Eitem Rhaglen

Arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru o'r Gwasanaethau Plant

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn crynhoi canlyniad yr ail-arolwg gan AGC o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Sir Ynys Môn ym mis Hydref, 2018. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio ar y gwelliannau y mae AGC yn cydnabod sydd wedi digwydd ers yr arolwg gwreiddiol ym mis Tachwedd, 2016, a oedd wedi arwain at nifer o bryderon sylweddol; y meysydd i’w datblygu a sefyllfa’r Gwasanaeth ym mhob maes ynghyd â’r camau i’w cymryd yn dilyn yr ail-arolwg. Roedd copi llawn o adroddiad AGC o’r ail-arolwg ynghlwm at sylw’r Pwyllgor.

 

Rhoddodd Christine Jones, AGC gyflwyniad i’r Pwyllgor ar y prif ganfyddiadau o adroddiad yr Arolygiaeth. Fel rhan o’r arolwg dilyn-i-fyny, roedd AGC wedi gwerthuso ansawdd yr ymarfer, penderfyniadau a wneir a gwaith aml-asiantaeth ynghyd ag ansawdd yr arweinyddiaeth, rheolaeth a llywodraethiant.

 

Roedd y prif ganfyddiadau ym mis Hydref, 2018 yn cynnwys y canlynol –

           Mae Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Ynys Môn yn gallu dangos gwelliant sylweddol mewn nifer o feysydd allweddol ond mae dal angen gwaith pellach mewn rhai meysydd.

           Mae morâl staff yn uchel ac mae angerdd ac ymroddiad ar bob lefel i barhau i weithio’n galed ar y daith wella er mwyn cyflwyno gwasanaethau rhagorol i blant.

           Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) wedi gwella’n sylweddol ers yr arolwg diwethaf ym mis Tachwedd 2016.

           Mae ymatebion i faterion diogelu yn amserol ac yn gymesur gan amlaf. Mae lle i wella o ran dwyn ynghyd a chofnodi tystiolaeth a dadansoddi risg.

           Mae gwelliannau mewn goruchwyliaeth gan reolwyr ac atebolrwydd proffesiynol ar bob lefel yn parhau i amlygu achosion lle collwyd cyfleoedd i gefnogi plant yn y blynyddoedd cynt.

           Mae diffyg lleoliadau addas i blant. Mae angen rhagor o waith i sicrhau bod dewisiadau lleoliad yn cwrdd ag anghenion penodol y plant o fewn eu cymuned.

           Mae arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Mae Uwch Swyddogion yn weladwy, ar gael ac yn gyrru gwelliannau.

           Mae adborth positif gan bartneriaid ynglŷn â’r newidiadau maent wedi eu gweld yn Ynys Môn, gan ddisgrifio diwylliant agored newydd a chydweithio da.

 

Dywedodd Ms Jones, ar y cyfan, fod Gwasanaethau Plant Ynys Môn mewn lle llawer gwell o gymharu â lle’r oeddynt ym mis Tachwedd, 2016 a bod gan y Gwasanaeth ddealltwriaeth dda o’i gryfderau a’i wendidau a’r meysydd lle mae angen mwy o waith. Dyma yw’r camau cynnar mewn siwrnai barhaus o welliant ar gyfer y Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn a bydd hynny’n cynnwys rhoi ar waith y polisïau, gweithdrefnau a phrosesau newydd sydd wedi’u datblygu a sicrhau bod gwell perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol yn cael ei wreiddio. Y nod yw cyflawni gwelliant cynaliadwy a sicrhau, trwy ddod yn wasanaeth da, bod y Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn yn parhau i fod yn wasanaeth da yn y tymor hir. Dylai’r Gwasanaeth fonitro’r meysydd hynny y mae wedi eu datblygu, gan osod disgwyliadau uchel a chadw’r ffocws ar archwilio a chyflawni’r polisïau a ddatblygwyd. Byth AGC yn gwneud gwaith dilyn-i-fyny pellach trwy ei weithgaredd monitro rheolaidd a bydd yn canolbwyntio ar ffeiliau achos penodol er mwyn adolygu’r cynnydd a wnaed yn nhermau’r camau gweithredu a roddwyd ar waith, yr oruchwyliaeth sy’n digwydd, ansawdd y cofnodi, ac atal llithro’n ôl.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol i Arolygiaeth Gofal Cymru am y gefnogaeth a’r anogaeth a gafwyd gan yr Arolygiaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd hyn wedi bod yn hynod o werthfawr er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn aros ar y trywydd iawn. Dywedodd y Swyddog hefyd bod rhaid diolch i staff y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac i’r Tîm Rheoli a’r Pennaeth Gwasanaeth am ddarparu arweinyddiaeth gref a chlir, ac i Aelodau Etholedig trwy’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant, y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, y Pwyllgor Gwaith a’r Aelod Portffolio am eu cyfraniad wrth gefnogi a rhoi her i’r Gwasanaeth. Mae perthnasau gwaith y Gwasanaeth gyda’i bartneriaid mewnol ac allano fel ei gilydd wedi gwella’n fawr hefyd yn ystod yr amser hwn. Rhoddodd y Swyddog sicrwydd y bydd y gwelliannau a gyflawnwyd yn parhau, a bod gwersi wedi’u dysgu o brofiadau yn y gorffennol ei bod yn hanfodol cymryd camau i sicrhau nad yw’r perfformiad yn llithro’n ôl o gwbl.

 

Ategodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ddiolchiadau’r Swyddog i bawb sydd wedi bod yn rhan o siwrnai welliant y Gwasanaeth hyd yma a dywedodd y dylent hefyd gynnwys y Tîm Arweinyddiaeth Strategol a Phennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Plant a oedd wedi cychwyn y Cynllun Gwella Gwasanaeth yn dilyn yr arolwg gwreiddiol; pwysleisiodd pa mor bwysig yw cynnal y momentwm at y dyfodol a’r ymroddiad at hynny.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Gwasanaeth nawr yn bwriadu datblygu Cynllun Gwella Gwasanaeth newydd a fydd yn ymgorffori’r ddwy elfen o’r cynllun cyfredol sydd angen eu cwblhau ac y bydd hefyd yn mynd i’r afael â’r 14 maes i’w datblygu yr oedd AGC wedi dwyn sylw atynt yn ei arolwg dilyn-i-fyny. Yn ogystal, bydd y Cynllun diwygiedig yn cynnwys yr elfennau y mae’r Gwasanaeth ei hun wedi eu hadnabod fel rhai sydd angen eu gwella. Bydd y CGG newydd yn cael ei gyflwyno i’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant ym mis Chwefror; caiff ei rannu gyda AGC a chaiff ei weithredu dim ond pan fo consensws ar ei gynnwys. Dywedodd y Swyddog fod yr hen Gynllun wedi ateb y diben yn dda, ac y daw’r gwahaniaeth rhwng y Cynllun newydd a’r hen Gynllun o’r hunan-ymwybyddiaeth uwch sydd gan y Gwasanaeth bellach a’i wybodaeth ynghylch lle mae ei gryfderau a’i wendidau. Mae’n amcan ychwanegol y dylai’r Cynllun Gwella Gwasanaeth newydd adlewyrchu mewnbwn y plant a’r bobl ifanc mae’r Awdurdod yn gofalu amdanynt yn ogystal â phartneriaid allweddol y Gwasanaeth.

 

Wrth ystyried adroddiad AGC o’i arolwg dilyn-i-fyny a sylwadau’r Swyddogion a’r Aelod Portffolio, fe wnaeth y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn –

 

           Nododd y Pwyllgor ei fod yn blês gydag adroddiad ail-arolwg AGC a’i fod yn cytuno gyda’r cynnwys ac yn ei dderbyn, ac fe nododd hefyd nad yw’r adroddiad yn dweud unrhyw beth nad yw’r Rheolwyr a’r Aelodau Etholedig yn ymwybodol ohono eisoes.

           Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y cyfraniad a’r ymroddiad gan holl staff y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf tuag at y siwrnai wella. Nododd y Pwyllgor ymhellach fod yna dal ymroddiad cryf ar bob lefel yn yr Awdurdod i sicrhau bod y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn parhau i wella ar y daith tuag at ddod yn wasanaeth da, cyson a bod y Pwyllgor yn cydnabod ac yn derbyn bod angen parhau i fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau nad yw’r perfformiad yn llithro. Gellir cyflawni hyn trwy oruchwylio a monitro’r Gwasanaeth yn agos, a thrwy fod yn effro i unrhyw arwyddion cynnar o bryder.

           Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y cyfraniad positif a wnaed gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant ers iddo gael ei sefydlu tuag at y broses o wella’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Nododd y Pwyllgor fod y Panel wedi rhoi cyfle i’w aelodau gael dealltwriaeth fanwl o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a thrwy hynny gallent werthfawrogi’n well gymhlethdodau’r gwasanaeth, sy’n golygu bod aelodau mewn gwell sefyllfa i gefnogi a herio’r Gwasanaeth a gallant wneud hynny’n hyderus. Nododd y Pwyllgor y bydd y Panel yn parhau i fod yn gyfrwng pwysig i sicrhau bod y Gwasanaeth yn parhau i gyflawni ei amcanion gwella, a cheisiodd eglurder ar sut y gallai gyfrannu mewn ffyrdd eraill tuag at y rhaglen wella.

 

Dywedodd Christine Jones, AGC, fod ar Weithwyr Cymdeithasol angen fframwaith a strwythur i weithio oddi mewn iddynt ynghyd â’r safbwyntiau ffres y gall eraill eu cynnig i waith diogelu, gan gynnwys y Panel Gwella Gwasanaethau Plant. Wrth gyflawni eu cyfrifoldebau fel rhiant corfforaethol, mae angen i’r Awdurdod Lleol yn cynnwys ei Aelodau Etholedig, adnabod y plant a’r bobl ifanc maent yn gofalu amdanynt o ran eu hanghenion, eu sefyllfa a’r disgwyliadau ar eu cyfer a p’un a oes modd cwrdd â’r rhain. Mae angen iddynt fod yn ddiwyd o ran parhau i fod yn wybodus am lesiant a chynnydd y plant maent yn gofalu amdanynt. Nid yw diogelu yn fater i Weithwyr Cymdeithasol yn unig, mae’n fusnes i bawb.

 

           Nododd y Pwyllgor fod safle’r Gwasanaeth yng nghyswllt y cyntaf o’r 14 maes i’w datblygu a nodwyd gan AGC yn yr arolwg dilyn-i-fyny wedi sgorio’r maes yn Wyrdd sy’n golygu bod y camau gweithredu yn y maes hwn wedi’u cwblhau. Ceisiodd y Pwyllgor eglurder ynghylch p’un a oedd y dynodiad hwn yn gynamserol o gofio bod yr adroddiad arolwg hefyd yn datgan bod rhagor o waith i’w wneud.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, ac ategodd Christine Jones ef, o’r 14 maes i’w datblygu, fod manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i roi adborth i bobl sy’n gwneud cyfeiriadau yn rhywbeth y gellir ei weithredu’n gyflym gan fod ffurflen electronig ar gael eisoes a’i bod ond yn fater o ddefnyddio’r ffurflen yn fwy cyson er mwyn cyfathrebu â’r rheini sy’n cyfeirio.

 

           Nododd y Pwyllgor fod recriwtio a chadw staff a chynnal lefelau digonol o staff wedi bod yn broblem i’r Gwasanaethau Plant yn hanesyddol. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd fod trefniadau staffio’r Gwasanaeth nawr yn ddigonol ar gyfer cyfaint y gwaith y mae disgwyl iddo ddelio ag ef.

 

Dywedodd Christine Jones nad yw’n rôl i’r Arolygiaeth roi cyngor ar lefelau staffio. Ac ni chaiff lefelau staffio eu rhagnodi mewn deddfwriaeth chwaith. Mae Gwaith Cymdeithasol yn seiliedig ar bedair egwyddor hanfodol y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 sef Pobl, Partneriaethau, Integreiddio ac Ataliaeth; mae deilliannau y mae disgwyl i’r Gwasanaeth eu cyflawni ar gyfer y bobl y daw i gyswllt â hwy o ran eu gofal, diogelwch, urddas a pharch. Mae’r modd y caiff y rhain eu cyflawni yn cael ei bennu gan yr Awdurdod yng nghyd-destun ei flaenoriaethau a’i ofynion cyllideb. Cyfrifoldeb y Rheolwyr yw ystyried y negeseuon a ddaw o’r sylwadau a wneir gan staff ynglŷn â llwythi achosion, ac adnabod unrhyw resymau sydd tu ôl iddynt. Un ffactor ychwanegol yw ansawdd ac effeithiolrwydd gwasanaethau ataliol y Gwasanaeth wrth y drws ffrynt ynghyd ag argaeledd adnoddau ar ffurf dewisiadau lleoliad. Mae’r rhain oll yn ffactorau a all gynorthwyo neu lesteirio rôl y Gweithiwr Cymdeithasol yn ei waith dydd i ddydd.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod buddsoddiad helaeth wedi’i wneud yn strwythur staffio’r Gwasanaethau Plant dros gyfnod y gwelliant, ac fe arweiniodd hynny at sefydlu’r model Grŵp Ymarfer a’r Tîm Teuluoedd Gwydn sydd wedi bod yn arbennig o effeithiol o ran rheoli costau a sicrhau gwell canlyniadau i blant. Mae’r Gwasanaeth yn ymwybodol y bydd y pwysau o ran cwrdd ag anghenion y garfan o blant sy’n Gadael Gofal yn cynyddu’n flynyddol o’r pwynt hwn ac fe roddir ystyriaeth i sut y bydd y galw hwn yn cael ei ateb yn fewnol. Mae’n ffodus fod buddsoddiad ychwanegol wedi’i wneud yn y Gwasanaeth gan fod y Tîm Etifeddiaeth wedi adnabod rhai achosion hanesyddol lle gellid bod wedi delio â hwy yn fwy effeithlon.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y buddsoddiad ychwanegol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi cael ei gymeradwyo ar sail achos busnes cryf a oedd yn gosod yn glir pam oedd angen yr adnoddau a sut y byddent yn cael eu gwario.

 

           Nododd y Pwyllgor fod adroddiad AGC o’r arolwg dilyn-i-fyny yn adnabod diffyg lleoliadau addas i blant a bod angen rhagor o waith i sicrhau bod dewisiadau o ran lleoliadau yn cwrdd ag anghenion penodol plant o fewn eu cymuned. Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ar y mesurau y gellir eu cymryd i ddarparu ystod ehangach o ddewisiadau lleoliad.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod y Gwasanaeth nawr yn gweithredu’r model Cartrefi Grŵp Bach, a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith yn ddiweddar. Mae’r model hwn yn golygu datblygu tai Awdurdod Lleol mewn lleoliadau addas yn y gymuned fel cartrefi i grwpiau o ddau o blant ar y tro. Mae un tŷ o’r fath wedi’i adnabod ac mae’r Gwasanaeth yn gweithio ar ddod o hyd i dŷ arall o’r fath. Mae’n rhaid i gartrefi o’r fath gael eu cofrestru gan AGC gyda’r gobaith y gellir gwneud hyn yn rhwydd. Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi cael sêl bendith y Pwyllgor Gwaith i becyn cefnogaeth newydd ar gyfer Gofalwyr Maeth yr Awdurdod gan ddarparu buddion ehangach iddynt. Er y cydnabyddir fod gofalwyr maeth yn cael eu cymell am resymau ar wahân i rai ariannol, mae cyflwyno pecyn cefnogaeth newydd wedi arwain at dderbyn ymholiadau am ofal maeth.

 

           Er bod y Pwyllgor yn cydnabod y byddai cofrestru cartrefi grŵp bach yr Awdurdod yn amodol ar y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau addasrwydd yr eiddo, ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch p’un a fyddai modd cyflymu’r broses gofrestru ac a fyddai AGC yn gallu adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar y mater hwn.

 

Dywedodd Christine Jones, AGC, y byddai’n sefydlu a yw hyn yn bosib a chadarnhaodd y byddai’n adrodd yn ôl i’r Awdurdod gan ychwanegu fod y broses gofrestru fel arfer yn cymryd amser gan fod rhaid iddi fod yn drylwyr.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod tîm o AGC wedi bod yn cydweithio gyda’r Pennaeth Gwasanaeth am beth amser i adnabod y gofynion ac mae’n bwysig bod gan yr Awdurdod yr holl elfennau angenrheidiol mewn lle yn barod at y broses gofrestru. Unwaith mae’r cartref cyntaf wedi’i gofrestru, dylai’r broses ar gyfer paratoi a sefydlu cartrefi dilynol fod yn haws.

 

           Nododd y Pwyllgor fod AGC trwy ei broses arolygu, yn ceisio rhoi sicrwydd i Weinidogion a’r cyhoedd fod dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni; i yrru gwelliant ac i fod yn effro i arwyddion cynnar o bryder. Ceisiodd y Pwyllgor sicrwydd fod AGC yn fodlon bod y Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn wedi bodloni’r amodau hyn ac nad oes unrhyw achos i fod yn bryderus sydd angen sylw ar unwaith.

 

Cadarnhaodd Christine Jones, AGC fod yr arolwg dilyn-i-fyny wedi dangos nad oedd unrhyw blentyn sydd wedi’i adnabod fel plentyn mewn risg nad oedd heb dderbyn ymateb statudol. Dywedodd y gall pethau newid yn y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn amser byr iawn, weithiau o ganlyniad i un ymweliad a gollwyd, sy’n golygu ei bod yn bwysig cael strwythurau digonol mewn lle gan gynnwys goruchwyliaeth ac archwilio, i sicrhau petai rhywbeth yn cael ei golli yn y cam cyntaf, y caiff ei adfer i lawr y lein. Er bod y Gwasanaethau Plant ar Ynys Môn mewn sefyllfa llawer gwell o gymharu â dwy flynedd yn ôl, nid oes lle i laesu dwylo – mae’r adroddiad yn nodi bod gwaith pellach i’w wneud; gallai unrhyw lacio ar y momentwm i wella olygu bod y perfformiad yn llithro oherwydd mai dyna yw natur Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae goruchwyliaeth reolaidd, cefnogaeth gan reolwyr, archwilio a chasglu a chofnodi tystiolaeth yn glir felly’n hanfodol.

 

           Nododd y Pwyllgor fod darparu cyllid digonol i gwrdd â’r galw yn y Gwasanaethau Plant yn broblem; ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch p’un a yw hyn hefyd yn broblem i Wasanaethau Plant mewn awdurdodau eraill yng Nghymru.

 

Cadarnhaodd Christine Jones, AGC mai dyma yw’r neges gan Wasanaethau Plant trwy Gymru gyfan. Wrth i’r ffordd y mae AGC yn arolygu newid i ganolbwyntio ar lefelau gwasanaeth unigol, gweithredol a strategol, bydd rhan o archwilio’r lefel strategol o wasanaeth yn cynnwys edrych ar p’un a yw cyllidebau wedi eu halinio i’r angen. Wrth i adnoddau brinhau, mae angen i Awdurdodau adlewyrchu a ydynt wedi edrych yn ddigonol ar integreiddio, gwasanaethau di-dor ac ar adeiladu gwasanaethau ataliol yn seiliedig ar gymunedau gwydn.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i Christine Jones am ei chyflwyniad a’i hymatebion i’r cwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor.

 

Ar ôl craffu ar adroddiad Arolwg Dilyn-i-Fyny AGC, nododd y Pwyllgor ei fod yn hapus gyda’r adroddiad ac yn cytuno gyda’i gynnwys, gan nodi nad oedd yn cynnwys unrhyw beth annisgwyl. Rhoddodd y Pwyllgor sicrwydd i AGC y byddai’r argymhellion yn yr adroddiad ynghyd â hunanasesiad y Gwasanaeth, yn cael eu defnyddio i ddatblygu Cynllun Gwella Gwasanaeth newydd er mwyn gwella ymhellach. Penderfynwyd felly –

 

           Cadarnhau’r ffurfiol fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn derbyn yr adroddiad Arolwg gan Arolygiaeth Gofal Cymru ar y Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Sir Ynys Môn a’i fod yn argymell yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

           Cadarnhau bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn derbyn ac yn cytuno gyda sefyllfa wasanaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

CAM GWEITHREDU YCHWANEGOL – Mae’r Pwyllgor yn nodi y bydd AGC yn adrodd yn ôl gyda manylion am y broses gofrestru ar gyfer cynllun cartrefi grŵp bach yr Awdurdod a p’un a oes modd cyflymu’r broses.

Dogfennau ategol: