Eitem Rhaglen

Arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru o'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyriedadroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn crynhoi canlyniad ail-arolwg AGC o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Sir Ynys Môn ym mis Hydref, 2018. Cyflwynwyd hefyd gopi o adroddiad ail arolwg AGC.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod adroddiad AGC yn dilyn ei ail arolwg o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn y Cyngor yn adroddiad cadarnhaol sy’n cydnabod y gwelliannau sylweddol a wnaed gan Wasanaethau Plant Ynys Môn mewn nifer o feysydd allweddol ers yr arolwg gwreiddiol ym mis Tachwedd, 2016. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn adnabod meysydd i’w datblygu ymhellachdyma’r meysydd y bydd y Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn canolbwyntio arnynt a byddant wedi eu hamlygu yn y Cynllun Gwasanaeth newydd a fydd yn mynd â’r gwasanaeth yn ei flaen. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y Gwasanaethau Plant yn gydran hanfodol o ddarpariaeth yr Awdurdod Lleol, ac yn Ynys Môn fel mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, mae’r Gwasanaethau Plant yn wynebu nifer o heriau; roedd Arweinwyr y Cyngor yn cydnabod hyn ac mewn cyfarfod diweddar o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru roeddent wedi rhannu eu pryderon am ddyfodol y Gwasanaethau Plant a’r pwysau ariannol sydd ar gyllidebau’r Cyngor wrth orfod cwrdd â’r galw sy’n tyfu yn y Gwasanaethau Plant. Mae’r gwelliannau y mae Gwasanaethau Plant Ynys Môn wedi eu cyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ganlyniad i Aelodau a Swyddogion yn gweithio gyda’i gilydd gyda’r bwriad y dylai’r gwelliannau hyn hefyd yn arwain at ganlyniadau gwell i blant a’u teuluoedd. Mae angen i effeithiau positif gwasanaeth sy’n perfformio’n dda gael eu hadlewyrchu o fewn cymunedau ac ym mywydau plant sy’n derbyn gofal a’u teuluoedd. Diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Dros Dro ar y Gwasanaethau Plant am roi’r Cynllun Gwella Gwasanaeth cychwynnol at ei gilydd ar ôl yr arolwg yn 2016, i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd am fynd â’r Cynllun yn ei flaen ac i’r Prif Weithredwr, y Prif Weithredwr Cynorthwyol / Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol am eu harweiniad a’u cefnogaeth.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn ddiolchgar i AGC am eu gwaith arolygu yn 2016 a 2018 ac am eu cyfraniad at welliant y Gwasanaeth trwy roi anogaeth a chefnogaeth iddo, gan sicrhau bod y Gwasanaeth wedi aros ar y trywydd iawn trwy gydol y broses wella dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Pwysleisiodd y Swyddog fod yna dal waith i’w wneud, a bod gwella’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn broses barhaus. Mae’r meysydd i’w datblygu a nodwyd gan AGC yn rhai y mae’r Gwasanaeth yn cytuno efo nhw ac wedi eu hadnabod, a theimlir bod y Gwasanaeth yn fwy ymwybodol ohono’i hun ac yn gwybod lle y mae, a lle y dymuna fod. Mae’r tabl yn yr adroddiad sy’n dangos safle’r Gwasanaeth ar bob un o’r 14 maes i’w datblygu yn cynrychioli’r sail i’r Cynllun Gwasanaeth Newydd; bydd y Gwasanaeth yn ychwanegu ato yn seiliedig ar ei ddealltwriaeth o’r meysydd y dymuna eu datblygu, er enghraifft y fenter Cartrefi Grŵp Bach ac Ôl-ofal. Bydd y CGG newydd yn cael ei ddatblygu dros yr ychydig fisoedd nesaf cyn ei gyflwyno i’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant ac wedi hynny i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac i’r Pwyllgor Gwaith. Dywedodd y Swyddog ei bod yn hanfodol fod y Gwasanaeth yn cynnal momentwm y gwelliant a gyflawnwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a’i fod yn parhau i gydweithio gydag Aelodau a phartneriaid i wella gwasanaethau ymhellach. Diolchodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant, y Tîm Arweinyddiaeth Strategol ac i bartneriaid y Gwasanaeth am iddynt oll gyfrannu at y broses wella, a dywedodd bod y diolch mwyaf yn mynd i staff y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a Thîm Rheoli’r Gwasanaeth.

Cyfeiriodd y Cadeirydd at gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 17 Ionawr, 2019 lle rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Ail Arolwg AGC ar Wasanaethau Plant Ynys Môn. Amlinellodd gasgliadau’r Pwyllgor Sgriwtini yn seiliedig ar grynodeb y Rheolwr Sgriwtini o drafodaethau’r Pwyllgor fel a ganlyn

 

           Bod y Pwyllgor Sgriwtini yn fodlon gyda chasgliadau AGC yn ei adroddiad o’r ail arolwg gan nodi bod y prif negeseuon yn cyd-fynd â dealltwriaeth yr Awdurdod o’r Gwasanaeth.

           Nad yw adroddiad AGC yn dweud unrhyw beth nad yw’r Rheolwyr ac Aelodau Etholedig yn ymwybodol ohono eisoes.

           Bod AGC wedi cadarnhau yn y cyfarfod fod yr holl gyfrifoldebau statudol o fewn y Gwasanaethau Plant yn cael eu cyflawni ac ar adeg yr arolwg, nid oedd unrhyw feysydd o bryder oedd angen eu cyfeirio’n uwch.

           Bod AGC wedi cadarnhau bod y CGG amlinellol yn gadarn ac yn ymgorffori’r holl feysydd i’w datblygu a nodwyd.

           Bod AGC wedi cadarnhau fod gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant rôl i’w chwarae o hyd wrth fonitro a goruchwylio’r broses wella sy’n parhau.

           Bod y Pwyllgor Sgriwtini yn cydnabod bod angen cynnal momentwm y gwelliant er mwyn sicrhau gwelliant parhaus ac fe sicrhaodd AGC mai dyma fyddai’n digwydd. Bydd y Pwyllgor yn cadw llygad agos ar y gwaith hwn.

           Roedd y Pwyllgor Sgriwtini yn llongyfarch pawb a fu ynghlwm â’r siwrnai wella hyd yma, sy’n cynnwys Aelodau Etholedig, Rheolwyr a staff y Gwasanaeth ac, ar ôl ystyried yr adroddiad a’r cyflwyniad gan AGC, roedd y Pwyllgor yn derbyn adroddiad AGC a safle’r Gwasanaeth o ran y camau y bydd yn eu cymryd i roi sylw i’r meysydd i’w datblygu, ac roedd yn argymell yr adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn falch o’r gwelliannau a bod adroddiad AGC yn dyst iddynt. Diolchodd i staff y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd am eu gwaith caled a oedd wedi creu’r gwelliannau hyn ac roedd yn hyderus y byddai’r lefel uchel o ymroddiad yn cael ei gynnal gan wybod bod gwaith pellach angen ei wneud.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaetholna fu’n bresennol am y rhan gyntaf o’r eitem hon – ategu ymroddiad y Pwyllgor Sgriwtini i sicrhau gwelliannau pellach yn y Gwasanaethau Plant gan nodi fod y siwrnai wella yn un barhaus; ei gydnabyddiaeth o’r cyfraniad a wnaed gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant a’r rôl barhaus sydd gan y Panel i’w chwarae o hyd wrth gefnogi gwelliannau i’r dyfodol, a’i werthfawrogiad i waith y staff mewn amgylchedd sy’n gallu bod yn heriol ond yn ysbrydoledig hefyd. Diolchodd i’r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol am ei harweinyddiaeth a’i chyfarwyddyd yn ystod y cyfnod gwella.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gwaith caled a fu’n sail i’r gwelliannau sylweddol yn y Gwasanaethau Plant, fel roedd AGC yn ei gydnabod. Wrth groesawu’r adroddiad, pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith fod rhaid cynnal y momentwm; i’r perwyl hwnnw cynigiodd y dylai’r Pwyllgor Gwaith barhau i dderbyn yr adroddiadau cynnydd chwarterol ar welliannau yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd sydd wedi ffurfio rhan o’r broses adrodd ar siwrnai wella y Gwasanaeth dros y ddwy flynedd ddiwethafbyddai hynny’n galluogi’r Pwyllgor Gwaith i gadw llygad ar raddau a chyflymder y cynnydd.

 

Penderfynwyd

 

           Derbyn Adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru ar eu harolygiad o Wasanaethau Plant Ynys Môn.

           Derbyn a chytuno â safiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r camau y bwriedir eu cymryd i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhoi sylw i’r meysydd hynny y mae hangen eu datblygu.

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn parhau i dderbyn adroddiadau diweddaru cynnydd chwarterol ar welliannau yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ategol: