Eitem Rhaglen

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 ar ddefnyddio cronfeydd wrth gefn a balansau ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai pwrpas yr adroddiad yw nodi asesiad y Swyddog Adran 151 ar lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2019/20 ac i wneud argymhellion ynghylch dyrannu balansau cyffredinol i'w defnyddio yn ystod 2019/20. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod yn briodol yn y cyd-destun hwn i gyfeirio eto at Lythyr Archwiliad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2017/18. Mae'r Llythyr yn amlygu sefyllfa cronfeydd wrth gefn y Cyngor ac yn nodi’r duedd ddiweddar o ostyngiad ym malansau cronfa gyffredinol y Cyngor sydd, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol yn anghynaladwy ac sydd wedi ei nodi yn y llythyr fel rhywbeth y mae’r Swyddog Adran 151 a’r Cyngor wedi ei gydnabod fel risg. Mae’r Archiwlydd Cyffredinol yn cynghori bod "ystyriaeth barhaus o falansau wrth gefn wrth gefn a sut y gellir eu defnyddio i gefnogi cynlluniau ariannol yn arbennig o bwysig oherwydd nid yw’n gynaliadwy dibynnu ar gronfeydd wrth gefn i gefnogi costau parhaus y Gwasanaethau Gofal / Gwasanaethau Plant sy’n cael eu harwain gan alw. Unwaith y bydd y cronfeydd wrth gefn wedi lleihau, rhaid canfod  ffynonellau ariannol eraill neu wneud arbedion effeithlonrwydd." Aiff yr Archwilydd Cyffredinol yn ei flaen i ddweud bod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i geisio cydbwyso'r gyllideb refeniw yn 2019/20 heb ddefnyddio’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol a gwneud arbedion digonol a sicrhau eu bod yn gyraeddadwy, yn benderfyniad i’w groesawu.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fod balans cronfa gyffredinol y Cyngor, ei gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a balansau ysgolion oddeutu £ 27m neu 22% o gyllideb net y Cyngor ar ddiwedd 2015/16; erbyn diwedd 2018/19, rhagwelir y byddant yn lleihau i £ 15m neu 12% o gyllideb net y Cyngor. Dywedodd y Swyddog fod cronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw rhag ofn y bydd angen gwario ar unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl neu ddigwyddiadau heb eu cynllunio; tynnwyd ar y cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn 2017/18 i helpu i gwrdd â gorwariant ar y gyllideb refeniw; mae'n debyg y byddant yn cael eu defnyddio eto i’r pwrpas hwn eleni oherwydd rhagamcenir y bydd gorwariant ar gyllideb refeniw 2018/19. Dyrennir arian hefyd i gyllidebau i gwrdd â chostau digwyddiadau yn ystod y flwyddyn e.e. defnyddiwyd y cronfeydd wrth gefn i gefnogi Tîm Etifeddiaeth yn y Gwasanaethau Plant i ddelio ag achosion hanesyddol ac fe'u defnyddiwyd hefyd yn 2017 i gwrdd â chost ychwanegol difrod llifogydd (y tu allan i gyllideb yr Adran Briffyrdd) yn dilyn y llifogydd difrifol ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Mae cronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor wedi'u neilltuo ar gyfer amryw o ddibenion penodol, e.e. cronfa wrth gefn yswiriant i gwrdd â’r amcangyfrif o hawliadau yn y dyfodol fel y gall y Cyngor dalu gor-daliadau nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr yswiriant, cronfa wrth gefn ar gyfer Grantiau sy'n dal incwm grant nad yw wedi ei wario eto a gwarchodaeth ar gyfer prosiectau penodol unwaith ac am byth sy'n parhau am fwy na blwyddyn ac sydd ddim yn cael eu cyllido gan y gyllideb refeniw.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er nad oes rheol gaeth ynghylch lefel y balansau cyffredinol y dylai cyngor eu dal, ystyrir yn gyffredinol bod 5% o gyllideb refeniw net y cyngor yn lefel dderbyniol, sef £ 6.76m yn achos Ynys Môn ar gyfer 2019/20. Amcangyfrif y bydd y balansau cyffredinol ar 31 Mawrth 2019 yn £ 4.7m sydd  £ 2m yn is na’r lleiafswm a gyfrifiwyd. Dywedodd y Swyddog ei fod yn derbyn nad oes modd cyllido ar gyfer gwarged yn y gyllideb yn yr hinsawdd ariannol bresennol er mwyn dod â'r cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn ôl i'r isafswm a bod rhaid i gynnydd yn y cronfeydd wrth gefn cyffredinol ddigwydd yn raddol dros gyfnod o 5 i 7 mlynedd. Mae cael lefel o falansau cyffredinol sydd islaw'r isafswm yn risg ariannol a pho hwyaf y cyfnod y mae'r balansau cyffredinol yn parhau i fod yn is na’r lefel hon, po fwyaf yw'r risg na fydd y Cyngor yn gallu ymdopi’n ariannol mewn argyfwng neu ddigwyddiad annisgwyl.

 

O ran yr argymhelliad bod y gronfa Trothwy Gofal yn cael ei throsglwyddo o'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i'r Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol, eglurodd y Swyddog y bu oedi o ran sefydlu’r Tîm Trothwy Gofal ac o ganlyniad, ni fydd balans o’r £ 250k a ddyrannwyd wedi ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. O 2019/20, bydd y Tîm Trothwy Gofal yn cael ei ariannu o'r gyllideb refeniw yn barhaol, gan olygu y bydd modd rhyddhau’r arian a glustnodwyd yn ôl i'r Cronfeydd Wrth Gefn Cyffredinol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a gwnaethpwyd y pwyntiau ganlyn -

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod y sefyllfa'n heriol iawn ac y bydd y Cyngor yn debygol o gael trafferth i ddod â'r cronfeydd wrth gefn yn ôl i lefel dderbyniol pan mae’n parhau i wynebu gorfod gwneud toriadau i'r dyfodol rhagweladwy. Nid yw'r sefyllfa’n gynaliadwy oni bai fod y Cyngor yn derbyn setliad ariannol gwell gan Lywodraeth Cymru yn 2020/21 a thu hwnt.

 

Er yn cydnabod na fydd y broses o adeiladu’r cronfeydd wrth gefn yn ôl i fyny i’r lefel o 5% yn ystod cyfnod o galedi arianniol yn hawdd, dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor anelu at wneud hynny fel rhan o’i gynllun ariannol dros y tymor canol. Ni fydd modd cyflawni hyn mewn un flwyddyn ariannol a gall gymryd rhwng 3 a 5 mlynedd neu fwy hyd yn oed, yn dibynnu ar fanylion y setliadau ariannol y bydd y Cyngor yn eu derbyn o 2020/21 ymlaen.

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod angen dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Ganolog drwy fynd ati’n egnïol i lobïo Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Ynys Môn er mwyn sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu’n decach. Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith mai’r Cyngor sy’n gorfod gwneud dewisiadau anodd oherwydd cyllideb sy’n crebachu ac mai’r Cyngor wedyn sy’n gorfod amddiffyn y dewisiadau hynny gyda dinasyddion yr Ynys. 

 

           Nododd y Pwyllgor Gwaith fod cynyddu lefel y Dreth Gyngor yn cael effaith ar y cyhoedd. Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynghylch pa mor gynaliadwy yw'r dull sy'n defnyddio cronfeydd wrth gefn i leihau, neu osgoi cynyddu’r Dreth Gyngor ac a yw gwerthu asedau ar frys (“fire sale”) yn opsiwn petai’r Cyngor yn cael ei hun dan bwysau ariannol heb ddigon o gronfeydd wrth gefn i dynnu arnynt.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaethau (Adnoddau) / Adran 151 y bydd lefel balansau cyffredinol y Cyngor ar ddiwedd 2018/19 ar lefel sy'n is na'r lefel isaf a argymhellir. Byddai lleihau'r balansau cyffredinol hyd yn oed ymhellach yn cynyddu'r risgiau ariannol i'r Cyngor gan gyfyngu ar ei allu i ddelio gyda’r annisgwyl neu i fynd i'r afael â gorwariant ar y gyllideb fel y bu angen yn 2017/18 ac sy’n debygol o fod yn wir am  flwyddyn ariannol 2018/19. Mae cyngor sydd wedi rhedeg ei gronfeydd wrth gefn i lawr, yn dechnegol, yn fethdalwr. Mewn achos o'r fath ni fyddai gwerthu asedau ar frys yn ateb y broblem oherwydd ni fyddai modd defnyddio'r derbyniadau cyfalaf a geid o’r gwerthiannau hyn i bwrpas refeniw er mwyn cefnogi gwasanaethau. Felly byddai'n rhaid i gyngor a fyddai’n cael ei hun mewn sefyllfa o'r fath leihau gwasanaethau i'r isafswm statudol er mwyn lleihau gwariant a chreu'r amgylchiadau lle y gallai dalu ei ffordd wedyn. Dywedodd y Swyddog bod lefel cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor hwn, yn ei farn broffesiynnol ef, wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol ac na ddylid caniatáu iddo ostwng ymhellach. Gallai gwneud hynny rhoi'r Cyngor mewn perygl ariannol petai’r annisgwyl yn digwydd.

 

Penderfynwyd –

 

           Nodi’r polisi cyffredinol ar gronfeydd wrth gefn a balansau a gafodd ei fabwysiadu ar 1 Mawrth, 2016, fel yn Atodiad A yr adroddiad.

           Cymeradwyo’r newidiadau i’r polisi cyffredinol ar gronfeydd wrth gefn a balansau a gafodd ei fabwysiadu ar 1 Mawrth, 2016, fel yn Atodiad A.

           Gosod lefel isafswm y balansau cyffredinol ar gyfer 2019/20 ar £6.76m yn unol ag asesiad y Swyddog Adran 151.

           Cynllunio am gynnydd yn y balansau cyffredinol dros gyfnod o 3 i 5 mlynedd i sicrhau bod lefel wirioneddol y cronfeydd wrth gefn yn cyrraedd y lefel isafswm. Cyflawnir y cynnydd hwn drwy gyllidebu ar gyfer gwargedau blynyddol a gynllunnir.

           Cadarnhau parhad y cronfeydd wrth gefn presennol sydd wedi’u clustnodi.

           Cymeradwyo trosglwyddo’r gronfa Trothwy Gofal o’r gronfa wrth gefn wedi’i chlustnodi i’r Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol.

 

Dogfennau ategol: