Eitem Rhaglen

Proses Gosod Cyllideb 2019/20 - Refeniw a Chyfalaf

Rhoi ystyriaeth bellach i’r cynigion ar gyfer Cyllideb 2019/20 fel a ganlyn

 

·        Gosod y cyd-destun strategol a swyddogaeth Craffu (Blaen Adroddiad)

 

·        Cynigion terfynol y Gyllideb Refeniw a Chyfalaf ar gyfer 2019/20. (Atodiad 1)

 

·        Prif negeseuon yr Ymgynghoriad Cyhoeddus a gwaith ymgysylltu gyda dinasyddion a rhanddeiliaid eraill (Atodiad 2)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini er ystyriaeth y Pwyllgor. Amlinellwyd yn yr adroddiad y cyd-destun strategol i'r broses o osod Cyllideb 2019/20 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol ar gyfer Sgriwtini wrth werthuso’r cynigion terfynol ar gyfer y Gyllideb yng ngoleuni canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion drafft cychwynnol ar ei chyfer. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y ddogfennaeth atodol fel a ganlyn –

 

3.1 Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn amlinellu'r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019/20 a'r ystyriaethau ariannol allweddol y mae'r cyllidebau hynny'n seiliedig arnynt, gan gynnwys datganiad sefyllfa ar gyfer pob un o'r canlynol: - y setliad terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol; y sefyllfa gyllidebol ddiwygiedig; y Dreth Gyngor; cronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor; cynigion ar gyfer arbedion a’r Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb sy'n cyd-fynd â'r cynigion hynny mewn meysydd gwasanaeth sy'n debygol o gael effaith uniongyrchol ar randdeiliaid, a phwysau a risgiau cyllidebol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid y bydd yn rhaid i'r Cyngor wneud rhai penderfyniadau pwysig yn ystod yr wythnosau nesaf wrth iddo geisio darparu cyllideb gytbwys ar gyfer 2019/20 yng nghyd-destun pwysau cynyddol yn y Gwasanaethau Plant, Addysg a Gofal Cymdeithasol i Oedolion a llai o setliad grant. Mae'r Cyngor yn Ynys Môn fel rhai eraill yng Nghymru, hefyd yn wynebu pwysau eraill ar ffurf chwyddiant, dyfarniadau cyflog staff, gofynion deddfwriaeth newydd, cyfraniadau uwch gan gyflogwyr i’r Cynllun Pensiwn Athrawon a chynnydd yn ardoll y Gwasanaeth Tân. Mae'r rhain y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac ochr yn ochr â’r pwysau demograffig sy'n arwain at alw cynyddol am wasanaethau, maent yn cynrychioli storm berffaith o heriau sy'n rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa anodd iawn. Roedd y Gyllideb Ddigyfnewid gychwynnol o £ 137.402m a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd, 2018 yn seiliedig ar setliad dros dro o £ 95.159m gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn gadael bwlch ariannol o £ 7.156m cyn unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor. Er bod y setliad refeniw terfynol o £ 95.791m ar gyfer Ynys Môn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr yn well na’r sefyllfa dros dro, mae'n setliad llai o'i gymharu â'r llynedd ac nid yw'n ddigonol i gwrdd ag ymrwymiadau'r Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yn rhaid i’r Cyngor, yn ogystal â chysoni ei gyllideb yn gyffredinol, bennu cyllidebau gwasanaeth sy'n realistig yn arbennig ar gyfer y meysydd hynny sydd wedi profi pwysau cynyddol; gellid dadlau bod y meysydd hynny wedi cael eu tan-ariannu yn hanesyddol.

 

Amlinellodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 y cerrig milltir a'r prif ystyriaethau allweddol mewn perthynas â phroses gosod Cyllideb 2019/20 fel a ganlyn –

 

           Nodwyd y cyd-destun ar gyfer cyllideb refeniw 2019/20 yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol (MTFP) ar gyfer 2019/20 i 2021/22 a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2018 yn seiliedig ar ostyngiad rhagamcanol o 1% yn y Cyllid Allanol Cyfun ( AEF – sef cyfanswm y cymorth y mae'r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru), cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor a’r angen i arbed oddeutu £ 5m. Cymeradwywyd y Gyllideb Ddigyfnewid  gychwynnol (sef y swm sy'n ofynnol i ddarparu gwasanaethau ar eu lefelau presennol) o     £ 137.402m gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd, 2018 ac, yn seiliedig ar y setliad dros dro o £ 95.159m, roedd y bwlch cyllido yn £ 7.156m.

           Roedd y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb yn cynnwys arbedion o £ 3.747m (gan gynnwys gostyngiad o £ 1.739m yng nghyllidebau’r ysgolion) oedd yn golygu bod angen codi £ 3.409m drwy’r Dreth Gyngor. O ystyried y cynnydd arfaethedig ym Mhremiwm y Dreth Cyngor - o 25% i 35% ar gyfer ail gartrefi ac o 25% i 100% ar gyfer cartrefi gwag hirdymor - a fyddai'n creu £ 0.69m ychwanegol yn seiliedig ar gyfraddau 2018/19, byddai angen cynnydd o 7.55% yn y Dreth Gyngor i wneud i fyny’r £ 2.719m sy'n weddill.

           Cyhoeddwyd y setliad ariannol terfynol ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru ar 19 Rhagfyr, 2018. Gwelwyd cynnydd o  £ 23.591m yn yr AEF ar gyfer Cymru’n gyffredinol ac mae wedi ei wneud i fyny o’r elfennau a amlinellir ym mharagraff 2.2 yr adroddiad. Yn achos Ynys Môn, roedd hyn yn golygu cynnydd o £ 95.159m i £ 95.791m yn yr AEF - cynnydd o £ 0.632m ac er bod y Cyngor wedi elwa o godi'r llawr ariannu o -1.0% i -0.3%, mae'n dal i olygu gostyngiad o 0.3% yn yr AEF ar sail tebyg i’w debyg.

           Yn seiliedig ar y gyllideb ddigyfnewid ddiwygiedig (ar ôl ystyried yr arbedion yn y gyllideb) o £ 133.921m ac AEF terfynol o £ 95.791m, byddai'n rhaid codi £ 38.130m o’r Dreth Gyngor i ariannu'r gyllideb hon ac ôl y cynnydd yn y premiwm a'r newid yn sail y dreth, byddai angen cynnydd o 6% yn y Dreth Gyngor.

           Wrth lunio'r gyllideb ddigyfnewid, mae cyllid ychwanegol wedi'i gynnwys i gwrdd â rhywfaint o'r gorwariant rhagamcanol o £ 2.3m ar gyfer 2018/19 (yn bennaf oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau yn y Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Oedolion ac Addysg Ganolog). Fodd bynnag, ers drafftio’r gyllideb ddigyfnewid ym mis Medi / Hydref, 2018 mae'r sefyllfa wedi gwaethygu gyda'r gorwariant yn y Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion wedi cynyddu. Mae'r 3 gwasanaeth sy’n gorwario ar hyn o bryd yn gweithredu cynlluniau i reoli'r galw a lleihau costau fel y’u disgrifir ym mharagraff 3.3 yr adroddiad. Yn ychwanegol at hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi grantiau ychwanegol y tu allan i'r setliad ar gyfer Gofal Cymdeithasol; dyrannwyd £ 35 miliwn i Gymru gyda chyfran Ynys Môn yn          £ 720k (i’w gadarnhau).

           Yng ngoleuni'r uchod, amcangyfrifwyd bod y 3 gwasanaeth wedi eu tan-ariannu gan £ 1m a hynny gan dybio y bydd y prosiectau sydd ar y gweill yn sicrhau’r arbedion a ragwelir ac nad oes unrhyw gynnydd pellach yn y galw. O gofio bod lefel cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi gostwng yn sylweddol, byddai gorwariant o'r maint hwn eto yn 2019/20 yn peri mwy o risg ariannol i'r Cyngor.

           Roedd y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb yn cynnwys £ 3.7m o arbedion. Er bod y rhain wedi cael eu craffu a’r perygl o beidio â chyflawni wedi cael ei asesu, mae perygl o hyd na fydd modd gwireddau rhai a chyflawni eraill ar amser. Er bod y risg yn fychan iawn, ystyrir bod risg uwch na fydd modd cyflawni gwerth £ 235k o arbedion.

           Mae'r cynigion cyllidebol yn cynnwys cynnig i ddyrannu llai o arian i ysgolion nag sy'n ofynnol i fodloni'r holl bwysau cyllidebol (cyflog, cyfraniadau pensiwn a chwyddiant prisiau cyffredinol). Amcangyfrifir bod cost yr holl bwysau sy’n wynebu ysgolion yn 7% ond trwy ostyngiad o £ 1.739m yn y gyllideb a ddatganolir i’r ysgolion, mae'r cynnydd gwirioneddol yn yr arian parod i ysgolion yn 1.95%.

 

Wrth dynnu sylw at y ffaith nad yw'r cynnig mewn gwirionedd yn cynrychioli toriad o 5% i gyllideb yr ysgolion ar yr un lefel â 2018/19, esboniodd y Swyddog Adran 151 bod y gyllideb a ddatganolwyd i’r ysgolion ar gyfer 2018/19 yn £ 34.8m. Mae'r Awdurdod yn gwneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer costau talu i athrawon a staff cymorth a'r cynnydd yng nghyfraniad y cyflogwr i'r Cynllun Pensiwn Athrawon (£ 800k) yn ogystal â darpariaeth ar gyfer chwyddiant, trethi, ynni a chostau adeiladu ac ati (£ 700k). Fel bob blwyddyn, mae'r gyllideb wedi cael ei haddasu hefyd i adlewyrchu newidiadau yn niferoedd disgyblion gan arwain at ostyngiad o £ 136k ar gyfer y sector cynradd a chynnydd o £ 58k ar gyfer y sector uwchradd. Roedd cyllideb ychwanegol o £ 196k i Ganolfan Addysg y Bont hefyd wedi'i chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith i adlewyrchu’r cynnydd yn niferoedd disgyblion yn yr ysgol. Felly, mae'r Gyllideb a Ddatganolir i Ysgolion wedi cynyddu £ 2.6m o £ 34.8m yn 2018/19 i £ 37.2m yn 2019/20. Mae'r cynnig ar gyfer arbedion yn golygu cymryd 5% neu £ 1.739m allan o Gyllideb yr Ysgolion ar gyfer 2018/19 sy'n golygu y bydd cynnydd o £800k neu 2% yn y Gyllideb Ysgolion ar gyfer 2019/20 (1% ar gyfer y sector cynradd ac ychydig o dan 2% ar gyfer y sector uwchradd).

 

           Mae penaethiaid wedi mynegi pryder y bydd y cynnig hwn yn cael effaith sylweddol ar ysgolion gan arwain at ostyngiad yn nifer yr athrawon a dosbarthiadau gyda mwy o ddisgyblion. Mae balansau ysgolion ar gael i ddarparu cyllid ychwanegol yn y tymor byr, ond mae lefel y balansau wedi gostwng o £ 2.4 miliwn ym mis Mawrth, 2016 i ffigwr rhagamcanol o £ 0.8m ym mis Mawrth, 2019. Caiff effaith y cynnig ar y modd yr ariennir ysgolion o wahanol feintiau ei hamlinellu ym mharagraff 3.9 yr adroddiad.

           Ynys Môn ymhlith yr awdurdodau sydd â’r Dreth Gyngor isaf yng Nghymru gyda’r swm a godir am eiddo Band D yn 208/19 y 4ydd isaf yng Nghymru a'r ail isaf yng Ngogledd Cymru (paragraff 4.1 yr adroddiad). Dangosir effaith pob cynnydd o 0.5% o 6% i 10% ym mharagraff 4.2 yr adroddiad.

           Fel y dangosir ym mharagraff 2.4 yr adroddiad, mae angen cynnydd o 6% yn lefel y Dreth Gyngor i ariannu'r gyllideb ddigyfnewid ddiwygiedig yn ogystal â gweithredu gwerth £ 3.747m o arbedion. Fodd bynnag, mae elfen o dan-ariannu mewn 3 maes gwasanaeth nad yw'r gyllideb yn mynd i'r afael â hi yn ogystal â risg o ran y gallu i wireddu a / neu gyflawni rhai arbedion yn ar amser. Yn ogystal, mae angen ystyried effaith y gostyngiad yng nghyllidebau’r Ysgolion. Mae'r tabl ym mharagraff 5.3 yr adroddiad yn dangos effaith cyllido canran o'r gyllideb / risg arbedion nad ydynt efallai’n cael eu hariannu ynghyd ag effaith lleihau'r gostyngiad yn y gyllideb i ysgolion. Byddai costau ychwanegol yr arbedion hyn yn cael eu hariannu drwy osod y cynnydd yn y Dreth Gyngor yn uwch na 6%.

           Ym mis Mawrth, 2018, roedd cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor yn £ 6.899m neu 5.3% o gyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2018/19, 7.4% os yw’r gyllideb a ddatganolir i ysgolion dirprwyedig yn cael ei gadael allan. (Mae'r lefel uchaf o arian wrth gefn a gedwir yn fater i bob Cyngor benderfynu arno yn seiliedig ar argymhelliad gan y Swyddog Adran 151 ond, fel rheol gyffredinol, ystyrir bod 5% o'r gyllideb refeniw net yn dderbyniol, gyda hynny, yn seiliedig ar y gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2019/20, yn £ 6.7 miliwn ar gyfer Ynys Môn). Yn ystod 2018/19, rhyddhawyd £ 0.59m o'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol i ariannu costau unwaith ac am byth gan ddod â chyfanswm y cronfeydd wrth gefn i lawr i £ 6.309m. Bydd ariannu'r gorwariant o £ 2.35m a ragwelir ar gyllideb refeniw 2018/19 yn lleihau lefel y balansau cyffredinol ymhellach i £ 4m erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018/19 neu 3% o gyllideb sefydlog 2019/20.

           Ym marn y Swyddog Adran 151, mae lefel y cronfeydd wrth gefn cyffredinol bellach wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol ac ni ddylid caniatáu iddynt ostwng ymhellach. Mae cael cyn lleied â 3% o gronfeydd wrth gefn ariannol yn risg ariannol i'r Awdurdod sydd ond yn cynyddu po fwyaf y cyfnod y bydd y cronfeydd wrth gefn yn parhau ar y lefel isel hon ac yn cyfyngu ar allu'r Cyngor i ddelio ag unrhyw broblemau ariannol annisgwyl neu i gynnal cyllideb gytbwys.

           Mae amcangyfrif newidiadau yn y AEF yn y dyfodol yn anodd ac yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Gan nad oes unrhyw arwydd wedi'i roi gan Lywodraeth Cymru ynghylch lefel yr arian yn y dyfodol, mae’r Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol yn parhau i dybio na fydd  cynnydd yn lefel yr AEF dros y 3 blynedd nesaf; y bydd cynnydd blynyddol o 2% mewn dyfarniadau chwyddiant a thâl a chynnydd o 5% y flwyddyn yn y Dreth Gyngor. Yn seiliedig ar y rhagdybiaethau hyn, bydd yn rhaid i'r Cyngor barhau i ddod o hyd i arbedion o rhwng    £ 1m a £ 1.5m ym mhob un o'r tair blynedd ganlynol, a hynny ar ben yr arbedion a wnaed eisoes dros blynyddoedd diwethaf, tasg sy’n gynyddol anodd.

           Nodir y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019/20 yn y tabl ym mharagraff 8.2 yr adroddiad ac mae'n seiliedig ar y meini prawf a restrir ym mharagraff 8.1 gyda chyllid yn dod o'r ffynonellau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8.2. Y nod yw cyfyngu ar fenthyca allanol gymaint ag y bo modd er mwyn osgoi rhoi costau ychwanegol ar y gyllideb refeniw ac eithrio prosiect moderneiddio ysgolion y Cyngor o dan Raglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain sy'n gyfle rhy dda i’w golli i fuddsoddi yn ysgolion yr Awdurdod. Yn dilyn cyhoeddiad Horizon i ohirio prosiect Wylfa Newydd, bydd y cynllun ar gyfer y Lôn Newydd i Wylfa a oedd i fod i gael ei ariannu gan Horizon, yn cael ei dynnu allan o'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019/20. Yn y setliad terfynol i lywodraeth leol ar gyfer 20/19/20, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynnydd o £ 738k yn y grant cyfalaf cyffredinol. Nid yw'r Pwyllgor Gwaith wedi dyrannu hyn i unrhyw brosiectau eto.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, aelod o'r Panel Sgriwtini Cyllid, adroddiad ar gyfraniad y Panel tuag at y broses o osod cyllideb 2019/20 gan dynnu sylw at y ffaith bod y Panel wedi cymryd ymagwedd yn seiliedig ar risg tuag at gynigion cyllidebol 2019/20, gan ganolbwyntio'n benodol ar y risg o beidio â gallu gwireddu'r arbedion a gynlluniwyd yn llawn sydd wedi cymryd arni mwy o arwyddocâd o ystyried fod y rhwyd diogelwch ariannol a ddarperir gan gronfeydd wrth gefn y Cyngor yn lleihau.

 

Rhoddwyd cyfle i'r Penaethiaid Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Dysgu, a Phriffyrdd, Gwasanaethau Gwastraff ac Eiddo ynghyd ag Aelodau Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau i ymhelaethu ar y pwysau penodol sy'n wynebu eu gwasanaethau a’r effeithau, os o gwbl, a gaiff  y cynigion ar gyfer arbedion ar wasanaethau a darpariaeth. Clywodd y Pwyllgor –

 

           Er bod y Gwasanaethau Plant yn parhau i fod dan bwysau, a bod gwariant wedi cynyddu yn Chwarter 2, nid yw'r Gwasanaeth, yn wahanol i’r ysgolion, yn cael ei gyllido fesul pen ac nid yw cyllideb y Gwasanaeth wedi cadw i fyny â’r galw gyda nifer y plant sydd angen gofal wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

           Mae'r Gwasanaethau Plant yn gweithredu mesurau i reoli'r galw trwy gynyddu opsiynau o ran lleoliadau a thrwy hynny leihau’r ddibyniaeth a’r gwariant ar leoliadau costus y tu allan i'r sir. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys Pecyn Cymorth Gwell i Ofalwyr Maeth a chyflwyno Cartrefi Grwpiau Bach (Ein Tŷ Ni) trwy ddefnyddio anheddau addas o stoc dai'r Cyngor ei hun. Bu ffocws hefyd ar waith ataliol gyda'r Tîm Teuluoedd Gwydn yn gweithio i ddarparu cefnogaeth briodol ac amserol i deuluoedd fel nad oes raid i blant gael eu cymryd i ofal yn y lle cyntaf.

             Mae rheoli'r galw yn y Gwasanaethau Oedolion, yn enwedig o ran lleoliadau arbenigol ar gyfer unigolion ag anableddau dysgu, yn dod yn fwy heriol. Mae ymdrechion i reoli'r galw yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn seiliedig ar wasanaethau ataliol wrth y drws ffrynt, h.y. pan fydd yr unigolyn yn dod atom am y tro cyntaf i gael cymorth, ar ailalluogi ac ar ddarparu cefnogaeth trwy weithgareddau canolfannau cymunedol. Fodd bynnag, mae'r Gwasanaeth wedi gweld cynnydd yn y galw am leoliadau arbenigol drud ar gyfer anableddau dysgu ac iechyd meddwl a all fod yn anoddach i'w rheoli oherwydd eu bod hefyd yn gysylltiedig â heneiddio a / neu ddwysáu anghenion. Er bod y Gwasanaeth yn gweithio'n galed i reoli'r galw ac er bod ganddo ystod o gynlluniau i'w chefnogi gyda’r dasg hon, mae delio â phwysau demograffig yn ogystal â chynnydd yn nifer yr unigolion sydd ar y Gofrestr Anableddau Dysgu yn parhau i fod yn her. Mae'r Gwasanaeth yn hyderus y gellir cyflawni’r arbedion ond ni all fod yn sicr na fydd yn wynebu galw ychwanegol gan unigolyn(ion) a all fod angen lleoliad arbenigol oherwydd cymhlethdod eu hanghenion.

           Mae’r pwysau bellach yn dwysáu o ran Addysg. Bydd y gostyngiad arfaethedig yng nghyllideb yr ysgolion yn taro ysgolion yn hynod o galed a gallai arwain at golli swyddi, dosbarthiadau mwy ac, o ganlyniad, ddirywiad mewn safonau a chanlyniadau ar gyfer dysgwyr. Mae'r sgôp ar gyfer defnyddio balansau i lenwi'r bwlch hefyd yn lleihau wrth i fwy o ysgolion ddefnyddio eu cronfeydd wrth gefn i gydbwyso eu cyllidebau gyda rhai ysgolion â chronfeydd wrth gefn negyddol.

 

Pwysleisiodd Mr Alan McDonald, Pennaeth Ysgol Gynradd Porthaethwy, Porthaethwy a Mr Clive Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Llangefni yn eu sylwadau i'r Pwyllgor, ddifrifoldeb yr effaith a gaiff torri Cyllideb yr Ysgolion ar y lefel a gynigir ar y sector ysgolion yn Ynys Môn a goblygiadau hynny o ran yr addysgu, ar gyfer dysgu disgyblion ac yn y pen draw ar gyfer safonau addysg ar yr Ynys. Er yn cydnabod bod y dyraniad i ysgolion yn gynnydd mewn termau arian parod, mae'n disgyn yn sylweddol fyr o ran bodloni'r holl bwysau sydd ar ysgolion o ran costau ac mae, i bob pwrpas, yn doriad mewn cyllid.  Cyfeiriodd Mr Alan McDonald at lythyr yr oedd Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd Ynys Môn wedi'i ddosbarthu i Aelodau Etholedig yn nodi'r effeithiau posib y gallai cyllideb negyddol eu cael ar y ddarpariaeth addysg. Dangosodd arolwg o Benaethiaid Cynradd ar Ynys Môn a gynhaliwyd ym mis Ionawr, 2019 y byddai gan 74% o ysgolion cynradd ddosbarthiadau o 30+ o ddisgyblion ym Medi, 2019; disgwylir y bydd 61% o ysgolion yn torri nifer y staff addysgu; disgwylir i 58% o ysgolion dorri staff cymorth; mae 71% o ysgolion yn ystyried strategaethau sydd yn eu barn nhw, yn "eithafol" er mwyn cydbwyso'u cyllidebau ac nid oes gan 58% o ysgolion unrhyw gronfeydd wrth gefn y gallant dynnu ohonynt yn 2019.

 

Serch y ffaith bod y ddau Bennaeth yn cydnabod y sefyllfa ariannol anodd y mae'r Cyngor ynddi ac yn gorfod canfod arbedion er mwyn cydbwyso'i gyllideb, roeddynt yn annog Aelodau i beidio â mynd i lawr y lôn o dorri’r gyllideb i Ysgolion a fyddai’n peryglu ansawdd addysg y plant ac yn ei gwneud hi'n anodd i ysgolion gynnal a gwella safonau a chwrdd â rhwymedigaethau newydd yn y dyfodol.

 

           Mae cyllideb y gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo wedi gostwng 42% dros yr 8 mlynedd diwethaf. Mae'r Gwasanaeth wedi ceisio nodi arbedion gwerth £ 630k ar draws yr holl wasanaethau a ddarperir ar gyfer 2019/20. Mae £ 133k ohonynt yn canolbwyntio ar wasanaethau bws yn seiliedig ar lwybrau penodol a nodwyd fel rhai sydd â nifer isel o deithwyr a chymhorthdal uchel. Yng ngoleuni'r ddeiseb yn erbyn rhoi'r gorau i bob siwrnai dan Gontract 43a sy'n gwasanaethu ystadau tai ac ardaloedd preswyl ym Mhorthaethwy a Llanfairpwll, mae'r Gwasanaeth yn edrych ar y posibilrwydd o ddiwygio Gwasanaeth Bws 42 er mwyn darparu gwasanaeth bws priodol o Lanfairpwll i Borthaethwy trwy lwybr arall yn amodol ar drafodaethau gyda'r darparwr a'r Aelodau Lleol y mae eu hardaloedd yn cael eu heffeithio. Mae'r gwaith hwn yn dal i ganiatáu i'r Gwasanaeth wireddu'r rhan fwyaf o'r arbedion a ragwelir tra'n cynnal gwasanaeth sy'n dderbyniol yng nghyd-destun yr arbedion y mae'r Gwasanaeth yn ceisio eu gwneud.

Wrth ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd iddo, gan gynnwys y sylwadau llafar a wnaed, gwnaeth y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn -

           Nododd y Pwyllgor fod gwasanaethau'r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol o ran costau a galw am wasanaethau a bod rheoli'r pwysau hyn yn mynd yn fwy anodd o flwyddyn i flwyddyn. Mae rhaglen llymder Llywodraeth Ganolog a’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i feysydd eraill yn hytrach na llywodraeth leol wedi arwain at setliadau gwael un ar ôl y llall i Ynys Môn, sy’n golygu bod rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i arbedion a gwneud dewisiadau anodd sydd bellach yn cael effaith ar ysgolion ac ar wasanaethau ar gyfer pobl sy’n fwy bregus. Nododd y Pwyllgor, o ystyried y cyfnod hir y mae’r cyngor hwn a chyngorau eraill wedi bod gwneud arbedion, bod yr amser wedi dod efallai i wneud safiad am gyfran decach o adnoddau i awdurdodau lleol os yw am fedru cynnal gwasanaethau i yn y dyfodol.

           Nododd y Pwyllgor, ac roedd yn arbennig o bryderus am yr effaith ar ysgolion, ac ar addysg plant o ganlyniad, y gostyngiad arfaethedig o £ 1.739m yn y Gyllideb a Ddatganolir i Ysgolion fel y tystir i hynny yn y sylwadau a wnaed gan y ddau Bennaeth. Nododd y Pwyllgor ymhellach, y gallai’r cynnig i dorri Cyllidebau’r Ysgolion, yn ogystal â chael effaith ar unwaith ar lefel yr ystafell ddosbarth, gael effaith hirdymor ar ffyniant yr Ynys oherwydd mae addysg dda yn helpu unigolion i gyflawni eu potensial i'w galluogi i gyfrannu at greu cymunedau ffyniannus.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a fyddai'n ymarferol tynnu arian o’r cronfeydd wrth gefn sydd wedi'u clustnodi ond na chawsant eu defnyddio er mwyn lleihau'r gostyngiad yn y Gyllideb i Ysgolion neu a ellid diwygio'r fformiwla dyrannu cyllid ar gyfer y dyfodol fel bod yr effaith yn cael ei lledaenu'n fwy cyfartal ar draws ysgolion gan roi mwy o amddiffyniad i'r ysgolion hynny sy'n llai abl i gymryd y toriadau.

 

Dywedodd y Swyddog Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 152 y bydd adroddiad ar y defnydd o gronfeydd wrth gefn y Cyngor yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith. Ar ôl adolygu'r cronfeydd wrth gefn a’r dibenion y maent wedi'u neilltuo ar eu cyfer, mae'n amlwg bod unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd heb eu defnyddio yn annigonol i gwrdd â’r toriad arfaethedig o £ 1.739m yn y Gyllideb Ysgolion. O ran y fformiwla, mae'n rhaid dirprwyo 85% o'r Cyllidebau Ysgolion i’r ysgolion gyda'r gweddill yn cael ei gadw’n ganolog. Yna, caiff Cyllidebau’r Ysgolion Unigol eu dyrannu i ysgolion yn ôl fformiwla a bennir gan yr Awdurdod Addysg Lleol a’r nod yw sicrhau bod pob ysgol yn cael ei thrin yn gyfartal. Ni ellir defnyddio'r fformiwla i dargedu adnoddau i un ysgol ar draul un arall. Mae newid y fformiwla yn broses gymhleth ac efallai na fydd yn briodol ar hyn o bryd gan fod yr Awdurdod yn adolygu ei fodel o ddarpariaeth addysg i gynnwys ysgolion pob oed i blant rhwng 5 a 18 oed a fyddai angen eu fformiwla ariannu eu hunain. Dywedodd y Swyddog mai'r broblem go iawn yw maint y gacen yn hytrach na'r fformiwla a ddefnyddir i'w rhannu.

 

           Nododd y Pwyllgor y bwriedir cynyddu Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor i 35% a 100% yn y drefn honno.

 

Er y gwnaed cynnig gan aelod o'r Pwyllgor bod y premiwm ar gyfer ail gartrefi'n cael ei osod ar gyfradd uwch o 50% a fyddai'n creu incwm ychwanegol i'r Cyngor, ni chafodd hyn ei gefnogi gan weddill y Pwyllgor wedi cymryd i ystyriaeth y risgiau perthnasol a amlinellwyd gan y Swyddog Adran 151 a oedd ynghlwm wrth bennu'r premiwm ar lefel rhy uchel, gan gynnwys y risg y gall perchenogion ail gartrefi gofrestru'r eiddo ar gyfer cyfraddau busnes a gwneud cais am ryddhad trethi Busnesau Bach a fyddai wedyn gwneud i ffwrdd â’r tâl yn llwyr.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y cynigion ar gyfer arbedion yn cynnwys gwneud i ffwrdd â’r gwasanaeth annibynnol ar gyfer casglu clytiau plant fel rhan o'r gwasanaeth bin du h.y. casglu clytiau plant o’r bin du safonol unwaith bob tair wythnos. Nododd y Pwyllgor hefyd yr effaith a gâi’r cynnig hwn ar randdeiliaid, gan gynnwys yr angen i storio clytiau budr am gyfnod hwy gan arwain o bosib at ormodedd o glytiau gyda’r problemau iechyd y gallai hynny ei achosi ynghyd â’r posibilrwydd y câi clytiau eu tipio’n anghyfreithlon. Awgrymodd y Pwyllgor y byddai’n well effallai gohirio’r cynnig hwn hyd nes bydd canlyniad yr adolygiad o'r contract Casglu Gwastraff yn ei gyfanrwydd yn hysbys.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y byddai'r Gwasanaeth yn barod i adolygu'r cynnig hwn ac i edrych ar ffyrdd eraill o ddod o hyd i'r arbediad. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Dros Dro mai'r bwriad yw na ddylai fod unrhyw arbedion mewn perthynas â Gwasanaethau Gwastraff yn ystod y ddwy flynedd gyntaf hyd oni fydd y contract newydd yn mynd allan i dendr, gyda chyfle bryd hynny i edrych ar ba mor aml y caiff y biniau gwyrdd a du eu gwagio ac i adolygu'r gwasanaeth casglu clytiau. Fodd bynnag, bydd cymryd yr arbedion allan yn gadael bwlch o £ 30k.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y cynigion ar gyfer arbedion yn cynnwys £20 o godiad yng nghost y drwydded barcio flynyddol er mwyn creu mwy o incwm. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ynghylch a oedd ystyriaeth wedi cael ei rhoddi i gyflwyno cynllun trwyddedau parcio ar gyfer staff y Cyngor (roedd codi ar staff am barcio wedi cael ei awgrymu yn yr ymgynghoriad cyhoeddus) oherwydd gallai hynny annog dulliau teithio mwy gwyrdd e.e. rhannu ceir, cerdded a beicio i’r gwaith, sef rhywbeth y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor bod codi tâl ar staff am barcio yn mynd y tu draw i gylch gorchwyl y Gwasanaeth Priffyrdd ac mai mater i Adnoddau Dynol ydyw oherwydd ei fod yn ymwneud ag amodau cyflogaeth staff. Mae yna hefyd broblem ynghlwm wrth codi ffi wahanol ar staff a’r cyhoedd oherwydd byddai hyn yn cael ei ystyried fel buddiant o ryw fath a gallai ei weithredu arwain at gost ychwanegol i'r Cyngor. Yn ogystal, os yw'r taliad yn llai na'r pris llawn, byddai'n cael ei ystyried fel budd trethadwy sy'n golygu y bydd angen anfon ffurflen P11D i'r holl staff perthnasol ar adeg pan fo'r Cyngor yn ceisio lleihau nifer y P11D a gynhyrchir.

 

           Wrth nodi'r Gyllideb a’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019/20, nid oedd y Pwyllgor yn argymell unrhyw newidiadau i'r amserlen.

 

           Nododd y Pwyllgor yr opsiynau ar gyfer defnyddio'r arian ychwanegol pe bai cynnydd o fwy na 6% yn y Dreth Gyngor - yn benodol effaith cyllido canran o'r risgiau cyllidebol / arbedion posibl nad ydynt wedi eu hariannu ynghyd ag effaith lleihau'r gostyngiad yn y gyllideb i ysgolion. (Tabl 6 yr adroddiad)

 

Ar y pwynt hwn gohiriwyd y Pwyllgor am gyfnod byr ac yn dilyn y toriad cytunwyd, gan fod y Pwyllgor bellach wedi bod yn mynd ymlaen am dair awr, [eitem 3.2 isod wedi cael ei dwyn ymlaen ar y rhaglen], dan ddarpariaethau paragraff 4.1.10 o Gyfansoddiad y Cyngor, bod angen penderfyniad gan fwyafrif Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol i gytuno i barhau â'r cyfarfod. Penderfynwyd y dylid parhau â’r cyfarfod.

 

3.2 Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad a oedd yn rhoi dadansoddiad o'r negeseuon o'r ymarfer Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2019/20 a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ac a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod rhwng 16eg Tachwedd a 31ain Rhagfyr, 2018 (Atodiad 2)

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol bod yr ymarfer ymgynghori eleni wedi dilyn patrwm tebyg i ddigwyddiadau ymgynghori blaenorol a gynhaliwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond gyda mwy o bwyslais ar hyrwyddo ymateb electronig trwy ddefnydd helaeth o’r Cyfryngau Cymdeithasol yn ogystal â mwy o ymgysylltiad gyda phobl ifanc yr Ynys, Ffermwyr Ifanc a'r Urdd. Dywedodd yr Aelod Portffolio y gwelwyd cynnydd sylweddol eleni yn nifer yr ymatebion a gafwyd ac mai’r dull mwyaf llwyddiannus o gasglu safbwyntiau oedd yr arolwg ar-lein a oedd yn cyfrif am fwy na 95% o’r ymatebion a gafwyd. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd y Cyngor yn cynnal gwerthusiad llawn o broses ymgynghori eleni er mwyn dysgu gwersi ohoni ac i ddarparu sylfaen gadarn i wella ymhellach ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o 7 wythnos rhwng 16 Tachwedd a 31 Rhagfyr, 2018 wedi'u rhannu yn themâu dan y pennawd Dysgu; Gwasanaethau Cymdeithasol, Lleihau Cyllidebau; Bysus, Parcio ac Adfywio, Y Dreth Gyngor, Premiymau’r Dreth a Syniadau ar gyfer Arbedion / Mesurau Effeithlonrwydd eraill (paragraff 1.3 yr adroddiad). Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i'r cynigion mewn amryw o ffyrdd - y wasg leol, tudalen gartref gwefan y Cyngor, cyfryngau cymdeithasol, negeseuon e-bost a radio gyda'r nod o roi cymaint o gyhoeddusrwydd â phosib a chreu digon o frwdfrydedd ymhlith dinasyddion a staff i'w hannog i fynd ati'n weithredol i ymgysylltu ac ymateb i'r cynigion cychwynnol.Cynhaliwyd ymarferion ymgysylltu hefyd â grwpiau penodol yn cynnwys disgyblion ysgol uwchradd, Ffermwyr Ifanc a'r Urdd, Cynghorau Tref a Chymuned a Phenaethiaid ac Uwch Reolwyr Ysgolion. Derbyniwyd oddeutu 5,400 o ymatebion yn erbyn cyfanswm o 17 o gynigion, sef cyfartaledd o tua 317 o ymatebion i bob cynnig. Mae hyn yn sylweddol uwch nag yn y blynyddoedd blaenorol ac er bod ymatebwyr wedi defnyddio'r holl sianeli a oedd ar gael iddynt i gyfleu eu barn, y dull ymateb mwyaf poblogaidd o bell ffordd oedd yr arolwg ar-lein. Fel ag yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r Cyngor wedi gallu cyrraedd ag ymgysylltu â phobl drwy’r cyfryngau cymdeithasol; trwy hyrwyddo'r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r dulliau hyn, cyrhaeddodd y Cyngor oddeutu 62,000 o bobl.

 

O ran sylwedd yr ymatebion a dderbyniwyd, dywedodd y Swyddog fod y canlyniadau'n debyg i'r llynedd gyda safbwyntiau o blaid ac yn erbyn nifer o'r cynigion. Darperir dadansoddiad o'r ymatebion a dderbyniwyd i bob un o'r cynigion arbedion o dan y 7 thema a restrir ym mharagraff 1.3 ynghyd â sylwadau ychwanegol a wnaed yn yr adroddiad; y meysydd mwyaf dadleuol (cyfradd ymateb o dros 70%) lle roedd anghytundeb amlwg gyda'r cynigion oedd y canlynol –

 

           Cynyddu Premiwm y Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi o 25% i 35% (83% yn anghytuno / 17% yn cytuno)

           Torri cyllidebau ysgolion trwy roi setliad ariannol iddynt sy'n is na chost lawn eu pwysau cyllidebol rhagamcanol yn 2019/20 (85% yn anghytuno / 15% yn cytuno)

           Gwneud arbedion trwy leihau'r galw am wasanaethau gofal cartref a chymorth byw â chymorth (78% yn anghytuno / 22% yn cytuno)

 

Tynnodd y Swyddog sylw at Atodiad A yr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o'r awgrymiadau a'r syniadau ychwanegol ar gyfer arbedion a gyflwynwyd gan ymatebwyr; awgrymir bod y Panel Cyllid Sgriwtini yn edrych ar y rhain fel rhan gyntaf y broses ar gyfer gosod cyllideb 2020/21 ar y sail y gallant fod yn ffynhonnell arbedion posibl a allai gyfrannu at fynd i'r afael â’r bwlch cyllidebol yn 2020/21 a thu hwnt.

 

Wrth ystyried yr adroddiad a chanfyddiadau'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus, gwnaeth y Pwyllgor y pwyntiau canlynol -

 

           Nododd y Pwyllgor fod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr ymatebion i ymgynghoriad eleni, a chroesawyd hynny gan ei fod yn adlewyrchu lefel uwch o ddiddordeb ac ymgysylltiad â dulliau'r Cyngor o ddod o hyd i arbedion.

           Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor y byddai'r canfyddiadau wedi cario mwy o bwysau, ac y byddent o ganlyniad yn fwy dilys, petai modd cael proffil demograffig yr ymatebwyr, ee oedran, rhyw, defnyddiwr gwasanaeth ai peidio. Fel yr oedd, teimlai'r Pwyllgor nad oedd yn gallu gwahaniaethu rhwng ymatebwyr sydd â diddordeb mewn cynigion penodol e.e. rhieni plant ysgol sy'n talu am brydau ysgol (y cynnig i godi pris prydau ysgol) neu perchenogion ail gartrefi (y cynnig i gynyddu Premiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi) ac ymatebwyr a oedd yn gwbl ddiduedd. Awgrymodd y Pwyllgor hefyd y byddai'n ddefnyddiol - ac yn ddefnyddiol i'r cyhoedd – petai gwahanol lefelau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn cynnwys darlun yn dangos yr hyn y mae pob cynnydd canrannol yn ei olygu o ran enillion mewn perthynas â gwasanaethau ac i'r gwrthwyneb, yr hyn y byddai peidio â chynyddu’r Dreth Gyngor yn ei olygu o ran toriadau i wasanaethau.  

           Ymhellach, gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad a oedd yr ymgynghoriad ac yn arbennig felly’r arolwg ar-lein yn cynnwys cyfleuster i atal yr un person rhag ymateb lawer gwaith oherwydd y gallai hynny danseilio casgliadau'r ymgynghoriad. Mewn perthynas â'r cynnig i gynyddu premiymau’r Dreth Gyngor, nododd y Pwyllgor hefyd bod dibynadwyedd yr ymatebion yn gyfyngedig oherwydd nad yw rhai ymatebwyr wedi yn deall y cwestiwn o ran y gwahaniaeth rhwng ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor sy’n golygu bod dadansoddi’r data’n fwy anodd.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad, er bod yr ymateb i ymgynghoriad eleni yn cynrychioli newid sylweddol o ran nifer yr ymatebion a'r lefel o ddiddordeb y mae hyn yn ei adlewyrchu, mae lle i wella eto. Gan fod y broses ymgynghori wedi ymgysylltu â phobl ifanc, pobl hŷn ac ystod o grwpiau eraill ar draws yr Ynys, dywedodd y Swyddog, mae'n sicr y bydd yr ymatebion a dderbyniwyd wedi dod o bob ystod oedran. O ran y posibilrwydd y gallai unigolion fod wedi ymateb sawl gwaith, bydd creu’r cyfleuster i atal hyn yn golygu trafodaethau manylach gyda'r Gwasanaeth TG. Fodd bynnag, roedd mwyafrif yr ymatebion a dderbyniwyd drwy'r arolwg o ran y sylwadau a wnaed yn gwbl wahanol. 

 

Wrth ystyried ei argymhellion mewn perthynas â chynigion a phrosesau'r Gyllideb ar gyfer 2019/20, roedd y Pwyllgor yn glir y dylid gwarchod gwasanaethau rhag toriadau pellach ac na ddylai ysgolion orfod wynebu gostyngiad o £ 1.79m yn y Gyllideb a Ddatganolir i Ysgolion Dirprwyedig gan fod hyn yn cael effaith ar ysgolion ac ar addysg plant ac roedd y Pwyllgor yn teimlo fod hynny’n annerbyniol. Er yn cydnabod y byddai codiad o ragor na 6% yn y Dreth Gyngor, yn anffodus, yn effeithio ar drigolion Ynys Môn, nid oedd mwyafrif y Pwyllgor yn gweld bod unrhyw opsiwn arall ar gael. Gwnaed cynnig ac fe'i eiliwyd, y dylid argymell i'r Pwyllgor Gwaith, er mwyn cynnal gwasanaethau a lleihau'r gostyngiad yn y Gyllideb a Ddatganolir i Ysgolion, ei fod yn ystyried cynnydd o leiaf 10% yn y Dreth Gyngor a fyddai'n creu incwm ychwanegol o £ 1.4m.

 

Cynigiwyd gwelliant i godi Treth y Cyngor gan 6% (y codiad canrannol a nodwyd yn yr adroddiad fel y codiad angenrheidiol i ariannu'r gyllideb ddigyfnewid ddiwygiedig). Ni chafodd y gwelliant ei eilio.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, cafodd y cynnig bod y Pwyllgor Gwaith yn ystyried codi’r Dreth Gyngor gan o leiaf 10% ei gario gan bleidlais fwyafrifol.

Ar ôl ystyried a thrafod y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod, gan gynnwys sylwadau a wnaed gan gynrychiolwyr  Prifathrawon y sector cynradd ac uwchradd a chan ystyried y negeseuon allweddol o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion Cyllidebol 2019/20 a'u heffaith ar ddinasyddion, PENDERFYNODD y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fel a ganlyn –

 

           Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y pwysau ar Gyllideb y Cyngor ac ar wasanaethau ac yn nodi'r effeithiau y mae’r cynigion ar gyfer arbedion yn debygol o’u cael ar wasanaethau. Mae'r Pwyllgor yn nodi yn arbennig yr effaith ddifrifol y gallai gweithredu'r gostyngiad arfaethedig yn y Cyllidebau Ysgol ei chael ar ysgolion a'u staff ac, o bosib, ar eu gallu i ddarparu addysg o'r ansawdd uchaf.

           Yng ngoleuni'r uchod, mae'r Pwyllgor yn argymell i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn ystyried cynyddu’r Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20 o leiaf 10% er mwyn cynnal gwasanaethau a lleihau'r gostyngiad yn y Gyllideb a Ddatganolir i Ysgolion.

           Mae'r Pwyllgor yn nodi'r Gyllideb Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019/20 heb unrhyw ddiwygiadau.

           Mae'r Pwyllgor yn nodi'r negeseuon allweddol o'r ymarfer Ymgynghori Cyhoeddus ac yn nodi hefyd y bydd yr awgrymiadau a'r syniadau ychwanegol a gyflwynwyd gan ymatebwyr yn cael eu craffu ymhellach gan y Panel Sgriwtini Cyllid fel sail ar gyfer arbedion posibl yn 2020/21 a thu hwnt.

           Mae'r Pwyllgor yn argymell i'r Pwyllgor Gwaith, er mwyn gwella'r broses ymgynghori ymhellach yn y dyfodol, y dylai'r broses adlewyrchu a / neu fynd i'r afael â'r canlynol -

           Proffil demograffig yr ymatebwyr

           Gwahaniaethu rhwng defnyddwyr gwasanaeth / rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr

           Atal ymatebwyr rhag ymateb fwy nag unwaith / dyblygu ymatebion

           Sut mae gwahanol ganrannau o gynnydd yn y Dreth Gyngor yn cyfateb i doriadau / enillion yn y gwasanaethau.

Dogfennau ategol: