Ystyried cais am ganiatâd arbennig.
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Arweinydd y Cyngor), yn gofyn i’r Pwyllgor Safonau ystyried rhyddhau caniatadau arbennig mewn perthynas â diddordebau a oedd yn rhagfarnu ynghylch yr isod:-
• Y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn nalgylch Amlwch;
• Darpariaeth Addysg Ôl-16 yn y Sir.
Dywedodd y Swyddog Monitro y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar ddiwedd mis Mawrth 2019 gyda golwg ar gychwyn y broses o ymgynghoriad statudol cyhoeddus ffurfiol ar foderneiddio ysgolion yn ardal Amlwch. Mae ysgol gynradd Llanfechell, ble mae nith y Cynghorydd Huws yn ddisgybl, yn un o’r ysgolion a fydd dan ystyriaeth. Bydd unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch dyfodol ysgol gynradd Llanfechell yn cael effaith ar y plentyn gan olygu bod y diddordeb personol hefyd yn un sy’n rhagfarnu.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y Côd Ymddygiad i Aelodau ac eglurodd bod perthynas agos y Cynghorydd Huws gyda’r plentyn a chyda mam y plentyn, yn creu diddordeb personol yng nghyd-destun y prosiect ac o dan y Côd. Byddai hynny ynddo’i hun yn golygu bod angen i’r Arweinydd ddatgan ei diddordeb personol. Fodd bynnag, oherwydd y berthynas agos, a’r posibilrwydd y câi’r penderfyniad effaith sylweddol ar y plentyn, mae’r diddordeb hefyd yn un sy’n rhagfarnu, sy’n golygu na fyddai modd i’r ymgeisydd gymryd rhan heb gael caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion wedi cael ei mabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref, 2018. Mae’r Strategaeth yn nodi cyfeiriad yr Awdurdod mewn perthynas â’r broses o foderneiddio ysgolion dros y degawd nesaf. Mae’r tri band isod wedi cael eu sefydlu ar gyfer Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Cymru:-
Band A – prosiectau sydd wedi cael eu cwblhau neu sydd bron â’u cwblhau;
Band B – prosiectau sydd yn mynd rhagddynt neu rai a fydd yn cychwyn yn fuan;
Band C – prosiectau ar gyfer y tymor hwy a fydd yn cael eu cyflawni yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Cymru yn golygu moderneiddio ysgolion drwy sicrhau bod modelau dysgu newydd yn cael eu sefydlu a fydd o fudd i blant y Sir rŵan ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r cynllun tymor hir yn un o gonglfeini Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf y mae’r Cyngor yn cyflawni yn ei herbyn. Nodwyd mai’r Cynghorydd Huws yw llefarydd y Cyngor ar y Ddeddf a’i bod yn cynrychioli’r Cyngor mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Rhaglen Moderneiddio Ysgolion – Ardal Amlwch
O ran y broses ymgysylltu i drawsnewid ysgolion Ynys Môn, cynhaliwyd trafodaethau anffurfiol yn ddiweddar gydag aelodau’r cyhoedd, rhieni, athrawon ac ati i asesu teimladau’r cyhoedd o fewn y cymunedau yn ardal Amlwch; sy’n cynnwys Ysgol Llanfechell. Nodwyd y bydd y cam nesaf o’r broses yn cynnwys cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i’w ystyried, ac yna i’r Pwyllgor Gwaith i’w gymeradwyo gyda chyfnod ymgynghori statudol ffurfiol o 6 wythnos wedyn i ystyried yr opsiynau posibl. Wedyn, bydd y Pwyllgor Sgriwtini yn penderfynu ar yr opsiynau y mae’n eu ffafrio ac yn cyflwyno ei argymhellion i’r Pwyllgor Gwaith i’w penderfynu arnynt yn derfynol. Yna, bydd Achos Busnes Amlinellol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini ar gyfer eu sylwadau, ac yna i’r Pwyllgor Gwaith a Llywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.
Eglurodd y Cynghorydd Huws ei bod yn gofyn am ganiatâd arbennig oherwydd bod ganddi berthynas agos iawn gyda’i chyfyrder a bod merch ei chyfyrder yn mynychu Ysgol Llanfechell. Dywedodd y gallai eu perthynas fod yn un sy’n rhagfarnu yng nghyd-destun y cyfnod presennol o’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion oherwydd bod ansicrwydd ynghylch dyfodol addysg yn ardal Amlwch. Dywedodd ymhellach ei bod yn amhosibl ffurfio barn ar hyn o bryd ynghylch beth fydd pobl leol yn ei deimlo am y prosiect moderneiddio ysgolion yn y dyfodol. Dywedodd y Cynghorydd Huws ei bod eisoes yn datgan diddordeb mewn perthynas ag ysgol Llanfechell oherwydd mai hi yw’r Cynghorydd sy’n cynrychioli’r Awdurdod ar Fwrdd Llywodraethu’r ysgol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Huws at faniffesto Plaid Cymru, a luniodd yn 2017, a dyfynnodd yr isod fel rhan o’i gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a’r hyn y mae’n dymuno ei weld - “Rwyf am weld pob plentyn ar Ynys Môn yn cyflawni ei botensial”. Nodwyd bod Maniffesto’r Arweinydd wedi cael ei fabwysiadu fel y gyrrwr ar gyfer Cynllun y Cyngor. Y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yw conglfaen y cynllun hwnnw.
Y Ddarpariaeth Addysg Ôl-16 yn Ynys Môn
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod y drefn ar gyfer addysg ôl-16 yn debyg iawn i’r broses a amlinellwyd ar gyfer ardal Amlwch. Mae’r Cyngor eisoes wedi ymgysylltu gyda thrigolion ar draws yr Ynys. Bydd y broses ymgynghori statudol yn cychwyn yn ystod yr Hydref ac yn parhau am 6 wythnos cyn symud ymlaen i weithredu ar unrhyw benderfyniad a wneir yn y man. O ran y canlyniadau posibl, gallai unrhyw un o’r pum ysgol uwchradd ar yr Ynys gael eu heffeithio. Nodwyd bod y canlyniadau posibl ar hyn o bryd yn amrywiol ac yn gymhleth a bydd angen ystyried goblygiadau’r penderfyniadau hyn ar ddisgyblion ysgol uwchradd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Huws at y model o Faniffesto Plaid Cymru: “ein bod yn parhau i roi i’n plant y cyfleoedd gorau posibl, sef nodau cyraeddadwy”. Dywedodd yr Arweinydd fod posibilrwydd mai ei merch hi fydd un o’r rhai cyntaf i gael eu cynnwys yn y ddarpariaeth addysg ôl-16 pan fydd unrhyw fodel newydd wedi cael ei gwblhau. Tanlinellodd bwysigrwydd cydweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn datblygu sgiliau gwaith hanfodol a’u bod yn cael y cyfleusterau addysg gorau.
Holodd y Cadeirydd yr Arweinydd a gofynnodd ym mha fodd y mae ei diddordeb yn un sy’n rhagfarnu? Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Huws nad oes ganddi ddiddordeb sy’n rhagfarnu ar hyn o bryd ond ei bod yn pryderu y gallai cwestiynau gael eu gofyn y tu allan i’r Cyngor ynghylch unrhyw benderfyniadau a wna yn y dyfodol efallai. Dywedodd y gallai ei diddordeb gael ei ddehongli fel un sy’n rhagfarnu, oherwydd y gallai ei merch fod yn rhan o’r model newydd ar gyfer y 6ed dosbarth pan gaiff ei gwblhau.
Ymneilltuodd Aelodau’r Panel i sesiwn breifat i drafod y mater. Wedi’r drafodaeth, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau wedi PENDERFYNU rhoi caniatâdau arbennig i’r Cynghorydd Llinos Medi Huws mewn perthynas â’r diddordebau hynny y cyfeirir atynt yn y Cais, sy’n caniatáu i’r Cynghorydd:-
• ysgrifennu at swyddogion [a’r Pwyllgor Gwaith / Pwyllgor / Cyngor] ynglŷn â’r mater;
• siarad â swyddogion y Cyngor ynglŷn â’r mater cyhyd ag y cedwir cofnod o unrhyw drafodaethau;
• siarad yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith / Pwyllgor / Cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r mater;
• aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth a/neu bleidlais ynglŷn â’r mater;
• pleidleisio yn y cyfarfodydd hynny; a
• cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd allanol yn ei chapasiti fel aelod etholedig.
Rhoddir y caniatadau arbennig am y rhesymau isod:-
1. Mae natur diddordeb yr Aelod yn golygu na fyddai cyfranogiad yr Aelod i’r busnes y mae’r diddordeb yn ymwneud ag ef yn andwyol i hyder y cyhoedd yn y modd yr ymdrinnir â busnes y Cyngor;
[Roedd y Panel yn fodlon bod yr ymgeisydd â chymhelliant i weithio er budd y cyhoedd ac yn benodol er budd gorau’r plant a fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau hyn yn y tymor byr, y tymor canol a’r tymor hir.]
2. Mae cyfranogiad yr Aelod i’r busnes y mae’r diddordeb yn gysylltiedig ag ef yn cael ei gyfiawnhau yn rhinwedd swyddogaeth neu arbenigedd penodol yr Aelod;
[Roedd y Panel yn fodlon, oherwydd rôl yr ymgeisydd fel Arweinydd y Cyngor ac arwyddocâd y prosiect hwn i’r sawl a effeithir ac fel rhan o flaenoriaethau’r Cyngor, y dylai’r prosiect gael ei arwain, a’i weld fel un sy’n cael ei arwain, gan Arweinydd y Cyngor.]
3. Ymddengys i’r Pwyllgor Safonau fod y diddordeb yn ddiddordeb i drigolion ardal y Cyngor ac y dylid dileu’r anallu, cyhyd â bod hysbysiad ysgrifenedig o roddi caniatâd arbennig yn cael ei roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 7 niwrnod. Dylai hysbysiad o’r fath roi manylion am yr Aelod sydd wedi derbyn y caniatâd arbennig a rhesymau’r Pwyllgor Safonau dros ddileu’r anallu.
[Am y rhesymau a ddisgrifir yn 1 a 2 uchod, roedd y Pwyllgor Safonau’n fodlon bod yr un ffeithiau hefyd yn cyfiawnhau rhyddhau caniatâd arbennig am y trydydd rheswm hwn.]
Gweithredu:
• Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at y Cynghorydd Huws yn cadarnhau bod y Panel wedi rhoi caniatâd arbennig iddi ysgrifennu, siarad a phleidleisio ar yr holl faterion sy’n ymwneud â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn nalgylch Amlwch. Rhaid i’r Cynghorydd Huws ddatgan diddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu pan yn mynychu’r cyfarfodydd uchod.
• Y Swyddog Monitro i hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig am y caniatadau arbennig a roddwyd i’r Cynghorydd Huws o fewn 7 niwrnod i ryddhau’r caniatadau hynny.
• Y Swyddog Monitro i hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru y gwnaed i ffwrdd â’r elfen anallu a rhoi’r rheswm pam fod y Pwyllgor Safonau wedi penderfynu cael gwared â’r elfen honno.
Dogfennau ategol: