Eitem Rhaglen

Cynllun Ariannol Tymor Canol a'r Gyllideb ar gyfer 2019/20

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 sy'n cynnwys y cynigion cyllideb refeniw manwl ar gyfer 2019/20 ar gyfer adolygiad terfynol y Pwyllgor Gwaith. Mae'r adroddiad hefyd yn diweddaru'r Cynllun Ariannol Tymor Canol sy'n darparu cyd-destun ar gyfer y gwaith ar gyllidebau'r Cyngor yn y dyfodol. Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith wneud argymhellion terfynol i'r Cyngor Sir i'w alluogi i fabwysiadu cyllideb ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid yr adroddwyd yn flaenorol ar yr her o osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2019/20 a'i fod eisoes wedi disgrifio’r holl ffactorau negyddol sydd wedi digwydd ar yr un pryd - setliad ariannol is gan Lywodraeth Cymru, chwyddiant prisiau cyffredinol a chostau cynyddol, chwyddiant tâl a chostau cynyddol pensiynau athrawon fel rhai sy’n creu "storm berffaith" o heriau sy'n arwain at fwlch cyllido cychwynnol o £ 7.156m (cyn cynyddu’r Dreth Gyngor a gwneud arbedion). Nodwyd arbedion gwerth £ 3.747m a oedd yn cynnwys gostyngiad o £ 1.76m yn y gyllideb a ddatganolir i Ysgolion. Dywedodd yr Aelod Portffolio y daeth yn amlwg yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cyllideb 2019/20 nad yw pobl yn hapus i doriadau gael eu gwneud yn y maes addysg neu os oes rhaid eu gwneud o gwbl, maent o’r farn y dylent eu cadw i’r isafswm. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi ystyried hyn a negeseuon eraill o'r ymgynghoriad cyhoeddus ac wedi ymateb iddynt trwy wneud addasiadau i'r cynigion arbedion fel yr amlinellir yn adran 9.1 yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y sefyllfa'n parhau i fod yn heriol iawn heb anghofio bod y Cyngor eisoes wedi gwneud arbedion o tua £ 25m ers 2013/14. Gellid dweud bod y Cyngor yn agos iawn at ddiwedd ei allu i wneud arbedion gwasanaeth a bod yn anodd iawn gweld lle gellir gwneud toriadau pellach heb i hynny gael effaith ddifrifol. Roedd gorwariant ar gyllideb refeniw’r Cyngor yn 2017/18 ac mae'n debygol y bydd gorwariant eto yn 2018/19 yn bennaf oherwydd y pwysau ar gyllideb y Gwasanaethau Plant. Gellir dadlau nad yw'r arian a neilltuwyd ar gyfer y Gwasanaethau Plant wedi cadw i fyny â’r galw sydd wedi dyblu dros y blynyddoedd diwethaf gyda chost lleoliadau plant yn yr achosion mwyaf cymhleth gymaint â £ 5,000 yr wythnos. Yn ogystal, mae'r gostyngiad yn lefel  cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn golygu y gall fod yn broblemus mynd i'r afael ag unrhyw orwariant yn y gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn cynnig y gyllideb fel y’i cyflwynwyd gyda chalon drom ond y realiti yw nad yw'r arian y mae awdurdodau lleol yn ei dderbyn gan y Llywodraeth Ganolog trwy Lywodraeth Cymru yn ddigonol ac wedi cael ei leihau flwyddyn ar ôl blwyddyn dros nifer o flynyddoedd. Dyfynnodd yr Aelod Portffolio o erthygl yn rhifyn 16 Chwefror o’r Guardian ar y system Dreth Gyngor yn Lloegr sy'n codi pwyntiau sy'n berthnasol i Gymru - mae'n tynnu sylw at y pwysau a roddwyd ar y system Treth Gyngor oherwydd y toriadau yn y cyllid a gaiff cynghorau sy’n golygu nad oes unman arall i droi ar gyfer codi refeniw am wasanaethau heblaw trwy gynyddu'r Dreth Gyngor sy'n effeithio'n sylweddol ar deuluoedd incwm isel. Mae'r erthygl yn cyflwyno’r achos dros ail-drefnu'r system ac yn y tymor byr ar gyfer codi trethi’n gyffredinol er mwyn cynyddu'r arian sydd ar gael ar gyfer llywodraeth leol, fel y gall gefnogi gwasanaethau lleol yn briodol a chymryd pwysau oddi ar y system Treth Gyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod y broses ar gyfer gosod cyllideb 2019/20 wedi bod yn anodd o ran adlewyrchu'r costau a'r gofynion a wynebir gan wasanaethau ac yna gydbwyso'r rheini gyda'r incwm y mae'r Cyngor yn ei dderbyn trwy'r setliad cyllido a'r Dreth Gyngor. Mae'n ofynnol dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 bod y gyllideb a osodir yn adlewyrchu'r hyn y mae'r Cyngor yn ei ystyried yw gwir gostau darparu gwasanaethau, h.y. bod ei refeniw yn cwmpasu ei wariant, ac yn ei farn broffesiynol ef, ar ôl ystyried y risgiau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, roedd y cyllidebau'n gadarn ac yn rhai yr oedd modd eu darparu a bod gan y Cyngor yr adnoddau i dalu cost y gwasanaethau. Gan edrych ymlaen, nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw arwydd ynghylch lefel y cyllid a fydd ar gael yn y dyfodol, ac yn absenoldeb y wybodaeth hon, mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canol yn parhau i gymryd na fydd gynnydd yn y Cyllid Allanol Cyfun dros y tair blynedd nesaf. Tybir y bydd y Dreth Gyngor yn codi 5% y flwyddyn; pe byddai'r cynnydd yn llai na'r ffigwr hwn, byddai angen arbedion ychwanegol o £ 0.41m ar gyfer pob 1%  islaw’r 5%. Felly, mae'r angen i nodi arbedion yn parhau i'r dyfodol. Dywedodd y Swyddog nad oedd unrhyw gadarnhad wedi dod i law a fydd Llywodraeth y DU yn cyllido'r costau pensiwn uwch ar gyfer Athrawon neu beidio, sydd, yn achos yr Awdurdod hwn, yn     £ 800k. Mae'r gyllideb yn tybio na fydd unrhyw gyfraniad ar gael, ond os derbynnir cyllid ychwanegol, bydd y Pwyllgor Gwaith yn ystyried sut i ddefnyddio'r arian ar yr adeg pan fydd y swm ychwanegol a ddyrennir yn hysbys.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ar gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2019, lle craffwyd ar gynigion cyllideb derfynol 2019/20. Roedd y Pwyllgor wedi nodi'r negeseuon allweddol o'r broses ymgynghori gyhoeddus gan nodi hefyd y byddai'r syniadau a gyflwynwyd yn cael eu craffu ymhellach gan y Panel Sgriwtini Cyllid fel sail ar gyfer arbedion posibl yn 2020/21 a thu hwnt. Roedd y Pwyllgor wedi gwneud argymhellion ynghylch sut y gellid gwella'r broses ymgynghori cyhoeddus trwy adlewyrchu'n well broffil demograffig yr ymatebwyr; trwy wahaniaethu rhwng defnyddwyr gwasanaeth / rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr gwasanaethu; trwy atal ymatebion lluosog / dyblyg gan ymatebwyr a thrwy ddangos sut mae canrannau gwahanol o gynnydd yn y Dreth Gyngor yn gysylltiedig â thoriadau neu enillion i wasanaethau. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi clywed sylwadau gan brifathrawon o’r sector uwchradd a’r cynradd a oedd wedi amlinellu’r effaith a gaiff y toriadau arfaethedig yn y gyllideb a ddatganolir i ysgolion ar ysgolion - roedd gan y Pwyllgor bryderon difrifol am y toriadau yng nghyllidebau’r ysgolion a'r canlyniadau ar ansawdd addysg. Wedi ystyried yr opsiynau'n ofalus, roedd y Pwyllgor wedi pleidleisio gan fwyafrif i argymell cynnydd o 10% yn y Dreth Gyngor er mwyn cynnal gwasanaethau ac i leihau'r toriad yn y gyllideb a ddatganolir i ysgolion. Dywedodd y Cynghorydd Jones mai dyna oedd barn y mwyafrif o'r Pwyllgor ond nad oedd o reidrwydd yn adlewyrchiad o’i farn ef ei hun.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a gwnaethpwyd y pwyntiau a ganlyn -

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y pwysau ar y Dreth Gyngor yn cynyddu. Er bod y Cyngor hwn yn hanesyddol wedi bod ymysg yr awdurdodau oedd â’r Dreth Gyngor isaf yng Nghymru (18 allan o 22) a bod hynny, yn seiliedig ar y wybodaeth a gyhoeddwyd hyd yn hyn, yn debygol o barhau hyd yn oed gyda'r bwriad i weithredu cynnydd o 9.5% (16 allan o 22), mae'n anodd gweld sut y gellir osgoi cynnydd ar lefel debyg yn y dyfodol os yw cyllid refeniw'r Cyngor yn parhau i gael ei dorri. Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith, os yw'r Cyngor i gynnal gwasanaethau yn wyneb y costau a’r galw cynyddol, yr unig ffordd y gall wneud hynny yw trwy godi’r Dreth Gyngor oni bai bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar lefel sy'n bodloni’n llawn anghenion y Cyngor a'r pwysau y mae'n eu hwynebu.

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y Cyngor dros amser wedi adeiladu ei gronfeydd wrth gefn trwy edrych ar ôl ei adnoddau’n ofalus. Mae'r cronfeydd wrth gefn bellach mewn perygl o ddisgyn i lefel annerbyniol o isel, gan olygu efallai na fydd gan y Cyngor ddigon o adnoddau yn y dyfodol i ddisgyn yn ôl arnynt pe bai'r annisgwyl yn digwydd. Wrth nodi bod y sefyllfa hon yn risg i les ariannol y Cyngor ac yn anghynaladwy yn y tymor hir, roedd y Pwyllgor Gwaith yn derbyn bod angen adfer cronfeydd wrth gefn y Cyngor i'r lefel isaf sy’n dderbyniol a bod ymrwymo i wneud hynny yn ymagwedd synhwyrol a darbodus i’w chymryd.

           Nododd y Pwyllgor Gwaith mai’r broses o bennu cyllideb 2019/20 fu’r fwyaf heriol eto a’i bod wedi cynnwys cyfarfodydd, gweithdai a thrafodaethau dros nifer o fisoedd. Mae’r cynigion cyllidebol wedi cael eu hasesu, eu harchwilio, eu herio a'u mireinio gan gymryd i ystyriaeth yr ystod eang o ffactorau sy'n dylanwadu ar y modd y gosodir y gyllideb.

           Nododd y Pwyllgor Gwaith, wrth ystyried canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion y gyllideb a barn y Pwyllgor Sgriwtini ar hynny, ei fod yn cydnabod y pryderon a godwyd yn arbennig mewn perthynas â thorri’r gyllideb a ddatganolir i’r ysgolion a'r effaith andwyol y gallai hynny ei gael ar y ddarpariaeth addysg mewn ysgolion. Nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach ei fod wedi ymateb i'r pryderon hynny ac wedi adolygu a diwygio'r cynigion yn unol â hynny mewn ymgais i leihau'r effeithiau ar wasanaethau a defnyddwyr gwasanaeth gymaint ag y bo modd o fewn yr adnoddau sydd ar gael i weithio â nhw.

           Nododd y Pwyllgor Gwaith er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gydbwyso'i gyllideb yn unol â’r gofyn cyfreithiol ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau yn unol â disgwyliadau a rhwymedigaethau statudol, mae'n rhaid ei hariannu'n briodol mewn ffordd sy'n adlewyrchu'n deg y gofynion hynny. Er mwyn cyflawni hyn, mae gofyn i bawb sy'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus, o ddefnyddwyr i ddarparwyr, lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau cydraddoldeb ariannol ar gyfer llywodraeth leol.

           Nododd a derbyniodd y Pwyllgor Gwaith yr argymhellion ar gyfer gwella'r broses ymgynghori gyhoeddus a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Sgriwtini.

 

 Penderfynwyd –

 

           Nodi’r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb a’r adborth a gafwyd ohonynt fel yr amlinellir yn Adran 2 o Atodiad 1 ac yn Atodiad 2 yr adroddiad.

           Nodi’r crynodeb o’r asesiad effaith ar gydraddoldeb ar gynigion y gyllideb fel yr amlinellir yn Adran 11 ac yn Atodiad 5.

           Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor, gan gynnwys y cyllid diwygiedig mewn ymateb i’r pwysau ar y gyllideb a’r arbedion arfaethedig fel cânt eu dangos yn Atodiad 1 ac yn Atodiad 3.

           Bod y toriad arfaethedig i’r gyllideb ddatganoledig i ysgolion yn cael ei ddyrannu yn ôl y rhaniad yng nghyllideb 2018/19. Byddai’r lleihad yn y gyllideb yn cael ei rannu rhwng y tri sector fel a ganlyn: £347k yn y sector cynradd; £252k yn y sector uwchradd; £27k yn y sector arbennig.

           Nod argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylid cadw isafswm o £6.7m yn y balansau cyffredinol ar gyfer 2019/20.

           Nodi’r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed, fel maent wedi eu hamlinellu yn Adran 6 o Atodiad 1.

           Argymell cyllideb net ar gyfer y Cyngor Sir a’r cynnydd yn lefel y Dreth Gyngor o ganlyniad, gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, yn cynnwys y Preseptau i Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Cymuned, yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor llawn ar 27 Chwefror, 2019.

           Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau sy’n angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor.

           Cytuno y bydd unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol yn gallu tynnu ar gyllid o’r gyllideb digwyddiadau annisgwyl gyffredinol.

           Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb digwyddiadau annisgwyl gyffredinol wedi’i hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn.

           Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 y grym i ryddhau hyd at £50k o’r gronfa digwyddiadau annisgwyl gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni chaniateir cymeradwyo unrhyw eitem dros £50k heb gael caniatâd ymlaen llaw gan y Pwyllgor Gwaith.

           Argymell cynnydd o 9.5% yn lefel y Dreth Gyngor i’r Cyngor llawn.

           Cymeradwyo cynyddu’r Premiwm Treth Gyngor ar ail gartrefi o 25% i 35% a chynyddu’r Premiwm Treth Gyngor ar dai gwag o 25% i 100%.

           Derbyn argymhelliad y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, er mwyn gwella y broses ymgynghori yn y dyfodol ymhellach, y dylai’r broses adlewyrchu a/neu roi sylw i’r canlynol:

 

           Proffil demograffig yr ymatebwyr

           Gwahaniaethu rhwng defnyddwyr gwasanaeth/rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr gwasanaeth

           Atal sefyllfa lle gall ymatebwyr gyflwyno ymatebion niferus neu ddyblygu ymatebion

           Sut mae gwahanol ganrannau o gynnydd yn y Dreth Gyngor yn gysylltiedig â thoriadau/enillion gwasanaeth.

Dogfennau ategol: