Eitem Rhaglen

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2018, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi ohonynt

 

           Cadarnhaodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod Grŵp Prif Archwilwyr Gogledd Cymru wedi cyfarfod ym mis Ionawr, 2019 fel oedd wedi’i drefnu; mae’r Grŵp nawr yn gweithio ar hunanasesiad y gellir ei ddefnyddio ar draws Gogledd Cymru i asesu cydymffurfiaeth Pwyllgorau Archwilio gyda chanllawiau newydd CIPFA ynghylch rôl Pwyllgorau Archwilio mewn Awdurdodau Lleol a’r Heddlu sydd wedi ymestyn sgôp pwyllgorau archwilio. Felly bydd aelodau’r Pwyllgor yn derbyn holiadur yn fuan i ofyn eu barn ynglŷn â lle tybiant mae’r Pwyllgor arni ar hyn o bryd.

 

           Darparodd y Pennaeth Archwilio a Risg wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i gwmnïau am docynnau teithio rhatach ar gyfer pob un o’r tair blynedd o 2014/15 i 2017/18 fel roedd y Pwyllgor wedi gofyn amdano yn ei gyfarfod blaenorol pan oedd yn ystyried yr adolygiad Archwilio Mewnol ar Dwyll Tocynnau Teithio Rhatach (yn dilyn achos adnabyddus o dwyll yn erbyn Cyngor Gwynedd). Dywedodd y Swyddog ei bod hefyd wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru i geisio eu barn ynghylch p’un a oedd taliadau teithio rhatach wedi amrywio ledled Cymru yn dilyn y twyll. Er nad oedd Archwilydd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai dyna’r achos, mae’r data’n dangos y bu gostyngiad dilynol mewn taliadau am docynnau teithio rhatach. Fel ymarfer dilynol ar ôl y twyll, mae Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal gweithdy yng Ngogledd Cymru a bydd Prif Swyddog Archwilio pob Cyngor yn cael ei wahodd iddo – y bwriad fydd edrych ar feysydd o dwyll y gellir rhoi sylw iddynt yn gyffredinol ar draws gwasanaethau cyhoeddus ac yn fwy penodol, teithio rhatach.

 

           Darparodd y Pennaeth Archwilio a Risg wybodaeth am safle’r Cynghorau yng Nghymru mewn perthynas â chasglu incwm o brydau ysgol/dyledion prydau ysgol yn 2017/18. Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am y wybodaeth yn ei gyfarfod blaenorol. Cafwyd y wybodaeth o erthygl newyddion BBC ar ddyledion prydau ysgol mewn Cynghorau yng Nghymru. Dywedodd y Swyddog, er bod yr erthygl yn cyfeirio at y mwyafrif o gynghorau yng Nghymru, roedd Ynys Môn yn un o’r cynghorau a gafodd eu gadael allan o’r erthygl gan nad yw’n gallu rhoi ffigwr manwl-gywir ar gyfer y cyfanswm dyledion ar hyn o bryd oherwydd y ffaith fod dwy system yn weithredol, gyda rhai ysgolion yn gweithredu ar sail di-arian-parod tra bod eraill yn defnyddio arian parod. Rhagwelir y bydd holl ysgolion y Cyngor wedi trosglwyddo i’r system newydd erbyn mis Medi felly bydd modd i’r Cyngor ddarparu ffigwr dibynadwy ar gyfer dyledion cinio ysgol yr adeg honno.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod rhai ysgolion ar hyn o bryd yn cofnodi dyledion cinio ysgol ar gofrestri unigol yn y dosbarthiadau; mae rhai yn cyfrifo’r cyfanswm ar ffurflen grynodeb; mae rhai ysgolion yn gweithredu system sy’n rhannol ddi-arian, rhannol ariannol tra bod eraill yn gwbl ddi-arian, sy’n golygu bod gwahanol fersiynau o’r system a phob un yn dal gwahanol ddarnau o wybodaeth. Yr amcan yw cysoni’r darnau hyn o wybodaeth mewn un ffigwr dyledion cyffredinol, gan gofio hefyd fod y ffigwr yn newid yn ddyddiol. Yr amser delfrydol i wneud y cyfrifiad hwn fyddai ar ddiwedd tymor y Pasg pan fydd y ffigwr yn aros yr un fath am bythefnosgellir cynhyrchu ffigwr bryd hynny. Bydd ysgolion yn trosglwyddo i’r system ddi-arian newydd dros dymor yr haf a disgwylir y bydd y system newydd yn weithredol yn yr holl ysgolion ym mis Medi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oes gweithdrefn wedi’i chytuno ar gyfer adfer dyledion cinio ysgol, eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai mater i bob ysgol unigol yw cyfeirio dyledion sydd dros lefel benodol – £50 ar hyn o brydi’r tîm Adfer Dyledion Canolog a fydd wedyn yn anfon bil a nodyn atgoffa, ac os bydd y ddyled dal heb ei thalu, bydd wedyn y anfon y ddyled ymlaen i Asiantaeth Casglu Dyledion y Cyngor. Mae faint o waith a wneir ar adfer dyledion yn dibynnu ar faint y ddyled. Y nod yw taro cydbwysedd rhwng lefel y ddyled a’r gost o’i hadfer, tra’n ei gwneud yn glir y bydd y Cyngor yn cymryd camau gorfodaeth pan fo raid er mwyn adfer dyledion. O dan y system newydd bydd rhaid i rieni dalu am brydau ysgol ymlaen llaw, a bydd ganddynt gyfrif credyd ar y system sy’n ei gwneud yn haws i reoli sefyllfa gredyd y rhieni ac i gysylltu â hwy petai angen.

 

Wrth edrych ar yr amrediad o ddyledion cinio ysgol a nodwyd yn erthygl y BBC, awgrymodd y Pwyllgor y gellir dysgu gwersi wrth gysylltu â’r Cyngor sydd â’r lefel isaf o ddyled, sef Rhondda Cynon Taf ar £770.56, er mwyn sefydlu pa arferion y mae wedi eu rhoi ar waith i’w helpu i reoli arian cinio ysgol a chadw’r ddyled yn isel.

 

Pwysleisiodd aelod o’r Pwyllgor ymhellach fod y Cyngor hwn yn y gorffennol wedi ceisio pledio’r achos dros ymestyn prydau ysgol am ddim i’r holl blant ysgol yng Nghymru, gan felly gael gwared ar y stigma sydd dal yn gysylltiedig â hawlio a derbyn prydau ysgol am ddim.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn perthynas â’r arferion gorau mewn cynghorau eraill, yn dilyn cyflwyniad Credyd Cynhwysol fod y system prydau ysgol am ddim wedi newid. Yn flaenorol, byddai plentyn yn derbyn prydau am ddim os oedd ei rieni yn derbyn un o chwech budd-dal allan o waith, ond mae Credyd Cynhwysol wedi dod â’r budd-daliadau mewn gwaith ac allan o waith ynghyd. Bydd plentyn sydd â’i rieni’n derbyn Credyd Cynhwysol yn derbyn prydau ysgol am ddim waeth pa fudd-dal oedd yn gymwys o’r blaen (h.y. mewn gwaith neu allan o waith). Felly, mewn ardaloedd lle mae Credyd Cynhwysol wedi bod yn weithredol yn hirach, bydd yna fwy o blant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim nag yn yr ardaloedd lle mae Credyd Cynhwysol ond newydd ddod i mewn h.y. Ynys Môn, lle cafodd Credyd Cynhwysol ond ei gyflwyno ym mis Rhagfyr, 2018, a lle mae nifer y bobl sy’n ei dderbyn, ac o ganlyniad nifer y plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim, yn is nag mewn ardaloedd megis Torfaen, er enghraifft.

 

Ynglŷn â’r pwynt am y stigma o dderbyn prydau ysgol am ddim, dywedodd y Swyddog y bydd y system newydd ddi-arian yn cael gwared ar y stigma gan nad yw’n tynnu sylw at y rheini sy’n derbyn prydau am ddim o gymharu â’u cyfoedion yn yr modd ag y mae casglu arian cinio yn eich llaw yn ei wneud.

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd.

 

CAMAU GWEITHREDU A GYNIGWYD:

 

           Y Pennaeth Archwilio a Risg i wneud ymholiadau gyda Chynghorau yng Nghymru lle mae’r ddyled cinio ysgol yn isel ynglŷn â pha arferion sydd ganddynt ar waith i reoli’r ddyled cinio ysgol.

           Gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ystyried lobïo Llywodraeth Cymru i gyflwyno prydau ysgol am ddim i’r holl blant ysgol yng Nghymru.

Dogfennau ategol: