Eitem Rhaglen

Cyllid yn y dyfodol Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Am eu bod wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu fe wnaeth Ms Llinos M Huws, Bob Parry OBE FRAgS a Nicola Roberts adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y mater.

 

Roedd Mr Aled Morris Jones wedi datgan diddordeb personol yn y drafodaeth ynglŷn â Ffermwyr Ifanc Môn ond yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd yn cael cymryd rhan yn drafodaeth ond ni chawsai wneud cynnig neu bleidleisio ar y mater.

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth, ym mis Mehefin 2014, wedi penderfynu dyfarnu grant blynyddol o £40k i’r Urdd a grant blynyddol o £30k i Ffermwyr Ifanc Môn, y ddau am gyfnod o bum mlynedd. Hyd at 2016, nododd fod yr Ymddiriedolaeth yn arfer dyfarnu ei grantiau trwy ei ddyraniad Grantiau Bach gyda grantiau o hyd at £8,000, er hynny roedd wedi dyfarnu grantiau mwy i nifer o sefydliadau eraill ar sail ad-hoc, gan asesu’r ceisiadau ar eu rhinweddau eu hunain heb unrhyw ystyriaeth i unrhyw geisiadau eraill posib. Roedd yr Urdd a Ffermwyr Ifanc Môn wedi derbyn eu harian grant trwy’r broses ad-hoc hon. Yn 2017 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol gyflwyno proses grantiau mwy a byddai’r grantiau hyn yn cael eu hariannu o’r twf yng ngwerth cyfalaf y portffolio; roedd hyn hefyd yn lleihau’r galw i ariannu grantiau’n gyfan gwbl o’r incwm refeniw blynyddol a gynhyrchwyd. Hefyd yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2017, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth y gellir rhoi ystyriaeth i geisiadau gan sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid o’r blaen yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, fel rhan o’r broses grantiau mwy, ond dim ond pan fo’r holl geisiadau eraill wedi eu hystyried a bod cyllid yn weddill sydd heb ei ddyrannu. Mae ceisiadau wedi’u gwahodd gan sefydliadau am grantiau mwy, a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 25 Ionawr, 2019. Bydd y Pwyllgor Adfywio yn rhoi ystyriaeth i’r ceisiadau yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2019. Er bod y broses ffurfiol, strwythuredig hon mewn lle ers 2017, mae’r Ymddiriedolaeth wedi dyfarnu grant i brosiect Leader Menter Môn ac i ddisgyblion o Ysgol Gyfun Llangefni tu allan i’r broses grantiau mawr flynyddol. Yn ogystal, mae’r Ymddiriedolaeth wedi penderfynu mewn egwyddor dyfarnu grant i Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn i’w cynorthwyo gydag ariannu’r gwaith o gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2025. 

 

Yng nghyfarfod yr Ymddiriedolaeth lawn ar 12 Rhagfyr, 2018, lle trafodwyd y cyllido ar gyfer yr Urdd a Ffermwyr Ifanc Môn, roedd aelodau’r Ymddiriedolaeth yn derbyn bod y ddau fudiad yn hollbwysig wrth gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau, fodd bynnag, ystyriwyd hefyd y dylai pob sefydliad gael eu trin yn gyfartal fel rhan o’r broses o ddyfarnu grantiau. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, amlinellwyd tri opsiwn ar gyfer delio â cheisiadau am gyllid gan yr Urdd a Ffermwyr Ifanc Môn. 

 

Roedd y rhan fwyaf o Aelodau’r Ymddiriedolaeth o’r farn fod angen i’r ddau fudiad gael eu hystyried tu allan i’r broses grantiau mawr flynyddol gan eu bod yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc a’u bod yn hollbwysig wrth ddiogelu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn eu gweithgareddau. Roedd rhai Aelodau, er eu bod yn gwbl gefnogol i’r ddau fudiad, o’r farn y dylai pob sefydliad gael eu trin yn gyfartal fel rhan o’r broses dyfarnu grantiau mwy.

Yn dilyn y trafodaethau PENDERFYNWYD :-

 

·      Delio gyda’r Urdd a Ffermwyr Ifanc Môn tu allan i’r broses grantiau mawr flynyddol;

·      Gwahodd cynrychiolwyr o’r ddau fudiad i gyflwyno eu ceisiadau ger bron yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn a gaiff ei gynnal ym mis Ebrill, 2019 ac i roi gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd ganddynt gyda’r cyllid maent wedi ei dderbyn dros y 5 mlynedd diwethaf.

 

(Fe wnaeth Mr Dylan Rees atal ei bleidlais).

 

Dogfennau ategol: