Eitem Rhaglen

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn cynnwys y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (RhT) ar gyfer 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arfer orau yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli'r Trysorlys. Yn unol â'r Cod sy'n argymell bod y Datganiad ar y Strategaeth RhT yn cael ei graffu cyn ei gyflwyno i'w fabwysiadu, mae'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi ystyried y Datganiad oherwydd mai’r pwyllgor hwnnw, yn unol â Chynllun Dirprwyo RhT y Cyngor, sy’n gyfrifol am y swyddogaeth hon. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi derbyn y Strategaeth yn ei gyfarfod ar 12 Chwefror, 2019, pan benderfynwyd ei hanfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith heb sylwadau ychwanegol. O ran diweddariadau i’r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, nad oes bwriad i wneud unrhyw newidiadau i egwyddorion a pholisïau craidd Datganiad 2018/19.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 nad yw'r Strategaeth RhT arfaethedig ar gyfer 2019/20 wedi newid yn sylweddol o'r Strategaeth ar gyfer 208/19 a hynny’n bennaf oherwydd y ffaith nad yw'r sefyllfa economaidd a lefel y cyfraddau llog wedi newid i raddau sy’n golygu bod angen adolygu’r Strategaeth. Mae'r Strategaeth yn cadarnhau na fydd y Cyngor yn benthyca mwy na sydd ei angen, neu cyn i unrhyw anghenion ddod i’r fei dim ond er mwyn elwa o fuddsoddiad y symiau ychwanegol a fenthycwyd ac y bydd, lle bo hynny'n bosibl, yn defnyddio ei falansau arian parod ei hun i fenthyca’n fewnol. Bydd ymagwedd y Cyngor tuag at fuddsoddi yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch cyfalaf fel blaenoriaeth ac yna ddychweliad ar fuddsoddiadau. Bydd yr ystyriaethau hyn yn penderfynu ble mae'r Cyngor yn buddsoddi ac am faint o amser y bydd yr arian yn cael ei ymrwymo.

 

Wrth nodi'r Strategaeth, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad a oes cynlluniau’n cael eu gwneud ar gyfer y gwahanol senarios mewn perthynas â chanlyniad y broses Brexit, yn benodol y senario pe bai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen sy'n debygol o gael effaith ar yr economi ac, o ganlyniad, ar yr hinsawdd benthyca a buddsoddi.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod yr Awdurdod wedi cymryd cyngor gan ei Ymgynghorwyr Rheoli Trysorlys sydd wedi asesu'r senarios posibl ar gyfer Brexit. Yn union ar ôl Brexit, mae’n bosib y bydd y swm y gall cyrff sector cyhoeddus ei fenthyca’n lleihau a gall cyfraddau llog ostwng. Dywedodd y Swyddog nad yw anghenion benthyca'r Awdurdod yn pwyso ar hyn o bryd a bod Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yr Awdurdod dros y blynyddoedd diwethaf yn parhau i fod yn gadarnym marn yr Awdurdod, isel iawn fydd y codiadau yn y cyfraddau llog a bydd hynny’n digwydd yn raddol sy’n golygu na fydd angen benthyca er mwyn manteisio ar gyfraddau llog isel. Dywedodd y Swyddog, er gwaethaf yr effaith economaidd y gallai Brexit ei chael, roedd yn hyderus bod y Strategaeth yn sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu yn y ffordd orau bosibl.

 

Penderfynwyd derbyn y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2019/20 ac anfon y Datganiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb sylwadau ychwanegol.

Dogfennau ategol: