwyno bid i Lywodraeth Cymru am adnoddau i gyllido prosiect ar y cyd gyda’r nod o ddatblygu sgiliau a hyder siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, a newid arferion ieithyddol (defnyddio’r Gymraeg);

·      Sut mae’r Bwrdd yn rheoli perfformiad blaenoriaethau’r Is-grwpiau cyflawni?-  Bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn herio penderfyniadau a wneir gan yr Is-grwpiau yn unol â Chynllun Gweithredu’r Is-grwpiau a Rhaglen Waith y Bwrdd;

·      A oes yna unrhyw rwystrau neu risgiau penodol wrth gyflawni ei raglen waith yn wyneb yr hinsawdd ariannol?  A oes gan yr Aelod sy’n cynrychioli’r Cyngor unrhyw sylwadau ar gyflawni rhaglen waith y Bwrdd? - Mae’r holl sefydliadau partner o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn wynebu toriadau ariannol yn eu gwasanaethau. Mae’r Bwrdd yn ceisio sefydlu ethos gwaith gwell er mwyn cyflawni'r rhaglen waith a chydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·      Gofynnwyd a fyddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn uwchraddio ei wefan; ar hyn o bryd ychydig iawn o wybodaeth a roddir am waith y Bwrdd. Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod sefydlu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi bod yn her o safbwynt cael yr holl sefydliadau partner mewn lle. Roedd yn falch o adrodd bod y sefydliadau partner sy’n aelodau o’r Bwrdd yn cytuno ag amcanion y Bwrdd erbyn hyn a bydd gwybodaeth yn cael ei chynnwys ar wefan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus maes o law;

·      Nodwyd y bydd Panel Sgriwtini ar y cyd yn cael ei sefydlu rhwng Gwynedd ac Ynys Môn a gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â gwaith y cyfryw Banel. Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ei bod yn fwriad creu Panel Sgriwtini ar y cyd pan sefydlwyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cynhelir cyfarfod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Rhagfyr a chynhelir trafodaeth ar y mater bryd hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi  :-

 

·           strwythur llywodraethu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn;

·           trefniadau cyflawni’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar bwyntiau penodol. 

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: