Eitem Rhaglen

Materion a Risgiau Archwilio Mewnol sy'n Parhau i Fod Angen Sylw

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn rhoi diweddariad ar statws a manylion y risgiau sy’n weddill a godwyd gan Archwilio Mewnol, fel yr oeddynt ar 27 Ionawr, 2019.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y graff yn rhan 3.4 yr adroddiad yn dangos bod perfformiad y Cyngor wedi gwella’n raddol o ran rhoi sylw i faterion a risgiau a godwyd gan Archwilio Mewnol a bod y ganran weithredu gyffredinol yn 93%. Bu llithriad bach yn y perfformiad o ran rhoi sylw i faterion a risgiau Uchel/Coch/Ambr o 93% yn chwarter 3 i 87% yn Chwarter 4 hyd yma, ac mae hynny oherwydd fod sawl mater/risg angen sylw ym mis Rhagfyr yn y Gwasanaeth Addysg ond ar yr un pryd bu newid yn yr aelod staff sy’n gyfrifol am ddiweddaru’r system 4action. Ar 27 Ionawr, 2019 nid oedd unrhyw risgiau Uchel yn weddill; roedd 7 o risgiau Canolig yn weddill a 12 o risgiau Isel, ac o’r system archwilio flaenorol, roedd 1 risg Coch yn weddill, 18 o risgiau Amber, 18 o risgiau Melyn a 3 risg Gwyrdd. Roedd manylion am faterion/risgiau sy’n weddill i’w gweld yn Atodiad A i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog fod nifer o’r argymhellion sydd dal yn y system wedi cael eu gwneud o dan yr hen system a gweinyddiaeth Archwilio Mewnol ac efallai nad yw’r rheini mor berthnasol bellach i’r system newydd. Mae Penaethiaid Gwasanaeth wedi cael cyngor i ohirio’r gofyn i ddiweddaru argymhellion tan fod y system newydd wedi’i gweithredu’n llawn (yn ddibynnol ar ddatrys rhai problemau meddalwedd). Felly, yn hytrach na chwblhau ymarfer glanhau data ar y data presennol, fe wnaed penderfyniad gyda chymeradwyaeth y Swyddog Adran 151 i ddechrau o’r newydd. Bydd materion a risgiau a godwyd ers cyflwyno’r dull archwilio newydd yn cael eu rhoi i mewn i’r system newydd. Cadarnhaodd y Swyddog fod yr argymhellion sy’n ymwneud â’r Gorchmynion Llys Gofal Plant o dan yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus sydd wedi’u cynnwys yn Atodiad A, bellach i gyd wedi derbyn sylw. Disgwylir y bydd Archwilio Mewnol yn gallu darparu adroddiad yn seiliedig ar y system newydd i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Gorffennaf.

 

 

Nododd y Pwyllgor fod risg Ambr mewn perthynas â Rhenti Tai – Parodrwydd am Gredyd Cynhwysol, dal angen sylw a bod y risg yn codi o’r ffaith nad yw’r system Orchard ar gyfer Rhenti Tai wedi’i diweddaru i gyd-fynd â’r broses adennill bresennol. Holodd y Pwyllgor a oes camau’n cael eu cymryd, ar ôl adnabod y risg, i fynd i’r afael â’r materion sy’n codi, gan gofio po hiraf y byddant yn aros heb eu datrys, y mwyaf fydd y goblygiadau i’r Cyngor o ran yr incwm y dylai fod yn ei gasglu fel rhan o’r drefn adennill dyledion rhent.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg y byddai’r Gwasanaeth yn edrych ar y mater penodol hwn fel rhan o’r archwiliad presennol ar Ddiwygio Lles ac y byddai’n rhoi diweddariad i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd nodi cynnydd y Cyngor wrth roi sylw i’r argymhellion a materion/risgiau Archwilio Mewnol sy’n parhau i fod angen sylw a godwyd ers mis Ebrill 2014, fel maent wedi eu hadlewyrchu yn yr adroddiad ac yn y diweddariad llafar a roddwyd gan y Pennaeth Archwilio a Risg.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: