Eitem Rhaglen

Polisi Cymorth Dewisol tuag at Dreth Busnes

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ymestyn y Fframwaith Rhyddhad Dewisol tuag at Drethi Busnes i Elusennau a Sefydliadau nad ydynt yn Gwneud Elw i 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod eiddo annomestig (ar wahân i rai eithriadau, megis amaethyddiaeth, addoldai, eiddo a ddefnyddir gan yr anabl ac ati) yn atebol i dalu trethi annomestig. Yr enw cyffredin ar y rhain yw cyfraddau busnes er nad yw pob trethdalwr yn fusnesau yn yr ystyr cyffredin. Mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru roi rhyddhad trethi mandadol i elusennau yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (DCLlL88), fel y cafodd ei diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae'r adroddiad yn nodi trefniadau fframwaith arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2019/20.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod y Pwyllgor Gwaith, ar 19 Chwefror, 2018 wedi ymestyn ei Fframwaith Rhyddhad Dewisol tuag at Drethi Busnes ar gyfer Elusennau a Sefydliadau nad ydynt yn Gwneud Elw, gyda'r bwriad o gynnal ymgynghoriad ar y fframwaith yn ystod hanner cyntaf 2018/19 gyda fframwaith diwygiedig yn dod i rym ar 1 Ebrill, 2019. Er bod y ddogfen ymgynghori wedi'i chymeradwyo, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad gan fod y Gwasanaeth yn ymwybodol o gyhoeddiadau arwyddocaol posibl naill ai gan weinyddiaeth San Steffan neu weinyddiaeth ddatganoledig Caerdydd mewn perthynas â rhyddhad trethi pellach o bosib i fusnesau. Gallai cyhoeddiadau o'r fath fod wedi cael effaith ar yr ymgynghoriad y bwriadwyd ei gynnal. Dywedodd y Swyddog y manylir ar sylwedd y cyhoeddiadau a wnaed mewn gwirionedd yn 2018/19 yn yr adroddiad; mae'r ddogfen ymgynghori mewn perthynas â fframwaith rhyddhad dewisol tuag at drethi busnes y Cyngor wedi cael ei diwygio i gymryd i ystyriaeth y newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, 2018. Gan fod posibilrwydd o oblygiadau cyllidebol i ymgynghoriad o'r fath ac oherwydd na chafodd y setliad ariannol terfynol ar gyfer 2019/20 ei dderbyn tan 19 Rhagfyr, 2018 a oedd yn cynnwys cymorth ychwanegol o £ 2.4m (heb ei neilltuo) i fusnesau bach yn genedlaethol yng Nghymru, nid yw’r amserlen yn caniatáu digon o amser i ymgynghori ac i ddiwygio’r fframwaith , gyda chostau posibl i'w trafod a'u hadlewyrchu yn y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2019/20. O ganlyniad, argymhellir mabwysiadu'r polisi presennol am flwyddyn arall a chynnal yr ymgynghoriad yn hanner cyntaf 2019/20 sy’n caniatáu digon o amser i ymateb ac ystyried unrhyw oblygiadau cyllidebol, os o gwbl, cyn i'r fframwaith newydd gael ei weithredu o 1 Ebrill, 2020.

 

Wrth nodi'r adroddiad, nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd bod angen diwygio'r cyfraddau busnes yn eu cyfanrwydd ar sail genedlaethol oherwydd eu bod, ar eu lefelau presennol, yn cael effaith andwyol ar fusnesau’r stryd fawr. Mae angen mynd i'r afael hefyd â'r anghysondeb rhwng y cyfraddau a delir gan fusnesau manwerthu ar y stryd fawr a busnesau manwerthu ar-lein. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod gallu cynghorau lleol i wneud gwahaniaeth mewn perthynas â chyfraddau busnes y stryd fawr yn gyfyngedig oherwydd daw’r rhan fwyaf o'r rheolau a'r rheoliadau sy'n effeithio ar gyfraddau busnes o Lywodraeth Cymru.

 

Penderfynwyd

 

                  Mabwysiadu’r Fframwaith cyfredol mewn perthynas â Rhyddhad Dewisol tuag at Drethi BusnesElusennau a Sefydliadau Dielw fel y manylir yn Atodiad A yr adroddiad ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 yn unig a rhoi cyfarwyddyd i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 i sicrhau bod y gweithdrefnau gweinyddol cyn 31 Mawrth, 2019 yn rhoi gwybod i’r elusennau a’r sefydliadau dielw perthnasol y bydd y polisi mewn grym ar gyfer 2019/20 yn unig ac y daw i ben ar 31 Mawrth, 2020.

                  Bod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith yn ystod hanner cyntaf 2019/20 gyda fframwaith diwygiedig yn dod i rym ar 1 Ebrill, 2020.

Dogfennau ategol: