Eitem Rhaglen

Llythyr Archwilio Blynyddol 2017/18

Cyflwyno’r Llythyr Archwilio Blynyddol am 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – y Llythyr Archwilio Blynyddol ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2017/18. Roedd y Llythyr yn cadarnhau fod yr Archwilydd Cyffredinol, ar 28 Medi 2018, wedi cyflwyno barn archwilio ddiamod ar ddatganiadau ariannol y Cyngor sy’n cadarnhau eu bod yn cyflwyno darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y Cyngor. Cafodd y materion allweddol a oedd yn codi o’r archwiliad eu hadrodd wrth y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Medi 2018.

 

Nododd y Pwyllgor y Llythyr Archwilio a nododd hefyd ei fod yn gwneud sylwadau ar yr heriau ariannol a wyneba’r Cyngor wrth geisio gosod cyllideb gytbwys yn erbyn cefndir o falensau sy’n gostwng yn y gronfa gyffredinol, a’i fod yn cyfeirio’n benodol at y pwysau a’r galw mewn gofal cymdeithasol Plant ac Oedolion fel rhesymau allweddol am y diffyg o £3.3m y mae’r Cyngor yn ei ragweld yn narpariaeth gwasanaethau yn 2018/19. Yn wyneb hyn fe geisiodd y Pwyllgor eglurhad ar y canlynol

 

           P’un a yw’r Gwasanaeth Iechyd yn cyfrannu tuag at y gost o leoliadau gofal plant, neu a yw’r Cyngor yn gofyn iddo wneud hynny.

           P’un a yw’r Awdurdod yn ceisio cael ateb hirdymor i’r prinder o leoliadau plant yn lleol trwy gynyddu’r capasiti ar yr Ynys, a thrwy hynny leihau’r defnydd o leoliadau tu allan i’r ardal sy’n cyfri am gyfran fawr o’r gwariant ar ofal cymdeithasol Plant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan yr Awdurdod gyfrifoldebau penodol yng nghyswllt diogelu a hyrwyddo llesiant y plant mae’n gofalu amdanynt; dros y tair blynedd diwethaf mae’r Awdurdod wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y gwasanaethau y mae’n eu darparu i’w blant mewn gofal o’r ansawdd uchaf, ac mae gwelliannau sylweddol wedi digwydd yn yr amser hwnnw. Fodd bynnag, mae yna achosion lle mae anghenion plentyn mewn gofal yn gysylltiedig ag iechyd, ac yn yr achosion hynny nid yw’r Awdurdod yn ymgysylltu â’r Gwasanaeth Iechyd.

 

Dywedodd y Swyddog fod y Llythyr Archwilio hefyd yn tynnu sylw at y gostyngiad ym malansau Cronfa Gyffredinol y Cyngor fel risg a’i fod yn datgan nad yw’n gynaliadwy i ddibynnu ar arian wrth gefn i dalu am y gost barhaus o Wasanaethau Plant/Gofal sy’n cael eu harwain gan y galw. Ychwanegodd y Swyddog fod y risg yn sgil y galw uchel ar gyllidebau Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion yn broblem i’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac nad yw’n fater unigryw i Ynys Môn.

 

O ran mynd i’r afael â’r prinder lleoliadau yn lleol, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Awdurdod wedi cael cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y Model gofal Cartrefi Grŵp Bach – mae hyn yn golygu bod y Cyngor yn defnyddio tai addas o’i stoc tai ei hun i ddarparu llety i hyd at 2 o blant sy’n derbyn gofal. Roedd y Pwyllgor Gwaith hefyd wedi cymeradwyo pecyn cefnogaeth estynedig i Ofalwyr Maeth gyda’r nod o hwyluso’r dasg o recriwtio Gofalwyr Maeth. Tra bydd y mesurau hyn yn dod ag arbedion yn y tymor hir trwy leihau’r defnydd o leoliadau pell/Gofalwyr Maeth preifat, bydd yna wastad blant yn ngofal yr Awdurdod a chanddynt anghenion mor ddwys fel bod angen lleoliadau arbenigol arnynt, nad ydynt ar gael yn y sir. Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol a Iechyd gwerth £100m i ddatblygu modelau newydd o ofal iechyd a chymdeithasol trwy’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae chwe awdurdod Gogledd Cymru ynghyd â BIPBC yn gweithio ar Gynllun Plant ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd derbyn y Llythyr Archwilio Blynyddol ar gyfer 2017/18 a nodi ei gynnwys.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: