Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 3. 2018/19

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â chrynodeb o'r sefyllfa a ragwelir ar gyfer y flwyddyn gyfan.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa ariannol ragamcanedig gyffredinol ar gyfer 2018/19 yn un o orwariant amcangyfrifedig o £ 1.589m, sy'n welliant sylweddol o gymharu â’r gorwariant o £ 2.66m a ragwelwyd yn Chwarter 2. Fodd bynnag, rhaid nodi, er bod y gorwariant ar wasanaethau hefyd wedi lleihau, rhagwelir y bydd gorwariant o £ 2.972m (2.61%) ar 31 Mawrth, 2019. Os yw'r tueddiad hwn yn parhau yn unol â rhagolygon Chwarter 3, mae Cronfa Wrth Gefn Gyffredinol y Cyngor yn debygol o ostwng i £ 4.720m erbyn diwedd y flwyddyn, sydd ymhell islaw isafswm balans y gronfa wrth gefn gyffredinol sydd wedi'i osod ar £ 6.5m fel y'i cymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 28 Chwefror, 2018.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y sefyllfa ariannol yn well yn Chwarter 3 yn bennaf oherwydd y canlynol -

 

           Mae data Chwarter 3 yn adlewyrchu cyfran uwch o wariant a gofnodwyd yn wirioneddol ac o ganlyniad, mae wedi'i seilio i raddau llai ar amcangyfrifon, sy’n golygu bod y ffigwr yn fwy cywir.

           Ym mis Tachwedd, 2018, anfonwyd nodyn briffio i Benaethiaid Gwasanaethau ar awdurdod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu hysbysu am yr angen i wneud arbedion. Roedd y nodyn hwn yn awgrymu nifer o fesurau yr oedd eu hangen i leihau gwariant / cynyddu incwm erbyn diwedd y flwyddyn e.e. gohirio recriwtio i swyddi gweigion, cyfyngu goramser a chyflwyno cynnydd mewn ffioedd yn gynharach. Mae'n ganmoladwy bod yr awgrymiadau hyn wedi'u gwneud a bod Penaethiaid Gwasanaeth wedi gweithredu ar y cyngor o ran y gwariant a oedd o fewn eu rheolaeth.

           Tanwariant mewn Cyllid Corfforaethol, yn benodol ar gostau cyllido cyfalaf – y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw a chostau llog - sydd wedi helpu i leihau'r ffigwr gan oddeutu £ 500k.

 

Dywedodd y Swyddog, er gwaethaf y ffaith bod y gorwariant a ragamcenir yn welliant o gymharu â Chwarter 2, ni ddylid anghofio bod gorwariant o £3.5m yn debygol mewn perthynas â thri phrif wasanaeth y Cyngor - Addysg, Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Oedolion. Mae'r arbedion ar Gyllid Corfforaethol yn ddigwyddiad annisgwyl unwaith ac am byth ac mae'n annhebygol y byddant ar gael yn 2020/21; felly mae angen cymryd camau i fynd i'r afael â'r diffyg ariannol, cost y gwasanaethau ac i reoli'r galw am wasanaethau. Er y gellir ariannu'r lefel hon o orwariant o'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn 2018/19, bydd yn lleihau'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol i ffigwr sydd yn is o lawer na’r isafswm a dderbynnir yn gyffredinol ac sy’n destun pryder, yn enwedig os bydd y patrwm o orwario yn parhau. Bydd yn angenrheidiol yn ystod y broses o bennu'r gyllideb ar gyfer 2019/20 neu 2020/21 i ariannu'r lefel sylfaenol o orwario ac i ddechrau ar y broses o ail-gyflenwi’r balansau cyffredinol. Mae hon yn ymagwedd ddoeth ac mae'n angenrheidiol er mwyn sicrhau hyfywedd ariannol hirdymor y Cyngor.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed gan wasanaethau'r Cyngor i leihau gwariant yn y chwarter diwethaf. Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y gwasanaethau sy'n gorwario ar hyn o bryd - y Gwasanaethau Plant, ac yn benodol y gyllideb ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal a Gofal Cymdeithasol Oedolion, yn arbennig o agored i bwysau o ran y gofyn am y gwasanaeth gyda'r galw cynyddol yn ffactor allweddol yn y pwysau ariannol y mae'r gwasanaethau hyn yn eu profi. Nododd y Pwyllgor Gwaith ei fod yn hanfodol gwahaniaethu rhwng gwasanaethau sy’n "gorwario" a rhai sy’n cael eu "tan-ariannu". Bydd y penawdau cyllidebol hyn yn cael mwy o arian yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Nododd y Pwyllgor Gwaith fod effaith y llymder ariannol - sydd wedi arwain at leihau cyllideb y Cyngor dros flynyddoedd yn olynol - yn dod drwodd yn amlwg yn yr adroddiad, a phwysleisiodd os yw'r Cyngor am barhau i ddarparu gwasanaethau yn y modd a ddisgwylir ohono, yn enwedig ei gyfrifoldebau statudol o ran gofal cymdeithasol oedolion a phlant, yna mae'n rhaid iddo gael ei ariannu'n briodol. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Ganolog gydnabod hyn fel mater o flaenoriaeth.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Cyllid at Lythyr Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2017/18 ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn dyddiedig 5 Chwefror, 2019 lle mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cydnabod "mai llymder yw’r her fwyaf arwyddocaol sy'n parhau i wynebu pob corff llywodraeth leol yng Nghymru a bod y pwysau ariannol hyn yn debygol o barhau yn y tymor canol." Mae'r Llythyr yn nodi bod "setliad cyllido llywodraeth leol 2018/19 wedi gweld setliad y Cyngor yn cynyddu 0.7% yn unig tra bod chwyddiant yn fwy na 2%. " Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn credu mai un o brif achosion y straen ariannol y mae cynghorau'n ei brofi yw'r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Ganolog dros gyfnod o flynyddoedd i leihau'r baich treth incwm, gan olygu bod ganddo lai o adnoddau i'w dyrannu i Lywodraeth Cymru sydd yn ei dro, yn golygu bod llai o arian ar gael i gynghorau Cymru gyda'r canlyniad bod baich trethi yn mynd ar y trethi lleol gan greu mwy o bwysau a chynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn y Dreth Gyngor wrth i gynghorau geisio cau’r bwlch cyllido.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn atodiadau A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2018/19.

           Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2018/19 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi-i-arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2018/19 yn Atodiad D.

           Nodi sut cafodd costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2018/19 yn Atodiadau DD ac E yr adroddiad.

Dogfennau ategol: