Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynnig yn unol â Rheol 4.1.13.1 o'r Cyfansoddiad

·           Derbyn y Rhybuddion o Gynigiad isod gan y Cynghorydd Robert Llewelyn Jones:-

 

1.  Ar 27ain Ebrill 2010, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ar y pryd gymeradwyo cynigiad i geisio sicrhau nad oedd yr hyn a ddigwyddodd gyda’r cais cynllunio mawr mewn perthynas â Tŷ Mawr, Llanfairpwll yn 2008, yn digwydd eto.  Cafodd y cais hwnnw ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru a’i wrthod yn y diwedd”.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Siartr ar gyfer Cytundeb Perfformiad Cynllunio yn nodi’r modd y dylai’r Awdurdod weithio gyda’r datblygwr, y gymuned a chydranddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod cynigion ar gyfer datblygiadau mawr a chymhleth yn cael eu hystyried yn ofalus mewn modd adeiladol, cydweithredol ac agored.  

 

Ni sefydlwyd Cytundeb Perfformiad Cynllunio mewn perthynas â’r tri datblygiad mwyaf yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf ac fe gafodd un ei alw i mewn (Tŷ Mawr) a bu’r ddau arall, sef datblygiadau Glannau Caergybi a Land and Lakes yn gostus iawn i’n hawdurdod ac i bobl Ynys Môn.  Petai Cytundeb Perfformiad Cynllunio wedi bod ar gael, mae yna siawns y byddai’r datblygwyr wedi gwrando ar yr etholwyr.”

 

Rwy’n gofyn i unrhyw ddatblygwyr lofnodi Cytundeb Perfformiad Cynllunio a bod y Cytundeb hwn ar gael i etholwyr Ynys Môn a’u bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei gytuno.  Byddai hyn yn unol arfer mewn Awdurdodau Lleol eraill.  

 

2.  Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae mwy a mwy o gapeli ac eglwysi  wedi cau ar Ynys Môn gyda hynny’n golygu colli llefydd cyfarfod cymunedol sydd wedi gwasanaethu ein trigolion am dros gant a hanner o flynyddoedd. Roedd ym mhob pentref ar Ynys Môn un neu ragor o addoldai a llawer iawn mwy yn ein trefi.

 

A fedr yr Adran Gynllunio, drwy eu Swyddog Treftadaeth, edrych ar beth sydd wedi digwydd i’r llefydd cyfarfod hyn a pha gofnodiadau sy’n cael eu cadw i ddiogelu hanes yr adeiladau pwysig hyn fel rhan o’n hanes dros yr 150 mlynedd diwethaf. A fyddai modd dod ag adroddiad llawn yn ôl i’r Cyngor. Mae gan nifer o’r capeli a’r eglwysi hyn goflechi marmor a chofnodiadau eraill o’r dynion a’r merched ifanc a fu farw yn y ddau ryfel byd – beth sy’n digwydd i’r rhain ac a fyddai modd eu cofnodi.

 

Cofnodion:

·      Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

Ar 27ain Ebrill 2010, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ar y pryd gymeradwyo cynigiad i geisio sicrhau nad oedd yr hyn a ddigwyddodd gyda’r cais cynllunio mawr mewn perthynas â Tŷ Mawr, Llanfairpwll yn 2008, yn digwydd eto. Cafodd y cais hwnnw ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru a’i wrthod yn y diwedd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Siartr ar gyfer Cytundeb Perfformiad Cynllunio yn nodi’r modd y dylai’r Awdurdod weithio gyda’r datblygwr, y gymuned a chydran-ddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod cynigion ar gyfer datblygiadau mawr a chymhleth yn cael eu hystyried yn ofalus mewn modd adeiladol, cydweithredol ac agored.

 

Ni sefydlwyd Cytundeb Perfformiad Cynllunio mewn perthynas â’r tri datblygiad mwyaf yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf ac fe gafodd un ei alw i mewn (Tŷ Mawr) a bu’r ddau arall, sef datblygiadau Glannau Caergybi a Land and Lakes yn gostus iawn i’n hawdurdod ac i bobl Ynys Môn. Petai Cytundeb Perfformiad Cynllunio wedi bod ar gael, mae yna siawns y byddai’r datblygwyr wedi gwrando ar yr etholwyr.

 

Rwy’n gofyn i unrhyw ddatblygwyr lofnodi Cytundeb Perfformiad Cynllunio a bod y Cytundeb hwn ar gael i etholwyr Ynys Môn a’u bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei gytuno. Byddai hyn yn unol arfer mewn Awdurdodau Lleol eraill.

 

Eiliodd y Cynghorydd Shaun Redmond y cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Redmond ei bod yn hanfodol sefydlu cytundebau Perfformiad Cynllunio pan gaiff datblygiadau mawr eu cynnig mewn cymunedau lleol. Nododd fod rhaid i gymunedau lleol gael gwybod am y broses gyda datblygiadau mawr er mwyn lleddfu unrhyw bryderon ynglŷn ag effaith datblygiad o’r fath.

 

Ymatebodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd trwy ddweud fod y Siarter Cytundeb Perfformiad Cynllunio (CPC) wedi’i ddiweddaru yn 2014 ac mae’r Siarter yn datgan bod CPC yn gytundeb gwirfoddol rhwng datblygwyr prosiectau datblygu mawr a’r Cyngor. Cynhelir trafodaethau gyda’r datblygwyr cyn iddynt gyflwyno cais cynllunio i’r Awdurdod Cynllunio ond nid yw’r Cyngor yn gallu gorfodi datblygwyr i ymrwymo i CPC. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y prosiect Land and Lakes a dywedodd na sefydlwyd cytundeb CPC ond roedd y datblygwyr wedi cytuno i dalu costau cyfreithiol y Cyngor ac i lofnodi cytundeb A106. Mewn perthynas â Glannau Caergybi, roedd trafodaethau ynglŷn â’r datblygiad wedi digwydd yng nghyswllt y CPC ond cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno cyn oedd y Siarter mewn lle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones yr hoffai weld cofnodion manwl yn cael eu cadw yn ystod y drafodaeth ar CPC gyda datblygwyr er mwyn i’r cyhoedd allu cael mynediad at y trafodaethau a gynhaliwyd. Nododd fod cytundeb CPC wedi’i sefydlu mewn perthynas â’r prosiect Wylfa Newydd lle cafwyd cofnod o pa daliadau a wnaed a chyfraniad o £6.8m o’r prosiect. Mynegodd y Cynghorydd Jones, heb CPC wedi’i lofnodi, nid oes cofnod o’r ffioedd a chostau y mae’r awdurdod hwn wedi gorfod eu talu.

 

Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y caiff ffi ei chodi am bob cais cynllunio a gyflwynir i’r Cyngor sy’n galluogi’r capasiti i brosesu’r cais. O ran datblygiadau mwy o faint, rhoddir y CPC mewn lle er budd yr awdurdod cynllunio a’r datblygwr, i sicrhau bod y capasiti ar gael i ddelio gyda datblygiadau mawr, cymhleth. Nododd mewn perthynas â’r prosiect Wylfa Newydd nad oedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi derbyn ffi gynllunio gan na fyddai’r Awdurdod Lleol wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais hwnnw. Felly, yr unig gyfrwng ariannu oedd ar gael i’r awdurdod lleol er mwyn sicrhau’r capasiti i ddelio â datblygiad mor fawr a chymhleth oedd trwy CPC. Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ymhellach fod pob awdurdod lleol yn adrodd i Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys nifer o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol ar berfformiad ynghyd â manylion am yr incwm o unrhyw broses gynllunio statudol.

 

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor yr ymddengys mai proses wirfoddol yw i ddatblygwyr gytuno i fynd i gytundeb CPC, ac na all awdurdodau cynllunio lleol orfodi’r broses.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Robert Ll Jones ei fod yn ymwybodol mai proses wirfoddol oedd CPC ond dymunai gael dogfennaeth fod ar gael ynglŷn â pham roedd datblygwr wedi penderfynu peidio mynd i gytundeb CPC a bod costau sy’n gysylltiedig â datblygiad o’r fath yn cael eu cofnodi.

 

Yn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD peidio cefnogi’r cynigiad.

 

·      Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones:-

 

Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae mwy a mwy o gapeli ac eglwysi wedi cau ar Ynys Môn gyda hynny’n golygu colli llefydd cyfarfod cymunedol sydd wedi gwasanaethu ein trigolion am dros gant a hanner o flynyddoedd.  Roedd ym mhob pentref ar Ynys Môn un neu ragor o addoldai a llawer iawn mwy yn ein trefni. 

 

A fedr yr Adran Gynllunio, drwy eu Swyddog Treftadaeth, edrych ar beth sydd wedi digwydd i’r llefydd cyfarfod hyn a pha gofnodiadau sy’n cael eu cadw i ddiogelu hanes yr adeiladau pwysig hyn fel rhan o’n hanes dros yr 150 mlynedd diwethaf. A fyddai modd dod ag adroddiad llawn yn ôl i’r Cyngor. Mae gan nifer o’r capeli a’r eglwysi hyn goflechi marmor a chofnodiadau eraill o’r dynion a’r merched ifanc a fu farw yn y ddau ryfel byd – beth sy’n digwydd i’r rhain ac a fyddai modd eu cofnodi.

 

Eiliodd y Cynghorydd Peter Rogers y cynnig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers ei bod yn bwysig diogelu cofnodion hanesyddol o fewn yr eglwysi a’r capeli.

 

Ymatebodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ei bod yn ddyletswydd ar Awdurdod Lleol i gofnodi cofnodion hanesyddol o dan y ddeddfwriaeth 1979 neu 1990 o fewn adeiladau cofrestredig. Fodd bynnag, nid oes gan y mwyafrif o asedau hanesyddol o fewn capeli ac eglwysi warchodaeth statudol. Er yn rhannu’r pryderon pan fydd capeli ac eglwysi a llefydd addoli hanesyddol yn gorfod cau, nid oes gan yr awdurdod yr adnodd i gadw cofnodion o’r fath. Fodd bynnag, wrth brosesu ceisiadau cynllunio i drawsnewid capeli ac eglwysi mae’r Awdurdod Cynllunio yn gwneud cais i’r datblygwr gadw cofnodion o’r coflechi a’r cofnodion o fewn yr adeiladau.

 

Roedd y Cynghorydd Gwilym O Jones yn dymuno mynegi ei ddiolch bod y Rhybudd o Gynnig wedi’i gyflwyno i’r Cyngor iddo ei ystyried. Mynegodd fod y sefyllfa’n wahanol gyda gwahanol enwebiadau gan fod gan y Presbyteriaid gyfleuster cofnodion canolog i gadw cofnodion o’r fath tra bod rhaid i eraill ddelio gyda’r sefyllfa yn lleol. Nododd y dylai’r cymunedau lleol a Chynghorau Cymuned allu hwyluso’r gwaith o gadw cofnodion o goflechi a chofrestri pan fydd capel neu eglwys yn cau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, er ei fod yn derbyn bod angen cofnodi cofnodion hanesyddol mewn adeiladu addoli hanesyddol, ystyriai mai mater i’r eglwysi neu’r capeli oedd gwneud yn siŵr bod cofnodion o’r fath yn cael eu cadw. 

 

Yn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD peidio cefnogi’r cynnig.