Eitem Rhaglen

Cofrestr Risg Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Gofrestr Risg Corfforaethol.

 

Dywedodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant fod system feddalwedd newydd - 4risk wedi'i chyflwyno i gofnodi a monitro risgiau, y mesurau sydd ar waith i reoli'r risgiau hyn ac unrhyw gamau sydd i'w cyflwyno i liniaru'r risgiau hynny ymhellach. Er nad yw wedi'i gynnwys ar hyn o bryd yn y system 4risk, mae gwaith yn cael ei wneud i gofnodi sicrwydd yn erbyn rheolaethau presennol. Bydd tair llinell sicrwydd yn cael eu cofnodi ar 4risk sef – y llinell sicrwydd gyntafgweithredu rheng flaen gan berchennog y camau rheoli; ail linell sicrwydd - rheolaeth reoli gyffredinol, rheolaeth ariannol; y drydedd llinell sicrwydd a ddarperir gan archwilwyr mewnol ac allanol a chyrff rheoleiddio eraill. Bydd hyn yn caniatáu i effeithiolrwydd y rheolaethau presennol gael eu hasesu a'u sicrhau ar yr amod nad yw'r risg weddilliol wedi cael ei gor-amcangyfrif na'i than-amcangyfrif.

 

Dywedodd y Swyddog fod y fersiwn o’r Gofrestr Risg Corfforaethol a gyflwynwyd yn adlewyrchu sylwadau'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn dilyn adolygiad o'r gofrestr. Mae fformat y gofrestr yn cynnwys y Llinellau Sicrwydd a fydd yn cael eu llenwi wrthi risgiau gael eu hadolygu a'u harchwilio.

 

Amlygir y prif risgiau coch i'r Cyngor yn adran 7 yr adroddiad. Ar wahân i ychwanegu risg YM40, ni fu unrhyw newidiadau eraill i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol. Eglurodd y Swyddog nad yw risg YM35 bellach yn cael ei chategoreiddio fel risg a’i bod yn hytrach yn fater sy'n derbyn sylw ac y bydd o’r herwydd yn ei thynnu oddi ar y gofrestr.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y pwyntiau canlynol

 

           Nododd y Pwyllgor fod y gofrestr ar ôl diystyru YM35, yn cynnwys 39 o risgiau a oedd, yn eu barn nhw yn ormodol ar lefel gorfforaethol gan olygu bod canolbwyntio ar y risgiau lefel uchel iawn yn anodd. Awgrymodd y Pwyllgor y byddai rhai risgiau yn cael eu rheoli'n fwy priodol ar lefel adrannol.

 

Dywedodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant y rhoddir blaenoriaeth i risgiau lle mae'r risg weddilliol yn Goch ac Ambr. Dywedodd y Swyddog y gellid cymryd dwy ymagwedd wrth lunio'r gofrestr risg - un lle mae'r gofrestr yn cynnwys risgiau generig yn unig sydd wedi'u disgrifio'n llai cywir ond sy’n golygu bod llai o risgiau ar y gofrestr, neu'r llall lle mae'r risgiau yn fwy yn fanwl ac felly'n fwy niferus ond yn haws eu harchwilio yn eu herbyn. Mae'r Awdurdod wedi dewis y fersiwn fanwl ond mae'n cael ei adolygu.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod y system 4risk yn darparu dull adrodd gwell sy’n golygu y gall yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth graffu ar y risgiau pwysicaf ac sydd hefyd yn caniatáu iddynt gael eu grwpio i themâu fel y gellir dod o hyd i risgiau mewn perthynas â maes penodol yn gyflym. Mae fersiwn fanwl o'r gofrestr risg yn fwy defnyddiol o safbwynt Archwilio Mewnol.

 

           Nododd y Pwyllgor bod yna feysydd lle mae'r lefelau risg gynhenid a’r risg weddilliol yr un fath hyd yn oed ar ôl cymryd camau i’w lliniaru / lleihau. Nododd y Pwyllgor ymhellach y gellid gwella'r gofrestr fel ffynhonnell o wybodaeth ar gyfer rheoli risg petai'r risgiau'n cael eu dyddio i ddangos pryd y cawsant eu codi, eu hadolygu a phryd y byddent yn debygol o gael eu cau.

 

Dywedodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant y bydd gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â lefelau sicrwydd a’r sicrwydd y gellir ei gymryd o reolaethau a fydd yn asesu effeithiolrwydd rheolaethau wrth leihau risg. Yn ogystal, caiff pob cofrestr risg ei hadolygu gyda'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth neu wasanaeth perthnasol dros y misoedd nesaf i sicrhau eu bod yn gadarn. Dywedodd y Swyddog fod yr adroddiad a gyflwynwyd yn fersiwn gryno at ddibenion y pwyllgor sy'n amlygu prif bwyntiau. Mae'r system 4risk yn cynnwys llawer mwy o fanylion am bob risg a sut mae'n cael ei rheoli gan gynnwys dyddiadau a llinellau amser.

 

           Cyfeiriodd y Pwyllgor at y modd yr ymdrinnir â Brexit a gofynnodd a ddylai'r risgiau sy'n gysylltiedig â Brexit fod yn fater i'w harchwilio naill ai gan y Pwyllgor Archwilio neu gan y Pwyllgor Sgriwtini.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod yna gofrestr risg ar gyfer Brexit a arweinir gan y Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd. Mae'r Cyngor hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod y strwythurau priodol ar waith yn fewnol yn seiliedig ar y senarios achos gwaethaf a'r achos gorau. Yr her mewn perthynas â Brexit yw'rrhai anhysbyssy'n golygu y byddai’n gynamserol i’w craffu ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a nodi hefyd fod y Pwyllgor yn cymryd sicrwydd o’r ffaith bod y risgiau i nodau ac amcanion y Cyngor yn cael eu cydnabod a'u rheoli gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL