Eitem Rhaglen

Rheoli'r Trysorlys: Adolygiad Canol Blwyddyn 2018/19

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori adolygiad o sefyllfa a gweithgareddau Rheoli Trysorlys canol blwyddyn ariannol 2018/19 yn unol â gofynion Côd Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y prif bwyntiau canlynol

 

           Roedd gan y Cyngor £6.089m o fuddsoddiadau ar 30 Medi, 2018 a’r enillion o’r portffolio buddsoddiadau am 6 mis cyntaf y flwyddyn oedd 0.65%. Mae rhestr lawn o fuddsoddiadau ar 30 Medi, 2018 i’w weld yn Atodiad 3 yr adroddiad.

           Ni thorrwyd y terfynau a gymeradwywyd o fewn y Strategaeth Fuddsoddi Blynyddol yn ystod 6 mis cyntaf 2018/19.

           Mae’r Cyngor wedi cyllidebu y bydd yn derbyn incwm o £0.017m o’i fuddsoddiadau ar gyfer 2018/19 ar ei hyd; mae perfformiad am y flwyddyn hyd yma’n uwch na’r gyllideb, gyda £0.023m wedi’i dderbyn ar ddiwedd Chwarter 2. Y rheswm am hyn yw’r cynnydd yn y gyfradd banc o 0.5% i 0.75% a ddigwyddodd yn Awst 2018.

           Ni fenthycwyd unrhyw arian yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd angen benthyca arian yn ystod ail hanner y flwyddyn.

           Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, roedd benthyciad tymor byr gan y Tyne & Wear Pension Fund ym mis Ionawr 2018 yn aeddfedu ac ad-dalwyd y benthyciad ym mis Ebrill 2018.

           Mae cyfleoedd i aildrefnu dyledion wedi bod yn gyfyngedig iawn yn yr hinsawdd economaidd bresennol fel y manylir ym mharagraff 6.4 yr adroddiad. Ni aildrefnwyd unrhyw ddyledion hyd yma yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

           Ers i Chwarter 2 ddod i ben, mae’r Awdurdod wedi trefnu i fenthyca £5m gan Gyngor Sir Gogledd Efrog. Bydd y benthyciad yn digwydd o 16/10/18 hyd at 16/01/19 ar gyfradd o 0.85%. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â’r strategaeth fenthyca bresennol, sef cymryd benthyciadau tymor hirach dim ond pan ydym angen yr arian yn hytrach na benthyca i fanteisio ar gyfraddau benthyca isel yn unig, am fod y gost o wneud hynny’n rhy uchel.

           Mae Adran 7 yr adroddiad yn dangos sefyllfa a pherfformiad cyfalaf y Cyngor mewn perthynas â’r Dangosyddion Darbodus allweddol, yn cynnwys dangosyddion ar gyfer gwariant cyfalaf (Tabl 7.2 yn yr adroddiad).

           Mae Tabl 7.4.3 yr adroddiad yn dangos y Gofyniad Cyllido Cyfalaf, sef angen allanol sylfaenol i fenthyca at ddibenion cyfalaf. Ar hyn o bryd, mae’r Awdurdod ychydig yn is na’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf gwreiddiol a ragwelwyd oherwydd y tanwariant a ragwelir o ran benthyca, o ganlyniad yn bennaf i raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r dull cyllido diwygiedig ar gyfer Gofal Ychwanegol Seiriol.

           Mae’r Awdurdod hefyd yn cadw o fewn y Terfyn Gweithredol sydd yn dangos y lefel dyled disgwyliedig yn ystod y cyfnod. Y swm benthyca agoriadol ar gyfer 2018/19 oedd £117.778m a rhagwelir y bydd y swm yn £125.623m erbyn diwedd y flwyddyn ac mae yn gyfforddus o fewn y terfyn gweithredol o £172m a nodir yn y Strategaeth Rheoli Trysorlys.

           Mae Adran 7.5 yr adroddiad yn nodi sefyllfa’r Awdurdod mewn perthynas â benthyca gros a’r Gofyniad Cyllido Cyfalaf. Er mwyn sicrhau na fydd benthyca net ond yn cael ei wneud at ddibenion cyfalaf dros y tymor canol, dylai’r Awdurdod sicrhau nad yw benthyca allanol gros, heblaw yn y tymor byr, yn codi uwchlaw GCC y flwyddyn flaenorol ynghyd â’r amcangyfrif o GCC ychwanegol y bydd ei angen ar gyfer 2018/19 a’r ddwy flynedd ariannol ddilynol. Ni ragwelir unrhyw broblemau o ran cydymffurfio â’r dangosydd darbodus hwn yn ystod y flwyddyn bresennol, fel y dengys Tabl 7.5.1.

           Mae dangosydd darbodus pellach yn rheoli’r lefel fenthyca gyffredinol, sef y Terfyn Awdurdodedig, ac ni chaniateir cymryd benthyg mwy na’r swm hwn. £177m yw’r swm ar hyn o bryd ac mae’n adlewyrchu lefel y benthyca fyddai’n fforddiadwy, ond ddim yn ddelfrydol, yn y tymor byr ond a fyddai’n anghynaladwy yn y tymor hir. Sefyllfa fenthyca’r Cyngor ar 30 Medi, 2018 oedd £112,558m.

 

Wrth ystyried yr adroddiad gwnaeth y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn -

 

           Nododd y Pwyllgor bod disgwyl i’r rhaglen gyfalaf danwario unwaith eto ar ddiwedd y flwyddyn; gofynnodd a oes angen mabwysiadu agwedd fwy gofalus mewn perthynas â’r gyllideb gyfalaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod nifer o brosiectau yn y rhaglen Gyfalaf, rhai ohonynt ar raddfa fawr, y tu allan i reolaeth yr Awdurdod e.e. gwelliannau i’r A5025 i’r Wylfa, Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, Seilwaith Strategol Caergybi, wedi’u gohirio am resymau amrywiol, yn cynnwys gorfod aros am gymeradwyaeth gan arianwyr ac oedi cyn rhoi caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn y tanwariant yn y gyllideb gyfalaf fydd yn arwain at golli cyllid allanol ac nid yw’n achosi pryder. Os oes angen gwario swm penodol er mwyn hawlio arian grant, yna mae’r Awdurdod yn sicrhau bod y gwariant angenrheidiol yn digwydd.

 

           Nododd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi bod yn defnyddio arian wrth gefn i gyllido cyfran o’i wariant cyfalaf er mwyn lleihau ei fenthyca ar y sail bod cost benthyca yn uwch na’r enillion petai’r arian parod yn cael ei roi mewn cyfrif cadw. Gofynnodd y Pwyllgor am ba hyd y gall y Cyngor gynnal y polisi hwn.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr arian parod ym meddiant y Cyngor yn cyd-fynd â’r cronfeydd a gefnogir gan arian parod h.y. y Gronfa Gyffredinol, Cronfeydd wedi’u Clustnodi, balansau Ysgolion a balans y CRT. Wrth i’w sefyllfa ariannol waethygu, mae’r Cyngor wedi bod yn defnyddio ei arian wrth gefn ac o ganlyniad mae lefel yr arian wrth gefn sydd gan y Cyngor wedi lleihau gan olygu bod llai o arian parod yn y busnes. O ganlyniad mae’r amser yn dynesu pan fydd rhaid i’r Cyngor fenthyca yn allanol yn hytrach na defnyddio ei falansau arian parod, neu byddant wedi prinhau. Nid yw hynny’n golygu bod y Cyngor mewn unrhyw drafferthion ariannol ond yn hytrach ei fod angen ail-lenwi ei falansau arian parod drwy fenthyca allanol. Gwnaethpwyd hyn yn barod ar raddfa lai a dros gyfnod byr; fodd bynnag, erbyn hyn mae’n rhaid atgyfnerthu balansau arian parod y Cyngor drwy fenthyca allanol sydd yn debygol o olygu cymryd benthyciad o £10m neu £15m dros gyfnod ad-dalu o rhwng 5 a 10 mlynedd.

 

           Nododd y Pwyllgor fod derbyniadau cyfalaf o ganlyniad i werthu hen adeiladau ysgol yn rhan o gyfraniad y Cyngor at gyllido Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Nododd y Pwyllgor hefyd nad yw marchnata a gwerthu'r asedau hynny bob amser yn amserol ac y gallai gwerthu’r asedau leihau anghenion benthyca a chostau benthyca’r Cyngor sydd yn cael eu hychwanegu at y gyllideb Refeniw.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod rhaid ystyried yr amseru er mwyn derbyn y pris uwch wrth gael gwared ar asedau. Weithiau, golyga hynny ddal gafael ar yr ased am gyfnod o amser nes bod y farchnad yn codi, yn arbennig os yw’r gwerthiant yn golygu gwerthu mwy nag un o’r un math o ased mewn ardal benodol e.e. ysgolion, lle y gallai gwerthu’r asedau ar wahanol gyfnodau gynhyrchu mwy o incwm.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r adroddiad adolygiad Rheoli Trysorlys canol blwyddyn heb gyflwyno unrhyw sylwadau ychwanegol.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU PELLACH

Dogfennau ategol: