Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2019/20. Roedd yr adroddiad yn nodi’r ymagwedd y mae’r Cyngor yn bwriadu ei mabwysiadu o ran trefniadau buddsoddi a benthyca ar gyfer 2019/20 yng ngoleuni'r sefyllfa economaidd gyfredol a’r sefyllfa a ragwelir.
Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar brif bwyntiau'r Strategaeth fel a ganlyn -
• Wrth osod y Strategaeth Rheoli Trysorlys, rhaid ystyried y sefyllfa economaidd gan fod hyn yn cael effaith ar gyfraddau buddsoddi, cost benthyca a chadernid ariannol gwrth-bartïon. Nodir y rhagolygon economaidd yn fanwl yn Atodiad 3 yr adroddiad a cheir crynodeb o'r prif bwyntiau yn adran 3.1. Y brif neges yw bod disgwyl i’r cynnydd o ran lefelau cyfraddau llog fod yn raddol ac isel iawn yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf gyda'r dychweliadau ar fuddsoddiad hefyd yn aros yn isel.
• Nodi’r sefyllfa’r Cyngor o ran benthyca allanol yn Nhabl 2 yr adroddiad ac ynddo ceir crynodeb o fenthyciadau cyfredol y Cyngor nad ydynt wedi eu talu eto.
• Un o brif swyddogaethau rheoli'r Trysorlys yw ariannu cynlluniau cyfalaf y Cyngor. Caiff rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2019/20 hyd at 2021/22 yn cael ei nodi yn Nhabl 3 yr adroddiad a nodir hefyd y modd y bwriedir ariannu’r rhaglen gyfalaf. Ffactor pwysig i'w ystyried yw effaith benthyca ar Ofyniad Cyllido Cyfalaf (CFR) y Cyngor sy'n cyfrifo angen sylfaenol y Cyngor i fenthyca er mwyn ariannu gwariant cyfalaf. Bydd gwariant cyfalaf yn cynyddu'r CFR ond dim ond gan y swm nad yw'n cael ei ariannu o grantiau cyfalaf, derbyniadau, cronfeydd wrth gefn neu refeniw. Bydd y CFR hefyd yn lleihau’n flynyddol gan swm y Ddarpariaeth Refeniw Isaf (MRP), sef tâl a godir ar y cyfrif refeniw bob blwyddyn i sicrhau bod y Cyngor yn gallu ad-dalu dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus. Dangosir effaith cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a'r tâl MRP ar y CFR a lefel y benthyca allanol a mewnol (h.y. benthyca o falansau arian parod y Cyngor) yn Nhabl 4 yr adroddiad.
• Mae'r Cyngor yn parhau i fod mewn sefyllfa o dan-fenthyca. Ni fydd y Cyngor yn benthyca mwy na sydd ei angen arno nac ychwaith cyn i unrhyw anghenion ddod i’r fei dim ond er mwyn elwa o fuddsoddiad y symiau ychwanegol a fenthycwyd oherwydd dros y tymor canol, disgwylir i'r dychweliadau ar fuddsoddiad barhau i fod yn is na chyfraddau benthyca tymor hir. Rhoddir ystyriaeth i ail-drefnu dyledion gan gymryd i ystyriaeth y ffactorau a amlinellir yn adran 6.5.2 yr adroddiad.
• Bydd y Cyngor yn mabwysiadu ymagwedd hyblyg tuag at y dewis rhwng benthyca mewnol ac allanol. Mae'r Cyngor wedi bod yn defnyddio ei gronfeydd arian parod ei hun i ariannu gwariant cyfalaf er mwyn lleihau taliadau llog trwy ohirio'r angen i fenthyca'n allanol. Fodd bynnag, mae'r gallu i fenthyca'n allanol i ad-dalu'r cronfeydd wrth gefn a'r balansau os oes angen yn rhan bwysig o'r strategaeth. Nodir manteision ac anfanteision benthyca mewnol yn yr hinsawdd sydd ohoni yn adran 6.3 yr adroddiad.
• Mae blaenoriaethau buddsoddi'r Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar sicrwydd cyfalaf yn y lle cyntaf, hylifedd yn ail ac enillion ar fuddsoddiad yn drydydd. Bydd y Cyngor yn gwneud buddsoddiadau gyda gwrth-bartïon yn unol â'r polisi teilyngdod credyd a nodir yn adran 7.2 y strategaeth.
• Nid oes bwriad i wneud unrhyw newidiadau i egwyddorion a pholisïau craidd Datganiad 2018/19.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y pwyntiau fel a ganlyn -
• Nododd y Pwyllgor mai'r gyfradd log ar fenthyciadau PWLB yw 5.26% ar gyfartaledd. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a fyddai o fantais i'r Cyngor geisio ailstrwythuro ei ddyledion er mwyn lleihau'r taliadau llog.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr Awdurdod yn adolygu ei fenthyciadau'n rheolaidd ar gyfer cyfleoedd i wneud arbedion ac yn asesu cost y taliadau cosb a delir o ganlyniad i ad-dalu benthyciadau yn gynnar yn erbyn yr arbedion y gellir eu gwneud trwy beidio â thalu’r llog. Mae'r cosbau am ad-dalu dyledion yn gynnar bron bob amser yn fwy na'r arbedion y gellir eu gwneud ar daliadau llog.
• Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor yn defnyddio Link Asset Services i ddarparu cyngor ar reoli'r trysorlys. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a yw ymgynghorwyr y Cyngor yn cael eu hasesu am werth am arian o ystyried bod mai arian sydd gan y Cyngor i’w fuddsoddi.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod ymgynghorwyr y Cyngor hefyd yn darparu cyngor ar faterion heblaw buddsoddiadau gan gynnwys cyngor ar fenthyca a’u bod yn darparu gwasanaethau trwy hwyluso mynediad i farchnadoedd arian petai'r Cyngor yn dymuno manteisio ar y cyfle; hyfforddiant ar Reoli Trysorlys yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer Aelodau Etholedig, a thrwy ddiweddaru’r Cyngor am raddfeydd credyd. Cafodd y contract ei dendro a'i ddyfarnu i Link Asset Service ar sail ffi gystadleuol ac ystyrir eu bod yn darparu gwerth am arian.
• Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor wedi benthyca’n fewnol i ariannu gwariant cyfalaf. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch ai cyfraddau llog yw’r unig faen prawf gyda’r ymagwedd hon fel modd o leihau costau dyledion.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod cost benthyca’n allanol yn uwch ar hyn o bryd na’r dychweliadau petai'r Cyngor yn rhoi'r arian ar adnau sy'n golygu ei bod yn synhwyrol defnyddio balansau arian sydd dros ben yn hytrach na chymryd benthyciadau allanol newydd. I gael dychweliadau gwell, byddai’n rhaid i'r Cyngor fabwysiadu ymagwedd tuag at fuddsoddi a fyddai’n cynnwys mwy o risgiau gan olygu y byddai angen newid y Strategaeth Rheoli Trysorlys; nid yw hyn yn cael ei ystyried.
Penderfynwyd derbyn y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys am 2019/20 ac argymell y Datganiad i'r Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylwadau ychwanegol.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL
Dogfennau ategol: