Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2018/19

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid ac Adnoddau Dynol yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2018/19.

 

Wrth adrodd fod sefyllfa gyffredinol y Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol (fel y’u cytunwyd ar y cyd gan yr Uwch Dîm Rheoli, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol) ar ddiwedd Chwarter 2 yn galonogol, tynnodd yr Arweinydd sylw at y pwyntiau canlynol er ystyriaeth –

 

           Dim ond 2 Ddangosydd Perfformiad - y ddau yn y Gwasanaethau Oedolion - sydd wedi tanberfformio, a manylir arnynt yn adran 2.4.3 yr adroddiad. Mewn perthynas â PM20a - Canran yr oedolion a gwblhaodd gyfnod ail-alluogi ac sydd â phecyn gofal a chymorth llai o faint chwe mis yn ddiweddarach - nodwyd fod nifer fechan yr achosion dan sylw yn cael effaith ar y data perfformiad; mewn perthynas â PAM/025 (PM19) - Cyfradd y bobl a gedwir yn yr ysbyty wrth aros am ofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth 75+ oed - rhagwelir y bydd y contract Gofal Cartref seiliedig ar ardaloedd a gomisiynwyd yn ddiweddar yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddata Chwarter 3. Mae’r UDA yn cydnabod y sefyllfa ac yn argymell parhau i weithredu’r mesurau lliniaru.

           Fod perfformiad Chwarter 2 mewn perthynas â rheoli absenoldeb salwch wedi gwella o gymharu â Chwarter 1 ac er ei fod ychydig yn is na’r targed o gymharu â’r un cyfnod yn 2017/18 mae’n well na chanlyniadau 2016/17. Mae absenoldeb salwch ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion yn Chwarter 2 wedi gwella’n sylweddol ac mae’r perfformiad yn well nag y bu ar unrhyw adeg yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. Yn yr un modd, mae ffigyrau absenoldebau salwch y Gwasanaeth Dysgu wedi gwella ers Chwarter 1. Mae’r UDA wedi blaenoriaethau’r ddau wasanaeth i wella eu cyfraddau salwch blynyddol ymhellach yn Chwarter 3. 

           Mewn perthynas â rheoli Cwynion Cwsmeriaid, derbyniwyd 29 o gwynion o gymharu â 43 yn Ch2 yn 2017/18 ac ymatebwyd i 92% o fewn yr amserlen. Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol derbyniwyd 4 o gwynion Cam 2 (Gwasanaethau Oedolion) a 26 o gwynion Cam 1 (Gwasanaethau Plant – 19 a Gwasanaethau Oedolion – 7). O’r cwynion hynny ymatebwyd i 50% ohonynt o fewn yr amserlen (Coch ar y cerdyn sgorio) ac roedd 13 o ymatebion hwyr – 10 yn y Gwasanaethau Plant a 3 yn y Gwasanaethau Oedolion. Mae’r UDA yn argymell parhau i fonitro’r dangosyddion yn y Gwasanaethau Plant ynghyd â gofyn i’r Gwasanaeth ail-werthuso ei weithdrefn rheoli cwynion er mwyn gwella cyfradd yr ymatebion ysgrifenedig o fewn yr amserlen.

           Mewn perthynas â rheolaeth ariannol, ar hyn o bryd rhagwelir y bydd gorwariant o £2.660m yng nghyllideb 2018/19 erbyn diwedd y flwyddyn, ac mae hyn yn uwch na chyfanswm y gorwariant yn 2017/18. Mae’r gwasanaethau’n parhau i brofi pwysau cyllidebol sylweddol tebyg i’r hyn a welwyd yn 2017/18, yn benodol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaeth Dysgu. Mae’r UDA yn argymell parhau i graffu’n rheolaidd ar reolaeth ariannol corfforaethol a bod y Penaethiaid Gwasanaeth yn cymryd camau adferol er mwyn cynorthwyo gwasanaethau i gadw o fewn y cyllidebau y maent yn eu rheoli.

 

Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol fod taith y Cyngor o safbwynt gwella perfformiad yn ystod y 6 mlynedd ers cyflwyno’r arfer o gasglu ac adrodd ar ddangosyddion perfformiad mewn dull cydlynus a systematig wedi bod yn un arwyddocaol fel y tystia canlyniadau diwedd Ch2 sydd yn dangos tanberfformiad mewn perthynas â dim ond 2 o 30 dangosydd ar hyn o bryd. Dywedodd y Swyddog fod monitro parhaus yn hanfodol er mwyn cynnal perfformiad a sicrhau bod gwasanaethau yn cymryd camau pendant i reoli perfformiad lle mae modd iddynt wneud hynny, yn arbennig mewn perthynas ag absenoldeb salwch, all fod yn faes cymhleth ac y mae amgylchiadau yn gallu dylanwadu arno e.e. mae asesiad wedi dangos fod nifer y staff sydd yn derbyn triniaeth lawfeddygol neu yn y broses o ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn derbyn triniaeth o’r fath wedi bod yn uchel yn ddiweddar.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau a ganlyn –

 

           Roedd y Pwyllgor yn cydnabod fod rheoli gwariant yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar yr un pryd â diwallu’r galw yn fater cymhleth ac yn destun pryder gan fod costau yn parhau i gynyddu oherwydd bod nifer cynyddol o blant yn cael eu derbyn i ofal. Hefyd, roedd y Pwyllgor yn cydnabod ac yn derbyn sicrwydd o’r gwaith mae’r Panel Sgriwtini Cyllid yn ei wneud i fonitro’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaeth Dysgu, sef y ddau faes sydd â’r gorwariant mwyaf amlwg, ynghyd â’r mesurau lliniaru y mae’r ddau wasanaeth yn eu gweithredu er mwyn cadw gwariant dan reolaeth.

           Nododd y Pwyllgor, er y nodir yn aml fod y pwysau mwyaf ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cael ei achosi gan nifer y plant sy’n cael eu derbyn i ofal, nid yw’r un wybodaeth yn cael ei rhannu am nifer y plant a phobl ifanc sydd yn gadael y system ofal ac effaith hynny.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Deilydd Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Tîm Teuluoedd Gwydn a’r Tîm Trothwy Gofal yn gweithio gyda theuluoedd er mwyn atal plant rhag cael eu derbyn i ofal yn y lle cyntaf. Hefyd, mae’r Tîm Teuluoedd Gwydn yn gwneud gwaith er mwyn caniatáu i blant ddychwelyd yn ddiogel at eu teuluoedd lle bo hynny’n briodol. Mae darpariaeth ariannol ar gyfer y Tîm Trothwy Gofal wedi ei gynnwys yng nghyllideb ddrafft 2019/20 er mwyn cydnabod y pwysau parhaol ar y Gwasanaeth Plant a’r angen i waith y Tîm Trothwy Gofal barhau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod nifer o strategaethau a gyflwynwyd gan y Gwasanaeth yn dechrau cael effaith erbyn hyn. Mae trosglwyddo’r Tîm o Gwmpas y Teulu i’r Gwasanaethau Plant fel rhan o’r hyb Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth wedi gwneud gwahaniaeth yn arbennig mewn perthynas â darparu gwasanaeth drws ffrynt. Yn ogystal, mae’r Tîm Teuluoedd Gwydn wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol ac mae’n elfen hanfodol o’r agenda ataliol ac ymyrraeth gynnar. Mae angen gwneud mwy o waith gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal gan fod cynnydd yn nifer y plant mewn gofal yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n gadael gofal yn arbennig o safbwynt sicrhau eu bod yn ddiogel a’u bod yn meddu ar y sgiliau a’r addysg angenrheidiol ar gyfer bywyd a gyrfa ar ôl gadael gofal. Mewn perthynas â rheoli costau, yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, mae’r Gwasanaeth yn bwriadu cyflwyno menter Cartrefi Grŵp Bach a gwella’r pecyn cefnogaeth ar gyfer Gofalwyr Maeth yr Awdurdod a dylai hynny gynorthwyo i leihau costau yn y tymor hir. Ffactorau penodol sydd wedi cael effaith ar gostau eleni yw achosion etifeddiaeth, h.y. achosion sy’n cael eu hail-agor er mwyn eu hadolygu, yn ogystal â theuluoedd mawr ac mae hyn wedi cynyddu niferoedd yn ogystal â chostau. Dywedodd y Swyddog fod 160 o blant yn derbyn gofal ar hyn o bryd, 20 yn fwy na’r nifer 6 i 9 mis yn ôl. Er bod niferoedd y plant yn ymddangos yn gyson, nid yr un plant ydyn nhw o reidrwydd – mae plant eraill sy’n dod i mewn i ofal yn cymryd lle plant sy’n gadael y system ofal i fyw gyda’u teuluoedd estynedig.

 

           Nododd y Pwyllgor y byddai dadansoddiad o nifer y plant sy’n gadael gofal yn ogystal â phlant sy’n dod i mewn i’r system ofal yn ddefnyddiol er mwyn arfarnu effaith y gwaith sy’n cael ei wneud i ddychwelyd plant at eu teuluoedd; dylid rhannu’r wybodaeth hon â’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn ogystal â’r Panel Sgriwtini Cyllid. Hefyd, byddai asesiad o effaith y Tîm Teuluoedd Gwydn ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf yn ddefnyddiol.

 

           Cyfeiriodd y Pwyllgor at adroddiad diweddar y Cenhedloedd Unedig ynghylch lefelau uchel o dlodi yn y DU, gan gynnwys tlodi plant a digartrefedd. Gofynnodd y Pwyllgor a yw’r Cyngor yn ymwybodol o bobl ifanc wedi gadael gofal sydd yn ddigartref neu wedi bod yn ddigartref.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod rhaid cymryd gofal wrth ddefnyddio’r term “digartref”. Er enghraifft, cafodd 3 o bobl ifanc oedd wedi gadael gofal y cyngor eu dynodi yn ddigartref ond er na fyddai gan y tri unigolyn dan sylw denantiaeth, nid oeddynt yn ddigartref yn yr ystyr eu bod yn cysgu allan. Mae’r gwasanaeth wedi datblygu protocol ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Tai er mwyn asesu pobl nad ydynt o reidrwydd wedi bod mewn gofal ond sydd yn cael eu cynnwys yn y diffiniad “gofal a chymorth”. Hefyd, mae Digartref yn darparu 20 o wlâu ar gyfer pobl ifanc sy’n cyflwyno eu hunain fel pobl ddigartref er mwyn sicrhau nad yw’r un person ifanc yn gorfod cysgu ar y strydoedd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod nifer y bobl ifanc yn gadael gofal sydd wedi profi cyfnod o ddigartrefedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn un o fesurau perfformiad y Gwasanaeth – yn 2017/18 roedd y ffigwr hwnnw yn 5% ac yn ystod dau chwarter cyntaf 2018/19 roedd yn 4%. O dan ddiffiniad y Llywodraeth gallai hynny olygu person sydd wedi aros mewn llety Gwely a Brecwast neu aros gyda ffrind – yn ôl y data a gedwir gan y Gwasanaeth Tai nid oes unrhyw berson yn cysgu allan ar strydoedd Ynys Môn, er y gallai un neu ddau o unigolion fod yn gwneud hynny mewn ardaloedd penodol – maent yno o ddewis. Mae cryn werthfawrogiad i ddarpariaeth Digartref, drwy Coedlys yn Llangefni a Llys y Gwynt yng Nghaergybi, ar gyfer pobl ifanc sydd angen cymorth ac sy’n wynebu risg uchel o fod yn ddigartref.

 

           Mewn perthynas â rheolaeth ariannol, nododd y Pwyllgor er bod y rhagolygon yn dangos y bydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaeth Dysgu yn gorwario ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, disgwylir tanwariant o £0.53m mewn perthynas â Chyllid Corfforaethol a rhagwelir y bydd y Dreth Gyngor, sydd yn cynnwys Premiwm y Dreth Gyngor, yn casglu gwarged o £0.348m ac o ganlyniad bydd y gorwariant yn gostwng i £2.660m. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â pha sicrwydd all y Gwasanaeth Cyllid ei roi y bydd y gyfradd gasglu a ragwelwyd yn cael ei gwireddu.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oherwydd yr ansicrwydd ynghylch y data ar gyfer ail gartrefi/tai gwag tymor hir penderfynwyd bod yn ddarbodus a rhoddwyd darpariaeth o 80% yn sail y Dreth Gyngor yn wreiddiol. Er bod nifer yr ail gartrefi wedi aros yn sefydlog, mae nifer y tai gwag tymor hir yn gostwng. O ganlyniad roedd y gyllideb a osodwyd yn llai na’r anfonebau Treth Gyngor a godwyd ac o ganlyniad cafwyd gwarged. Dywedodd y Swyddog ei fod felly’n hyderus y bydd y Dreth Gyngor yn cael ei chasglu yn unol â’r rhagolygon. Yn ystod cyfnod o flwyddyn mae’r gyfradd gasglu yn tueddu i leihau wrth i amgylchiadau pobl newid e.e. pobl yn gwneud cais am Ostyngiad Person Sengl. Fodd bynnag, mae’r Gwasanaeth wedi comisiynu adolygiad allanol o bobl sydd yn hawlio’r gostyngiad person sengl drwy ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus i sefydlu a yw unigolion yn gymwys. Mae’r adolygiad wedi canfod ymgeiswyr oedd ddim yn gymwys i dderbyn y gostyngiad. O ganlyniad, rhagwelir y bydd y newidiadau dilynol yn cynhyrchu incwm ychwanegol gan y bydd yr hawlwyr hynny yn derbyn anfonebau am yr arian Treth Gyngor sydd yn ddyledus.

 

Mewn perthynas â Chyllid Cyfalaf sydd yn cynnwys y llog a’r Ddarpariaeth Isafswm Refeniw ar fenthyciadau, oherwydd bod y Rhaglen Gyfalaf yn tanwario, nid yw’r Cyngor wedi benthyca gymaint o arian ag a ragwelwyd yn y gyllideb. Dywedodd y Swyddog ei fod yn hyderus na fydd y sefyllfa hon yn newid.

 

           Nododd y Pwyllgor fod cynyddu premiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi a thai gwag tymor hir yn creu risg y bydd cyfraddau casglu’r dreth yn lleihau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod risg, yn arbennig mewn perthynas ag ail gartrefi, y bydd perchnogion ail gartrefi yn ceisio osgoi talu’r premiwm drwy drosglwyddo eu heiddo i’r gyfundrefn trethi busnes drwy honni eu bod yn cael eu gosod fel tai gwyliau. Er mwyn cymhwyso fel llety gwyliau, rhaid i’r trethdalwr brofi i’r Swyddog Prisio fod yr annedd ar gael i’w osod am 140 diwrnod a’i fod wedi cael ei osod am 70 niwrnod yn ystod cyfnod o 12 mis. Er bod modd herio hyn, nid oes gan yr Asiantaeth Brisio, sydd yn atebol i CThEM, yr adnoddau i wneud hyn ym mhob achos, sy’n golygu y bydd rhai perchnogion ail gartrefi yn llwyddo i drosglwyddo i’r gyfundrefn trethi busnes heb fodloni’r meini prawf cymhwysedd. Hefyd, maent yn gallu hawlio rhyddhad ardrethi busnesau bach. Risg arall yw y gallai perchnogion ail gartrefi honni mai ei hail gartref yw eu prif annedd; mae modd herio hyn yn fwy effeithiol mewn Tribiwnlys ond mae gwneud hynny’n creu gwaith ychwanegol i’r Gwasanaeth.

 

Dywedodd y Swyddog fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod ar 12 Tachwedd, wedi trafod y broblem o osgoi trethi ac o ganlyniad cytunwyd i gyflwyno sylwadau ar y mater i Lywodraeth Cymru er mwyn pwyso ar y Llywodraeth i ddarparu mwy o adnoddau i’r Swyddfa Brisio fel bod modd gweithredu trefn fwy cynhwysfawr o herio perchnogion ail gartrefi sydd yn trosglwyddo i’r gyfundrefn trethi busnes, ac i’r Llywodraeth ystyried eithrio’r eiddo hyn o’r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach.

 

           Cyfeiriodd y Pwyllgor at y ffaith iddo, mewn cyfarfod blaenorol, dynnu sylw at Orfodaeth Cynllunio fel maes fyddai’n elwa o gael monitro ei berfformiad oherwydd bod pwysau ar y gwasanaeth; o ganlyniad argymhellwyd y dylid ystyried cynnwys dangosydd ar gyfer Gorfodaeth Cynllunio yn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer 2019/20.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad ac ymatebion y Swyddogion, penderfynwyd –

 

           Derbyn yr adroddiad gan nodi'r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol fel y’u nodir ym mharagraffau 3.1.1 i 3.1.5, ac yn derbyn y mesurau lliniaru a amlinellir ynddynt.

           Argymell pan fydd y Dangosyddion Perfformiad yn cael eu hadolygu nesaf er mwyn eu cynnwys yn y Cerdyn Sgorio ar gyfer 2019/20, bod yr UDA, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol yn ystyried cynnwys dangosydd ar gyfer Gorfodaeth Cynllunio.

 

CAMAU YCHWANEGOL A ARGYMHELLIR: Bod y Panel Gwella Gwasanaethau Plant a’r Panel Sgriwtini Cyllid yn derbyn y wybodaeth ganlynol -

 

           Nifer y plant/pobl ifanc sydd yn gadael gofal yn ogystal â nifer y plant/pobl ifanc sydd yn cael eu derbyn i ofal.

           Effaith y Tîm Teuluoedd Gwydn yn dilyn ei sefydlu flwyddyn yn ôl.

Dogfennau ategol: